Mae Trac yn falch o bweru recriwtio ar gyfer
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Gwybodaeth
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd i boblogaeth o tua 372,320 ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro. Mae'n darparu gwasanaethau Acìwt, Sylfaenol, Cymunedol, Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu trwy Ysbytai Cyffredinol a Chymunedol, Canolfannau Iechyd, Meddygfeydd Teulu, Deintyddion, Fferyllfeydd, Optometryddion a safleoedd eraill.
Cysylltu
- Address
- Glien House
- Cillefwr Industrial Estate
- Johnstown
- Carmarthen
- Carmarthenshire
- SA31 3RB
- Contact Number
- 0300 303 6138
Rheolwr Gweithredol Gweithlu'r Dyfodol
Closed for applications on: 27-Ion-2025 00:05
Statws y swydd wag: Closed
Closed for applications on: 27-Ion-2025 00:05
Manylion allweddol
Lleoliad
- Gwefan
- Bwrdd Iechyd Cyfan
- Tref
- Bwrdd Iechyd Cyfan
- Cod post
- SA313BB
- Major / Minor Region
- Sir Gaerfyrddin
Math o gontract a phatrwm gwaith
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
Cyflog
- Cyflog
- £46,840 - £53,602 y flwyddyn (pro rata os yn rhan-amser)
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Gradd
- (Gradd 7)
Arbenigedd
- Prif leoliad
- Rheolwr Gweinyddol
- Dyddiad y cyfweliad
- 05/02/2025
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.
Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau.
Trosolwg o'r swydd
A ydych chi’n angerddol am siapio gweithlu dyfodol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a chael effaith wirioneddol ar eich cymuned? Ymunwch â ni fel Rheolwr Gweithredol Gweithlu'r Dyfodol ac arwain y gwaith o ddatblygu a meithrin talent o fewn ein Bwrdd Iechyd.
Yn y rôl ddeinamig hon, byddwch yn:
- Arwain yr Academi Brentisiaeth a Thimau Gweithlu’r Dyfodol, gan gydweithio â chydweithwyr ar draws y Bwrdd Iechyd i ysgogi mentrau gweithlu arloesol yn y dyfodol gan gynnwys yr academi brentisiaeth, gwirfoddoli, profiad gwaith ac ymgysylltu ag ysgolion.
- Arwain tîm o arbenigwyr ymgysylltu ag ysgolion i ysbrydoli a denu talent yn gynnar ar draws y tair sir. Gweithio gyda rhanddeiliaid mewnol ac allanol i godi ymwybyddiaeth o’r cyfleoedd sydd ar gael yn y Bwrdd Iechyd o gyfleoedd gyrfa i brofiad gwaith.
- Cydweithio â Chynllunio Gweithlu Strategol i alinio anghenion ein gweithlu â chynllunio olyniaeth, gan sicrhau ein bod yn barod ar gyfer y dyfodol.
- Dylunio a gweithredu swyddogaethau Gweithlu’r Dyfodol, gan gynnwys rheoli rhaglenni prentisiaeth, hyrwyddo’r Bwrdd Iechyd fel cyflogwr o ddewis, a meithrin profiad gwaith a chyfleoedd gwirfoddoli.
Os ydych chi'n arweinydd gweledigaethol gydag angerdd am ddatblygu'r gweithlu ac ymgysylltu â'r gymuned, rydym yn eich gwahodd i wneud cais a'n helpu i adeiladu dyfodol mwy disglair i'n Bwrdd Iechyd a'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.
Advert
Bydd Rheolwr Gweithredol Gweithlu’r Dyfodol yn:
• Arwain yr Academi Brentisiaeth a Thimau Gweithlu’r Dyfodol a gweithio gyda chydweithwyr ar draws y Bwrdd Iechyd.
• Nodi cyfleoedd ar gyfer twf a datblygiad parhaus gweithgarwch Gweithlu’r Dyfodol, gan sicrhau cyfleoedd i’n poblogaeth leol.
• Cydweithio â chydweithwyr o Gynllunio Gweithlu Strategol i ddeall anghenion cynllunio olyniaeth a sicrhau bod cyfleoedd Gweithlu’r Dyfodol yn diwallu anghenion ein gweithlu.
• Bod yn gyfrifol am gynllunio a gweithredu swyddogaethau Gweithlu’r Dyfodol gan gynnwys arwain ar elfennau gweithredol ffrydiau gwaith Gweithlu’r Dyfodol; gan gynnwys nodi, comisiynu, cofnodi ac adrodd ar raglenni prentisiaeth, gweithio gydag ysgolion i gynnig cyfleoedd i hyrwyddo’r Bwrdd Iechyd fel cyflogwr o ddewis, a gweithio’n agos gyda
rhanddeiliaid i hyrwyddo profiad gwaith a chyfleoedd gwirfoddoli ar draws y Bwrdd Iechyd.
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 12,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu i bron 400,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
4 prif ysbyty (Bronglais, Aberystwyth, Glangwili, Caerfyrddin, Tywysog Philip, Llanelli, ac Llwynhelyg, Hwlffordd).
5 ysbyty cymunedol (Ysbyty Dyffryn Aman ac Ysbyty Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin, Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion,Ysbyty Dinbych-y-pysgod a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol De Sir Benfro yn Sir Benfro.
Dwy ganolfan gofal integredig (Aberaeron ac Aberteifi, yng Ngheredigion).
Cyfleusterau cymunedol, gan gynnwys:
48 Meddygfa, 49 Deintyddfa, 98 Fferyllfa Gymunedol, 44 Practis Offthalmig Cyffredinol (gan gynnwys gwasanaethau iechyd llygaid a golwg gwan), 38 safle yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu, gofal o fewn eich cartrefi eich hun
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cynhelir y cyfweliadu ar 05/02/2025
Ni fydd y swydd yn dechrau cyn 01/04/2025
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir drwy gyfrwng y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau a wneir yn y Saesneg.
NODYN PWYSIG I YMGEISWYR: Mae ceisiadau am ein rolau yn cael eu hadolygu'n ofalus a'u rhoi ar restr fer yn seiliedig ar feini prawf penodol, sy'n amrywio o swydd i swydd. Efallai na fydd defnyddio cais generig i wneud cais am rolau lluosog neu ddibynnu ar wasanaethau ceisiadau deallusrwydd artiffisial awtomataidd, fel Lazy Apply neu AI Apply, yn darparu'r wybodaeth angenrheidiol, gan arwain at anwybyddu'ch cais. Er mwyn sicrhau bod eich cais yn cael ystyriaeth lawn, rydym yn argymell cyflwyno cais wedi'i deilwra sy'n mynd i'r afael yn uniongyrchol â'r meini prawf a restrir yn adran Manyleb y Person yr hysbyseb.
Trwy gyflwyno eich cais i NHS Jobs/Trac, rydych yn gydsynio i elfennau o ddata eich cais gael eu trosglwyddo i Gofnod Staff Electronig (ESR) y GIG a systemau diogel, mewnol Gweithlu’r GIG er mwyn cefnogi a rheoli eich recriwtio a’ch cyflogaeth o fewn y sefydliad sy’n eich cyflogi; i’w defnyddio gan yr adran Recriwtio at ddibenion gwirio eich Cofrestriad Proffesiynol ar-lein (lle bo’n briodol).
Mae’r prosesau hyn yn unol â phrosesu Teg a Chyfreithlon yn unol â Deddfwriaeth Diogelu Data cyfredol yn enwedig y rhai hynny mewn perthynas â’ch data personol neu bersonol sensitif (diffinir data personol sensitif fel unrhyw gyflwr iechyd meddwl neu gorfforol, tarddiad hiliol neu ethnig, cyfeiriadedd rhywiol, aelodaeth undeb llafur, barn wleidyddol neu gred crefyddol datganedig). Fel sefydliad, rydym yn sicrhau bod y ddeddfwriaeth sy’n diffinio cyfrinachedd yn cael ei dilyn megis y defnydd o ddata at ddibenion penodol, diffiniedig, a defnydd o ddata sy’n berthnasol ac nid yn ormodol wrth ymarfer cywirdeb data a diogelwch yr holl wybodaeth bersonol adnabyddadwy a gedwir.
Os cewch eich penodi’n llwyddiannus, trwy lenwi’r ffurflen gais rydych yn awdurdodi’r BIP i gael unrhyw fanylion gwasanaeth blaenorol i’r GIG yn cynnwys yr holl wybodaeth ar salwch a gedwir yn electronig, trwy’r broses Trosglwyddo Rhyng-awdurdod ar y Cofnod Staff Electronig.
I weithio yn y DU, mae angen nawdd ar bob ymgeisydd nad yw'n wladolyn o'r DU neu Weriniaeth Iwerddon i gael naill ai fisa Gweithiwr Iechyd a Gofal neu fisa Gweithiwr Medrus, oni bai bod gennych ganiatâd i weithio trwy lwybr arall. Dylai ymgeiswyr nad ydynt yn rhan o'r DU/Gweriniaeth Iwerddon sy'n dymuno gwneud cais hunanasesu'u tebygolrwydd o gael Tystysgrif Nawdd trwy ymweld â gwefan Fisâu a Mewnfudo'r DU. Os ydych chi'n gymwys i gael y fisa Iechyd a Gofal, mae'r costau ymgeisio yn is ac nid oes angen i chi dalu Gordal Iechyd Mewnfudo blynyddol.
Gofynion yr ymgeisydd
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Gradd neu brofiad cyfatebol.
- Gradd Meistr neu dystiolaeth o DPP ar Lefel Meistr yn dangos ymrwymiad i ddysgu neu brofiad rheoli cyfatebol.
- Dealltwriaeth o'r ardal a wasanaethir gan y Bwrdd Iechyd a'i gymeriad cymdeithasol ac economaidd.
Meini prawf dymunol
- TAR/Tystysgrif Addysg
- Cymhwyster Aseswyr
- Gwybodaeth am wasanaethau a darpariaethau gwirfoddoli lleol
- Dealltwriaeth o ardoll prentisiaeth
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad o reoli gwasanaethau
- Profiad o reoli cymwysterau neu gyflwyno addysg
- Profiad o rôl reoli o fewn amgylchedd addysg
- Profiad o ddatblygu a chyflwyno rhaglenni neu gwricwlwm addysgol
- Profiad o ymgysylltu â rhanddeiliaid mewn ystod eang o sectorau e.e. trydydd sector, sector cyhoeddus
Meini prawf dymunol
- Profiad o fewn y GIG
- Profiad o gyngor gyrfaoedd a datblygu
- Profiad o weithio gyda gwasanaethau trydydd sector
- Profiad o nodi cyfleoedd ariannu
Other
Meini prawf hanfodol
- Ability to travel between sites in a timely manner
- Flexible approach to the needs of the service
Language Skills
Meini prawf dymunol
- Welsh Speaker (Level 1)
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Claire Steel
- Teitl y swydd
- Future Workforce Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
Ddim yn derbyn ceisiadau mwyach
Ymddiheuriadau, ond nid yw'r swydd wag hon yn derbyn ceisiadau mwyach.
Gallwch chwilio am swyddi tebyg ar fwrdd swyddi'r cyflogwr, neu fynd i'n bwrdd swyddi cenedlaethol Health Jobs UK.