Mae Trac yn falch o bweru recriwtio ar gyfer
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Gwybodaeth
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd i boblogaeth o tua 372,320 ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro. Mae'n darparu gwasanaethau Acìwt, Sylfaenol, Cymunedol, Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu trwy Ysbytai Cyffredinol a Chymunedol, Canolfannau Iechyd, Meddygfeydd Teulu, Deintyddion, Fferyllfeydd, Optometryddion a safleoedd eraill.
Cysylltu
- Address
- Glien House
- Cillefwr Industrial Estate
- Johnstown
- Carmarthen
- Carmarthenshire
- SA31 3RB
- Contact Number
- 0300 303 6138
Uwch-fferyllydd
Closed for applications on: 7-Ion-2025 00:02
Statws y swydd wag: Closed
Closed for applications on: 7-Ion-2025 00:02
Manylion allweddol
Lleoliad
- Gwefan
- Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg
- Cyfeiriad
- Heol Abergwaun
- Tref
- Hwlffordd
- Cod post
- SA61 2PZ
- Major / Minor Region
- Sir Gaerfyrddin
Math o gontract a phatrwm gwaith
- Contract
- 12 mis (Cyfnod penodol/secondiad tan 31/01/2026)
- Oriau
- Llawnamser
- Rhan-amser
- Rhannu swydd
- Gweithio hyblyg
Cyflog
- Cyflog
- £54,550 - £61,412 y flwyddyn (pro rata os yn rhan-amser)
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Gradd
- (Band 8a)
Arbenigedd
- Prif leoliad
- Fferylliaeth
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae’r raddfa gyflog uchod wedi’i chytuno fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2024/2025. Bydd yn cael ei rhoi ar waith ym mis Tachwedd 2024 wedi’i hôl-ddyddio i 1 Ebrill 2024 lle bo’n berthnasol.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Mae hon yn swydd cyfnod penodol/secondiad tan 31/01/2026.
Os ydych chi'n gyflogai i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac yn gwneud cais am y swydd hon fel secondiad, mae angen cytundeb ar gyfer yr secondiad gan eich rheolwr presennol cyn gwneud cais.
Mae cyfle cyffrous a heriol wedi dod ar gael i Fferyllydd Clinigol brwdfrydig, llawn cymhelliant a blaengar arwain y gwasanaeth fferyllol a ddarperir i’r tîm derbyn yn Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno â thîm sefydledig o staff fferyllol sy'n darparu gofal i amrywiaeth eang o arbenigeddau meddygol a llawfeddygol, gan gynnwys gofal coronaidd, strôc acíwt, anadlol, trawma ac orthopedeg, gwybodaeth am feddyginiaethau, gofal critigol, eiddilwch
acíwt a'r adran achosion brys. Mae gan yr ysbyty ganolfan ffrydio newydd (Porth Preseli) sy’n faes arloesol ac arweiniol yn y Bwrdd Iechyd, a bydd y cyfle i weithio’n agos gyda’r ganolfan yn cael ei annog.
Advert
Fel y Fferyllydd Arweiniol dros dro ar gyfer derbyniadau, byddwch yn gyfrifol am gydlynu a darparu gwasanaeth fferylliaeth glinigol sy'n canolbwyntio ar y claf i flaen y tŷ – yr Uned Penderfyniadau Clinigol Oedolion (ACDU) a'r Adran Achosion Brys (ED). Byddech yn cael y cyfle i
fod yn rhan o ddatblygu gwasanaethau sydd newydd esblygu, megis Porth Preseli, yn ogystal â darparu cymorth i feysydd eraill yn ôl yr angen.
Byddwch yn rhan o'n tîm fferylliaeth cyfeillgar a brwd, a byddwch yn cyfrannu at y broses o optimeiddio meddyginiaethau, gan ymdrechu am ragoriaeth. Byddwch yn darparu gwasanaeth arbenigol a phroffesiynol i'n galluogi i fodloni safonau uchel o ran gofal a diogelwch cleifion, gan weithio gyda'r tîm llawfeddygol amlddisgyblaethol. Byddwch yn ymwneud ag addysg a hyfforddiant cyd-weithwyr fferyllol a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill.
Bydd y rôl hon wedi'i lleoli yn Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg, sy'n Ysbyty Cyffredinol Dosbarth prysur ac iddo tua 270 o welyau.
Cyfnod penodol/secondiad am 12 mis tan 31/01/2026 i gwmpasu absenoldeb mamolaeth.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; Mae croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg a / neu Saesneg wneud cais.
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 12,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu i bron 400,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
4 prif ysbyty (Bronglais, Aberystwyth, Glangwili, Caerfyrddin, Tywysog Philip, Llanelli, ac Llwynhelyg, Hwlffordd).
5 ysbyty cymunedol (Ysbyty Dyffryn Aman ac Ysbyty Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin, Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion,Ysbyty Dinbych-y-pysgod a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol De Sir Benfro yn Sir Benfro.
Dwy ganolfan gofal integredig (Aberaeron ac Aberteifi, yng Ngheredigion).
Cyfleusterau cymunedol, gan gynnwys:
48 Meddygfa, 49 Deintyddfa, 98 Fferyllfa Gymunedol, 44 Practis Offthalmig Cyffredinol (gan gynnwys gwasanaethau iechyd llygaid a golwg gwan), 38 safle yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu, gofal o fewn eich cartrefi eich hun
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor
Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cynhelir y cyfweliadu ar 14/01/2025
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir drwy gyfrwng y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau a wneir yn y Saesneg.
NODYN PWYSIG I YMGEISWYR: Mae ceisiadau am ein rolau yn cael eu hadolygu'n ofalus a'u rhoi ar restr fer yn seiliedig ar feini prawf penodol, sy'n amrywio o swydd i swydd. Efallai na fydd defnyddio cais generig i wneud cais am rolau lluosog neu ddibynnu ar wasanaethau ceisiadau deallusrwydd artiffisial awtomataidd, fel Lazy Apply neu AI Apply, yn darparu'r wybodaeth angenrheidiol, gan arwain at anwybyddu'ch cais. Er mwyn sicrhau bod eich cais yn cael ystyriaeth lawn, rydym yn argymell cyflwyno cais wedi'i deilwra sy'n mynd i'r afael yn uniongyrchol â'r meini prawf a restrir yn adran Manyleb y Person yr hysbyseb.
Trwy gyflwyno eich cais i NHS Jobs/Trac, rydych yn gydsynio i elfennau o ddata eich cais gael eu trosglwyddo i Gofnod Staff Electronig (ESR) y GIG a systemau diogel, mewnol Gweithlu’r GIG er mwyn cefnogi a rheoli eich recriwtio a’ch cyflogaeth o fewn y sefydliad sy’n eich cyflogi; i’w defnyddio gan yr adran Recriwtio at ddibenion gwirio eich Cofrestriad Proffesiynol ar-lein (lle bo’n briodol).
Mae’r prosesau hyn yn unol â phrosesu Teg a Chyfreithlon yn unol â Deddfwriaeth Diogelu Data cyfredol yn enwedig y rhai hynny mewn perthynas â’ch data personol neu bersonol sensitif (diffinir data personol sensitif fel unrhyw gyflwr iechyd meddwl neu gorfforol, tarddiad hiliol neu ethnig, cyfeiriadedd rhywiol, aelodaeth undeb llafur, barn wleidyddol neu gred crefyddol datganedig). Fel sefydliad, rydym yn sicrhau bod y ddeddfwriaeth sy’n diffinio cyfrinachedd yn cael ei dilyn megis y defnydd o ddata at ddibenion penodol, diffiniedig, a defnydd o ddata sy’n berthnasol ac nid yn ormodol wrth ymarfer cywirdeb data a diogelwch yr holl wybodaeth bersonol adnabyddadwy a gedwir.
Os cewch eich penodi’n llwyddiannus, trwy lenwi’r ffurflen gais rydych yn awdurdodi’r BIP i gael unrhyw fanylion gwasanaeth blaenorol i’r GIG yn cynnwys yr holl wybodaeth ar salwch a gedwir yn electronig, trwy’r broses Trosglwyddo Rhyng-awdurdod ar y Cofnod Staff Electronig.
I weithio yn y DU, mae angen nawdd ar bob ymgeisydd nad yw'n wladolyn o'r DU neu Weriniaeth Iwerddon i gael naill ai fisa Gweithiwr Iechyd a Gofal neu fisa Gweithiwr Medrus, oni bai bod gennych ganiatâd i weithio trwy lwybr arall. Dylai ymgeiswyr nad ydynt yn rhan o'r DU/Gweriniaeth Iwerddon sy'n dymuno gwneud cais hunanasesu'u tebygolrwydd o gael Tystysgrif Nawdd trwy ymweld â gwefan Fisâu a Mewnfudo'r DU. Os ydych chi'n gymwys i gael y fisa Iechyd a Gofal, mae'r costau ymgeisio yn is ac nid oes angen i chi dalu Gordal Iechyd Mewnfudo blynyddol.
Gofynion yr ymgeisydd
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Gradd meistr mewn Fferylliaeth
- Yn gofrestredig gyda'r Cyngor Fferyllol Cyffredinol
- MSc neu Ddiploma ol-raddedig yn y maes ymarfer, neu brofiad neu gymwysterau cyfatebol
Meini prawf dymunol
- Tiwtor cyn-gofrestru achrededig neu diwtor diploma mewn Fferylliaeth
- Presgripsiynydd annibynnol
- Paratoi a Dosbarthu Meddyginiaethau mewn modd Aseptig (Prifysgol Leeds) neu gymhwyster cyfatebol os yw'r rôl yn cynnwys technegau aseptig
- Yn gofrestredig i Reoli Ansawdd os yw'r rôl yn cynnwys technegau aseptig
- Yn aelod o'r Gymdeithas Fferyllol Frenhinol
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Gwybodaeth arbenigol am systemau a phrosesau rheoli meddyginiaethau mewn GIG integredig
- Gwybodaeth am ofal iechyd a phrofiad ohono
- Gwybodaeth arbenigol am eich maes ymarfer eich hun, sydd wedi'i meithrin trwy hyfforddiant lefel diploma a phrofiad.
Meini prawf dymunol
- Yn amlygu gwybodaeth arbenigol mewn mwy nag un maes.
- Profiad o ymchwil ymarferol
- Hyfforddi ac addysgu staff fferyllfa a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill
- Profiad o reoli newid
- Profiad o wella gwasanaethau
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg – lefel 1
Arall
Meini prawf hanfodol
- Ymagwedd hyblyg at anghenion y gwasanaeth i ymgymryd a gwaith ar alwad, ac i agor gyda'r nos ac ar benwythnosau
- Y gallu i deithio rhwng safleoedd mewn modd amserol
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Dave Morgan
- Teitl y swydd
- Pharmacy Site Lead
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01437 773518
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Rydym yn annog pob ymgeisydd i gysylltu â Dave Morgan neu Kelly Rowe i gael sgwrs anffurfiol neu i drefnu ymweliad.
Ddim yn derbyn ceisiadau mwyach
Ymddiheuriadau, ond nid yw'r swydd wag hon yn derbyn ceisiadau mwyach.
Gallwch chwilio am swyddi tebyg ar fwrdd swyddi'r cyflogwr, neu fynd i'n bwrdd swyddi cenedlaethol Health Jobs UK.