Mae Trac yn falch o bweru recriwtio ar gyfer
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Gwybodaeth
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd i boblogaeth o tua 372,320 ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro. Mae'n darparu gwasanaethau Acìwt, Sylfaenol, Cymunedol, Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu trwy Ysbytai Cyffredinol a Chymunedol, Canolfannau Iechyd, Meddygfeydd Teulu, Deintyddion, Fferyllfeydd, Optometryddion a safleoedd eraill.
Cysylltu
- Address
- Glien House
- Cillefwr Industrial Estate
- Johnstown
- Carmarthen
- Carmarthenshire
- SA31 3RB
- Contact Number
- 0300 303 6138
Nyrs Arbenigol Methiant y Galon
Accepting applications until: 07-Jan-2025 23:59
Statws y swydd wag: Open
Accepting applications until: 07-Jan-2025 23:59
Manylion allweddol
Lleoliad
- Gwefan
- Ty Parc Yr Hun
- Tref
- Rhydaman
- Cod post
- SA18 3EZ
- Major / Minor Region
- Sir Gaerfyrddin
Math o gontract a phatrwm gwaith
- Contract
- 10 mis (Mae'r swydd hon yn swydd Cyfnod Penodol / Secondiad tan 21/12/2025.)
- Oriau
- Rhan-amser - 30 awr yr wythnos
Cyflog
- Cyflog
- £46,840 - £53,602 y flwyddyn pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Gradd
- (Gradd 7)
Arbenigedd
- Prif leoliad
- Nyrsio Cymunedol
- Dyddiad y cyfweliad
- 15/01/2025
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae’r raddfa gyflog uchod wedi’i chytuno fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2024/2025. Bydd yn cael ei rhoi ar waith ym mis Tachwedd 2024 wedi’i hôl-ddyddio i 1 Ebrill 2024 lle bo’n berthnasol.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Mae'r swydd hon yn swydd Cyfnod Penodol / Secondiad tan 21/12/2025.
Os ydych yn gyflogai i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac yn gwneud cais am secondiad i'r swydd hon, bydd angen i'ch rheolwr presennol gytuno i'r secondiad cyn i chi gyflwyno eich cais.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn bwriadu penodi Nyrs Arbenigol Methiant y Galon neu Nyrs Gardioleg brofiadol â diddordeb arbennig mewn methiant y galon ar Fand 7, a hynny am 10 mis i gyflenwi dros gyfnod o absenoldeb Mamolaeth. Bydd y swydd hon wedi'i lleoli yn Rhydaman, a bydd yn gweithio'n agos gyda Gofal Sylfaenol a'r gymuned
ehangach. Mae Gwasanaeth Methiant y Galon Hywel Dda yn darparu gofal arbenigol holistaidd, seiliedig ar dystiolaeth i gleifion methiant y galon yn ein cymuned.
Mae'r cyfle cyffrous hwn wedi dod ar gael ar adeg pan fo datblygiadau arloesol newydd a newidiadau i wasanaethau yn cael eu harchwilio. Mae'r rhain yn cynnwys apwyntiadau clinig rhithwir, teleiechyd, a gofal iechyd seiliedig ar werth dan arweiniad y claf.
Mae'r gwasanaeth yn ceisio gwella'r dull o reoli cleifion trwy optimeiddio iechyd trwy sgrinio a chynnal asesiad llawn, gan sicrhau bod yr archwiliadau priodol yn cael eu cynnal, a bod yr anghenion o ran triniaeth a gofal yn cael eu nodi, yn unol ag arfer seiliedig ardystiolaeth, a chan leihau'r risg i'r claf.
Advert
Mae wedi'i integreiddio'n llwyr â darparwyr gwasanaethau eraill i sicrhau bod gofal yn cael ei gynnig ar y lefel gywir i ddiwallu anghenion y claf a bodloni ymrwymiad Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i ddull darbodus o fynd i'r afael â gofal iechyd.
Er bod y tîm wedi'i leoli yn y gymuned, mae'n gwbl integredig ac yn darparu gofal arbenigol ar gyfer methiant y galon yn y gymuned ac yn y gwasanaeth mewngymorth yn yr ysbyty lleol. Mae hyn yn gofyn am hyblygrwydd yn y rôl, yn ogystal ag amrywiaeth eang o sgiliau a phrofiad o ofalu am gleifion methiant y galon.
Bydd yn ofynnol i chi gymryd rhan lawn yn y gwaith o reoli llwyth achosion o gleifion methiant y galon cymhleth ym maes gofal sylfaenol, gan gynnig gofal unigol a dull holistaidd.
Mae'r rôl yn gofyn am ymarfer annibynnol, lle byddwch yn ymgymryd ag
ymgyngoriadau/asesiadau clinigol a rhoi cynlluniau rheoli ar waith. Byddwch yn gyfrifol am sicrhau bod therapi meddygol yn cael ei optimeiddio, ac am gynnig addysg a chymorth estynedig i gleifion a pherthnasau/gofalwyr, gan anelu at leihau'r symptomau, atal derbyniadau diangen/aildderbyniadau i'r ysbyty, a gwella ansawdd bywyd y claf i'r eithaf.
Mae yna hefyd ofyniad i addysgu a chreu adnoddau o ran rhannu eich gwybodaeth arbenigol eich hun ym maes gofal sylfaenol a gofal eilaidd, fel ei gilydd, yn ogystal â chynnal a chyfranogi mewn cyfarfodydd a hyfforddiant ar fethiant y galon i gyd-weithwyr yn y tîm amlddisgyblaethol.
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 12,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu i bron 400,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
4 prif ysbyty (Bronglais, Aberystwyth, Glangwili, Caerfyrddin, Tywysog Philip, Llanelli, ac Llwynhelyg, Hwlffordd).
5 ysbyty cymunedol (Ysbyty Dyffryn Aman ac Ysbyty Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin, Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion,Ysbyty Dinbych-y-pysgod a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol De Sir Benfro yn Sir Benfro.
Dwy ganolfan gofal integredig (Aberaeron ac Aberteifi, yng Ngheredigion).
Cyfleusterau cymunedol, gan gynnwys:
48 Meddygfa, 49 Deintyddfa, 98 Fferyllfa Gymunedol, 44 Practis Offthalmig Cyffredinol (gan gynnwys gwasanaethau iechyd llygaid a golwg gwan), 38 safle yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu, gofal o fewn eich cartrefi eich hun
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Cynhelir y cyfweliadau ar 15/01/2025.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg, fel ei gilydd, wneud cais.
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Mynediad ar unwaith i’n budd llesiant ariannol – Wagestream. Mae Wagestream yn adnodd ar gyfer bywyd bob dydd sy’n eich caniatáu i gael eich talu eich ffordd eich hun, a olrain eich cyflog mewn amser real, ffrydio hyd at 50% o’r cyflog rydych wedi ennill yn barod, dysgu awgrymiadau hawdd i reoli eich arian yn well ac arbed eich tâl yn syth o’ch cyflog.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir drwy gyfrwng y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau a wneir yn y Saesneg.
NODYN PWYSIG I YMGEISWYR: Mae ceisiadau am ein rolau yn cael eu hadolygu'n ofalus a'u rhoi ar restr fer yn seiliedig ar feini prawf penodol, sy'n amrywio o swydd i swydd. Efallai na fydd defnyddio cais generig i wneud cais am rolau lluosog neu ddibynnu ar wasanaethau ceisiadau deallusrwydd artiffisial awtomataidd, fel Lazy Apply neu AI Apply, yn darparu'r wybodaeth angenrheidiol, gan arwain at anwybyddu'ch cais. Er mwyn sicrhau bod eich cais yn cael ystyriaeth lawn, rydym yn argymell cyflwyno cais wedi'i deilwra sy'n mynd i'r afael yn uniongyrchol â'r meini prawf a restrir yn adran Manyleb y Person yr hysbyseb.
Trwy gyflwyno eich cais i NHS Jobs/Trac, rydych yn gydsynio i elfennau o ddata eich cais gael eu trosglwyddo i Gofnod Staff Electronig (ESR) y GIG a systemau diogel, mewnol Gweithlu’r GIG er mwyn cefnogi a rheoli eich recriwtio a’ch cyflogaeth o fewn y sefydliad sy’n eich cyflogi; i’w defnyddio gan yr adran Recriwtio at ddibenion gwirio eich Cofrestriad Proffesiynol ar-lein (lle bo’n briodol).
Mae’r prosesau hyn yn unol â phrosesu Teg a Chyfreithlon yn unol â Deddfwriaeth Diogelu Data cyfredol yn enwedig y rhai hynny mewn perthynas â’ch data personol neu bersonol sensitif (diffinir data personol sensitif fel unrhyw gyflwr iechyd meddwl neu gorfforol, tarddiad hiliol neu ethnig, cyfeiriadedd rhywiol, aelodaeth undeb llafur, barn wleidyddol neu gred crefyddol datganedig). Fel sefydliad, rydym yn sicrhau bod y ddeddfwriaeth sy’n diffinio cyfrinachedd yn cael ei dilyn megis y defnydd o ddata at ddibenion penodol, diffiniedig, a defnydd o ddata sy’n berthnasol ac nid yn ormodol wrth ymarfer cywirdeb data a diogelwch yr holl wybodaeth bersonol adnabyddadwy a gedwir.
Os cewch eich penodi’n llwyddiannus, trwy lenwi’r ffurflen gais rydych yn awdurdodi’r BIP i gael unrhyw fanylion gwasanaeth blaenorol i’r GIG yn cynnwys yr holl wybodaeth ar salwch a gedwir yn electronig, trwy’r broses Trosglwyddo Rhyng-awdurdod ar y Cofnod Staff Electronig.
I weithio yn y DU, mae angen nawdd ar bob ymgeisydd nad yw'n wladolyn o'r DU neu Weriniaeth Iwerddon i gael naill ai fisa Gweithiwr Iechyd a Gofal neu fisa Gweithiwr Medrus, oni bai bod gennych ganiatâd i weithio trwy lwybr arall. Dylai ymgeiswyr nad ydynt yn rhan o'r DU/Gweriniaeth Iwerddon sy'n dymuno gwneud cais hunanasesu'u tebygolrwydd o gael Tystysgrif Nawdd trwy ymweld â gwefan Fisâu a Mewnfudo'r DU. Os ydych chi'n gymwys i gael y fisa Iechyd a Gofal, mae'r costau ymgeisio yn is ac nid oes angen i chi dalu Gordal Iechyd Mewnfudo blynyddol.
Gofynion yr ymgeisydd
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Nyrs Gofrestredig
- Rhan 1 i gofrestr y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth
- Yn meddu ar radd neu gymhwyster neu brofiad cyfatebol
- Cwrs ol-raddedig cydnabyddedig mewn methiant y galon hyd at lefel Meistr neu brofiad cyfwerth
- Gwybodaeth am ofal cardiaidd ac ymarfer amlwg
- Gwybodaeth am ddulliau Sylfaenol/Eilaidd o atal methiant y galon
- Gwybodaeth am lwybr Methiant y Galon; rhyngwyneb Gofal Sylfaenol/Acíwt
Meini prawf dymunol
- Cymhwyster neu brofiad addysgu cydnabyddedig
- Presgripsiynu anfeddygol annibynnol (neu'n gweithio tuag at hynny)
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad ol-gofrestru sylweddol, sy'n cynnwys profiad swyddogol ym maes nyrsio cardiaidd
- Sgiliau cyfathrebu rhagorol, yn ysgrifenedig ac ar lafar
- Sgiliau asesu clinigol amlwg
- Profiad o Ofal Sylfaenol/Eilaidd
- Profiad o glinigau dan arweiniad nyrsys
Meini prawf dymunol
- Profiad o gynllunio prosiectau
- Profiad o gynnal archwiliadau clinigol
Sgiliau iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (lefel 1)
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Sian Green
- Teitl y swydd
- Community Clinical Lead Nurse
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 07971795791
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Derlys Jones
Nyrs Arweiniol Glinigol
07811 711642
Dechrau eich cais
Mewngofnodi
Creu cyfrif
Creu eich cyfrif a gwneud cais am eich swydd newydd!