Mae Trac yn falch o bweru recriwtio ar gyfer
Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru

Gwybodaeth
Croeso i Iechyd Cyhoeddus Cymru - asiantaeth iechyd cyhoeddus genedlaethol Cymru. Rydym yn bodoli i ddiogelu a gwella iechyd a llesiant a lleihau anghydraddoldebau iechyd i bobl yng Nghymru.
I gael gwybod mwy ewch i Iechyd Cyhoeddus Cymru a gwyliwch y fideo hwn am ein Cynllun Strategol
Dilynwch ni ar Twitter, Facebook, Linkedin a Instagram
Gweithio gyda'n gilydd, gydag ymddiriedaeth a pharch, i wneud gwahaniaeth
Ein diben yw ‘gweithio gyda'n gilydd ar gyfer Cymru iachach'. Rydym yn bodoli i helpu pawb yng Nghymru i fyw bywydau hirach, iachach. Gyda'n partneriaid, ein nod yw cynyddu disgwyliad oes iach, gwella iechyd a llesiant, a lleihau anghydraddoldebau i bawb yng Nghymru, nawr ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Gyda'i gilydd, mae ein timau'n gweithio i atal clefyd, diogelu iechyd, a darparu arweinyddiaeth, gwasanaethau arbenigol ac arbenigedd iechyd cyhoeddus. Ni yw'r brif ffynhonnell o wybodaeth, ymchwil ac arloesedd iechyd cyhoeddus yng Nghymru.
Cysylltu
- Address
- No.2 Capital Quarter
- Tyndall Street
- Cardiff
- CF10 4BZ
- Contact Number
- 02921 500200
Uwch Sgriniwr Clyw Babanod - MEWNOL
Closed for applications on: 11-Chwef-2025 00:00
Statws y swydd wag: Closed
Closed for applications on: 11-Chwef-2025 00:00
Manylion allweddol
Lleoliad
- Gwefan
- I'w benderfynu
- Cyfeiriad
- I'w benderfynu
- Tref
- I'w benderfynu
- Cod post
- CF10 4BZ
- Major / Minor Region
- Caerdydd
Math o gontract a phatrwm gwaith
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Rhan-amser - 30 awr yr wythnos (Dydd Llun i ddydd Gwener 8 - 16:30 ar sail rota)
Cyflog
- Cyflog
- £26,928 - £29,551 y flwyddyn pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Gradd
- (Gradd 4)
Arbenigedd
- Prif leoliad
- Newborn Hearing Screening
Croeso i Iechyd Cyhoeddus Cymru, asiantaeth iechyd cyhoeddus genedlaethol Cymru
Ein gweledigaeth yw Gweithio i wireddu dyfodol iachach i Gymru
Am ragor o wybodaeth amdanom, ewch i’n tudalen hafan, darllenwch am ein cynllun strategol
Dilynwch ni ar Twitter, Facebook, LinkedIn and Instagram
Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg. I gefnogi ein gwasanaeth i Gymru gyfan, croesawn yn fawr ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.
Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau.
Trosolwg o'r swydd
NODER MAI DIM OND CEISIADAU GAN STAFF A GYFLOGIR GAN IECHYD CYHOEDDUS CYMRU AR HYN O BRYD Y BYDDWN YN EU DERBYN
Mae cyfle wedi ddod i fyny i fewn tîm Sgrinio Clyw Babanod De Cymru i adfilwr ddau swyddi parhaol Uwch Sgriniwr Clyw Babanod .
Yn ychwanegol i cyflawni sgrinio greiddiol, bydd yr Uwch Sgriniwr yn cael cyfrifoldebau ychwanegol mewn perthynas â cyflawni hyfforddiant uniongyrchol i staff newydd, a cyflawni gwiriadau Sicrhau Ansawdd ar y gyfarpar sgrinio pob wythnos.
Bydd yr Uwch Sgriniwr yn darparu adolygiad cyfoedion i sgrinwyr, a darparu adborth llafar ac ysgrifenedig. Bydd rhaid i’r ymgeisydd llwyddiannus cael sgiliau cyfathrebu gwych a profiad digonol o gweithio fel Sgriniwr Clyw Babanod, felly, fydd ceisiadau wedi'u cyfyngu i Sgrinwyr Clyw Babanod presennol sydd wedi cwblhau y lefel 3 dysgu achrededig gorfodol. NB: Os oes yr ymgeisydd llwyddianus yn cael llai na 6 mis profiad, fydd y dyddiad cychwyn yn bod yn oediedig tan fydd nhw yn cyrraedd y meini prawf hanfodol i’r swydd Uwch Sgriniwr.
Bydd rhaid i’r ymgeisydd llwyddianus cwblhau y lefel 4 diploma gorfodol yn Sgrinio Clyw Babanod i fewn amserlen penodedig. Fydd hyn yn cynnwys yn seiliedig ar waith, ac astudiaeth annibynnol.
Fydd yr oriau gontract a safle De Cymru yn cael ei trafod gyda’r ymgeisydd llwyddianus ar ôl y cyfweld. Nodyn os gwelwch yn dda, fod yr oriau gontract isafswm yw 30 awr pob wythnos. Er mae’r safle i fewn Dde Cymru, mae rhaid I’r ymgeisydd llwyddianus teithio i safleoedd eraill dros Cymru ar sail rheolaidd, a rhanbarthau eraill gweithiau, i gefnogi yr anghenion o’r gwasanaeth dros Cymru.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Advert
· I gwblhau gweithgareddau sgriniwr clyw babanod, yn unol gyda’r Disgrifiad Swydd a Manyleb Personol y swydd Band 3 Sgriniwr Clyw Babanod, i cynnal cymhwysedd clinigol.
· I arwain hyfforddiant sgriniwr newydd yn ystod y rhaglen sefydlu gychwynnol, yn gilydd efo’r Cydlynydd Rhaglen.
· I cyflawni gwiriadau Sicrhau Ansawdd ar y gyfarpar sgrinio pob wythnos, cynnal recordiau ffurfiol o camau gweithredu a gymerwyd, a gysylltu gyda gweithgynhyrchwyr y gyfarpar pan ofynnol.
· I rhoi gefnogaeth a mentora i’r sgrinwyr at ei safleoedd ac/neu rhwy cyswllt ar-lein yn ystod hyfforddiant sgriniwr newydd, ac hefyd hyfforddiant gloywi i sgrinwyr presennol.
· I cwblhau adolygiad cyfoedion ar sgrinwyr newydd cyn eu cymeradwyo cymhwysedd clinigol flynyddol cyntaf, yn cynnwys cymwyseddau clinigol a gweinyddol.
· I uniaethu a rheoli perfformiad tlawd, gyda’r CR/rheolwr llinell.
· I cyflawni adolygiad rheolaidd o rhaglennau hyfforddiant clinigol gyda’r CR/dilynydd Addysg a Hyfforddiant.
· Cwblhau amrywiaeth o archwiliadau rhaglen dan cyfeiriad.
· Darparu cefnogaeth dirprwyedig i’r RCSB, i gynnwys prosesau SA ac asesiad risg.
· Mentori staff sydd yn cwblhau y lefel 3 NBHSW Diploma.
· Arwain ar archwiliadau/gorchwylion ar hap sydd yn gwella gwasanaeth, pan ofynnol.
· Rhoi mewnbwn i fewn sessiynau hyfforddiant dross rhanbarthau a rhaglen.
· Arwain ar gorchwylion penodol pan cyfeiriodd gan y CR, RGSB ac/neu RCSB.
Gweithio i'n sefydliad
Ni yw Iechyd Cyhoeddus Cymru - asiantaeth iechyd cyhoeddus genedlaethol Cymru. Ein diben yw ‘gweithio gyda'n gilydd ar gyfer Cymru iachach'. Rydym yn bodoli i helpu pawb yng Nghymru i fyw bywydau hirach, iachach. Gyda'n partneriaid, ein nod yw cynyddu disgwyliad oes iach, gwella iechyd a llesiant, a lleihau anghydraddoldebau i bawb yng Nghymru, nawr ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Gyda'i gilydd, mae ein timau'n gweithio i atal clefyd, diogelu iechyd, a darparu arweinyddiaeth, gwasanaethau arbenigol ac arbenigedd iechyd cyhoeddus. Ni yw'r brif ffynhonnell o wybodaeth, ymchwil ac arloesedd iechyd cyhoeddus yng Nghymru. Nid yw iechyd cyhoeddus erioed wedi bod mor bwysig wrth i ni ddod drwy bandemig y Coronafeirws, wynebu heriau'r argyfwng costau byw a mynd i'r afael ac atal effeithiau niweidiol newid hinsawdd.
Caiff ein sefydliad ei arwain gan ein gwerthoedd 'Cydweithio, gydag ymddiriedaeth a pharch, i wneud gwahaniaeth'. Rydym wedi ymrwymo i greu gweithle cynhwysol sy'n rhoi gwerth ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Rydym yn croesawu ceisiadau sy'n cynrychioli amrywiaeth gyfoethog y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu a chan y rhai sy'n dymuno gweithio'n rhan amser neu rannu swydd.
I ddarganfod mwy am weithio i ni a'r buddion rydym yn eu cynnig, ewch i Gyrfaoedd - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)
I gael arweiniad ar y broses ymgeisio, ewch i Gwybodaeth a Chanllawiau i Ymgeiswyr - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
1. Sgiliau Cyfathrebu a Pherthnasoedd
· Darparu a derbyn gwybodaeth arferol sy'n gofyn am ddoethineb neu sgiliau darbwyllo neu gyda rhwystrau i ddealltwriaeth e.e. rhoi gwybod i rieni newydd yn fuan ar ôl geni am sgrinio clyw babanod mewn modd sensitif.
· Efallai y bydd angen i'r wybodaeth a ddarperir gael ei chyfleu drwy gyfieithydd ar y pryd neu ddehonglydd os byddwch yn ymdrin ag ieithoedd tramor neu rieni byddar drwy ddefnyddio Iaith Arwyddion Prydain.
· Addasu arddull cyfathrebu i sicrhau bod rhieni'n cael y wybodaeth ofynnol, ond cyflwyno hyn yn sensitif gan ystyried eu hanghenion unigol (e.e. credoau diwylliannol, achosion o eni plant ar ran pobl eraill).
· Darparu canlyniadau i rieni am ganlyniad y sgrinio clyw a'r camau nesaf; gall hyn achosi i rieni fynd yn bryderus ac yn ofidus.
· Gallu bod yn empathig wrth ymdrin â rhieni pryderus e.e. babanod mewn Unedau Gofal Arbennig Babanod (SCBU) neu fabanod sydd ag anghenion arbennig.
· Cysylltu â phroffesiynau eraill i gael a chyfleu gwybodaeth yn yr ysbyty ac mewn lleoliad cymunedol; e.e. cadarnhau a yw'r babi'n addas ar gyfer sgrinio, nodi materion diogelu a allai effeithio ar y cynllun cyflawni, rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i feddygon teulu/ymwelwyr iechyd ar statws/canlyniadau sgrinio clyw os byddant yn gwneud cais am hynny.
· Meithrin perthnasoedd rhyngbersonol effeithiol gyda chydweithwyr mewn unedau mamolaeth, Unedau Gofal Arbennig Babanod a lleoliadau clinigau cymunedol i gynorthwyo cyflawni amserol.
· Bydd yn sicrhau bod cydweithwyr sgrinio'n ymwybodol o'r angen i fabwysiadu gweithdrefnau nyrsio ataliol wrth dderbyn gwybodaeth am gleifion sy'n risg o ran haint.
· Gallu rhoi adborth adeiladol i sgrinwyr yn dilyn Adolygiad gan Gymheiriaid unigol mewn modd ysgogol sy'n rhoi sicrwydd.
· Gallu cyfleu gwelliannau penodol i sgrinwyr y gellir eu gwneud i'w techneg sgrinio mewn ffordd sensitif nad yw'n ddadleuol a nodi unrhyw hyfforddiant y gallai fod ei angen.
· Rhoi adborth i reolwyr lleol a Chydlynwyr Rhaglenni ar berfformiad sgrinwyr fel rhan o'r broses Adolygu gan Gymheiriaid, gan gynnal hyn mewn ffordd strwythuredig ac adeiladol, gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau cyfathrebu gan gynnwys ar lafar a thrwy e-bost.
· Darparu hyfforddiant uniongyrchol i sgrinwyr newydd fel rhan o'u sefydlu, gan gynnwys rhoi adborth uniongyrchol a chefnogol a dogfennu cynnydd yn y llyfr cofnod i hyfforddeion.
· Rhoi cymorth ac anogaeth i sgrinwyr eraill sy'n ymgymryd â Diploma Lefel 3.
2. Gwybodaeth, Hyfforddiant a Phrofiad
- Cwblhau cymhwyster Lefel 4 priodol yn llwyddiannus o fewn 18 mis yn y swydd.
· Lefel 3 Hanfodion Sgrinio Iechyd a diplomâu penodol i wasanaeth NBHSW
· Parodrwydd ac ymrwymiad i ymgymryd â rhagor o hyfforddiant mewnol neu allanol.
· Sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu da ar gyfer cyfathrebu â rhieni ar adeg sensitif.
· Gallu cysylltu â phroffesiynau iechyd wrth gyfleu gwybodaeth yn yr ysbyty ac mewn lleoliadau cymunedol.
· Ymwybyddiaeth o faterion amddiffyn plant a chadw at weithdrefnau lleol.
· Ymwybyddiaeth o bolisïau a gweithdrefnau rheoli heintiau.
· Gallu cyfathrebu â rhieni i gael gwybodaeth.
· Gallu trefnu a blaenoriaethu gwaith.
· Gallu gweithio fel tîm a chyda dull hyblyg er mwyn addasu i ofynion y rhaglen sy'n newid yn gyson.
· Sgiliau TG a chymhwysedd wrth ddefnyddio pecyn TG NBHSW.
· Sgiliau trefnu er mwyn trefnu apwyntiadau clinig.
· Gallu casglu a chofnodi data clinigol a phrofion sy'n berthnasol i'r broses sgrinio yn gywir.
· Gallu dod o hyd i namau ar offer sgrinio a chymryd camau unioni, gan gynnwys ar gyfer offer lle mae Sgrinwyr wedi methu nodi a datrys nam yn unol â phrotocolau lleol.
· Gweithredu protocolau sgrinio.
· Barnu amser priodol y sgrinio e.e. i gyd-fynd ag ymwelwyr a gweithdrefnau eraill.
· Gwybodaeth a phrofiad o brosesau ward ôl-enedigol/Uned Gofal Arbennig Babanod mewn safleoedd ysbyty eraill, er mwyn rhoi cymorth effeithiol i gydweithwyr mewn hyfforddiant.
· Cynnal gwybodaeth gyfredol a chymhwyso polisi ac arferion atal a rheoli heintiau, drwy ddiweddariadau gorfodol blynyddol a hyfforddiant penodol i rôl sy'n cefnogi'r broses o gynnal amgylcheddau diogel, yn enwedig mewn ardaloedd lle y caiff gofal clinigol ei ddarparu.
· Mynd ati'n rheolaidd i ymgymryd â hyfforddiant statudol a gorfodol ar amrywiaeth o bynciau, gan sicrhau bod eich cydymffurfiaeth eich hun yn cael ei chynnal.
· Ymrwymiad i ddysgu gydol oes a chefnogi sgrinwyr i gyflawni eu dysgu
· Mentora ac Asesu sgrinwyr NBHSW sy'n ymgymryd â'r Diploma Lefel 3 mewn Sgrinio
Profiad:
- Profiad o weithio fel Sgriniwr cwbl gymwys am o leiaf 6 mis. ac ymgymryd a profion sgrinio a thasgau gweinyddol cysylltiedig i lefel uchel o gymhwysedd, fel y dangosir gan wiriadau cymhwysedd arferol.
- Profiad o batrymau gwaith pob safle rhanbarthol.
- Profiad o weithio gyda rhieni.
- Profiad o weithio gyda babanod bach.
- Profiad o weithio fel rhan o dîm.
- Profiad o weithio ochr yn ochr â gweithwyr iechyd proffesiynol.
- Profiad o brofion sicrhau ansawdd rheolaidd ar offer sgrinio.
3. Sgiliau Dadansoddol a Beirniadol
· Wrth gynnal Adolygiad gan Gymheiriaid i sgrinwyr, bydd disgwyl i ddeiliad y swydd roi barn ar eu perfformiad a phan fo angen llunio awgrymiadau ar gyfer gwaith adfer ar y cyd â rheolwyr lleol a Chydlynydd y Rhaglen.
· Wrth fonitro cynnydd sgrinwyr newydd eu penodi, bydd disgwyl i ddeiliad y swydd roi barn ar eu perfformiad, llunio awgrymiadau ar gyfer gwaith adfer neu atgyfnerthu dysgu a rhoi adborth i reolwyr lleol.
· Bydd disgwyl i roi barn ynghylch namau o ran offer sgrinio a phenderfynu pryd i gysylltu â gweithgynhyrchwyr yr offer gan ddilyn gweithdrefnau rhoi gwybod am namau.
· Cwblhau sicrhau ansawdd technegol ar gyfer offer sgrinio
· Rhoi barn o amrywiaeth o opsiynau o fewn SOPPS wedi'u diffinio'n llym, e.e. nodi rhwystriannau ar offer sgrinio i benderfynu a ddylid oedi/rhoi'r gorau i'r prawf.
· Defnyddio barn i flaenoriaethu darparu sgrinio, e.e. penderfynu ar drefn babanod sy'n cael eu sgrinio a phryd i oedi sgrinio oherwydd dynamig teulu/pan na fydd y babi'n setlo neu'n sâl/pan fydd y fam yn sâl.
· Defnyddio crebwyll i gadarnhau pwy sydd â chyfrifoldeb rhiant wrth geisio cydsyniad ar gyfer sgrinio. Yn ogystal, asesu a yw'r person sy'n rhoi caniatâd wedi dangos dealltwriaeth lawn o'r broses sgrinio fel y gall sgrinio barhau neu a oes angen uwchgyfeirio (e.e. ar gyfer asesiad galluedd meddyliol/budd pennaf).
· Bydd yn cysylltu ag Ymwelwyr Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol ac unigolion ac asiantaethau perthnasol eraill ar faterion sensitif a chyfrinachol sy'n ymwneud, er enghraifft, ag amddiffyn plant a threfniadau mabwysiadu a maethu
· Bydd yn cysylltu â'r Uned Gofal Arbennig Babanod i ddatrys problemau o ddydd i ddydd a bydd yn rhoi gwybod i'r Rheolwr Gweithrediadau Sgrinio Babanod pan fydd angen mewnbwn mwy strategol ar y rhain.
4. Sgiliau Cynllunio a Threfnu
· Cynllunio a blaenoriaethu'r drefn ddyddiol o sawl rhestr sgrinio i sicrhau bod yr holl fabanod cymwys yn cael eu cyfrif, a monitro/gohirio sgrinio i fabanod sy'n anaddas (e.e. babanod cynamserol iawn ar Uned Gofal Arbennig Babanod).
· Cynllunio trefniadau teithio dyddiol er mwyn mynychu ymweliadau cymunedol ar amser, gyda'r offer, y deunyddiau a'r cofnodion cywir sydd eu hangen.
· Cynllunio clinigau - anfon llythyrau apwyntiad a sicrhau bod ystafelloedd ar gael.
· Cynllunio ymweliadau cymunedol ar gyfer cydweithwyr sgrinio i famau yn y gymuned. Addasu cynlluniau/trefniadau apwyntiadau os bydd apwyntiadau'n cael eu canslo ar fyr rybudd.
· Cynllunio hyfforddiant cysgodol i sgrinwyr newydd eu penodi.
· Cynllunio'r rota i sicrhau bod darpariaeth cyflenwi sgrinwyr ar wardiau a chlinigau mewn safleoedd lleol a/neu safleoedd rhanbarthol. Sicrhau bod 1 diwrnod yr wythnos o amser wedi'i neilltuo yn cael ei gynnwys i gwblhau dyletswyddau Uwch-sgriniwr (heb fod yn darparu sgrinio).
· Cynllunio amserlenni adolygu gan gymheiriaid ar y cyd ag NSOM/ANSM/PC
· Efallai y bydd yn angenrheidiol cynnal adolygiadau cymheiriaid mewn safleoedd eraill ledled Cymru. Felly, bydd teithio i safleoedd eraill ledled Cymru yn hanfodol a bydd angen i ddeiliad y swydd, ar y cyd â'r Rheolwr Gweithrediadau Sgrinio Babanod, sicrhau/cynllunio darpariaeth cyflenwi sgrinio ddigonol ar eu safle yn ystod y cyfnodau hyn.
· Arwain ar dasgau penodol fel y cyfarwyddwir gan Gydlynydd y Rhaglen, Rheolwr Gweithrediadau Sgrinio Babanod a/neu'r Rheolwr Sgrinio Babanod Cynorthwyol.
5. Sgiliau Corfforol
· Sgiliau bysellfwrdd safonol ar gyfer cofnod data a llunio llythyrau apwyntiad.
· Gallu gyrru i ymweliadau cymunedol yn ddyddiol, gan gludo offer.
· Defnyddio offer bach sy'n gofyn am lefel o fedrusrwydd llaw yn ddyddiol (e.e. gosod blaenau bydiau clust ar offer profi clyw ar gyfer babanod).
· Gallu gyrru i safleoedd rhanbarthol lleol eraill a gweithio yno a darparu traws-gyflenwi ledled Cymru yn ôl yr angen.
Ceidw Iechyd Cyhoeddus Cymru yr hawl i gau’r swydd wag hon yn gynnar. Felly rydym yn annog ceisiadau cynnar.
Rhoddir blaenoriaeth i staff sy’n aros i gael eu hadleoli. Rydym yn cadw’r hawl felly i dynnu’r hysbyseb hon yn ôl ar unrhyw adeg.
Os oes gennych anabledd a bod gennych unrhyw anghenion penodol i'ch galluogi i gymryd rhan yn y broses ymgeisio, cysylltwch â [email protected]
NODYN PWYSIG I YMGEISWYR: Mae ceisiadau am ein rolau yn cael eu hadolygu'n ofalus a'u rhoi ar restr fer yn seiliedig ar feini prawf penodol, sy'n amrywio o swydd i swydd. Efallai na fydd defnyddio cais generig i wneud cais am rolau lluosog neu ddibynnu ar wasanaethau ceisiadau deallusrwydd artiffisial awtomataidd, fel Lazy Apply neu AI Apply, yn darparu'r wybodaeth angenrheidiol, gan arwain at anwybyddu'ch cais. Er mwyn sicrhau bod eich cais yn cael ystyriaeth lawn, rydym yn argymell cyflwyno cais wedi'i deilwra sy'n mynd i'r afael yn uniongyrchol â'r meini prawf a restrir yn adran Manyleb y Person yr hysbyseb.
Os byddwch yn llwyddiannus ac os cewch eich dewis ar gyfer y rhestr fer am gyfweliad, cysylltir â chi ar e-bost gan ddefnyddio’r cyfeiriad a ddefnyddiwyd gennych i gofrestru. Sicrhewch eich bod yn edrych ar eich cyfrif e-bost yn rheolaidd.
Rydym wedi ymrwymo i recriwtio teg a thryloyw ac rydym yn credu mewn cyfle cyfartal yn ein gweithle. Ni fyddwn yn goddef gwahaniaethu ar sail oedran, anabledd, hunaniaeth rywiol, crefydd neu gred, hil neu genedligrwydd, priodas neu bartneriaeth sifil, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, patrwm gwaith, cyfrifoldebau gofalu, gweithgarwch gydag undebau llafur neu gredoau gwleidyddol – nac ar unrhyw sail arall. Croesawn geisiadau gan unigolion a ddymunent weithio’n rhan-amser neu wneud cais i rannu swydd.
I weithio yn y DU, mae angen nawdd ar bob ymgeisydd nad yw'n wladolyn o'r DU neu Weriniaeth Iwerddon i gael naill ai fisa Gweithiwr Iechyd a Gofal neu fisa Gweithiwr Medrus, oni bai bod gennych ganiatâd i weithio trwy lwybr arall. Dylai ymgeiswyr nad ydynt yn rhan o'r DU/Gweriniaeth Iwerddon sy'n dymuno gwneud cais hunanasesu'u tebygolrwydd o gael Tystysgrif Nawdd trwy ymweld â gwefan Fisâu a Mewnfudo'r DU. Os ydych chi'n gymwys i gael y fisa Iechyd a Gofal, mae'r costau ymgeisio yn is ac nid oes angen i chi dalu Gordal Iechyd Mewnfudo blynyddol.
Mae'r raddfa gyflog a ddangosir ar gyfer aelod o staff llawn amser, a chaiff y swm ei addasu pro rata ar gyfer y rhai sy'n gweithio llai na 37.5 awr yr wythnos.
Gellir gweld Graddfeydd Cyflog GIG Cymru yma.
Yn gyffredinol, bydd unrhyw un sy'n ymuno â'n Hymddiriedolaeth nad yw wedi gweithio yn y GIG o'r blaen, yn cychwyn ar bwynt cyntaf y band tâl a hysbysebir yn awtomatig. Yna bydd datblygiad cyflog yn cael ei bennu gan Adolygiadau Perfformiad a Datblygu blynyddol yn unol â Pholisi Datblygiad Cyflog GIG Cymru. Gellir ystyried cais am Gredyd Cynyddol, ond dim ond ar sail gwasanaeth cyfrifadwy â thystiolaeth a/neu brofiad cyfatebol, perthnasol y gellir ei ddyfarnu.
Gofynion yr ymgeisydd
Manyleb y person
Cymwysterau
Meini prawf hanfodol
- • Parodrwydd i gwblhau cymhwyster sy'n gysylltiedig â Sgrinio Clyw Babanod Lefel 4 o fewn 12 mis yn y swydd
- • Diploma Lefel 3 mewn Hanfodion Sgrinio Iechyd (Cymru) neu Dystysgrif Uwch BTEC Lefel 3 mewn Sgrinio (Clyw Babanod) • Diploma Lefel 3 mewn Sgrinio Clyw Babanod • Llyfr Gwaith Sefydlu Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd ar gyfer Sgrinio Clyw Babanod Cymru (Diploma Lefel 2) •
Meini prawf dymunol
- • ECDL neu gymhwyster sgil cyfrifiadurol arall • TGAU mewn Saesneg Iaith a Mathemateg • Tystiolaeth o Ddatblygiad Personol Parhaus
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad o weithio fel Sgriniwr 1 NBHSW am 6 mis neu fwy
- Profiad helaeth o ddarparu sgrinio NBHSW, gan ymateb yn effeithiol i sefyllfaoedd sgrinio arferol a chymhleth
- Gyfarwydd â chyfrifiaduron personol
- Dealltwriaeth o amgylchedd ward clinigol/weithio mewn rôl sy'n wynebu'r cwsmer/cleient./Yn hyderus wrth ddilyn protocolau (e.e. darparu sgrinio, dod o hyd i namau ar offer).
Meini prawf dymunol
- Profiad o batrymau gwaith ward ôl-enedigol/Uned Gofal Arbennig Babanod mewn safleoedd rhanbarthol lleol eraill
Medrau
Meini prawf hanfodol
- • Sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu rhagorol ar gyfer cyfathrebu â rhieni ar adegau sensitif
- • Sgiliau cyfathrebu rhagorol ar gyfer rhoi adborth i sgrinwyr yn ystod y broses adolygu gan gymheiriaid
- • Gallu gweithredu fel mentor i eraill sy'n ymgymryd â'r Diploma Lefel 3 mewn Sgrinio
- • Gallu cynnal gwiriadau sicrhau ansawdd wythnosol ar offer sgrinio
- • Gallu gweithio mewn tîm ond gallu sgrinio'n annibynnol hefyd yn yr ysbyty ac yn y gymuned
- • Gallu deall canlyniad sgrinio a chynlluniau rheoli • Sgiliau trefnu rhagorol • Cofnodi data'n gywir • Gallu cadw cofnodion cywir • Sgiliau TG i gynorthwyo cofnodi data, anfon negeseuon e-bost ac e-ddysgu. • Parodrwydd i hyfforddi fel mentor ac asesydd ar gyfer y Diploma Lefel 3 mewn Sgrinio
Meini prawf dymunol
- • Gallu siarad Cymraeg er mwyn cyfathrebu gwybodaeth am y prawf sgrinio • Gallu defnyddio PowerPoint • Gallu rhoi cyflwyniadau
Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- • Gwybodaeth ragorol am brosesau NBHSW a darparu gwasanaethau. • Gwybodaeth ragorol am offer sgrinio • Gallu dysgu o brofiad • Gwybodaeth am broblemau clyw • Gwybodaeth am systemau gweinyddu/clercol
Priodoleddau Personol
Meini prawf hanfodol
- Gallu gweithio'n hyblyg ac fel rhan o dîm
- Gallu trefnu a blaenoriaethu gwaith
- Parodrwydd i gymryd rhan mewn hyfforddiant mewnol a chyfrannu at hyn
- Yn ymrwymedig i ansawdd
Arall
Meini prawf hanfodol
- • Gallu teithio i leoliadau allanol yn rheolaidd • Gallu gweithio oriau hyblyg a all gynnwys rhai penwythnosau a gwyliau banc ar sail rota • Gallu traws-gyflenwi ar safleoedd eraill yn ôl yr angen
Dogfennau
- Senior Screener Job Description 2025 CY & Eng (PDF, 376.4KB)
- Senior Screener Personal Spec, 2025 Cy & Eng (PDF, 216.4KB)
- OH -Functional Requirements Form (PDF, 760.5KB)
- Hyderus o Ran Anabledd Arweinydd (PDF, 180.8KB)
- Canllawiau ar gyfer Ymgeiswyr (PDF, 278.7KB)
- Ein Rhwydweithiau Amrywiaeth (PDF, 330.6KB)
- Gwasanaethau Recriwtio Hysbysiad Preifatrwydd (PDF, 696.3KB)
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Denise Vrouwes
- Teitl y swydd
- Regional Operations Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 07453584858
Ddim yn derbyn ceisiadau mwyach
Ymddiheuriadau, ond nid yw'r swydd wag hon yn derbyn ceisiadau mwyach.
Gallwch chwilio am swyddi tebyg ar fwrdd swyddi'r cyflogwr, neu fynd i'n bwrdd swyddi cenedlaethol Health Jobs UK.