Mae Trac yn falch o bweru recriwtio ar gyfer
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Gwybodaeth
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd i boblogaeth o tua 372,320 ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro. Mae'n darparu gwasanaethau Acìwt, Sylfaenol, Cymunedol, Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu trwy Ysbytai Cyffredinol a Chymunedol, Canolfannau Iechyd, Meddygfeydd Teulu, Deintyddion, Fferyllfeydd, Optometryddion a safleoedd eraill.
Cysylltu
- Address
- Glien House
- Cillefwr Industrial Estate
- Johnstown
- Carmarthen
- Carmarthenshire
- SA31 3RB
- Contact Number
- 0300 303 6138
Ymarferydd Awdioleg
Accepting applications until: 01-Jan-2025 23:59
Statws y swydd wag: Open
Accepting applications until: 01-Jan-2025 23:59
Manylion allweddol
Lleoliad
- Gwefan
- Ysbyty Cyffredinol Glangwili
- Cyfeiriad
- Heol Dolgwili
- Tref
- Caerfyrddin
- Cod post
- SA31 2AF
- Major / Minor Region
- Sir Gaerfyrddin
Math o gontract a phatrwm gwaith
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Rhan-amser - 11 awr yr wythnos
Cyflog
- Cyflog
- £30,420 - £37,030 y flwyddyn pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Gradd
- (Gradd 5)
Arbenigedd
- Prif leoliad
- Awdioleg Oedolion
- Dyddiad y cyfweliad
- 14/01/2025
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae’r raddfa gyflog uchod wedi’i chytuno fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2024/2025. Bydd yn cael ei rhoi ar waith ym mis Tachwedd 2024 wedi’i hôl-ddyddio i 1 Ebrill 2024 lle bo’n berthnasol.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Mae cyfle wedi dod ar gael ar gyfer Ymarferydd Gwyddor Gofal Iechyd Band 5.
Mae hon yn swydd sy'n cwmpasu'r Bwrdd Iechyd cyfan, ond bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael ei leoli'n bennaf yn Sir Gaerfyrddin. Bydd y rôl yn canolbwyntio ar waith y glust, y trwyn a'r gwddf i oedolion, ac Awdioleg ddiagnostig ac adsefydlu.Rydym yn chwilio am ymgeisydd sy'n rhannu ein gwerthoedd a'n hymrwymiad i sicrhau ansawdd ein gwasanaethau. Rydym yn annog ymgysylltiad agored wrth gynllunio a
darparu gwasanaethau, ac yn chwilio am unigolyn sy'n awyddus i rannu gwybodaeth a syniadau mewn fforwm agored a chyfeillgar. Caiff y staff eu cefnogi'n llawn trwy'r broses werthuso, lle nodir a thrafodir dyheadau ac anghenion hyfforddi
Advert
Dehongli a chofnodi canlyniadau, penderfynu ar strategaethau ymyrryd, ac esbonio a thrafod y canlyniadau â chleifion/phartïon o bwys yn ôl y gofyn.
Bydd y technegau profi yn cynnwys: otosgopi, awdiometreg diagnostig a thympanometreg.
Addasu technegau profi ar gyfer oedolion ag anghenion ychwanegol.
Asesu anghenion, a chynllunio a gweithredu strategaethau adsefydlu priodol ar gyfer defnyddwyr cymhorthion clyw hen a newydd, gan esbonio a chynghori ar y camau ymyrryd, trafod penderfyniadau â chleifion, ac addasu yn ôl yr angen.
Fel mater o drefn, defnyddio cyfleusterau dethol a rhaglennu cymhorthion clyw seiliedig ar feddalwedd i helpu i wneud penderfyniadau cymhleth ynghylch gosodiad a gweithrediad cymhorthion clyw
Darparu gwasanaeth cwnsela i gleifion o wahanol oedrannau a galluedd, ynghyd â'u gwŷr/gwragedd/partneriaid.
Llunio cynlluniau adsefydlu byrdymor a hirdymor ar gyfer trin cleifion.
Darparu gwasanaeth adolygu cymhorthion clyw i wirio cynnydd cleifion yn unol â chanllawiau priodol.
Dethol a phrofi cymhorthion clyw y dechnoleg ddiweddaraf a'u gosod yn unol ag acwsteg,a hynny gan ymgorffori mesurau gwirio.
Darparu gwasanaeth cynnal a chadw a thrwsio cymhorthion clyw, a fydd yn cynnwys gwasanaethau glanhau, addasu, trwsio/adnewyddu, cynghori, cwnsela a chyfarwyddo.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; Mae croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg a / neu Saesneg wneud cais.
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 12,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu i bron 400,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
4 prif ysbyty (Bronglais, Aberystwyth, Glangwili, Caerfyrddin, Tywysog Philip, Llanelli, ac Llwynhelyg, Hwlffordd).
5 ysbyty cymunedol (Ysbyty Dyffryn Aman ac Ysbyty Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin, Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion,Ysbyty Dinbych-y-pysgod a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol De Sir Benfro yn Sir Benfro.
Dwy ganolfan gofal integredig (Aberaeron ac Aberteifi, yng Ngheredigion).
Cyfleusterau cymunedol, gan gynnwys:
48 Meddygfa, 49 Deintyddfa, 98 Fferyllfa Gymunedol, 44 Practis Offthalmig Cyffredinol (gan gynnwys gwasanaethau iechyd llygaid a golwg gwan), 38 safle yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu, gofal o fewn eich cartrefi eich hun
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Mae Hywel Dda wedi’i leoli mewn rhan brydferth o Orllewin Cymru gydag ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol gyda thraethau a Pharciau Cenedlaethol sydd wedi ennill gwobrau, sy’n ddelfrydol ar gyfer pob gweithgaredd awyr agored yn enwedig syrffio a cherdded. Mae'r ardal yn gyfoethog o ran treftadaeth a hanes, ac o ganlyniad yn denu miloedd o dwristiaid bob blwyddyn. Mae yna gymunedau cymdeithasol bywiog a all eich helpu i ddod o hyd i well cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith.
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cynhelir y cyfweliadau ar 14/01/2025.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir drwy gyfrwng y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau a wneir yn y Saesneg.
NODYN PWYSIG I YMGEISWYR: Mae ceisiadau am ein rolau yn cael eu hadolygu'n ofalus a'u rhoi ar restr fer yn seiliedig ar feini prawf penodol, sy'n amrywio o swydd i swydd. Efallai na fydd defnyddio cais generig i wneud cais am rolau lluosog neu ddibynnu ar wasanaethau ceisiadau deallusrwydd artiffisial awtomataidd, fel Lazy Apply neu AI Apply, yn darparu'r wybodaeth angenrheidiol, gan arwain at anwybyddu'ch cais. Er mwyn sicrhau bod eich cais yn cael ystyriaeth lawn, rydym yn argymell cyflwyno cais wedi'i deilwra sy'n mynd i'r afael yn uniongyrchol â'r meini prawf a restrir yn adran Manyleb y Person yr hysbyseb.
Trwy gyflwyno eich cais i NHS Jobs/Trac, rydych yn gydsynio i elfennau o ddata eich cais gael eu trosglwyddo i Gofnod Staff Electronig (ESR) y GIG a systemau diogel, mewnol Gweithlu’r GIG er mwyn cefnogi a rheoli eich recriwtio a’ch cyflogaeth o fewn y sefydliad sy’n eich cyflogi; i’w defnyddio gan yr adran Recriwtio at ddibenion gwirio eich Cofrestriad Proffesiynol ar-lein (lle bo’n briodol).
Mae’r prosesau hyn yn unol â phrosesu Teg a Chyfreithlon yn unol â Deddfwriaeth Diogelu Data cyfredol yn enwedig y rhai hynny mewn perthynas â’ch data personol neu bersonol sensitif (diffinir data personol sensitif fel unrhyw gyflwr iechyd meddwl neu gorfforol, tarddiad hiliol neu ethnig, cyfeiriadedd rhywiol, aelodaeth undeb llafur, barn wleidyddol neu gred crefyddol datganedig). Fel sefydliad, rydym yn sicrhau bod y ddeddfwriaeth sy’n diffinio cyfrinachedd yn cael ei dilyn megis y defnydd o ddata at ddibenion penodol, diffiniedig, a defnydd o ddata sy’n berthnasol ac nid yn ormodol wrth ymarfer cywirdeb data a diogelwch yr holl wybodaeth bersonol adnabyddadwy a gedwir.
Os cewch eich penodi’n llwyddiannus, trwy lenwi’r ffurflen gais rydych yn awdurdodi’r BIP i gael unrhyw fanylion gwasanaeth blaenorol i’r GIG yn cynnwys yr holl wybodaeth ar salwch a gedwir yn electronig, trwy’r broses Trosglwyddo Rhyng-awdurdod ar y Cofnod Staff Electronig.
I weithio yn y DU, mae angen nawdd ar bob ymgeisydd nad yw'n wladolyn o'r DU neu Weriniaeth Iwerddon i gael naill ai fisa Gweithiwr Iechyd a Gofal neu fisa Gweithiwr Medrus, oni bai bod gennych ganiatâd i weithio trwy lwybr arall. Dylai ymgeiswyr nad ydynt yn rhan o'r DU/Gweriniaeth Iwerddon sy'n dymuno gwneud cais hunanasesu'u tebygolrwydd o gael Tystysgrif Nawdd trwy ymweld â gwefan Fisâu a Mewnfudo'r DU. Os ydych chi'n gymwys i gael y fisa Iechyd a Gofal, mae'r costau ymgeisio yn is ac nid oes angen i chi dalu Gordal Iechyd Mewnfudo blynyddol.
Gofynion yr ymgeisydd
Manyleb y person
Qualifications and Knowledge
Meini prawf hanfodol
- Gradd: BSc mewn Awdioleg neu gymhwyster cyfatebol
- Cofrestriad gyda'r Cyngor Cofrestru ar gyfer Ffisiolegwyr Clinigol (RCCP) neu'r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC) (Gwyddonydd Iechyd/Fferyllydd Cymorth Clyw) neu gyfwerth
- Gwybodaeth am Awdioleg Adsefydlu a Diagnostig Oedolion
- Gwybodaeth am asesiadau clyw oedran ysgol Pediatrig
- Gwybodaeth am ofynion Safonau Ansawdd Adsefydlu Oedolion Cymru
- Gwybodaeth am AuditBase
Meini prawf dymunol
- Aelod o BAA/BSA
- Gwybodaeth am Safonau Ansawdd Awdioleg Pediatrig
- Tystiolaeth o gymwysterau neu gyrsiau rheoli/goruchwylio
- Gwybodaeth am systemau caffael
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Asesiad Clyw Diagnostig
- Ffitio Cymhorthion Clyw gan ddefnyddio Gwir Fesuriadau'r Glust
- Goruchwyliaeth/hyfforddiant/cynort hwyo o ran hyfforddi awdiolegwyr cynorthwyol, myfyrwyr gradd ar leoliad clinigol, neu awdiolegwyr
- Defnyddio modiwlau archebu lle, rhestrau aros, rhaglennu a phrofi AuditBase
- Asesiad clyw oedran ysgol
Meini prawf dymunol
- Asesiad festibwlar diagnostig ac adsefydlu
- Rheoli tinitws
- Defnyddio TEOAEs.
- Rheoli trefnu, trefnu neu oruchwylio clinigau Awdioleg.
- Archebu a chynnal lefelau stoc
- Defnyddio taenlenni MS Excel
Arall
Meini prawf hanfodol
- Yn gallu teithio ledled safleoedd mewn modd amserol
- Yn gallu gweithio'n hyblyg i fodloni anghenion y gwasanaeth
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Jane Deans
- Teitl y swydd
- Head of Audiology
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01267 227449
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
I gael rhagor o wybodaeth neu i drefnu ymweliad anffurfiol, cysylltwch â Jane Deans, Pennaeth Awdioleg, ar 01267-227449 neu E-bost: [email protected]
Kathryn Owen, Clinical Lead: [email protected]
Dechrau eich cais
Mewngofnodi
Creu cyfrif
Creu eich cyfrif a gwneud cais am eich swydd newydd!