Mae Trac yn falch o bweru recriwtio ar gyfer
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Gwybodaeth
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd i boblogaeth o tua 372,320 ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro. Mae'n darparu gwasanaethau Acìwt, Sylfaenol, Cymunedol, Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu trwy Ysbytai Cyffredinol a Chymunedol, Canolfannau Iechyd, Meddygfeydd Teulu, Deintyddion, Fferyllfeydd, Optometryddion a safleoedd eraill.
Cysylltu
- Address
- Glien House
- Cillefwr Industrial Estate
- Johnstown
- Carmarthen
- Carmarthenshire
- SA31 3RB
- Contact Number
- 0300 303 6138
Deietegydd Gwella Iechyd
Accepting applications until: 12-Jan-2025 23:59
Statws y swydd wag: Open
Accepting applications until: 12-Jan-2025 23:59
Manylion allweddol
Lleoliad
- Gwefan
- I'w gytuno
- Cyfeiriad
- I'w gytuno
- Tref
- I'w gytuno
- Cod post
- SA61 2PZ
- Major / Minor Region
- Sir Gaerfyrddin
Math o gontract a phatrwm gwaith
- Contract
- Parhaol: Arall
- Oriau
- Rhan-amser
- Gweithio hyblyg
Cyflog
- Cyflog
- £37,898 - £45,637 y flwyddyn pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Gradd
- (Gradd 6)
Arbenigedd
- Prif leoliad
- Deietegydd
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae’r raddfa gyflog uchod wedi’i chytuno fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2024/2025. Bydd yn cael ei rhoi ar waith ym mis Tachwedd 2024 wedi’i hôl-ddyddio i 1 Ebrill 2024 lle bo’n berthnasol.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Mae yna gyfle prin i ymuno â thîm Gwella Iechyd, Maeth a Deieteg sefydledig Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Rydym yn chwilio am ddeietegydd profiadol sy'n teimlo'n angerddol ynghylch rôl maeth o ran atal clefydau sy'n gysylltiedig â deiet.
Chi fydd y deietegydd allweddol a fydd yn darparu ymyriadau maeth i wella iechyd yn ardal brydferth Sir Benfro; a hynny wrth weithio'n agos gyda thimau Gwella Iechyd, Maeth a Deieteg a ledled y bwrdd iechyd ehangach.
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus brofiad o ddarparu ymyriadau maeth o ran iechyd y cyhoedd, a bydd profiad o gyflwyno Sgiliau Maeth am Oes yn fanteisiol. Bydd disgwyl iddo weithio mewn partneriaeth ledled y tair sir, cydweithio â rhanddeiliaid, a chael ei ysgogi i wella iechyd y boblogaeth trwy fwyd ar gyfer iechyd a llesiant.
Bydd profiad o hwyluso grwpiau ynghyd â phrofiad o gyflawni prosiectau yn hanfodol i'r rôl hon. Bydd yn ofynnol i ddeiliad y swydd feddu ar sgiliau trefnu, rheoli amser a chyfathrebu rhagorol i fodloni gofynion y swydd hon.
Cliciwch yma i glywed popeth am fod yn rhan o'r Tîm Dieteteg! Proffesiynau Perthynol i Iechyd – Dietegydd
Advert
Yr ymgeisydd llwyddiannus fydd y deietegydd pwrpasol a fydd yn darparu'r
arweinyddiaeth mewn perthynas â maeth, yn seiliedig ar dystiolaeth, yn Sir Benfro. Bydd hyn yn cynnwys:
Datblygu, darparu a gwerthuso addysg a hyfforddiant achrededig ar faeth i asedau cymunedol allweddol; a galluogi'r broses o gyflwyno cyrsiau Sgiliau Maeth am Oes Lefel 1 a sicrhau ansawdd.
Bod yn adnodd arbenigol ar faeth ar gyfer y bwrdd iechyd, partneriaid a chymunedau.
Sicrhau ansawdd ymyriadau maeth.
Gweithio'n annibynnol i nodi, datblygu, cyflawni a gwerthuso prosiectau yn lleol ac yn genedlaethol.
Arwain y gwaith o gyflawni prosiectau
Adrodd ar weithgarwch a chanlyniadau
Datblygu gwasanaethau a gwella ansawdd.
Darparu gwasanaeth cyflenwi, a chefnogi'r tîm Gwella Iechyd, Maeth a Deieteg
Goruchwylio a mentora staff a myfyrwyr deieteg
Bydd gwybodaeth a phrofiad mewn perthynas â darparu ymyriadau maeth ar bob un o brif gamau bywyd, e.e. beichiogrwydd, cyn- ysgol, yn ddymunol ar gyfer y rôl.
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 12,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu i bron 400,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
4 prif ysbyty (Bronglais, Aberystwyth, Glangwili, Caerfyrddin, Tywysog Philip, Llanelli, ac Llwynhelyg, Hwlffordd).
5 ysbyty cymunedol (Ysbyty Dyffryn Aman ac Ysbyty Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin, Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion,Ysbyty Dinbych-y-pysgod a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol De Sir Benfro yn Sir Benfro.
Dwy ganolfan gofal integredig (Aberaeron ac Aberteifi, yng Ngheredigion).
Cyfleusterau cymunedol, gan gynnwys:
48 Meddygfa, 49 Deintyddfa, 98 Fferyllfa Gymunedol, 44 Practis Offthalmig Cyffredinol (gan gynnwys gwasanaethau iechyd llygaid a golwg gwan), 38 safle yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu, gofal o fewn eich cartrefi eich hun
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cynhelir y cyfweliadu ar 23.01.25
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir drwy gyfrwng y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau a wneir yn y Saesneg.
NODYN PWYSIG I YMGEISWYR: Mae ceisiadau am ein rolau yn cael eu hadolygu'n ofalus a'u rhoi ar restr fer yn seiliedig ar feini prawf penodol, sy'n amrywio o swydd i swydd. Efallai na fydd defnyddio cais generig i wneud cais am rolau lluosog neu ddibynnu ar wasanaethau ceisiadau deallusrwydd artiffisial awtomataidd, fel Lazy Apply neu AI Apply, yn darparu'r wybodaeth angenrheidiol, gan arwain at anwybyddu'ch cais. Er mwyn sicrhau bod eich cais yn cael ystyriaeth lawn, rydym yn argymell cyflwyno cais wedi'i deilwra sy'n mynd i'r afael yn uniongyrchol â'r meini prawf a restrir yn adran Manyleb y Person yr hysbyseb.
Trwy gyflwyno eich cais i NHS Jobs/Trac, rydych yn gydsynio i elfennau o ddata eich cais gael eu trosglwyddo i Gofnod Staff Electronig (ESR) y GIG a systemau diogel, mewnol Gweithlu’r GIG er mwyn cefnogi a rheoli eich recriwtio a’ch cyflogaeth o fewn y sefydliad sy’n eich cyflogi; i’w defnyddio gan yr adran Recriwtio at ddibenion gwirio eich Cofrestriad Proffesiynol ar-lein (lle bo’n briodol).
Mae’r prosesau hyn yn unol â phrosesu Teg a Chyfreithlon yn unol â Deddfwriaeth Diogelu Data cyfredol yn enwedig y rhai hynny mewn perthynas â’ch data personol neu bersonol sensitif (diffinir data personol sensitif fel unrhyw gyflwr iechyd meddwl neu gorfforol, tarddiad hiliol neu ethnig, cyfeiriadedd rhywiol, aelodaeth undeb llafur, barn wleidyddol neu gred crefyddol datganedig). Fel sefydliad, rydym yn sicrhau bod y ddeddfwriaeth sy’n diffinio cyfrinachedd yn cael ei dilyn megis y defnydd o ddata at ddibenion penodol, diffiniedig, a defnydd o ddata sy’n berthnasol ac nid yn ormodol wrth ymarfer cywirdeb data a diogelwch yr holl wybodaeth bersonol adnabyddadwy a gedwir.
Os cewch eich penodi’n llwyddiannus, trwy lenwi’r ffurflen gais rydych yn awdurdodi’r BIP i gael unrhyw fanylion gwasanaeth blaenorol i’r GIG yn cynnwys yr holl wybodaeth ar salwch a gedwir yn electronig, trwy’r broses Trosglwyddo Rhyng-awdurdod ar y Cofnod Staff Electronig.
I weithio yn y DU, mae angen nawdd ar bob ymgeisydd nad yw'n wladolyn o'r DU neu Weriniaeth Iwerddon i gael naill ai fisa Gweithiwr Iechyd a Gofal neu fisa Gweithiwr Medrus, oni bai bod gennych ganiatâd i weithio trwy lwybr arall. Dylai ymgeiswyr nad ydynt yn rhan o'r DU/Gweriniaeth Iwerddon sy'n dymuno gwneud cais hunanasesu'u tebygolrwydd o gael Tystysgrif Nawdd trwy ymweld â gwefan Fisâu a Mewnfudo'r DU. Os ydych chi'n gymwys i gael y fisa Iechyd a Gofal, mae'r costau ymgeisio yn is ac nid oes angen i chi dalu Gordal Iechyd Mewnfudo blynyddol.
Gofynion yr ymgeisydd
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Tystiolaeth o gofrestriad cyfredol gyda'r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal
- Gradd neu gymhwyster ôlraddedig mewn deieteg yn arwain at gofrestriad
- Yn aelod o Gymdeithas Ddeieteg Prydain neu wedi'ch diogelu gan yswiriant indemniad proffesiynol
- Yn amlygu gwybodaeth dda am y sail dystiolaeth mewn perthynas ag ymarfer deieteg a datblygu ymarfer, ac yn gallu cymhwyso'r wybodaeth honno
- Sgiliau arfarnu beirniadol: gwybodaeth am y sail dystiolaeth gyfredol a datblygol, ac am bolisïau, canllawiau ac arfer gorau cenedlaethol a phroffesiynol mewn perthynas â darparu a datblygu sbectrwm eang o ddeieteg oedolion
- Sgiliau datrys problemau clinigol sefydledig
- Yn amlygu sgiliau trefnu effeithiol, gan gynnwys blaenoriaethu'r llwyth gwaith, rheoli'r llwyth achosion mewn modd effeithiol, a dirprwyo tasgau
- Sgiliau addysgu a chyflwyno sefydledig
Meini prawf dymunol
- Aelodaeth o grwpiau diddordeb arbennig perthnasol
- Wedi mynychu cyrsiau/cynadleddau achrededig perthnasol
- Dyfarniad Lefel 2 mewn Hylendid Bwyd, neu'n gweithio tuag at hynny
- Hyfforddiant Asesydd Agored Cymru
- Achrediad Lefel 3 mewn addysg a hyfforddiant
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad amlwg a helaeth ym maes deieteg glinigol
- Profiad o addysgu gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a staff sefydliadau eraill
- Tystiolaeth o gymryd rhan mewn gwaith datblygu mewn gwasanaethau deieteg, e.e. archwilio, gweithredu newid mewn ymarfer, darparu ymyriad deietegol newydd
- Profiad o archwiliad clinigol, gwerthuso a gwella gwasanaethau
Meini prawf dymunol
- Profiad o ddarparu hyfforddiant achrededig Agored Cymru
- Profiad o ddeieteg pediatrig
- Profiad o ddeieteg iechyd y cyhoedd
- Profiad o addysgu oedolion gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau addysgu
- Profiad o ddarparu addysg seiliedig ar sgiliau ymarferol, e.e. sesiynau coginio
- Profiad o ddirprwyo gwaith i aseswyr deieteg/fyfyrwyr/staff deieteg iau, ynghyd â'u cefnogi/goruchwylio
- Profiad o newid gwasanaeth
- Profiad o ymchwil
- Profiad o gyflawni gwaith prosiect gan ddefnyddio methodoleg gwella gwasanaethau cydnabyddedig
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Zoe Paul-Gough
- Teitl y swydd
- Joint Head of Nutrition & Dietetics
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
Dechrau eich cais
Mewngofnodi
Creu cyfrif
Creu eich cyfrif a gwneud cais am eich swydd newydd!