Mae Trac yn falch o bweru recriwtio ar gyfer
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Gwybodaeth
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd i boblogaeth o tua 372,320 ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro. Mae'n darparu gwasanaethau Acìwt, Sylfaenol, Cymunedol, Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu trwy Ysbytai Cyffredinol a Chymunedol, Canolfannau Iechyd, Meddygfeydd Teulu, Deintyddion, Fferyllfeydd, Optometryddion a safleoedd eraill.
Cysylltu
- Address
- Glien House
- Cillefwr Industrial Estate
- Johnstown
- Carmarthen
- Carmarthenshire
- SA31 3RB
- Contact Number
- 0300 303 6138
Gwyddonydd Biofeddygol Arbenigol
Accepting applications until: 10-Feb-2025 23:59
Statws y swydd wag: Open
Accepting applications until: 10-Feb-2025 23:59
Manylion allweddol
Lleoliad
- Gwefan
- Ysbyty Cyffredinol Glangwili
- Cyfeiriad
- Heol Dolgwili
- Tref
- Caerfyrddin
- Cod post
- SA31 2AF
- Major / Minor Region
- Sir Gaerfyrddin
Math o gontract a phatrwm gwaith
- Contract
- Parhaol: Ymuno â'r rota y tu allan i oriau ar gyfer Biochemeg pan fydd yn gymwys
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (I ymuno â'r rota Allan o Oriau pan fyddwch yn gymwys)
Cyflog
- Cyflog
- £37,898 - £45,637 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Gradd
- (Band 6/Atodiad 21)
Arbenigedd
- Prif leoliad
- Gwyddorau'r Gwaed
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae’r raddfa gyflog uchod wedi’i chytuno fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2024/2025. Bydd yn cael ei rhoi ar waith ym mis Tachwedd 2024 wedi’i hôl-ddyddio i 1 Ebrill 2024 lle bo’n berthnasol.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Ar hyn o bryd, rydym yn chwilio am Wyddonydd Biofeddygol Cofrestredig gyda'r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal sy'n llawn brwdfrydedd a chymhelliant ac yn meddu ar brofiad a chymwysterau addas, a hynny ar gyfer rôl Gwyddonydd Biofeddygol Arbenigol yn Is-adran Biocemeg yr Adran Gwyddorau Gwaed, Ysbyty Cyffredinol Glangwili, Caerfyrddin. Mae'r hon yn swydd barhaol, lawn-amser (37.5 awr), ac mae yna ofyniad i gymryd rhan ym mhatrwm shifftiau contractiol yr adran sy'n cefnogi Gwasanaethau Rownd y Cloc, a bydd gweithio y tu allan i oriau ar y rota Biocemeg pan fo hynny'n gymwys.
Dylai'r unigolyn feddu ar naill ai'r Diploma Arbenigol (portffolio Arbenigol y Sefydliad Gwyddorau Biofeddygol – yr IBMS) neu brofiad cyfatebol, ynghyd â phrofiad ôl-gofrestru blaenorol i ymgymryd â rôl arbenigol yn yr Is-adran Biocemeg.
Advert
Mae'r labordy'n darparu gwasanaethau mewn Biocemeg, Haematoleg, Ceulo, a Thrallwyso Gwaed, ac yn rhedeg llwyfannau cwbl awtomatig: y dadansoddwyr Biocemeg yw'r system Roche Cobas gydag Adran Gemeg Arbenigol, ar gyfer Hematoleg mae yna ddadansoddwyr Siemens Advias, ar gyfer Ceulo mae yna ddadansoddwyr Werfen TOPS, a llwyfannau Ortho Vision ar gyfer Trallwyso Gwaed.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus wedi'i leoli'n bennaf yn yr Is-adran Biocemeg ar safle Ysbyty Cyffredinol Glangwili sydd yn Rhanbarth Sir Gaerfyrddin Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Mae Rhanbarth Sir Gaerfyrddin yn cynnwys Ysbyty Cyffredinol Glangwili, Caerfyrddin ac Ysbyty'r Tywysog Philip, Llanelli, a gall fod disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus weithio ledled y ddau safle yn ôl y gofyn.
Bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus gyfleu gwybodaeth, cyngor, cyfarwyddyd a barn broffesiynol yn effeithiol i gyd-weithwyr a defnyddwyr y Gwasanaeth Patholeg ym maes gofal sylfaenol ac eilaidd.
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 12,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu i bron 400,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
4 prif ysbyty (Bronglais, Aberystwyth, Glangwili, Caerfyrddin, Tywysog Philip, Llanelli, ac Llwynhelyg, Hwlffordd).
5 ysbyty cymunedol (Ysbyty Dyffryn Aman ac Ysbyty Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin, Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion,Ysbyty Dinbych-y-pysgod a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol De Sir Benfro yn Sir Benfro.
Dwy ganolfan gofal integredig (Aberaeron ac Aberteifi, yng Ngheredigion).
Cyfleusterau cymunedol, gan gynnwys:
48 Meddygfa, 49 Deintyddfa, 98 Fferyllfa Gymunedol, 44 Practis Offthalmig Cyffredinol (gan gynnwys gwasanaethau iechyd llygaid a golwg gwan), 38 safle yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu, gofal o fewn eich cartrefi eich hun
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Mae'r swydd hon yn cael ei hysbysebu ar lefel Band 6, ac yn ddelfrydol bydd yr ymgeiswyr ar gyfer y rôl hon wedi cyflawni'r Diploma Arbenigol. Fodd bynnag, anogir ymgeiswyr nad ydynt yn meddu ar y cymhwyster ar gyfer rôl Band 6 ar hyn o bryd i wneud cais; os byddant yn llwyddiannus, bydd angen iddynt ennill y cymhwyster cyn pen bedwar flynedd, a chânt eu penodi o dan reolau Atodiad 21.
Mae hyn yn golygu y bydd yn cael ei gefnogi gan gynllun datblygu i ddatblygu'r ymgeisydd llwyddiannus i rôl Band 6. Yn ystod y flwyddyn gyntaf bydd y taliad yn 60% o'r gyfradd cyflog uchaf ym Mand 6, yr ail flwyddyn yn 65%, y drydedd flwyddyn yn 70% a'r bedwaredd flwyddyn yn 75%. Unwaith y bydd y Diploma Arbenigol wedi'i gyflawni, bydd deiliad y swydd yn cael ei dalu ar Fand 6 (pwynt isaf y raddfa).
Gallai peidio â chyflawni'r cymhwyster yn unol â'r amserlen ddynodedig arwain at adleoli
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cynhelir y cyfweliadu ar 18/02/2025.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir drwy gyfrwng y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau a wneir yn y Saesneg.
NODYN PWYSIG I YMGEISWYR: Mae ceisiadau am ein rolau yn cael eu hadolygu'n ofalus a'u rhoi ar restr fer yn seiliedig ar feini prawf penodol, sy'n amrywio o swydd i swydd. Efallai na fydd defnyddio cais generig i wneud cais am rolau lluosog neu ddibynnu ar wasanaethau ceisiadau deallusrwydd artiffisial awtomataidd, fel Lazy Apply neu AI Apply, yn darparu'r wybodaeth angenrheidiol, gan arwain at anwybyddu'ch cais. Er mwyn sicrhau bod eich cais yn cael ystyriaeth lawn, rydym yn argymell cyflwyno cais wedi'i deilwra sy'n mynd i'r afael yn uniongyrchol â'r meini prawf a restrir yn adran Manyleb y Person yr hysbyseb.
Trwy gyflwyno eich cais i NHS Jobs/Trac, rydych yn gydsynio i elfennau o ddata eich cais gael eu trosglwyddo i Gofnod Staff Electronig (ESR) y GIG a systemau diogel, mewnol Gweithlu’r GIG er mwyn cefnogi a rheoli eich recriwtio a’ch cyflogaeth o fewn y sefydliad sy’n eich cyflogi; i’w defnyddio gan yr adran Recriwtio at ddibenion gwirio eich Cofrestriad Proffesiynol ar-lein (lle bo’n briodol).
Mae’r prosesau hyn yn unol â phrosesu Teg a Chyfreithlon yn unol â Deddfwriaeth Diogelu Data cyfredol yn enwedig y rhai hynny mewn perthynas â’ch data personol neu bersonol sensitif (diffinir data personol sensitif fel unrhyw gyflwr iechyd meddwl neu gorfforol, tarddiad hiliol neu ethnig, cyfeiriadedd rhywiol, aelodaeth undeb llafur, barn wleidyddol neu gred crefyddol datganedig). Fel sefydliad, rydym yn sicrhau bod y ddeddfwriaeth sy’n diffinio cyfrinachedd yn cael ei dilyn megis y defnydd o ddata at ddibenion penodol, diffiniedig, a defnydd o ddata sy’n berthnasol ac nid yn ormodol wrth ymarfer cywirdeb data a diogelwch yr holl wybodaeth bersonol adnabyddadwy a gedwir.
Os cewch eich penodi’n llwyddiannus, trwy lenwi’r ffurflen gais rydych yn awdurdodi’r BIP i gael unrhyw fanylion gwasanaeth blaenorol i’r GIG yn cynnwys yr holl wybodaeth ar salwch a gedwir yn electronig, trwy’r broses Trosglwyddo Rhyng-awdurdod ar y Cofnod Staff Electronig.
I weithio yn y DU, mae angen nawdd ar bob ymgeisydd nad yw'n wladolyn o'r DU neu Weriniaeth Iwerddon i gael naill ai fisa Gweithiwr Iechyd a Gofal neu fisa Gweithiwr Medrus, oni bai bod gennych ganiatâd i weithio trwy lwybr arall. Dylai ymgeiswyr nad ydynt yn rhan o'r DU/Gweriniaeth Iwerddon sy'n dymuno gwneud cais hunanasesu'u tebygolrwydd o gael Tystysgrif Nawdd trwy ymweld â gwefan Fisâu a Mewnfudo'r DU. Os ydych chi'n gymwys i gael y fisa Iechyd a Gofal, mae'r costau ymgeisio yn is ac nid oes angen i chi dalu Gordal Iechyd Mewnfudo blynyddol.
Gofynion yr ymgeisydd
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Gradd anrhydedd mewn Gwyddorau Biofeddygol/Gwyddorau Bywyd
- Diploma Arbenigol neu gymhwyster cyfatebol
- Cofrestriad gyda'r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal
- Tystiolaeth o DPP
- Gwybodaeth am Sicrhau Ansawdd Patholeg
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad blaenorol fel Gwyddonydd Biofeddygol Cofrestredig
- Gwybodaeth fanwl am offeryniaeth labordy gymhleth
- Gallu technegol i ddatrys problemau, atgyweirio, cynghori neu ddarparu gwybodaeth fanwl sy'n berthnasol i'r arbenigedd
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Sgiliau Cymraeg – Lefel 1
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Catrina Richards
- Teitl y swydd
- Blood Science Locality Lead (GGH)
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01267 227965
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
James Stevenson, Rheolwr Adran Biocemeg
Tel 01267 227456 neu [email protected]
Dechrau eich cais
Mewngofnodi
Creu cyfrif
Creu eich cyfrif a gwneud cais am eich swydd newydd!