Mae Trac yn falch o bweru recriwtio ar gyfer
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Gwybodaeth
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd i boblogaeth o tua 372,320 ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro. Mae'n darparu gwasanaethau Acìwt, Sylfaenol, Cymunedol, Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu trwy Ysbytai Cyffredinol a Chymunedol, Canolfannau Iechyd, Meddygfeydd Teulu, Deintyddion, Fferyllfeydd, Optometryddion a safleoedd eraill.
Cysylltu
- Address
- Glien House
- Cillefwr Industrial Estate
- Johnstown
- Carmarthen
- Carmarthenshire
- SA31 3RB
- Contact Number
- 0300 303 6138
Deietegydd Arbenigol Clinigol Gofal Critigol
Accepting applications until: 21-Jan-2025 23:59
Statws y swydd wag: Open
Accepting applications until: 21-Jan-2025 23:59
Manylion allweddol
Lleoliad
- Gwefan
- Ysbyty Cyffredinol Glangwili
- Cyfeiriad
- Heol Dolgwili
- Tref
- Caerfyrddin
- Cod post
- SA31 2AF
- Major / Minor Region
- Sir Gaerfyrddin
Math o gontract a phatrwm gwaith
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Rhan-amser
- Gweithio hyblyg
Cyflog
- Cyflog
- £46,840 - £53,602 y flwyddyn pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Gradd
- (Gradd 7)
Arbenigedd
- Prif leoliad
- Maeth a Dieteteg
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae’r raddfa gyflog uchod wedi’i chytuno fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2024/2025. Bydd yn cael ei rhoi ar waith ym mis Tachwedd 2024 wedi’i hôl-ddyddio i 1 Ebrill 2024 lle bo’n berthnasol.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
A ydych yn ddeietegydd tra medrus â diddordeb brwd mewn maetheg gofal critigol?
Rydym yn cynnig cyfle newydd cyffrous – Arbenigwr Clinigol Deieteg ym maes Gofal Critigol, Band 7, 0.8 wte. Mae'r rôl newydd hon yn cyfuno darpariaeth glinigol arbenigol ag arweinyddiaeth glinigol gofal critigol – gan lywio'r broses o ddarparu gofal maeth a deieteg rhagorol i gleifion sy'n cael gofal critigol ac arwain yn hynny o beth.
Rydym yn cynnig cyfleoedd gwaith hyblyg ar gyfer datblygiad proffesiynol ac arweinyddiaeth, ynghyd ag amgylched cynnes, croesawgar ar gyfer gweithio mewn tîm.
Cysylltwch i gael rhagor o wybodaeth – croesewir ymweliadau anffurfiol.
Advert
Arwain yn glinigol y gwaith o ddatblygu, gweithredu, darparu a gwerthuso arfer gorau mewn perthynas â chymorth maeth acíwt a Gofal Critigol.
Arwain yn glinigol y gwaith o ddatblygu a chyflwyno addysg a hyfforddiant mewn perthynas â chymorth maeth acíwt a Gofal Critigol.
Yn gweithredu fel yr arweinydd gweithredol ar y safle ar gyfer cymorth maeth acíwt gan gefnogi'r tîm gyda blaenoriaethu llwyth achosion dyddiol a sicrhau dirprwyo effeithiol i weithwyr cymorth Deieteg.
Rheolwr llinell a goruchwyliaeth glinigol staff maeth a deieteg dirprwyedig gan sicrhau safonau gofal cyson sy'n seiliedig ar dystiolaeth a gwaith amlddisgyblaethol effeithiol.
Arwain y gwaith o ddatblygu a gweithredu canllawiau a safonau sy'n ymwneud â maeth a deieteg, adnoddau, hyfforddiant ac addysg ym maes arbenigedd a sicrhau integreiddio effeithiol ar draws rhaglenni gwaith mewn perthynas â chymorth maeth acíwt a gofal critigol.
Yn rheoli llwyth achosion o unigolion hynod gymhleth sydd angen cymorth maeth cymhleth (uned gofal critigol lefel 3).
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 12,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu i bron 400,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
4 prif ysbyty (Bronglais, Aberystwyth, Glangwili, Caerfyrddin, Tywysog Philip, Llanelli, ac Llwynhelyg, Hwlffordd).
5 ysbyty cymunedol (Ysbyty Dyffryn Aman ac Ysbyty Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin, Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion,Ysbyty Dinbych-y-pysgod a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol De Sir Benfro yn Sir Benfro.
Dwy ganolfan gofal integredig (Aberaeron ac Aberteifi, yng Ngheredigion).
Cyfleusterau cymunedol, gan gynnwys:
48 Meddygfa, 49 Deintyddfa, 98 Fferyllfa Gymunedol, 44 Practis Offthalmig Cyffredinol (gan gynnwys gwasanaethau iechyd llygaid a golwg gwan), 38 safle yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu, gofal o fewn eich cartrefi eich hun
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cynhelir y cyfweliadau ar 30/01/2025.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir drwy gyfrwng y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau a wneir yn y Saesneg.
NODYN PWYSIG I YMGEISWYR: Mae ceisiadau am ein rolau yn cael eu hadolygu'n ofalus a'u rhoi ar restr fer yn seiliedig ar feini prawf penodol, sy'n amrywio o swydd i swydd. Efallai na fydd defnyddio cais generig i wneud cais am rolau lluosog neu ddibynnu ar wasanaethau ceisiadau deallusrwydd artiffisial awtomataidd, fel Lazy Apply neu AI Apply, yn darparu'r wybodaeth angenrheidiol, gan arwain at anwybyddu'ch cais. Er mwyn sicrhau bod eich cais yn cael ystyriaeth lawn, rydym yn argymell cyflwyno cais wedi'i deilwra sy'n mynd i'r afael yn uniongyrchol â'r meini prawf a restrir yn adran Manyleb y Person yr hysbyseb.
Trwy gyflwyno eich cais i NHS Jobs/Trac, rydych yn gydsynio i elfennau o ddata eich cais gael eu trosglwyddo i Gofnod Staff Electronig (ESR) y GIG a systemau diogel, mewnol Gweithlu’r GIG er mwyn cefnogi a rheoli eich recriwtio a’ch cyflogaeth o fewn y sefydliad sy’n eich cyflogi; i’w defnyddio gan yr adran Recriwtio at ddibenion gwirio eich Cofrestriad Proffesiynol ar-lein (lle bo’n briodol).
Mae’r prosesau hyn yn unol â phrosesu Teg a Chyfreithlon yn unol â Deddfwriaeth Diogelu Data cyfredol yn enwedig y rhai hynny mewn perthynas â’ch data personol neu bersonol sensitif (diffinir data personol sensitif fel unrhyw gyflwr iechyd meddwl neu gorfforol, tarddiad hiliol neu ethnig, cyfeiriadedd rhywiol, aelodaeth undeb llafur, barn wleidyddol neu gred crefyddol datganedig). Fel sefydliad, rydym yn sicrhau bod y ddeddfwriaeth sy’n diffinio cyfrinachedd yn cael ei dilyn megis y defnydd o ddata at ddibenion penodol, diffiniedig, a defnydd o ddata sy’n berthnasol ac nid yn ormodol wrth ymarfer cywirdeb data a diogelwch yr holl wybodaeth bersonol adnabyddadwy a gedwir.
Os cewch eich penodi’n llwyddiannus, trwy lenwi’r ffurflen gais rydych yn awdurdodi’r BIP i gael unrhyw fanylion gwasanaeth blaenorol i’r GIG yn cynnwys yr holl wybodaeth ar salwch a gedwir yn electronig, trwy’r broses Trosglwyddo Rhyng-awdurdod ar y Cofnod Staff Electronig.
I weithio yn y DU, mae angen nawdd ar bob ymgeisydd nad yw'n wladolyn o'r DU neu Weriniaeth Iwerddon i gael naill ai fisa Gweithiwr Iechyd a Gofal neu fisa Gweithiwr Medrus, oni bai bod gennych ganiatâd i weithio trwy lwybr arall. Dylai ymgeiswyr nad ydynt yn rhan o'r DU/Gweriniaeth Iwerddon sy'n dymuno gwneud cais hunanasesu'u tebygolrwydd o gael Tystysgrif Nawdd trwy ymweld â gwefan Fisâu a Mewnfudo'r DU. Os ydych chi'n gymwys i gael y fisa Iechyd a Gofal, mae'r costau ymgeisio yn is ac nid oes angen i chi dalu Gordal Iechyd Mewnfudo blynyddol.
Gofynion yr ymgeisydd
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Cofrestriad gyda'r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal ynghyd â gradd mewn Deieteg
- Gwybodaeth glinigol arbenigol am ofal maethol a deieteg ym maes gofal critigol, cymwysterau a gafwyd trwy hyfforddiant arbenigol neu brofiad clinigol cyfatebol hyd at lefel Meistr neu gyfwerth
- Wedi cwblhau'r rhaglen BDA/PENG, neu raglen gyfatebol
- Gwybodaeth a'r gallu i gymhwyso methodoleg ar sail tystiolaeth i gefnogi, gwella, a chynllunio
- Gwybodaeth arbenigol am ganllawiau a pholisïau clinigol perthnasol i'r maes arbenigol
Meini prawf dymunol
- Cymhwyster Meistr – Ymarfer Clinigol Uwch
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Darparu gofal deieteg clinigol helaeth mewn gwasanaethau deieteg acíwt, yn cynnwys gofal critigol
- Profiad sylweddol o reoli llwyth achosion clinigol anrhagweladwy a chymhleth iawn gan ddefnyddio rhesymu clinigol
- Arweinyddiaeth glinigol
- Gweithio amlbroffesiynol helaeth
- Cynllunio a darparu addysg a hyfforddiant clinigol arbenigol seiliedig ar wybodaeth
- Darparu goruchwyliaeth glinigol
- Dirprwyo i aelodau heb eu cofrestru o'r tîm
- Arwain prosiectau/gwella ansawdd/gwaith datblygu, ynghyd â chanlyniadau amlwg
- Hyfforddi myfyrwyr
- Ymchwil/archwilio clinigol
- Dehongli tystiolaeth i ffurfio ymarfer clinigo
Meini prawf dymunol
- Yn cymryd rhan weithredol mewn ffrwd waith genedlaethol, rhwydwaith proffesiynol neu grŵp arbenigol
Arall
Meini prawf hanfodol
- Agwedd hyblyg er mwyn diwallu anghenion y gwasanaeth
- Yn gallu teithio i ddarparu cymorth arbenigol/gwasanaeth cyflenwi ar draws safleoedd
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg ( Lefel 1)
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Karen Thomas
- Teitl y swydd
- Head of Nutrition and Dietetics
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 07530 930846
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Julie Regan – Arweinydd Clinigol ar gyfer Cymorth Maeth Acíwt –[email protected]
Kathryn Francis – Arweinydd Clinigol ar gyfer Cymorth Maeth Acíwt –[email protected]
Dechrau eich cais
Mewngofnodi
Creu cyfrif
Creu eich cyfrif a gwneud cais am eich swydd newydd!