Mae Trac yn falch o bweru recriwtio ar gyfer
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Gwybodaeth
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd i boblogaeth o tua 372,320 ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro. Mae'n darparu gwasanaethau Acìwt, Sylfaenol, Cymunedol, Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu trwy Ysbytai Cyffredinol a Chymunedol, Canolfannau Iechyd, Meddygfeydd Teulu, Deintyddion, Fferyllfeydd, Optometryddion a safleoedd eraill.
Rheolwr Prosiectau – Y Rhaglen Gofal Brys a Gofal Mewn Argyfwng
Accepting applications until: 02-Dec-2024 23:59
Statws y swydd wag: Open
Accepting applications until: 02-Dec-2024 23:59
Manylion allweddol
Lleoliad
- Gwefan
- Ty Gorwel
- Cyfeiriad
- Parc Dewi Sant
- Tref
- Caerfyrddin
- Cod post
- SA31 3HB
- Major / Minor Region
- Sir Gaerfyrddin
Math o gontract a phatrwm gwaith
- Contract
- 15 mis (Cyfnod penodol / secondiad tan 31/03/2026)
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
Cyflog
- Cyflog
- £46,840 - £53,602 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Gradd
- (Gradd 7)
Arbenigedd
- Prif leoliad
- Rheoli Prosiectau
- Dyddiad y cyfweliad
- 10/12/2024
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae’r raddfa gyflog uchod wedi’i chytuno fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2024/2025. Bydd yn cael ei rhoi ar waith ym mis Tachwedd 2024 wedi’i hôl-ddyddio i 1 Ebrill 2024 lle bo’n berthnasol.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Mae swydd hon yn Cyfnod Penodol/ Secondiad tan 31/03/2026. Os ydych yn gyflogai i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac yn gwneud cais am secondiad i'r swydd hon, bydd angen i'ch rheolwr presennol gytuno i'r secondiad cyn i chi gyflwyno eich cais.
Rydym yn chwilio am reolwr prosiectau profiadol, brwdfrydig sy'n canolbwyntio ar gyflawni, i'n helpu i sefydlu a darparu Rhaglen Chwe Nod Hywel Dda. Mae hon yn rhaglen arloesol a chyffrous o brosiectau gwella sy'n rhychwantu Gofal Brys a Gofal Mewn Argyfwng, GofalEilaidd,Sylfaenol a Chymdeithasol.
Mae'r Rhaglen Chwe Nod hon yn arwain Cymru wrth ddatblygu llwybrau Gofal Brys a Gofal Mewn Argyfwng, a fydd yn trawsnewid llif y system a'r llwybrau y mae Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn gweithredu ynddynt. Bydd y rhaglen yn datblygu ac yn gweithredu mentrau a phrosiectau ar draws Hywel Dda yn unol â chwe nod polisi Llywodraeth Cymru ar gyfer Gofal Brys a Gofal Mewn Argyfwng: Cydlynu, cynllunio a chymorth ar gyfer grwpiau risg uchel, Cyfeirio i'r lle iawn y tro cyntaf, Mynediad at ddewisiadau eraill sy'n ddiogel yn glinigol yn hytrach na derbyn i'r ysbyty,
Ymateb cyflym mewn argyfwng iechyd corfforol neu feddyliol, Y gofal ysbyty gorau posibl ar ôl derbyn cleifion i'r ysbyty, a Dull y Cartref Gyntaf a lleihau'r risg o aildderbyn cleifion.
Advert
A chithau'n Rheolwr Prosiectau yn y tîm, byddwch yn:
Arwain ystod o brosiectau gwella gwasanaethau strategol, datblygiadau o ran gwasanaethau, a phrosiectau cyfalaf, a hynny'n rhan o gyflawni Rhaglen Chwe Nod y Bwrdd Iechyd. Bydd y prosiectau'n cwmpasu gwelliannau i'r broses o ddarparu gwasanaethau, mentrau partneriaeth, a chomisiynu prosiectau, gan gynnwys gwelliannau ansoddol a meintiol a gwelliannau amgylcheddol (i'r ystad).
Gweithio gydag arweinwyr Gofal Brys a Gofal Mewn Argyfwng, clinigwyr a staff ar draws y Bwrdd Iechyd a sefydliadau ehangach, a byddwch yn hyrwyddo arloesedd ac arfer gorau wrth sicrhau newid yn y gwasanaethau, a hynny er mwyn cefnogi blaenoriaethau ac ysgogwyr cenedlaethol ac
ymateb i anghenion iechyd lleol.
Rhoi cymorth a chyngor i reolwyr a chlinigwyr yn y Bwrdd Iechyd mewn perthynas â chyflawni prosiectau yr agenda foderneiddio i sicrhau gwasanaeth modern sy’n canolbwyntio ar y claf.
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 12,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu i bron 400,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
4 prif ysbyty (Bronglais, Aberystwyth, Glangwili, Caerfyrddin, Tywysog Philip, Llanelli, ac Llwynhelyg, Hwlffordd).
5 ysbyty cymunedol (Ysbyty Dyffryn Aman ac Ysbyty Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin, Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion,Ysbyty Dinbych-y-pysgod a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol De Sir Benfro yn Sir Benfro.
Dwy ganolfan gofal integredig (Aberaeron ac Aberteifi, yng Ngheredigion).
Cyfleusterau cymunedol, gan gynnwys:
48 Meddygfa, 49 Deintyddfa, 98 Fferyllfa Gymunedol, 44 Practis Offthalmig Cyffredinol (gan gynnwys gwasanaethau iechyd llygaid a golwg gwan), 38 safle yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu, gofal o fewn eich cartrefi eich hun
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
A chithau'n rheolwr prosiectau yn y tîm, byddwch yn cefnogi'r broses o drosi'r weledigaeth a'r strategaeth yn gyflawni ar y rheng flaen, gan fanteisio ar y gwahaniaeth ystyrlon a fydd yn deillio o ran canlyniadau Iechyd a Llesiant ein poblogaeth. Felly, rydym yn chwilio am rywun a all gydbwyso prosesau prosiectau ac adrodd clir â datblygu perthnasoedd gwaith cadarnhaol ar draws y system. Byddwch yn amlygu hanes o gyflawni proffesiynol, yn rheoli prosiectau newid cymhleth, ac yn gallu amlygu effaith y newid a gyflawnwyd.
Y Tîm:
Byddwch yn gweithio mewn tîm bach a fydd yn cynnwys Rheolwyr Prosiectau, Rheolwyr Cymorth Prosiectau a Rheolwr y Rhaglen. Mae'r tîm mewn sefyllfa unigryw o fod yn gweithio'n uniongyrchol gyda'r Gyfarwyddiaeth Gweithrediadau, ond hefyd o fewn Swyddfa'r Rhaglen
Drawsnewid. Yn hynny o beth, mae'n cynnig cyfle gwych i adeiladu proffiliau, gwybodaeth a phrofiad mewn lleoliadau Cynllunio Gweithredol a Strategol, fel ei gilydd.
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cynhelir y cyfweliadu ar 10/12/2024
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir drwy gyfrwng y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau a wneir yn y Saesneg.
NODYN PWYSIG I YMGEISWYR: Mae ceisiadau am ein rolau yn cael eu hadolygu'n ofalus a'u rhoi ar restr fer yn seiliedig ar feini prawf penodol, sy'n amrywio o swydd i swydd. Efallai na fydd defnyddio cais generig i wneud cais am rolau lluosog neu ddibynnu ar wasanaethau ceisiadau deallusrwydd artiffisial awtomataidd, fel Lazy Apply neu AI Apply, yn darparu'r wybodaeth angenrheidiol, gan arwain at anwybyddu'ch cais. Er mwyn sicrhau bod eich cais yn cael ystyriaeth lawn, rydym yn argymell cyflwyno cais wedi'i deilwra sy'n mynd i'r afael yn uniongyrchol â'r meini prawf a restrir yn adran Manyleb y Person yr hysbyseb.
Trwy gyflwyno eich cais i NHS Jobs/Trac, rydych yn gydsynio i elfennau o ddata eich cais gael eu trosglwyddo i Gofnod Staff Electronig (ESR) y GIG a systemau diogel, mewnol Gweithlu’r GIG er mwyn cefnogi a rheoli eich recriwtio a’ch cyflogaeth o fewn y sefydliad sy’n eich cyflogi; i’w defnyddio gan yr adran Recriwtio at ddibenion gwirio eich Cofrestriad Proffesiynol ar-lein (lle bo’n briodol).
Mae’r prosesau hyn yn unol â phrosesu Teg a Chyfreithlon yn unol â Deddfwriaeth Diogelu Data cyfredol yn enwedig y rhai hynny mewn perthynas â’ch data personol neu bersonol sensitif (diffinir data personol sensitif fel unrhyw gyflwr iechyd meddwl neu gorfforol, tarddiad hiliol neu ethnig, cyfeiriadedd rhywiol, aelodaeth undeb llafur, barn wleidyddol neu gred crefyddol datganedig). Fel sefydliad, rydym yn sicrhau bod y ddeddfwriaeth sy’n diffinio cyfrinachedd yn cael ei dilyn megis y defnydd o ddata at ddibenion penodol, diffiniedig, a defnydd o ddata sy’n berthnasol ac nid yn ormodol wrth ymarfer cywirdeb data a diogelwch yr holl wybodaeth bersonol adnabyddadwy a gedwir.
Os cewch eich penodi’n llwyddiannus, trwy lenwi’r ffurflen gais rydych yn awdurdodi’r BIP i gael unrhyw fanylion gwasanaeth blaenorol i’r GIG yn cynnwys yr holl wybodaeth ar salwch a gedwir yn electronig, trwy’r broses Trosglwyddo Rhyng-awdurdod ar y Cofnod Staff Electronig.
I weithio yn y DU, mae angen nawdd ar bob ymgeisydd nad yw'n wladolyn o'r DU neu Weriniaeth Iwerddon i gael naill ai fisa Gweithiwr Iechyd a Gofal neu fisa Gweithiwr Medrus, oni bai bod gennych ganiatâd i weithio trwy lwybr arall. Dylai ymgeiswyr nad ydynt yn rhan o'r DU/Gweriniaeth Iwerddon sy'n dymuno gwneud cais hunanasesu'u tebygolrwydd o gael Tystysgrif Nawdd trwy ymweld â gwefan Fisâu a Mewnfudo'r DU. Os ydych chi'n gymwys i gael y fisa Iechyd a Gofal, mae'r costau ymgeisio yn is ac nid oes angen i chi dalu Gordal Iechyd Mewnfudo blynyddol.
Gofynion yr ymgeisydd
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Addysg hyd at lefel gradd Meistr neu lefel gyfatebol o brofiad o weithio yn y GIG
- Gwybodaeth ardderchog am reoli rhaglenni a phrosiectau a materion yn ymwneud â chynllunio a rheoli cyfalaf
- Cymhwyster Rheoli Prosiectau, e.e. PRINCE 2/MSP/Agile
- Gwybodaeth am broses Achosion Busnes y GIG
Meini prawf dymunol
- Gradd uwch
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad o reoli prosiectau newid gwasanaethau ac o gydgysylltu ac arwain gweithgareddau i gyflawni amcanion prosiectau
- Profiad o gynllunio a blaenoriaethu eich gwaith eich hun a'i gyflawni yn unol ag amserlenni ac amcanion
- Profiad o lunio adroddiadau, cynllunio rhaglenni, prosesau achosion busnes a chyfathrebu ar ffrydiau gwaith amlasiantaethol
Meini prawf dymunol
- Profiad helaeth o brosiectau cyfalaf a/neu wasanaethau
Arall
Meini prawf hanfodol
- Y gallu i deithio ledled y Bwrdd Iechyd, a'r tu allan iddo, mewn modd amserol
- Agwedd hyblyg at anghenion y gwasanaeth
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1 )
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Thomas Alexander
- Teitl y swydd
- Principle Programme Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 07800507373
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
1. Thomas Alexander,Prif Reolwr y Prosiect,
Swyddog Technegol y Prosiect (TPO),
Rhif ffôn mewn perthynas â'r cais: 07800 507373
Dechrau eich cais
Rhaid ichi fewngofnodi i gyfrif Trac cyn y gallwch wneud cais am y swydd hon.
Mewngofnodi
Creu cyfrif
Creu eich cyfrif a gwneud cais am eich swydd newydd!