Mae Trac yn falch o bweru recriwtio ar gyfer
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Gwybodaeth
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd i boblogaeth o tua 372,320 ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro. Mae'n darparu gwasanaethau Acìwt, Sylfaenol, Cymunedol, Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu trwy Ysbytai Cyffredinol a Chymunedol, Canolfannau Iechyd, Meddygfeydd Teulu, Deintyddion, Fferyllfeydd, Optometryddion a safleoedd eraill.
Cysylltu
- Address
- Glien House
- Cillefwr Industrial Estate
- Johnstown
- Carmarthen
- Carmarthenshire
- SA31 3RB
- Contact Number
- 0300 303 6138
Ymarferydd Offthalmig Therapi Mewnwydrog
Accepting applications until: 09-Feb-2025 23:59
Statws y swydd wag: Open
Accepting applications until: 09-Feb-2025 23:59
Manylion allweddol
Lleoliad
- Gwefan
- Ar draws y Fwrdd Iechyd - lleoliad i'w gadarnhau
- Tref
- I'w gadarnahu
- Cod post
- SA61 2PZ
- Major / Minor Region
- Sir Gaerfyrddin
Math o gontract a phatrwm gwaith
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- 26.25 awr yr wythnos (Mae oriau rhan amser amrywiol ar gael.)
Cyflog
- Cyflog
- £37,898 - £45,637 y flwyddyn pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Gradd
- (GIG AfC: Gradd 6)
Arbenigedd
- Prif leoliad
- Offthalmoleg
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae’r raddfa gyflog uchod wedi’i chytuno fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2024/2025. Bydd yn cael ei rhoi ar waith ym mis Tachwedd 2024 wedi’i hôl-ddyddio i 1 Ebrill 2024 lle bo’n berthnasol.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
A ydych yn Nyrs Offthalmig, yn Optometrydd neu'n Orthoptydd sy'n chwilio am her newydd?
Mae'r adran Offthalmpleg ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn bwriadu recriwtio un neu fwy o ymarferwyr offthalmig profiadol i ymgymryd â her gyffrous a hyfforddi i ddod yn uwch-ymarferydd yn y gwasanaeth Therapi Mewnwydrog. Bydd hyn yn cynnwys asesu cleifion yn ogystal â rhoi triniaethau.
Mae profiad offthalmig blaenorol yn hanfodol; yn achos nyrsys, mae cymhwyster offthalmig penodol yn ofynnol. Bydd nyrsys sy'n ymgymryd â chymhwyster offthalmig penodol ar hyn o bryd yn cael eu hystyried, ond bydd profiad helaeth yn cael ei ystyried yn ogystal ag awydd i hyfforddi, yn absenoldeb tystiolaeth ffurfiol o ddysgu.
Mae hyblygrwydd yn hanfodol ar gyfer y rôl hon, ynghyd â'r gallu i deithio rhwng safleoedd. Rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus fod yn gyfforddus yn gweithio'n annibynnol, ond gan wneud hynny o fewn cwmpas ei ymarfer ei hun ac mewn tîm bob amser.
Swydd ran-amser yw hon, ac mae yna amrywiaeth o oriau ar gael. Mae croeso i gydweithwyr Gofal Sylfaenol sy'n chwilio am ymrwymiad 1 diwrnod/wythnos wneud cais.
Mae'r brif weithle yn dibynnu ar leoliad y gwasanaeth hwn sydd agosaf at gyfeiriad cartref yr ymgeisydd, ond mae'r rôl yn cynnwys teithio ar draws safleoedd - mae amlder y rhain yn dibynnu ar staff eraill sydd ar gael ac anghenion gwasanaeth ac ni ellir fod yn benodol.
Advert
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cymryd rhan yn y gwaith o drefnu'r gwasanaeth Therapi Mewnwydrog (IVT), sy'n cynnwys gweithio'n agos gyda'r cydgysylltwyr Dirywiad Macwlaidd Cysylltiedig â Henaint (AMD) i sicrhau bod amserau clinigau yn cael eu hoptimeiddio a bod y rhestr aros yn cael ei rheoli.
Bydd yn gallu cymryd rhan yn yr holl brofion sy'n ofynnol ar gyfer cleifion yn y gwasanaeth IVT.
Bydd yn gallu cynnal asesiadau clinigol a rhoi triniaeth trwy bigiad/fewnblaniad mewnwydrog yn y gwasanaeth IVT, gan ddilyn canllawiau meddygol a phrotocol triniaethau.
Bydd yn amlygu sgiliau clinigol datblygedig iawn wrth drin cleifion trwy bigiad mewnwydrog, lle mae manwl gywirdeb o'r pwys mwyaf ac nad oes yna le i wallau.
Bydd yn cymryd rhan lawn yn y broses o ddatblygu ei wybodaeth, ei sgiliau a'i gymwyseddau ei hun, gan lynu wrth raglen hyfforddi y gwasanaeth, a bydd yn cymryd rhan yn ei PDR ei hun ac yn cynnal portffolio proffesiynol.
Bydd yn gweithio'n rhan o'r tîm amlddisgyblaethol yn darparu cyngor arbenigol i gyd-weithwyr, cleifion a gofalwyr, yn ôl y gofyn, gan anelu at hybu iechyd ac annibyniaeth ac atal clefydau.
Bydd yn ymddwyn mewn modd proffesiynol bob amser, gan lynu wrth y protocol o ran gwisg a chynnal gofal o safon uchel trwy ddefnyddio amrywiaeth o sgiliau rhyngbersonol wrth gyfarch cleifion/gofalwyr/gweithwyr proffesiynol eraill.
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 12,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu i bron 400,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
4 prif ysbyty (Bronglais, Aberystwyth, Glangwili, Caerfyrddin, Tywysog Philip, Llanelli, ac Llwynhelyg, Hwlffordd).
5 ysbyty cymunedol (Ysbyty Dyffryn Aman ac Ysbyty Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin, Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion,Ysbyty Dinbych-y-pysgod a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol De Sir Benfro yn Sir Benfro.
Dwy ganolfan gofal integredig (Aberaeron ac Aberteifi, yng Ngheredigion).
Cyfleusterau cymunedol, gan gynnwys:
48 Meddygfa, 49 Deintyddfa, 98 Fferyllfa Gymunedol, 44 Practis Offthalmig Cyffredinol (gan gynnwys gwasanaethau iechyd llygaid a golwg gwan), 38 safle yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu, gofal o fewn eich cartrefi eich hun
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg, fel ei gilydd, wneud cais.
Cynhelir y cyfweliadau ar 20/02/2025.
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Mynediad ar unwaith i’n budd llesiant ariannol – Wagestream. Mae Wagestream yn adnodd ar gyfer bywyd bob dydd sy’n eich caniatáu i gael eich talu eich ffordd eich hun, a olrain eich cyflog mewn amser real, ffrydio hyd at 50% o’r cyflog rydych wedi ennill yn barod, dysgu awgrymiadau hawdd i reoli eich arian yn well ac arbed eich tâl yn syth o’ch cyflog.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir drwy gyfrwng y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau a wneir yn y Saesneg.
NODYN PWYSIG I YMGEISWYR: Mae ceisiadau am ein rolau yn cael eu hadolygu'n ofalus a'u rhoi ar restr fer yn seiliedig ar feini prawf penodol, sy'n amrywio o swydd i swydd. Efallai na fydd defnyddio cais generig i wneud cais am rolau lluosog neu ddibynnu ar wasanaethau ceisiadau deallusrwydd artiffisial awtomataidd, fel Lazy Apply neu AI Apply, yn darparu'r wybodaeth angenrheidiol, gan arwain at anwybyddu'ch cais. Er mwyn sicrhau bod eich cais yn cael ystyriaeth lawn, rydym yn argymell cyflwyno cais wedi'i deilwra sy'n mynd i'r afael yn uniongyrchol â'r meini prawf a restrir yn adran Manyleb y Person yr hysbyseb.
Trwy gyflwyno eich cais i NHS Jobs/Trac, rydych yn gydsynio i elfennau o ddata eich cais gael eu trosglwyddo i Gofnod Staff Electronig (ESR) y GIG a systemau diogel, mewnol Gweithlu’r GIG er mwyn cefnogi a rheoli eich recriwtio a’ch cyflogaeth o fewn y sefydliad sy’n eich cyflogi; i’w defnyddio gan yr adran Recriwtio at ddibenion gwirio eich Cofrestriad Proffesiynol ar-lein (lle bo’n briodol).
Mae’r prosesau hyn yn unol â phrosesu Teg a Chyfreithlon yn unol â Deddfwriaeth Diogelu Data cyfredol yn enwedig y rhai hynny mewn perthynas â’ch data personol neu bersonol sensitif (diffinir data personol sensitif fel unrhyw gyflwr iechyd meddwl neu gorfforol, tarddiad hiliol neu ethnig, cyfeiriadedd rhywiol, aelodaeth undeb llafur, barn wleidyddol neu gred crefyddol datganedig). Fel sefydliad, rydym yn sicrhau bod y ddeddfwriaeth sy’n diffinio cyfrinachedd yn cael ei dilyn megis y defnydd o ddata at ddibenion penodol, diffiniedig, a defnydd o ddata sy’n berthnasol ac nid yn ormodol wrth ymarfer cywirdeb data a diogelwch yr holl wybodaeth bersonol adnabyddadwy a gedwir.
Os cewch eich penodi’n llwyddiannus, trwy lenwi’r ffurflen gais rydych yn awdurdodi’r BIP i gael unrhyw fanylion gwasanaeth blaenorol i’r GIG yn cynnwys yr holl wybodaeth ar salwch a gedwir yn electronig, trwy’r broses Trosglwyddo Rhyng-awdurdod ar y Cofnod Staff Electronig.
I weithio yn y DU, mae angen nawdd ar bob ymgeisydd nad yw'n wladolyn o'r DU neu Weriniaeth Iwerddon i gael naill ai fisa Gweithiwr Iechyd a Gofal neu fisa Gweithiwr Medrus, oni bai bod gennych ganiatâd i weithio trwy lwybr arall. Dylai ymgeiswyr nad ydynt yn rhan o'r DU/Gweriniaeth Iwerddon sy'n dymuno gwneud cais hunanasesu'u tebygolrwydd o gael Tystysgrif Nawdd trwy ymweld â gwefan Fisâu a Mewnfudo'r DU. Os ydych chi'n gymwys i gael y fisa Iechyd a Gofal, mae'r costau ymgeisio yn is ac nid oes angen i chi dalu Gordal Iechyd Mewnfudo blynyddol.
Gofynion yr ymgeisydd
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Gweithiwr proffesiynol cofrestredig – naill ai'n nyrs gyffredinol, yn orthoptydd neu'n optometrydd cofrestredig
- Yn gofrestredig ar hyn o bryd gyda'r corff llywodraethu perthnasol NMC, BIOS neu GOC, yn y drefn honno
- Cymhwyster offthalmig ol-gofrestru lefel diploma ol-raddedig neu brofiad helaeth yn y maes a pharodrwydd i ymgymryd a chymhwyster
Meini prawf dymunol
- Modiwlau/profiad o arweinyddiaeth
- Modiwlau/profiad o reoli
- Hyfforddiant uwch mewn retina meddygol
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Y gallu i ddarparu rheolaeth oruchwyliol
- Profiad o oruchwylio staff iau
- Y gallu i amlygu gwybodaeth gadarn am arbenigedd perthnasol
- Y gallu i gynnal archwiliadau clinigol
Meini prawf dymunol
- Cymryd rhan mewn proses recriwtio a dethol
- Profiad o gynnal gwerthusiadau
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Marta Barreiro Martins
- Teitl y swydd
- Senior Nurse Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 07815 022127
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Argymhellir trafodaethau anffurfiol, felly cysylltwch trwy e-bost i'w trefnu.
Dechrau eich cais
Mewngofnodi
Creu cyfrif
Creu eich cyfrif a gwneud cais am eich swydd newydd!