Mae Trac yn falch o bweru recriwtio ar gyfer
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Gwybodaeth
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd i boblogaeth o tua 372,320 ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro. Mae'n darparu gwasanaethau Acìwt, Sylfaenol, Cymunedol, Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu trwy Ysbytai Cyffredinol a Chymunedol, Canolfannau Iechyd, Meddygfeydd Teulu, Deintyddion, Fferyllfeydd, Optometryddion a safleoedd eraill.
Uwch-nyrs Rheolwr Sicrhau Ansawdd y gwasanaeth Newyddenedigol
Accepting applications until: 27-Nov-2024 23:59
Statws y swydd wag: Open
Accepting applications until: 27-Nov-2024 23:59
Manylion allweddol
Lleoliad
- Gwefan
- Ysbyty Cyffredinol Glangwili
- Cyfeiriad
- Heol Dolgwili
- Tref
- Caerfyrddin
- Cod post
- SA31 2AF
- Major / Minor Region
- Sir Gaerfyrddin
Math o gontract a phatrwm gwaith
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
Cyflog
- Cyflog
- £54,550 - £61,412 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Gradd
- (Gradd 8a)
Arbenigedd
- Prif leoliad
- Y Gwasanaethau Newyddenedigol
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae’r raddfa gyflog uchod wedi’i chytuno fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2024/2025. Bydd yn cael ei rhoi ar waith ym mis Tachwedd 2024 wedi’i hôl-ddyddio i 1 Ebrill 2024 lle bo’n berthnasol.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
A ydych yn nyrs broffesiynol llawn cymhelliant sy'n dymuno camu ymlaen yn eich gyrfa? A oes gennych brofiad sylweddol ar lefel Band 7 neu uwch?
Mae cyfle cyffrous wedi dod ar gael ar gyfer arweinydd nyrsio profiadol yn nhîm arweinyddiaeth y Gyfarwyddiaeth menywod a Phlant. Yn dilyn ymddeoliad deiliad presennol y swydd, mae'r rôl hon yn cefnogi arweinwyr y tîm Newyddenedigol arbenigol ledled ardal De-orllewin Cymru.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn darparu arweinyddiaeth glinigol gadarn ac yn esiampl broffesiynol i staff nyrsio ar bob lefel. Eich rôl fydd rheoli staff ac adnoddau yng ngwasanaeth Newyddenedigol y Bwrdd Iechyd, gan sicrhau bod gofal yn cael ei roi mewn modd diogel, effeithiol, a chan sicrhau'r defnydd o ymarfer cyfredol seiliedig ar dystiolaeth wrth hyrwyddo gwerthoedd y Bwrdd Iechyd.
Mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda bolisi adleoli ar gyfer ymgeiswyr llwyddiannus sy’n dymuno symud i’r ardal. Rhaid i ymgeiswyr fodloni’r meini prawf i fod yn gymwys sydd i’w gweld yn y Polisi Adleoli.
Advert
Byddwch yn adrodd yn uniongyrchol i'r Rheolwr Cyflenwi Gwasanaethau ar gyfer yr adran Newyddenedigol (ac yn broffesiynol atebol i Nyrs y Gyfarwyddiaeth), a disgwylir i chi weithio'n ymreolaethol, ond mewn cysylltiad agos â chyd-arweinwyr clinigol Newyddenedigol. Byddwch yn defnyddio eich gwybodaeth dra arbenigol i arwain y tîm gweithredol, ac i roi cymorth strategol i dîm arweinyddiaeth y gyfarwyddiaeth o ran darparu gofal newyddenedigol o ansawdd uchel.
Trwy weithio'n agos gydag aelodau o'r tîm amlddisgyblaethol ac asiantaethau eraill sy'n ymwneud â darparu gofal newyddenedigol, byddwch yn sicrhau bod dull gweithredu integredig rhwng y staff nyrsio, y saff meddygol, a'r timau rhyngadrannol yn cael ei gynnal.
Ymhlith y cyfrifoldebau eraill y mae:
- Arwain a goruchwylio'r anghenion hyfforddi ac addysg yn y gwasanaeth
- Sicrhau bod hyfforddiant seiliedig ar gymhwysedd yn cael ei ddatblygu a'i ddarparu yn agos i'r pwynt gofal
- Bod yn gyfrifol am arwain gwaith datblygu ymarfer nyrsio newyddenedigol penodol ledled y Gyfarwyddiaeth Menywod a Phlant
- Blaenoriaethu'r gwaith o foderneiddio a datblygu'r proffesiwn a'r gwasanaeth
- Gweithio i wella profiad y claf ar gyfer pob baban a'i deulu/ofalwyr ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Cysylltiadau Cymru gyfan:
- Cynrychiolaeth Newyddenedigol Cymru
- Cynrychiolaeth is-grwpiau amrywiol
- Gweithio mewn partneriaeth â gwasanaethau Newyddenedigol BIP Bae Abertawe
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 11,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu ar gyfer tua 384,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth â’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
- Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth, Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli a Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd;
- Saith ysbyty cymunedol: Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin; Tregaron, Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ysbyty Dinbych-y-pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro;
- 48 o bractisau cyffredinol (chwech ohonynt yn bractisau a reolir), 47 practis deintyddol (gan gynnwys tri orthodontig), 99 o fferyllfeydd cymunedol, 44 o bractisau offthalmig cyffredinol (43 yn darparu Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru a 34 o wasanaethau golwg gwan) ac 17 o ddarparwyr gofal cartref yn unig ac 11 canolfannau iechyd;
- Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu;
- Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg, fel ei gilydd, wneud cais.
Cynhelir y cyfweliadau ar 16/12/2024.
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Mynediad ar unwaith i’n budd llesiant ariannol – Wagestream. Mae Wagestream yn adnodd ar gyfer bywyd bob dydd sy’n eich caniatáu i gael eich talu eich ffordd eich hun, a olrain eich cyflog mewn amser real, ffrydio hyd at 50% o’r cyflog rydych wedi ennill yn barod, dysgu awgrymiadau hawdd i reoli eich arian yn well ac arbed eich tâl yn syth o’ch cyflog.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir drwy gyfrwng y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau a wneir yn y Saesneg.
NODYN PWYSIG I YMGEISWYR: Mae ceisiadau am ein rolau yn cael eu hadolygu'n ofalus a'u rhoi ar restr fer yn seiliedig ar feini prawf penodol, sy'n amrywio o swydd i swydd. Efallai na fydd defnyddio cais generig i wneud cais am rolau lluosog neu ddibynnu ar wasanaethau ceisiadau deallusrwydd artiffisial awtomataidd, fel Lazy Apply neu AI Apply, yn darparu'r wybodaeth angenrheidiol, gan arwain at anwybyddu'ch cais. Er mwyn sicrhau bod eich cais yn cael ystyriaeth lawn, rydym yn argymell cyflwyno cais wedi'i deilwra sy'n mynd i'r afael yn uniongyrchol â'r meini prawf a restrir yn adran Manyleb y Person yr hysbyseb.
Trwy gyflwyno eich cais i NHS Jobs/Trac, rydych yn gydsynio i elfennau o ddata eich cais gael eu trosglwyddo i Gofnod Staff Electronig (ESR) y GIG a systemau diogel, mewnol Gweithlu’r GIG er mwyn cefnogi a rheoli eich recriwtio a’ch cyflogaeth o fewn y sefydliad sy’n eich cyflogi; i’w defnyddio gan yr adran Recriwtio at ddibenion gwirio eich Cofrestriad Proffesiynol ar-lein (lle bo’n briodol).
Mae’r prosesau hyn yn unol â phrosesu Teg a Chyfreithlon yn unol â Deddfwriaeth Diogelu Data cyfredol yn enwedig y rhai hynny mewn perthynas â’ch data personol neu bersonol sensitif (diffinir data personol sensitif fel unrhyw gyflwr iechyd meddwl neu gorfforol, tarddiad hiliol neu ethnig, cyfeiriadedd rhywiol, aelodaeth undeb llafur, barn wleidyddol neu gred crefyddol datganedig). Fel sefydliad, rydym yn sicrhau bod y ddeddfwriaeth sy’n diffinio cyfrinachedd yn cael ei dilyn megis y defnydd o ddata at ddibenion penodol, diffiniedig, a defnydd o ddata sy’n berthnasol ac nid yn ormodol wrth ymarfer cywirdeb data a diogelwch yr holl wybodaeth bersonol adnabyddadwy a gedwir.
Os cewch eich penodi’n llwyddiannus, trwy lenwi’r ffurflen gais rydych yn awdurdodi’r BIP i gael unrhyw fanylion gwasanaeth blaenorol i’r GIG yn cynnwys yr holl wybodaeth ar salwch a gedwir yn electronig, trwy’r broses Trosglwyddo Rhyng-awdurdod ar y Cofnod Staff Electronig.
I weithio yn y DU, mae angen nawdd ar bob ymgeisydd nad yw'n wladolyn o'r DU neu Weriniaeth Iwerddon i gael naill ai fisa Gweithiwr Iechyd a Gofal neu fisa Gweithiwr Medrus, oni bai bod gennych ganiatâd i weithio trwy lwybr arall. Dylai ymgeiswyr nad ydynt yn rhan o'r DU/Gweriniaeth Iwerddon sy'n dymuno gwneud cais hunanasesu'u tebygolrwydd o gael Tystysgrif Nawdd trwy ymweld â gwefan Fisâu a Mewnfudo'r DU. Os ydych chi'n gymwys i gael y fisa Iechyd a Gofal, mae'r costau ymgeisio yn is ac nid oes angen i chi dalu Gordal Iechyd Mewnfudo blynyddol.
Gofynion yr ymgeisydd
Rhaid bod gennych gofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Ar Ran 1 o gofrestr y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth neu'n fydwraig gofrestredig
- Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus dynamig yn yr arbenigedd, yn gysylltiedig â chymwyseddau clinigol amlwg hyd at lefel diploma ôl-raddedig
- Tystiolaeth o ddatblygu rheolaeth barhaus
- Cymhwyster asesu a mentora
- Cwrs NLS
Meini prawf dymunol
- Wedi eich addysgu hyd at lefel Meistr mewn pwnc sy'n berthnasol i ofal iechyd neu'n barod i weithio tuag at hynny
- Tystiolaeth o gwrs arweinyddiaeth cyfredol neu gwrs cyfatebol
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad amlwg o fod yn Uwch-brif Nyrs y Ward neu brofiad ar lefel gyfatebol ym maes gofal dwys newyddenedigol
- Profiad o arwain gwaith gwella gwasanaethau, gan gynnwys rhaglenni rheoli newid cymhleth
- Profiad o reoli adnoddau yn effeithiol
- Profiad o weithio mewn partneriaeth â rhanddeiliaid mewnol ac allanol
- Ymwybyddiaeth o Agenda'r GIG ar lefel leol a chenedlaethol
- Profiad diweddar o weithio yn yr arbenigedd
- Profiad o arwain a rheoli eraill
- Profiad o fesur a gwerthuso canlyniadau i lywio gwelliannau i wasanaethau
- Y gallu i ddadansoddi gwybodaeth gymhleth mewn modd critigol, ac i werthuso opsiynau i nodi gwelliannau i wasanaethu
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Nick Williams-Davies
- Teitl y swydd
- Paediatric & Neonatal Service Delivery Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 07425 631656
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Dr Prem Kumar Pitchaikani
Cyfarwyddwr Clinigol a chyd-arweinydd clinigol newyddenedigol
01267 227523
Dechrau eich cais
Rhaid ichi fewngofnodi i gyfrif Trac cyn y gallwch wneud cais am y swydd hon.
Mewngofnodi
Creu cyfrif
Creu eich cyfrif a gwneud cais am eich swydd newydd!