Mae Trac yn falch o bweru recriwtio ar gyfer
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Gwybodaeth
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd i boblogaeth o tua 372,320 ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro. Mae'n darparu gwasanaethau Acìwt, Sylfaenol, Cymunedol, Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu trwy Ysbytai Cyffredinol a Chymunedol, Canolfannau Iechyd, Meddygfeydd Teulu, Deintyddion, Fferyllfeydd, Optometryddion a safleoedd eraill.
Swyddog Gweinyddol ar gyfer y Gwasanaeth Cyswllt Toresgyrn
Accepting applications until: 08-Dec-2024 23:59
Statws y swydd wag: Open
Accepting applications until: 08-Dec-2024 23:59
Manylion allweddol
Lleoliad
- Gwefan
- Ysbyty Cyffredinol Glangwili, Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg, Ysbyty'r Tywysog Philip, Ysbyty Cyffredinol Bronglais
- Tref
- Hwlffordd,
- Cod post
- SA61 2PZ
- Major / Minor Region
- Sir Gaerfyrddin
Math o gontract a phatrwm gwaith
- Contract
- 2 flynedd (Cyfnod penodol / secondiad tan 30/11/2026)
- Oriau
- Llawnamser
- Rhan-amser
Cyflog
- Cyflog
- £24,433 - £26,060 y flwyddyn (pro rata os yn rhan-amser)
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Gradd
- (Gradd 3)
Arbenigedd
- Prif leoliad
- gweinyddiaeth
- Dyddiad y cyfweliad
- 16/12/2024
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae’r raddfa gyflog uchod wedi’i chytuno fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2024/2025. Bydd yn cael ei rhoi ar waith ym mis Tachwedd 2024 wedi’i hôl-ddyddio i 1 Ebrill 2024 lle bo’n berthnasol.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Mae swydd hon yn Cyfnod Penodol/ Secondiad tan 30/11/2026. Os ydych yn gyflogai i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac yn gwneud cais am secondiad i'r swydd hon, bydd angen i'ch rheolwr presennol gytuno i'r secondiad cyn i chi gyflwyno eich cais.
Rydym am benodi unigolyn brwdfrydig, gweithgar a threfnus i fod yn rhan o'r Gwasanaeth Cyswllt Toresgyrn. Byddwch yn dod yn aelod craidd o'r staff mewn tîm cyfeillgar a chefnogol, gan alluogi'r broses o hyrwyddo'r Gwasanaeth Cyswllt Toresgyrn ledled y Bwrdd Iechyd. Bydd deiliad y swydd yn chwarae rhan allweddol ym mhroses y sefydliad o
yrru ymlaen â gwelliannau o ran ansawdd ac o ran y gofal a roddir i'n cleifion.
Mae'r Gwasanaeth Cyswllt Toresgyrn yn dîm bach a chanddo swyddfeydd ym mhob un o'r siroedd. Mae’r tîm yn cynnig amgylchedd cyfeillgar a chefnogol, ac rydym yn cwrdd yn rheolaidd i drafod a rhannu syniadau. Mae hwn yn gyfle cyffrous i lunio'r gwasanaeth newydd hwn yn y Bwrdd Iechyd
Advert
Bydd deiliad y swydd yn gweithio'n annibynnol, a bydd yn gyfrifol am gynorthwyo’r adran gyda dyletswyddau gweinyddol ac ysgrifenyddol cyffredinol, gan sicrhau gwasanaeth proffesiynol a chyfrinachol bob amser. Bydd deiliad y swydd hefyd yn darparu cymorth ar gyfer rolau priodol sy'n
ychwanegol i'r Gwasanaeth Cyswllt Toresgyrn, a hynny yn y Gyfarwyddiaeth Gofal Heb ei Drefnu yn Ysbyty Llwynhelyg; bydd ganddo rôl allweddol o ran darparu cyswllt rhwng ymarferwyr y
gwasanaeth, wardiau, adrannau, meddygon teulu a staff cymunedol. Bydd hefyd yn bwynt cyswllt i gleifion a'u gofalwyr.
Mae'r rôl yn gofyn am rywun sy'n gallu delio ag ymholiadau llinell gyntaf, gan groesawu a chyfathrebu â phersonél ar bob lefel, yn fewnol ac yn allanol, o fewn paramedrau diffiniedig, a hynny dros y ffôn, trwy e-bost ac wyneb yn wyneb. Bydd angen i ddeiliad y swydd hefyd allu
pwyso a mesur pryd y mae angen iddo drosglwyddo ymholiadau a gwybodaeth fwy cymhleth i gyd-weithwyr.
Mae gofyn i ddeiliad y swydd weithio ar ei liwt ei hun, weithiau heb oruchwyliaeth, a bod yn hyblyg ac yn addasadwy yn ei rôl, yn unol ag anghenion y gwasanaeth. Gall y rôl gynnwys teithio i safleoedd eraill a gweithio yno er mwyn cefnogi'r gwaith o ddarparu gwasanaethau.
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 12,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu i bron 400,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
4 prif ysbyty (Bronglais, Aberystwyth, Glangwili, Caerfyrddin, Tywysog Philip, Llanelli, ac Llwynhelyg, Hwlffordd).
5 ysbyty cymunedol (Ysbyty Dyffryn Aman ac Ysbyty Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin, Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion,Ysbyty Dinbych-y-pysgod a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol De Sir Benfro yn Sir Benfro.
Dwy ganolfan gofal integredig (Aberaeron ac Aberteifi, yng Ngheredigion).
Cyfleusterau cymunedol, gan gynnwys:
48 Meddygfa, 49 Deintyddfa, 98 Fferyllfa Gymunedol, 44 Practis Offthalmig Cyffredinol (gan gynnwys gwasanaethau iechyd llygaid a golwg gwan), 38 safle yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu, gofal o fewn eich cartrefi eich hun
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Bydd deiliad y swydd yn darparu amrywiaeth o ddyletswyddau gweinyddol ac
ysgrifenyddol, gan gynnwys ffeilio ac ymdrin â gohebiaeth glinigol ac anghlinigol. Bydd deiliad y swydd yn croesawu staff i’r adran, gan eu tywys i’r ystafell briodol ac ateb cwestiynau cyffredinol.
Bydd y dyletswyddau hefyd yn cynnwys teipio, sganio, llungopïo ac archebu cyflenwadau swyddfa. Bydd deiliad y swydd yn cynnal a chadw a diweddaru cronfeydd data, ac, yn ôl y gofyn, yn darparu gwybodaeth i ddibenion adrodd.
Darparu hyfforddiant fel rhan o'r drefn i gyd-weithwyr ar y systemau busnes sy'n cael eu defnyddio yn yr adran. Mynd i gyfarfodydd briffio'r tîm a chyfarfodydd eraill. Paratoi papurau ar gyfer cyfarfodydd, a chofnodi a thrawsgrifio cofnodion a nodiadau'r cyfarfodydd hynny yn ôl y gofyn.
Datrys problemau dirprwyedig mewn modd rhesymegol a gwneud penderfyniadau sy'n briodol i lefel y gwaith. Cysylltu mewn modd proffesiynol â defnyddwyr y gwasanaeth, perthnasau, gofalwyr, cyd-weithwyr, clinigwyr, meddygon teulu a gweithwyr proffesiynol
eraill.
Bydd deiliad y swydd yn gweithio'n annibynnol ac mewn ffordd sy'n sicrhau bod gwasanaeth o safon uchel yn cael ei ddarparu, gan drefnu'r gwaith i fynd i'r afael â'r adegau prysuraf a'r cyfnodau tawelaf o ran llwyth gwaith y diwrnod, a sicrhau bod terfynau amser a thargedau'n cael eu cyflawni. Sicrhau bod y llwyth gwaith yn cael ei reoli mewn modd effeithiol, ac amlygu hyblygrwydd o ran meddwl, bod yn agored, a pharodrwydd ar gyfer
newid cyson. Bydd deiliad y swydd yn ymateb yn briodol ac mewn modd amserol, cywir a phroffesiynol i gyfarwyddiadau brys.
Cadw at Ganllawiau’r Bwrdd Iechyd, ac ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau eraill sy’n briodol i natur a gradd y swydd. Gall fod yn goruchwylio staff o ddydd i ddydd.
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cynhelir y cyfweliadu ar 16/12/2024
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir drwy gyfrwng y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau a wneir yn y Saesneg.
NODYN PWYSIG I YMGEISWYR: Mae ceisiadau am ein rolau yn cael eu hadolygu'n ofalus a'u rhoi ar restr fer yn seiliedig ar feini prawf penodol, sy'n amrywio o swydd i swydd. Efallai na fydd defnyddio cais generig i wneud cais am rolau lluosog neu ddibynnu ar wasanaethau ceisiadau deallusrwydd artiffisial awtomataidd, fel Lazy Apply neu AI Apply, yn darparu'r wybodaeth angenrheidiol, gan arwain at anwybyddu'ch cais. Er mwyn sicrhau bod eich cais yn cael ystyriaeth lawn, rydym yn argymell cyflwyno cais wedi'i deilwra sy'n mynd i'r afael yn uniongyrchol â'r meini prawf a restrir yn adran Manyleb y Person yr hysbyseb.
Trwy gyflwyno eich cais i NHS Jobs/Trac, rydych yn gydsynio i elfennau o ddata eich cais gael eu trosglwyddo i Gofnod Staff Electronig (ESR) y GIG a systemau diogel, mewnol Gweithlu’r GIG er mwyn cefnogi a rheoli eich recriwtio a’ch cyflogaeth o fewn y sefydliad sy’n eich cyflogi; i’w defnyddio gan yr adran Recriwtio at ddibenion gwirio eich Cofrestriad Proffesiynol ar-lein (lle bo’n briodol).
Mae’r prosesau hyn yn unol â phrosesu Teg a Chyfreithlon yn unol â Deddfwriaeth Diogelu Data cyfredol yn enwedig y rhai hynny mewn perthynas â’ch data personol neu bersonol sensitif (diffinir data personol sensitif fel unrhyw gyflwr iechyd meddwl neu gorfforol, tarddiad hiliol neu ethnig, cyfeiriadedd rhywiol, aelodaeth undeb llafur, barn wleidyddol neu gred crefyddol datganedig). Fel sefydliad, rydym yn sicrhau bod y ddeddfwriaeth sy’n diffinio cyfrinachedd yn cael ei dilyn megis y defnydd o ddata at ddibenion penodol, diffiniedig, a defnydd o ddata sy’n berthnasol ac nid yn ormodol wrth ymarfer cywirdeb data a diogelwch yr holl wybodaeth bersonol adnabyddadwy a gedwir.
Os cewch eich penodi’n llwyddiannus, trwy lenwi’r ffurflen gais rydych yn awdurdodi’r BIP i gael unrhyw fanylion gwasanaeth blaenorol i’r GIG yn cynnwys yr holl wybodaeth ar salwch a gedwir yn electronig, trwy’r broses Trosglwyddo Rhyng-awdurdod ar y Cofnod Staff Electronig.
I weithio yn y DU, mae angen nawdd ar bob ymgeisydd nad yw'n wladolyn o'r DU neu Weriniaeth Iwerddon i gael naill ai fisa Gweithiwr Iechyd a Gofal neu fisa Gweithiwr Medrus, oni bai bod gennych ganiatâd i weithio trwy lwybr arall. Dylai ymgeiswyr nad ydynt yn rhan o'r DU/Gweriniaeth Iwerddon sy'n dymuno gwneud cais hunanasesu'u tebygolrwydd o gael Tystysgrif Nawdd trwy ymweld â gwefan Fisâu a Mewnfudo'r DU. Os ydych chi'n gymwys i gael y fisa Iechyd a Gofal, mae'r costau ymgeisio yn is ac nid oes angen i chi dalu Gordal Iechyd Mewnfudo blynyddol.
Gofynion yr ymgeisydd
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Cymhwyster Lefel 3 (e.e. Safon Uwch, Safon UG, NVQ3) neu brofiad amlwg cyfatebol o sgiliau a gwybodaeth gweinyddol/swyddfa
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad o weithio mewn amgylchedd gweinyddol/swyddfa
- Yn gyfarwydd â phecynnau TG Microsoft, yn enwedig Word, Excel a PowerPoint, ac yn gymwys i'w defnyddio
- Yn gyfarwydd â defnyddio system ebost ac â chwilio'r rhyngrwyd, ac yn hyderus wrth wneud hynny
Meini prawf dymunol
- Profiad o weithio mewn tîm amlddisgyblaethol
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Francesca Hughes
- Teitl y swydd
- Unscheduled Care support manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
. Tracy George, Ymarferydd y Gwasanaeth Cyswllt Toresgyrn, [email protected]
Dechrau eich cais
Rhaid ichi fewngofnodi i gyfrif Trac cyn y gallwch wneud cais am y swydd hon.
Mewngofnodi
Creu cyfrif
Creu eich cyfrif a gwneud cais am eich swydd newydd!