Mae Trac yn falch o bweru recriwtio ar gyfer
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Gwybodaeth
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd i boblogaeth o tua 372,320 ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro. Mae'n darparu gwasanaethau Acìwt, Sylfaenol, Cymunedol, Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu trwy Ysbytai Cyffredinol a Chymunedol, Canolfannau Iechyd, Meddygfeydd Teulu, Deintyddion, Fferyllfeydd, Optometryddion a safleoedd eraill.
Therapydd Galwedigaethol Profiadol
Accepting applications until: 01-Dec-2024 23:59
Statws y swydd wag: Open
Accepting applications until: 01-Dec-2024 23:59
Manylion allweddol
Lleoliad
- Gwefan
- Ysbyty Tywysog Philip
- Cyfeiriad
- Bryngwyn Mawr
- Tref
- Llanelli
- Cod post
- SA14 8QF
- Major / Minor Region
- Sir Gaerfyrddin
Math o gontract a phatrwm gwaith
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser
- Rhan-amser
- Rhannu swydd
Cyflog
- Cyflog
- £37,898 - £45,637 y flwyddyn (pro rata os rhan-amser)
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Gradd
- (Gradd 6)
Arbenigedd
- Prif leoliad
- Therapi Galwedigaethol
- Dyddiad y cyfweliad
- 09/12/2024
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae’r raddfa gyflog uchod wedi’i chytuno fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2024/2025. Bydd yn cael ei rhoi ar waith ym mis Tachwedd 2024 wedi’i hôl-ddyddio i 1 Ebrill 2024 lle bo’n berthnasol.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Mae hwn yn gyfle cyffrous i Therapydd Galwedigaethol brwdfrydig a phrofiadol ymuno â'n tîm blaen tŷ cyfeillgar yn Ysbyty'r Tywysog Philip, Llanelli.
Bydd y swydd hon yn cefnogi 'troi'n ôl wrth y drws ffrynt' ac allgymorth i'r gymuned. Byddwch hefyd yn aelod gwerthfawr o'n huned asesu eiddilwch ac iddi chwe gwely.
Mae’r tîm yn arloesol ac yn rhagweithiol, ac yn cynnwys Therapyddion Galwedigaethol a Ffisiotherapyddion sy'n gweithio’n agos gyda’r tîm amlddisgyblaethol ehangach i hoelio'u sylw ar y cartref yn gyntaf, gan ymdrechu i ddarparu’r cymorth iawn i gleifion, ar yr amser iawn, yn y lle iawn, a hynny mor agos i’w cartrefi â phosibl.
Ein nod yw darparu gofal cleifion mewn modd holistaidd sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, gan gefnogi cleifion, pan fo’n bosibl, i ddychwelyd yn ddiogel i'w cartrefi eu hunain lle gallant barhau i fod yn aelodau gwerthfawr o’u cymuned eu hunain, y maent yn fwyaf cyfarwydd â hi a chyfforddus ynddi.
Bydd cyfleoedd ar gyfer dysgu a datblygu a chynigir costau teithio.
Advert
A chithau'n fyfyriwr ôl-raddedig amryddawn, bydd gennych sylfaen glinigol gadarn mewn adsefydlu pobl hŷn, codi a chario cymhleth, ac eiddilwch, yn ogystal â dealltwriaeth dda o faterion cyfredol sy'n effeithio ar wasanaethau acíwt a chymunedol.
Bydd yn ofynnol i ymgeiswyr llwyddiannus feddu ar allu rhagorol i weithio'n annibynnol, gan reoli a blaenoriaethu llwyth achosion amrywiol ac anrhagweladwy. Bydd hefyd yn ofynnol i chi feddu ar y gallu i addasu i amgylchedd sy'n newid yn gyflym ac sydd danbwysau, a hynny ochr yn ochr ag aelodau'r tîm amlddisgyblaethol.
Mae hwn yn gyfle cyffrous i unigolion brwdfrydig, sy'n teimlo'n angerddol ynghylch gwerth Therapi Galwedigaethol, gynnal momentwm wrth drawsnewid ein gwasanaethau acíwt a chymunedol ledled sefydliadau er budd pobl Sir Gaerfyrddin a chenedlaethau'r dyfodol.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 12,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu i bron 400,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
4 prif ysbyty (Bronglais, Aberystwyth, Glangwili, Caerfyrddin, Tywysog Philip, Llanelli, ac Llwynhelyg, Hwlffordd).
5 ysbyty cymunedol (Ysbyty Dyffryn Aman ac Ysbyty Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin, Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion,Ysbyty Dinbych-y-pysgod a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol De Sir Benfro yn Sir Benfro.
Dwy ganolfan gofal integredig (Aberaeron ac Aberteifi, yng Ngheredigion).
Cyfleusterau cymunedol, gan gynnwys:
48 Meddygfa, 49 Deintyddfa, 98 Fferyllfa Gymunedol, 44 Practis Offthalmig Cyffredinol (gan gynnwys gwasanaethau iechyd llygaid a golwg gwan), 38 safle yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu, gofal o fewn eich cartrefi eich hun
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
A ninnau'n wasanaeth Therapi Galwedigaethol, sylweddolwn mai ein staff yw ein hased cryfaf, a bod buddsoddi mewn pobl fel unigolion yr un mor bwysig â buddsoddi yn eu datblygiad proffesiynol. Rydym yn mynd ati i hyrwyddo astudiaethau ôl-raddedig gyda chyfleoedd ar gyfer cyllid a rennir. Mae'r pandemig wedi dangos i ni yn fwy nag erioed bwysigrwydd y cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith, ac anogwn drefniadau gweithio o bell pan fo'n briodol, ynghyd â threfniadau gweithio'n hyblyg.
Bydd yn ofynnol i ddeiliad y swydd gymryd rhan yn y gwaith o ddarparu gwasanaeth hyblyg saith niwrnod, yn seiliedig ar angen. Bydd hyn yn ôl trefn rota.
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cynhelir y cyfweliadu ar 09/12/2024.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir drwy gyfrwng y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau a wneir yn y Saesneg.
NODYN PWYSIG I YMGEISWYR: Mae ceisiadau am ein rolau yn cael eu hadolygu'n ofalus a'u rhoi ar restr fer yn seiliedig ar feini prawf penodol, sy'n amrywio o swydd i swydd. Efallai na fydd defnyddio cais generig i wneud cais am rolau lluosog neu ddibynnu ar wasanaethau ceisiadau deallusrwydd artiffisial awtomataidd, fel Lazy Apply neu AI Apply, yn darparu'r wybodaeth angenrheidiol, gan arwain at anwybyddu'ch cais. Er mwyn sicrhau bod eich cais yn cael ystyriaeth lawn, rydym yn argymell cyflwyno cais wedi'i deilwra sy'n mynd i'r afael yn uniongyrchol â'r meini prawf a restrir yn adran Manyleb y Person yr hysbyseb.
Trwy gyflwyno eich cais i NHS Jobs/Trac, rydych yn gydsynio i elfennau o ddata eich cais gael eu trosglwyddo i Gofnod Staff Electronig (ESR) y GIG a systemau diogel, mewnol Gweithlu’r GIG er mwyn cefnogi a rheoli eich recriwtio a’ch cyflogaeth o fewn y sefydliad sy’n eich cyflogi; i’w defnyddio gan yr adran Recriwtio at ddibenion gwirio eich Cofrestriad Proffesiynol ar-lein (lle bo’n briodol).
Mae’r prosesau hyn yn unol â phrosesu Teg a Chyfreithlon yn unol â Deddfwriaeth Diogelu Data cyfredol yn enwedig y rhai hynny mewn perthynas â’ch data personol neu bersonol sensitif (diffinir data personol sensitif fel unrhyw gyflwr iechyd meddwl neu gorfforol, tarddiad hiliol neu ethnig, cyfeiriadedd rhywiol, aelodaeth undeb llafur, barn wleidyddol neu gred crefyddol datganedig). Fel sefydliad, rydym yn sicrhau bod y ddeddfwriaeth sy’n diffinio cyfrinachedd yn cael ei dilyn megis y defnydd o ddata at ddibenion penodol, diffiniedig, a defnydd o ddata sy’n berthnasol ac nid yn ormodol wrth ymarfer cywirdeb data a diogelwch yr holl wybodaeth bersonol adnabyddadwy a gedwir.
Os cewch eich penodi’n llwyddiannus, trwy lenwi’r ffurflen gais rydych yn awdurdodi’r BIP i gael unrhyw fanylion gwasanaeth blaenorol i’r GIG yn cynnwys yr holl wybodaeth ar salwch a gedwir yn electronig, trwy’r broses Trosglwyddo Rhyng-awdurdod ar y Cofnod Staff Electronig.
I weithio yn y DU, mae angen nawdd ar bob ymgeisydd nad yw'n wladolyn o'r DU neu Weriniaeth Iwerddon i gael naill ai fisa Gweithiwr Iechyd a Gofal neu fisa Gweithiwr Medrus, oni bai bod gennych ganiatâd i weithio trwy lwybr arall. Dylai ymgeiswyr nad ydynt yn rhan o'r DU/Gweriniaeth Iwerddon sy'n dymuno gwneud cais hunanasesu'u tebygolrwydd o gael Tystysgrif Nawdd trwy ymweld â gwefan Fisâu a Mewnfudo'r DU. Os ydych chi'n gymwys i gael y fisa Iechyd a Gofal, mae'r costau ymgeisio yn is ac nid oes angen i chi dalu Gordal Iechyd Mewnfudo blynyddol.
Gofynion yr ymgeisydd
Rhaid bod gennych gofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Gradd mewn Therapi Galwedigaethol
- Cofrestriad cyfredol gyda'r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal
- Gwybodaeth am ddeddfwriaeth iechyd a gofal cymdeithasol gyfredol sy'n berthnasol i'r rôl
- Gwybodaeth am feddalwedd Microsoft Office, ac yn gallu ei defnyddio
- Dealltwriaeth o rolau grwpiau staff eraill ym maes iechyd a gofal cymdeithasol
- Gwybodaeth am amrywiaeth o ymyriadau adsefydlu ar draws pob therapi
- Yn deall ac yn gallu cymhwyso dulliau llywodraethu clinigol, gan gynnwys methodoleg ymchwil ac archwilio
- Yn deall ac yn gallu cymhwyso mesurau canlyniadau perthnasol i amlygu effeithiolrwydd
Meini prawf dymunol
- Gwybodaeth am wasanaethau eraill sy'n cysylltu ar draws gofal sylfaenol/eilaidd/canolraddol
- Gwybodaeth ymarferol am gyfarpar therapiwtig
- Gwybodaeth am y Bwrdd Iechyd a'i flaenoriaethau
- Addysgwr Ymarfer Achrededig.
- Asesydd Agored Achrededig.
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad ôl -raddedig sylweddol o weithio yn rôl therapydd galwedigaethol ledled ystod o leoliadau ac o dan amrywiaeth o amodau.
- Rheoli llwyth gwaith cymhleth ac amrywiol.
- Gweithio'n annibynnol gyda goruchwyliaeth uniongyrchol neu hyd braich
- Dirprwyo a goruchwylio staff.
- Profiad o ymdopi'n annibynnol â sefyllfaoedd trallodus neu emosiynol mewn amgylcheddau gwaith heriol.
- Gweithio'n rhan o dîm
- Profiad o gyfrannu at y gwaith o ddatblygu gwasanaethau ac o weithredu newidiadau i wasanaethau
- Ymwneud yn uniongyrchol â gofalwyr a theuluoedd
- Hunanddatblygu a chymhwyso dysgu.
- Defnyddio technegau wedi'u haddasu i wella canlyniadau'r claf.
Meini prawf dymunol
- Profiad o weithio gyda grwpiau
- Profiad o weithio mewn lleoliad cymunedol
- Profiad o ddefnyddio llwyfannau cyfathrebu rhithwir i ddarparu gwasanaeth
- Profiad yn yr un maes clinigol a'r swydd y gwneir y cais amdani
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg ( Lefel 1)
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Carol-Anne Davies
- Teitl y swydd
- Service Lead Occupational Therapist
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 07811 711414
Dechrau eich cais
Rhaid ichi fewngofnodi i gyfrif Trac cyn y gallwch wneud cais am y swydd hon.
Mewngofnodi
Creu cyfrif
Creu eich cyfrif a gwneud cais am eich swydd newydd!