Mae Trac yn falch o bweru recriwtio ar gyfer
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Gwybodaeth
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd i boblogaeth o tua 372,320 ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro. Mae'n darparu gwasanaethau Acìwt, Sylfaenol, Cymunedol, Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu trwy Ysbytai Cyffredinol a Chymunedol, Canolfannau Iechyd, Meddygfeydd Teulu, Deintyddion, Fferyllfeydd, Optometryddion a safleoedd eraill.
Prif Ymarferydd Seicoleg
Accepting applications until: 09-Dec-2024 23:59
Statws y swydd wag: Open
Accepting applications until: 09-Dec-2024 23:59
Manylion allweddol
Lleoliad
- Gwefan
- Cwm Seren
- Cyfeiriad
- Parc Dewi Sant
- Tref
- Caerfyrddin
- Cod post
- SA31 3BB
- Major / Minor Region
- Sir Gaerfyrddin
Math o gontract a phatrwm gwaith
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Rhan-amser - 30 awr yr wythnos
Cyflog
- Cyflog
- £63,150 - £73,379 Pro rata y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Gradd
- (NHS AfC: Band 8b)
Arbenigedd
- Prif leoliad
- Seicoleg
- Dyddiad y cyfweliad
- 18/12/2024
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae’r raddfa gyflog uchod wedi’i chytuno fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2024/2025. Bydd yn cael ei rhoi ar waith ym mis Tachwedd 2024 wedi’i hôl-ddyddio i 1 Ebrill 2024 lle bo’n berthnasol.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Mae cyfle cyffrous wedi codi ar gyfer Prif Ymarferydd Seicoleg i weithio yn ein Harbenigeddau Iechyd Meddwl Fforensig a Gofal Dwys Seiciatrig. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn chwarae rôl allweddol wrth ddatblygu a darparu gwasanaethau seicolegol i oedolion sy’n gleifion mewnol yn Uned Diogelwch Isel ac Uned Gofal Dwys Seiciatrig Cwm Seren yng Nghaerfyrddin, a darparu cefnogaeth i dimau amlddisgyblaethol sy’n ymwneud â’r lleoliad hwn. Bydd hyn yn cynnwys y Tîm Iechyd Meddwl Fforensig cymunedol.
Rydym yn chwilio am Seicolegydd egnïol ac ysbrydoledig sy’n gallu cyflawni asesiadau, fformiwleiddiadau ac ymyriadau o safon uchel, a hefyd yn gallu rhannu dealltwriaeth a sgiliau seicolegol â chydweithwyr. Bydd yn ymuno ag Arbenigedd Seicoleg croesawgar ac ymroddedig sydd ag ymrwymiad i ddatblygiad personol a phroffesiynol ac ymdeimlad cadarn o hunaniaeth broffesiynol. Rydym yn cael ein hysgogi gan werthoedd parch a thosturi wrth i ni weithio i geisio cynyddu mynediad at gymorth o safon uchel, sy’n seiliedig ar dystiolaeth, i unigolion a’u gofalwyr.
Advert
Prif amcan y swydd hon yw sicrhau bod pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl difrifol a pharhaus yn cael eu hasesu, eu cefnogi a’u trin yn briodol, a’u bod yn cael cymorth i adennill eu lle yn y gymuned leol a chyflawni eu potensial yn llawn fel aelodau o’r gymuned honno.
Bydd deiliad y swydd yn arwain y gwaith o ddarparu asesiad ac ymyriad seicolegol arbenigol i gleientiaid sy’n cael eu derbyn i Uned Diogelwch Isel ac Uned Gofal Dwys Seiciatrig Cwm Seren yng Nghaerfyrddin, gan ddefnyddio dulliau therapiwtig i weithio gydag unigolion, grwpiau, teuluoedd a phobl eraill arwyddocaol er mwyn diwallu’r holl anghenion amrywiol sy’n cael eu cyfeirio atom.
Rhoddir pwyslais hefyd ar helpu i ddatblygu’r gwasanaeth, cynllunio gofal a thriniaeth, a darparu gwasanaeth ymgynghorol, hyfforddiant a goruchwyliaeth i dimau amlddisgyblaethol. Bydd deiliad y swydd yn sicrhau bod pob aelod o’r tîm sy’n darparu triniaeth yn cael mynediad at fframwaith seiliedig ar seicoleg er mwyn deall a gofalu am gleientiaid y Gwasanaeth. Bydd hefyd yn gweithredu fel Adnodd Arbenigol ar gyfer gwerthuso a rheoli risg seicolegol glinigol-fforensig. Bydd yn darparu cyngor arbenigol i Wasanaethau Seicoleg eraill, timau cleifion mewnol a chymunedol, gan gynnwys cysylltu a darparu cefnogaeth i’r Tîm Iechyd Meddwl Fforensig cymunedol, a thimau amlddisgyblaethol ac amlasiantaethol eraill.
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 11,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu ar gyfer tua 384,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth â’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth, Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli a Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd;
Saith ysbyty cymunedol: Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin; Tregaron, Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ysbyty Dinbych-y-pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro;
48 o bractisau cyffredinol (pedwar ohonynt yn bractisau a reolir), 47 practis deintyddol (gan gynnwys tri orthodontig), 99 o fferyllfeydd cymunedol, 44 o bractisau offthalmig cyffredinol (43 yn darparu Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru a 34 o wasanaethau golwg gwan) ac 17 o ddarparwyr gofal cartref yn unig ac 11 canolfannau iechyd;
Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu;
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Bydd deiliad y swydd yn helpu i ddatblygu gwasanaeth ymatebol a hygyrch o safon uchel, a bydd yn chwarae rhan arweiniol yng ngweithgareddau archwilio ac ymchwil y Gwasanaeth.
Yn y rôl hon bydd lle i ddatblygu dull y Gwasanaeth o ddarparu gofal sy’n ystyriol o drawma er mwyn diwallu anghenion seicolegol a chefnogi ymgysylltu ac adeiladu gwytnwch, sy’n bwysig ar gyfer adferiad.
Er bod y swydd yn canolbwyntio ar gleifion mewnol, mae cysylltiadau gwaith da â gwasanaethau cymunedol ac asiantaethau eraill sy’n ymwneud â rheoli a gofalu am gleifion. Mae rhwydweithiau proffesiynol rhagorol a chymorth ar gyfer DPP, gan gynnwys cysylltiadau penodol â Phrifysgolion Abertawe a Chaerdydd.
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cynhelir y cyfweliadu ar 18/12/24
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir drwy gyfrwng y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau a wneir yn y Saesneg.
NODYN PWYSIG I YMGEISWYR: Mae ceisiadau am ein rolau yn cael eu hadolygu'n ofalus a'u rhoi ar restr fer yn seiliedig ar feini prawf penodol, sy'n amrywio o swydd i swydd. Efallai na fydd defnyddio cais generig i wneud cais am rolau lluosog neu ddibynnu ar wasanaethau ceisiadau deallusrwydd artiffisial awtomataidd, fel Lazy Apply neu AI Apply, yn darparu'r wybodaeth angenrheidiol, gan arwain at anwybyddu'ch cais. Er mwyn sicrhau bod eich cais yn cael ystyriaeth lawn, rydym yn argymell cyflwyno cais wedi'i deilwra sy'n mynd i'r afael yn uniongyrchol â'r meini prawf a restrir yn adran Manyleb y Person yr hysbyseb.
Trwy gyflwyno eich cais i NHS Jobs/Trac, rydych yn gydsynio i elfennau o ddata eich cais gael eu trosglwyddo i Gofnod Staff Electronig (ESR) y GIG a systemau diogel, mewnol Gweithlu’r GIG er mwyn cefnogi a rheoli eich recriwtio a’ch cyflogaeth o fewn y sefydliad sy’n eich cyflogi; i’w defnyddio gan yr adran Recriwtio at ddibenion gwirio eich Cofrestriad Proffesiynol ar-lein (lle bo’n briodol).
Mae’r prosesau hyn yn unol â phrosesu Teg a Chyfreithlon yn unol â Deddfwriaeth Diogelu Data cyfredol yn enwedig y rhai hynny mewn perthynas â’ch data personol neu bersonol sensitif (diffinir data personol sensitif fel unrhyw gyflwr iechyd meddwl neu gorfforol, tarddiad hiliol neu ethnig, cyfeiriadedd rhywiol, aelodaeth undeb llafur, barn wleidyddol neu gred crefyddol datganedig). Fel sefydliad, rydym yn sicrhau bod y ddeddfwriaeth sy’n diffinio cyfrinachedd yn cael ei dilyn megis y defnydd o ddata at ddibenion penodol, diffiniedig, a defnydd o ddata sy’n berthnasol ac nid yn ormodol wrth ymarfer cywirdeb data a diogelwch yr holl wybodaeth bersonol adnabyddadwy a gedwir.
Os cewch eich penodi’n llwyddiannus, trwy lenwi’r ffurflen gais rydych yn awdurdodi’r BIP i gael unrhyw fanylion gwasanaeth blaenorol i’r GIG yn cynnwys yr holl wybodaeth ar salwch a gedwir yn electronig, trwy’r broses Trosglwyddo Rhyng-awdurdod ar y Cofnod Staff Electronig.
I weithio yn y DU, mae angen nawdd ar bob ymgeisydd nad yw'n wladolyn o'r DU neu Weriniaeth Iwerddon i gael naill ai fisa Gweithiwr Iechyd a Gofal neu fisa Gweithiwr Medrus, oni bai bod gennych ganiatâd i weithio trwy lwybr arall. Dylai ymgeiswyr nad ydynt yn rhan o'r DU/Gweriniaeth Iwerddon sy'n dymuno gwneud cais hunanasesu'u tebygolrwydd o gael Tystysgrif Nawdd trwy ymweld â gwefan Fisâu a Mewnfudo'r DU. Os ydych chi'n gymwys i gael y fisa Iechyd a Gofal, mae'r costau ymgeisio yn is ac nid oes angen i chi dalu Gordal Iechyd Mewnfudo blynyddol.
Gofynion yr ymgeisydd
Rhaid bod gennych gofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Hyfforddiant ôl-raddedig ar lefel doethuriaeth mewn Seicoleg Gymhwysol (neu gymhwyster cyfwerth ar gyfer y rhai sydd wedi cael eu hyfforddi cyn 1996) fel y mae wedi’i achredu gan y BPS, gan gynnwys seicometreg glinigol ac asesu gwybyddol/niwroseicolegol. Dylai’r hyfforddiant hefyd gynnwys modelau seicopatholeg a dau neu ragor o therapïau seicolegol gwahanol, a seicoleg datblygiad trwy gydol oes.
- Wedi cofrestru gyda’r HCPC fel Ymarferydd Seicoleg.
- Gwybodaeth am yr ystod lawn o ymyriadau seicolegol seiliedig ar dystiolaeth o ddwyster isel i uchel, gan gynnwys canllawiau ar gyfer eu defnyddio’n briodol.
- Gwybodaeth ar lefel doethuriaeth am ddylunio ymchwil a methodoleg, gan gynnwys dadansoddi data cymhleth ag amryw o elfennau fel sy’n cael ei wneud ym meysydd Seicoleg Gymhwysol.
Meini prawf dymunol
- Hyfforddiant ôl-ddoethurol mewn un neu ragor o feysydd arbenigol eraill mewn ymarfer seicolegol.
- Gwybodaeth a/neu gymwysterau yn gysylltiedig â gwaith ym maes Iechyd Meddwl Fforensig ac Iechyd Meddwl Acíwt.
- Gwybodaeth am theori ac ymarfer ymyriadau seicolegol arbenigol sy’n berthnasol i grwpiau cleientiaid y Gwasanaeth.
- Gwybodaeth ac uwch-sgiliau mewn methodoleg asesu risg a rheoli risg.
- Gwybodaeth a sgiliau mewn Therapïau sy’n seiliedig ar Adnoddau (e.e. ymyriadau ysgogiadol a chadarnhaol sy'n canolbwyntio ar atebion).
- Gwybodaeth am ddeddfwriaeth mewn perthynas â'r grŵp cleientiaid ac iechyd meddwl.
- Hyfforddiant arbenigol, achrededig mewn dulliau therapiwtig e.e CBT, DBT, MBT
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad o weithio gydag amrywiaeth eang o grwpiau cleientiaid, trwy’r rhychwant oes cyfan, ac sy’n arddangos yr ystod lawn o ddifrifoldeb clinigol mewn lleoliadau gofal amrywiol, gan gynnwys lleoliadau cleifion allanol, cymunedol, gofal sylfaenol, cleifion mewnol a gofal preswyl, a chynnal graddau uchel o broffesiynoldeb wrth ddelio gyda phroblemau sy’n dreth ar emosiynau ac sy’n peri gofid, cam-drin geiriol a bygythiad o gam-drin corfforol.
- Profiad o dderbyn cyfrifoldeb clinigol llawn am ofal a thriniaeth seicolegol cleientiaid yng nghyd-destun cynllun gofal amlddisgyblaethol.
- Profiad sylweddol o gynnal a dehongli asesiadau gwybyddol/niwroseicolegol a seicometreg glinigol.
- Profiad sylweddol o ddarparu addysgu, hyfforddiant a goruchwyliaeth glinigol i seicolegwyr cymwysedig a staff eraill sy’n gweithio ym maes Iechyd Meddwl.
- Profiad sylweddol sy’n berthnasol i faes Arbenigedd y Gwasanaeth.
Meini prawf dymunol
- Profiad o gynrychioli/arwain gwasanaethau Seicoleg yng nghyd-destun gofal amlddisgyblaethol.
- Profiad o asesu a thrin cleientiaid ledled yr ystod lawn o leoliadau gofal.
- Profiad o gymhwyso Seicoleg mewn gwahanol gyd-destunau diwylliannol.
- Profiad o waith amlasiantaethol ac o weithio mewn partneriaeth.
- Profiad o ddarparu gwasanaeth ymgynghorol i dimau cymunedol a chleifion mewnol, gan gynnwys goruchwyliaeth glinigol i dimau.
- Profiad penodol o asesu a thrin cleientiaid mewn gwasanaethau i gleifion mewnol.
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Dr. Hugh Dafforn
- Teitl y swydd
- Consultant Clinical Psychologist
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01267239880
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Cyswllt ar gael ar gyfer galwadau o 21 Hydref 2024 ymlaen. Gellir gadael negeseuon cyn y dyddiad hwn trwy alwad ffôn neu ebost.
Dechrau eich cais
Rhaid ichi fewngofnodi i gyfrif Trac cyn y gallwch wneud cais am y swydd hon.
Mewngofnodi
Creu cyfrif
Creu eich cyfrif a gwneud cais am eich swydd newydd!