Mae Trac yn falch o bweru recriwtio ar gyfer
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Gwybodaeth
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd i boblogaeth o tua 372,320 ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro. Mae'n darparu gwasanaethau Acìwt, Sylfaenol, Cymunedol, Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu trwy Ysbytai Cyffredinol a Chymunedol, Canolfannau Iechyd, Meddygfeydd Teulu, Deintyddion, Fferyllfeydd, Optometryddion a safleoedd eraill.
Cysylltu
- Address
- Glien House
- Cillefwr Industrial Estate
- Johnstown
- Carmarthen
- Carmarthenshire
- SA31 3RB
- Contact Number
- 0300 303 6138
Therapydd Galwedigaethol Arweiniol Clinigol – ARFID Plant/Phobl Ifanc
Accepting applications until: 12-Jan-2025 23:59
Statws y swydd wag: Open
Accepting applications until: 12-Jan-2025 23:59
Manylion allweddol
Lleoliad
- Gwefan
- Cymuned – i'w gadarnhau gyda'r ymgeisydd
- Cyfeiriad
- Ysbyty Glangwili Ffordd Dolgwili
- Tref
- Caerfyrddin
- Cod post
- SA31 2AF
- Major / Minor Region
- Sir Gaerfyrddin
Math o gontract a phatrwm gwaith
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Rhan-amser
- Gweithio hyblyg
- Oriau cywasgedig
Cyflog
- Cyflog
- £46,840 - £53,602 Y flwyddyn pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Gradd
- (Gradd 7)
Arbenigedd
- Prif leoliad
- Therapydd Galwedigaethol
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae’r raddfa gyflog uchod wedi’i chytuno fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2024/2025. Bydd yn cael ei rhoi ar waith ym mis Tachwedd 2024 wedi’i hôl-ddyddio i 1 Ebrill 2024 lle bo’n berthnasol.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Therapydd Galwedigaethol Arweiniol Clinigol, y Gwasanaethau Iechyd Meddwl Arbenigol i Blant a'r Glasoed (S-CAMHS), y Gwasanaeth ARFID.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn bwriadu penodi Therapydd Galwedigaethol arloesol, rhagweithiol a brwdfrydig i ymuno â'n gwasanaeth arbenigol newydd i blant a phobl ifanc ag Anhwylder Cymeriant Bwyd Cyfyngol ac Osgoilyd (ARFID). Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â'r gwasanaeth hwn yn rôl yr Arweinydd Clinigol ar gyfer Therapi
Galwedigaethol yn y maes ymarfer newydd hwn sy'n esblygu. Mae'r gwasanaeth wedi'i leoli yng Ngwasanaeth Anhwylderau Bwyta S-CAMHS, a cheir cymorth therapi galwedigaethol gan Arweinydd y Gwasanaeth Therapi Galwedigaethol ar gyfer Plant a Phobl Ifanc.
Advert
Bydd disgwyl i chi fod yn gyfrifol am lwyth achosion cymhleth wrth weithio mewn amgylcheddau clinigol, addysg a'r cartref, a bydd yn ofynnol i chi gysylltu'n agos â'r tîm amlddisgyblaethol yn y gwasanaeth ARFID, a hefyd â therapyddion galwedigaethol mewn rolau eraill sy'n cefnogi Plant a Phobl Ifanc yn y Bwrdd Iechyd.
Bydd gofyn i chi hefyd gysylltu â rhwydweithiau proffesiynol ledled Cymru a'r Deyrnas Unedig sy'n ymwneud â'ch maes arbenigedd, a hynny mewn perthynas â datblygu'r gwasanaeth, llywodraethu clinigol a gwella ymarfer clinigol.
Bydd disgwyl hefyd i ddeiliad y swydd gynnig hyfforddiant a chymorth i’r Gwasanaeth Therapi Galwedigaethol ehangach ar gyfer Plant a Phobl Ifanc, goruchwylio staff a chynnig lleoliadau clinigol i gefnogi datblygiad myfyrwyr therapi galwedigaethol yng Nghymru.
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 11,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu ar gyfer tua 384,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth, Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli a Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd;
Saith ysbyty cymunedol: Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin; Tregaron, Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ysbyty Dinbych-y-pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro;
48 o bractisau cyffredinol (pedwar ohonynt yn bractisau a reolir), 47 practis deintyddol (gan gynnwys tri orthodontig), 99 o fferyllfeydd cymunedol, 44 o bractisau offthalmig cyffredinol (43 yn darparu Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru a 34 o wasanaethau golwg gwan) ac 17 o ddarparwyr gofal cartref yn unig ac 11 canolfannau iechyd;
Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu;
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Bydd disgwyl i ddeiliad y swydd deithio ar draws ôl troed y Bwrdd Iechyd gyda lwfans milltiredd yn daladwy ac mae cynllun ceir prydles ar gael.
Rydym yn edrych ymlaen at dderbyn ymholiadau anffurfiol a'ch cais.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cynhelir y cyfweliadu ar 22/01/2025
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir drwy gyfrwng y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau a wneir yn y Saesneg.
NODYN PWYSIG I YMGEISWYR: Mae ceisiadau am ein rolau yn cael eu hadolygu'n ofalus a'u rhoi ar restr fer yn seiliedig ar feini prawf penodol, sy'n amrywio o swydd i swydd. Efallai na fydd defnyddio cais generig i wneud cais am rolau lluosog neu ddibynnu ar wasanaethau ceisiadau deallusrwydd artiffisial awtomataidd, fel Lazy Apply neu AI Apply, yn darparu'r wybodaeth angenrheidiol, gan arwain at anwybyddu'ch cais. Er mwyn sicrhau bod eich cais yn cael ystyriaeth lawn, rydym yn argymell cyflwyno cais wedi'i deilwra sy'n mynd i'r afael yn uniongyrchol â'r meini prawf a restrir yn adran Manyleb y Person yr hysbyseb.
Trwy gyflwyno eich cais i NHS Jobs/Trac, rydych yn gydsynio i elfennau o ddata eich cais gael eu trosglwyddo i Gofnod Staff Electronig (ESR) y GIG a systemau diogel, mewnol Gweithlu’r GIG er mwyn cefnogi a rheoli eich recriwtio a’ch cyflogaeth o fewn y sefydliad sy’n eich cyflogi; i’w defnyddio gan yr adran Recriwtio at ddibenion gwirio eich Cofrestriad Proffesiynol ar-lein (lle bo’n briodol).
Mae’r prosesau hyn yn unol â phrosesu Teg a Chyfreithlon yn unol â Deddfwriaeth Diogelu Data cyfredol yn enwedig y rhai hynny mewn perthynas â’ch data personol neu bersonol sensitif (diffinir data personol sensitif fel unrhyw gyflwr iechyd meddwl neu gorfforol, tarddiad hiliol neu ethnig, cyfeiriadedd rhywiol, aelodaeth undeb llafur, barn wleidyddol neu gred crefyddol datganedig). Fel sefydliad, rydym yn sicrhau bod y ddeddfwriaeth sy’n diffinio cyfrinachedd yn cael ei dilyn megis y defnydd o ddata at ddibenion penodol, diffiniedig, a defnydd o ddata sy’n berthnasol ac nid yn ormodol wrth ymarfer cywirdeb data a diogelwch yr holl wybodaeth bersonol adnabyddadwy a gedwir.
Os cewch eich penodi’n llwyddiannus, trwy lenwi’r ffurflen gais rydych yn awdurdodi’r BIP i gael unrhyw fanylion gwasanaeth blaenorol i’r GIG yn cynnwys yr holl wybodaeth ar salwch a gedwir yn electronig, trwy’r broses Trosglwyddo Rhyng-awdurdod ar y Cofnod Staff Electronig.
I weithio yn y DU, mae angen nawdd ar bob ymgeisydd nad yw'n wladolyn o'r DU neu Weriniaeth Iwerddon i gael naill ai fisa Gweithiwr Iechyd a Gofal neu fisa Gweithiwr Medrus, oni bai bod gennych ganiatâd i weithio trwy lwybr arall. Dylai ymgeiswyr nad ydynt yn rhan o'r DU/Gweriniaeth Iwerddon sy'n dymuno gwneud cais hunanasesu'u tebygolrwydd o gael Tystysgrif Nawdd trwy ymweld â gwefan Fisâu a Mewnfudo'r DU. Os ydych chi'n gymwys i gael y fisa Iechyd a Gofal, mae'r costau ymgeisio yn is ac nid oes angen i chi dalu Gordal Iechyd Mewnfudo blynyddol.
Gofynion yr ymgeisydd
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Gradd/Diploma mewn Therapi Galwedigaethol
- Cofrestriad proffesiynol fel y'i cydnabyddir gan y Cyngor Proffesiynau Iechyd
- Tystiolaeth o bresenoldeb ar gyrsiau byr arbenigol ac o ddilyn hyfforddiant uwch hyd at lefel sy'n cyfateb i lefel Meistr, e.e. Integreiddio Synhwyraidd, hyfforddiant mewn rheoli ystum y corff, Bobath
Meini prawf dymunol
- MSc neu hyfforddiant ar lefel diploma ol-raddedig mewn maes perthnasol. Gallai hyn gynnwys modiwlau Meistr e.e. Integreiddio Synhwyraidd
- Sblintio a'i gymhwysiad i blant a phobl ifanc
- Hyfforddiant ar Addysg Gwaith Maes
- Aelod o BAOT
- Hyfforddiant ar arwain
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad ol-raddedig helaeth, gan gynnwys profiad perthnasol gyda phlant a phobl ifanc
- Rheoli llwyth achosion cymhleth
- Gwaith tîm rhyngbroffesiynol ac amlasiantaeth
- Cysylltiad uniongyrchol a gofalwyr a theuluoedd
- Trafod prosesau datblygu gwasanaethau
- Tystiolaeth o gefnogi cydymffurfedd gwasanaeth a gofynion llywodraethu clinigol
- Triniaeth therapiwtig ac asesiadau risg mewn perthynas a gofal, gan gynnwys plant a phobl ifanc cymhleth
- Profiad o ddirprwyo, goruchwylio a goruchwylio staff yn briodol
- Tystiolaeth o addysgu/hyfforddiant mewn swydd
Meini prawf dymunol
- Goruchwylio myfyrwyr
- Gweithiwr allweddol/Rheolwr Achosion
- Trafod trefniadau gweithio amlddisgyblaethol
- Arwain rhwydweithiau clinigol/grwpiau ymarfer clinigol
- Arwain datblygiadau a newidiadau i wasanaethau
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Kelly Southway
- Teitl y swydd
- Service Lead for OT for Children and Young People
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 07811 066200
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Tel: 01267 246424
Dechrau eich cais
Mewngofnodi
Creu cyfrif
Creu eich cyfrif a gwneud cais am eich swydd newydd!