Mae Trac yn falch o bweru recriwtio ar gyfer
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Gwybodaeth
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd i boblogaeth o tua 372,320 ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro. Mae'n darparu gwasanaethau Acìwt, Sylfaenol, Cymunedol, Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu trwy Ysbytai Cyffredinol a Chymunedol, Canolfannau Iechyd, Meddygfeydd Teulu, Deintyddion, Fferyllfeydd, Optometryddion a safleoedd eraill.
Cysylltu
- Address
- Glien House
- Cillefwr Industrial Estate
- Johnstown
- Carmarthen
- Carmarthenshire
- SA31 3RB
- Contact Number
- 0300 303 6138
Therapydd Galwedigaethol Profiadol - Plant a Phobl Ifanc
Accepting applications until: 05-Jan-2025 23:59
Statws y swydd wag: Open
Accepting applications until: 05-Jan-2025 23:59
Manylion allweddol
Lleoliad
- Gwefan
- Adeilad Sant Anne
- Cyfeiriad
- Heol Fynnon Job
- Tref
- Caerfyrddin
- Cod post
- SA31 3HB
- Major / Minor Region
- Sir Gaerfyrddin
Math o gontract a phatrwm gwaith
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser
- Rhan-amser
- Gweithio hyblyg
- Oriau cywasgedig
Cyflog
- Cyflog
- £37,898 - £45,637 y flwyddyn, pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Gradd
- (Band 6/ Atodiad 21)
Arbenigedd
- Prif leoliad
- Therapi Galwedigaethol
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae’r raddfa gyflog uchod wedi’i chytuno fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2024/2025. Bydd yn cael ei rhoi ar waith ym mis Tachwedd 2024 wedi’i hôl-ddyddio i 1 Ebrill 2024 lle bo’n berthnasol.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Mae cyfle cyffrous wedi dod ar gael i Therapydd Galwedigaethol band 6 profiadol ymuno â'n Gwasanaeth Therapi Galwedigaethol i Blant a Phobl Ifanc ym Mwrdd Iechyd Hywel Dda.
Gwahoddir ceisiadau gan therapyddion galwedigaethol sydd â phrofiad amlwg o weithio ym maes therapi galwedigaethol pediatrig.
Mae hwn yn amser cyffrous i ymuno â’n gwasanaeth wrth i ni ail-ddylunio a datblygu ffyrdd arloesol o fynd ati mewn ffordd deg i ddarparu gwasanaethau i blant a phobl ifanc ag ystod eang o anghenion therapi galwedigaethol, a hynny ledled y tair ardal ddaearyddol fawr y mae’r Bwrdd Iechyd yn eu gwasanaethu. Bydd deiliad llwyddiannus y swydd yn cefnogi’r llwybrau presennol sy’n canolbwyntio ar y claf, ynghyd â datblygu llwybrau newydd lle bo angen, gan gynnwys o fewn y maes arbenigedd y cytunir arno.
Advert
Rydym yn dymuno penodi unigolyn rhagweithiol, dynamig, llawn cymhelliant, sy'n meddu ar brofiad amlwg o ddarparu gwasanaethau Therapi Galwedigaethol i blant a phobl ifanc, ac y mae ei werthoedd yn cyd-fynd â rhai Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.
A ninnau'n wasanaeth therapi galwedigaethol cyffrous, arloesol a chefnogol, rydym yn teimlo'n angerddol ynghylch darparu gwasanaeth o safon uchel i’r plant a’r bobl ifanc yr ydym yn gweithio gyda nhw. Mae gennym ffocws cryf ar arweinyddiaeth dosturiol a gwella gwasanaethau mewn modd arloesol. Mae yna gyfoeth o wybodaeth a phrofiad clinigol o fewn y tîm, ac rydym wedi ymrwymo i gefnogi datblygiad proffesiynol staff. Mae gennym raglen DPP sefydledig ac rydym yn barod i gefnogi cyfleoedd hyfforddi ffurfiol lle bo angen.
Byddwch yn ymuno â thîm cefnogol, profiadol a llawn cymhelliant, i ddarparu gwasanaethau Therapi Galwedigaethol seiliedig ar dystiolaeth ac o ansawdd uchel i blant a phobl ifanc sydd ag amrywiaeth eang o anghenion gweithredol. Rydym yn cefnogi datblygiad proffesiynol ac yn annog yr holl staff therapi galwedigaethol i chwarae rhan lawn yn y gwaith o wella gwasanaethau.
Disgwylir i ddeiliad y swydd deithio rhwng lleoliadau. Mae lwfans milltiredd yn cael ei dalu, ac mae ceir cronfa a chynllun ceir prydles ar gael.
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 12,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu i bron 400,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
4 prif ysbyty (Bronglais, Aberystwyth, Glangwili, Caerfyrddin, Tywysog Philip, Llanelli, ac Llwynhelyg, Hwlffordd).
5 ysbyty cymunedol (Ysbyty Dyffryn Aman ac Ysbyty Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin, Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion,Ysbyty Dinbych-y-pysgod a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol De Sir Benfro yn Sir Benfro.
Dwy ganolfan gofal integredig (Aberaeron ac Aberteifi, yng Ngheredigion).
Cyfleusterau cymunedol, gan gynnwys:
48 Meddygfa, 49 Deintyddfa, 98 Fferyllfa Gymunedol, 44 Practis Offthalmig Cyffredinol (gan gynnwys gwasanaethau iechyd llygaid a golwg gwan), 38 safle yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu, gofal o fewn eich cartrefi eich hun
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Hysbysebir y swydd hon ar Fand 6; fodd bynnag anogir yr ymgeiswyr hynny nad ydynt ar hyn o bryd yn meddu ar yr holl gymwyseddau angenrheidiol ar gyfer lefel Band 6 i wneud cais ac, os byddant yn llwyddiannus, cânt eu penodi o dan reolau Atodiad 21, lle bydd yn ystod y flwyddyn gyntaf bydd y taliad yn 70% o'r gyfradd cyflog uchaf ym mand 6, a'r ail flwyddyn yn 75%. Byddai'r ymgeiswyr yn cael cymorth i ddatblygu'r cymwyseddau sy'n ofynnol i gyflawni'r rôl cyn pen 24 mis. Ar ôl llwyddo i gwblhau hynny, a meithrin y sgiliau a'r cymwyseddau yn llwyddiannus ar gyfer y rôl, bydd deiliad y swydd yn cael ei dalu ar lefel band 6 (pwynt isaf y raddfa). Gallai peidio â chyflawni'r cymwyseddau ymhen yr amserlen ddynodedig arwain at adleoli.
Fel rhan o broses Atodiad 21, nid oes cosb ariannol i’r rhai sy’n gwneud cais am y rôl hon lle bydd y ganran yn achosi gostyngiad mewn cyflog, ac o ganlyniad byddai amddiffyniad lleol yn cael ei roi ar waith nes bod y cyflog wedi dal i fyny.
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd wedi ymrwymo i gefnogi ei staff i goleddu'n llawn yr angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn unol â'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cynhelir y cyfweliadau ar 13/01/2025.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir drwy gyfrwng y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau a wneir yn y Saesneg.
NODYN PWYSIG I YMGEISWYR: Mae ceisiadau am ein rolau yn cael eu hadolygu'n ofalus a'u rhoi ar restr fer yn seiliedig ar feini prawf penodol, sy'n amrywio o swydd i swydd. Efallai na fydd defnyddio cais generig i wneud cais am rolau lluosog neu ddibynnu ar wasanaethau ceisiadau deallusrwydd artiffisial awtomataidd, fel Lazy Apply neu AI Apply, yn darparu'r wybodaeth angenrheidiol, gan arwain at anwybyddu'ch cais. Er mwyn sicrhau bod eich cais yn cael ystyriaeth lawn, rydym yn argymell cyflwyno cais wedi'i deilwra sy'n mynd i'r afael yn uniongyrchol â'r meini prawf a restrir yn adran Manyleb y Person yr hysbyseb.
Trwy gyflwyno eich cais i NHS Jobs/Trac, rydych yn gydsynio i elfennau o ddata eich cais gael eu trosglwyddo i Gofnod Staff Electronig (ESR) y GIG a systemau diogel, mewnol Gweithlu’r GIG er mwyn cefnogi a rheoli eich recriwtio a’ch cyflogaeth o fewn y sefydliad sy’n eich cyflogi; i’w defnyddio gan yr adran Recriwtio at ddibenion gwirio eich Cofrestriad Proffesiynol ar-lein (lle bo’n briodol).
Mae’r prosesau hyn yn unol â phrosesu Teg a Chyfreithlon yn unol â Deddfwriaeth Diogelu Data cyfredol yn enwedig y rhai hynny mewn perthynas â’ch data personol neu bersonol sensitif (diffinir data personol sensitif fel unrhyw gyflwr iechyd meddwl neu gorfforol, tarddiad hiliol neu ethnig, cyfeiriadedd rhywiol, aelodaeth undeb llafur, barn wleidyddol neu gred crefyddol datganedig). Fel sefydliad, rydym yn sicrhau bod y ddeddfwriaeth sy’n diffinio cyfrinachedd yn cael ei dilyn megis y defnydd o ddata at ddibenion penodol, diffiniedig, a defnydd o ddata sy’n berthnasol ac nid yn ormodol wrth ymarfer cywirdeb data a diogelwch yr holl wybodaeth bersonol adnabyddadwy a gedwir.
Os cewch eich penodi’n llwyddiannus, trwy lenwi’r ffurflen gais rydych yn awdurdodi’r BIP i gael unrhyw fanylion gwasanaeth blaenorol i’r GIG yn cynnwys yr holl wybodaeth ar salwch a gedwir yn electronig, trwy’r broses Trosglwyddo Rhyng-awdurdod ar y Cofnod Staff Electronig.
I weithio yn y DU, mae angen nawdd ar bob ymgeisydd nad yw'n wladolyn o'r DU neu Weriniaeth Iwerddon i gael naill ai fisa Gweithiwr Iechyd a Gofal neu fisa Gweithiwr Medrus, oni bai bod gennych ganiatâd i weithio trwy lwybr arall. Dylai ymgeiswyr nad ydynt yn rhan o'r DU/Gweriniaeth Iwerddon sy'n dymuno gwneud cais hunanasesu'u tebygolrwydd o gael Tystysgrif Nawdd trwy ymweld â gwefan Fisâu a Mewnfudo'r DU. Os ydych chi'n gymwys i gael y fisa Iechyd a Gofal, mae'r costau ymgeisio yn is ac nid oes angen i chi dalu Gordal Iechyd Mewnfudo blynyddol.
Gofynion yr ymgeisydd
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Gradd mewn Therapi Galwedigaethol
- Cofrestriad cyfredol gyda'r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal
- Gwybodaeth am ddeddfwriaeth iechyd a gofal cymdeithasol gyfredol sy'n berthnasol i'r rol
- Gwybodaeth am feddalwedd Microsoft Office, ac yn gallu ei defnyddio
- Dealltwriaeth o rolau grwpiau staff eraill ym maes iechyd a gofal cymdeithaso
- Gwybodaeth am ystod o ymyriadau adsefydlu ar draws pob therapi.
- Yn deall ac yn gallu cymhwyso mesurau canlyniadau perthnasol i amlygu effeithiolrwydd
- Yn deall ac yn gallu cymhwyso dulliau llywodraethu clinigol, gan gynnwys methodoleg ymchwil ac archwilio
Meini prawf dymunol
- Gwybodaeth am wasanaethau eraill sy'n cysylltu ar draws gofal sylfaenol/eilaidd/canolraddol
- Gwybodaeth ymarferol am gyfarpar therapiwtig
- Gwybodaeth am y Bwrdd Iechyd a'i flaenoriaethau
- Addysgwr Ymarfer Achrededig
- Asesydd Agored Achrededig
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad ol-raddedig sylweddol o weithio yn rol therapydd galwedigaethol ledled ystod o leoliadau ac o dan amrywiaeth o amodau
- Rheoli llwyth gwaith cymhleth ac amrywiol
- Gweithio'n annibynnol gyda goruchwyliaeth uniongyrchol neu hyd braich
- Dirprwyo a goruchwylio staff
- Profiad o ymdopi'n annibynnol a sefyllfaoedd trallodus neu emosiynol mewn amgylcheddau gwaith heriol
- Gweithio'n rhan o dim
- Profiad o gyfrannu at y gwaith o ddatblygu'r gwasanaeth ac o weithredu newidiadau i'r gwasanaeth
- Cysylltiad uniongyrchol a gofalwyr a theuluoedd
- Defnyddio technegau wedi'u haddasu i wella canlyniadau'r claf
- Hunanddatblygu a chymhwyso dysgu
Meini prawf dymunol
- Profiad o weithio gyda grwpiau
- Profiad o weithio mewn lleoliad cymunedol
- Profiad yn yr un maes clinigol a'r swydd y gwneir y cais amdani
- Profiad o ddefnyddio llwyfannau cyfathrebu rhithwir i ddarparu gwasanaeth
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Sara Evans
- Teitl y swydd
- Clinical Lead Occupational Therapist
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01267246424
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Sara Evans - 07974158166
Kelly Southway Therapydd Galwedigaethol Arweiniol y Gwasanaeth 07811066200 [email protected]
Dechrau eich cais
Mewngofnodi
Creu cyfrif
Creu eich cyfrif a gwneud cais am eich swydd newydd!