Mae Trac yn falch o bweru recriwtio ar gyfer
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Gwybodaeth
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd i boblogaeth o tua 372,320 ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro. Mae'n darparu gwasanaethau Acìwt, Sylfaenol, Cymunedol, Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu trwy Ysbytai Cyffredinol a Chymunedol, Canolfannau Iechyd, Meddygfeydd Teulu, Deintyddion, Fferyllfeydd, Optometryddion a safleoedd eraill.
Cysylltu
- Address
- Glien House
- Cillefwr Industrial Estate
- Johnstown
- Carmarthen
- Carmarthenshire
- SA31 3RB
- Contact Number
- 0300 303 6138
Rheolwr Rhaglen Sefydliad TriTech ac Arloesi
Accepting applications until: 30-Jan-2025 23:59
Statws y swydd wag: Open
Accepting applications until: 30-Jan-2025 23:59
Manylion allweddol
Lleoliad
- Gwefan
- Parc Dura
- Tref
- Llanelli
- Cod post
- SA14 9TD
- Major / Minor Region
- Sir Gaerfyrddin
Math o gontract a phatrwm gwaith
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
Cyflog
- Cyflog
- £54,550 - £61,412 per annum pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Gradd
- (Agenda ar gyfer Newid y GIG: Band 8a)
Arbenigedd
- Prif leoliad
- Ymchwil ac Arloesi
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae’r raddfa gyflog uchod wedi’i chytuno fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2024/2025. Bydd yn cael ei rhoi ar waith ym mis Tachwedd 2024 wedi’i hôl-ddyddio i 1 Ebrill 2024 lle bo’n berthnasol.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Nod Sefydliad TriTech ac Arloesi (sy'n rhan o'r Adran Ymchwil ac Arloesi ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda) yw cefnogi'r gwaith o ddatblygu a gwerthuso datrysiadau arloesol i ofal iechyd (yn dechnolegau ac yn ddatblygiadau arloesol cyffredinol). Mae gan TriTech dîm amlddisgyblaethol o weithwyr gofal iechyd proffesiynol, gwyddonwyr a
pheirianwyr sydd â hanes blaenorol o weithio gyda chwmnïau, academyddion ac arloeswyr i gefnogi ymchwiliadau a gwerthusiadau i gyfrannu at fuddion i gleifion, staff, a'r economi iechyd ehangach.
Bydd y prif reolwr prosiectau yn aelod allweddol o'r tîm, a bydd disgwyl iddo weithio heb oruchwyliaeth, gan ddatblygu a datrys problemau mewn perthynas ag ystod eang o ddyletswyddau cymhleth. Bydd yn cefnogi'r gwaith o reoli'r is-adran TriTech ac Arloesi ac yn darparu arweinyddiaeth ledled y sbectrwm eang o weithgarwch a gyflawnir gan TriTech. Bydd y tasgau amrywiol a ddynodir yn cael eu cyflawni i'r safon uchaf i gefnogi
agenda ymchwil ac arloesi TriTech.
Bydd y swydd hon, sy'n cwmpasu'r Bwrdd Iechyd ac sy'n wynebu'r cyhoedd, hefyd yn cael y dasg o ddatblygu ymchwiliadau clinigol, sicrhau cyllid, a chynrychioli'r Bwrdd Iechyd wrth weithio gyda'r byd academaidd, cwmnïau fferyllol a'r diwydiant, a'r trydydd sector i gynyddu Arloesedd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Yn y pen draw, caiff llwyddiant ei fesur trwy'r gweithgarwch ymchwil a gynhyrchir, yr effaith ar ganlyniadau cleifion, a'r incwm a gynhyrchir i gefnogi hyfywedd parhaus y fente
Advert
Bydd prif ddyletswyddau'r rôl uwch hon fel a ganlyn:
• Arwain a rheoli'r rhaglen waith yn Is-adran Sefydliad TriTech ac Arloesi yn BIP Hywel Dda er mwyn sicrhau bod dangosyddion perfformian allweddol blynyddol yn cael eu cyflawni.
• Cefnogi'r gwaith o reoli'r tîm TriTech ac Arloesi ehangach (gan gynnwys gwyddonwyr clinigol, nyrsys ymchwil ac arloesi, a chynorthwywyr ymchwil ac arloesi).
• Bod yn gyfrifol am gipio prosiectau ymchwil ac arloesi newydd trwy weithio gyda phartneriaid mewnol ac allanol. Bydd hyn hefyd yn cynnwys paratoi ceisiadau am gyllid a dogfennau cydweithio masnachol i alluogi i weithgareddau ymchwil ac arloesi gael eu cynnal.
• Sicrhau bod TriTech ac Arloesi yn hyrwyddo cyflawniad ac amcanion y strategaeth Ymchwil ac Arloesi a'r Sefydliad Arloesedd Cymdeithasol ar gyfer BIP Hywel Dda.
• Cyfrannu at y dangosyddion perfformiad allweddol sy'n berthnasol i'r adran ymchwil a datblygu
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 12,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu i bron 400,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
4 prif ysbyty (Bronglais, Aberystwyth, Glangwili, Caerfyrddin, Tywysog Philip, Llanelli, ac Llwynhelyg, Hwlffordd).
5 ysbyty cymunedol (Ysbyty Dyffryn Aman ac Ysbyty Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin, Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion,Ysbyty Dinbych-y-pysgod a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol De Sir Benfro yn Sir Benfro.
Dwy ganolfan gofal integredig (Aberaeron ac Aberteifi, yng Ngheredigion).
Cyfleusterau cymunedol, gan gynnwys:
48 Meddygfa, 49 Deintyddfa, 98 Fferyllfa Gymunedol, 44 Practis Offthalmig Cyffredinol (gan gynnwys gwasanaethau iechyd llygaid a golwg gwan), 38 safle yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu, gofal o fewn eich cartrefi eich hun
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cynhelir y cyfweliadu ar O6/02/2025
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir drwy gyfrwng y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau a wneir yn y Saesneg.
NODYN PWYSIG I YMGEISWYR: Mae ceisiadau am ein rolau yn cael eu hadolygu'n ofalus a'u rhoi ar restr fer yn seiliedig ar feini prawf penodol, sy'n amrywio o swydd i swydd. Efallai na fydd defnyddio cais generig i wneud cais am rolau lluosog neu ddibynnu ar wasanaethau ceisiadau deallusrwydd artiffisial awtomataidd, fel Lazy Apply neu AI Apply, yn darparu'r wybodaeth angenrheidiol, gan arwain at anwybyddu'ch cais. Er mwyn sicrhau bod eich cais yn cael ystyriaeth lawn, rydym yn argymell cyflwyno cais wedi'i deilwra sy'n mynd i'r afael yn uniongyrchol â'r meini prawf a restrir yn adran Manyleb y Person yr hysbyseb.
Trwy gyflwyno eich cais i NHS Jobs/Trac, rydych yn gydsynio i elfennau o ddata eich cais gael eu trosglwyddo i Gofnod Staff Electronig (ESR) y GIG a systemau diogel, mewnol Gweithlu’r GIG er mwyn cefnogi a rheoli eich recriwtio a’ch cyflogaeth o fewn y sefydliad sy’n eich cyflogi; i’w defnyddio gan yr adran Recriwtio at ddibenion gwirio eich Cofrestriad Proffesiynol ar-lein (lle bo’n briodol).
Mae’r prosesau hyn yn unol â phrosesu Teg a Chyfreithlon yn unol â Deddfwriaeth Diogelu Data cyfredol yn enwedig y rhai hynny mewn perthynas â’ch data personol neu bersonol sensitif (diffinir data personol sensitif fel unrhyw gyflwr iechyd meddwl neu gorfforol, tarddiad hiliol neu ethnig, cyfeiriadedd rhywiol, aelodaeth undeb llafur, barn wleidyddol neu gred crefyddol datganedig). Fel sefydliad, rydym yn sicrhau bod y ddeddfwriaeth sy’n diffinio cyfrinachedd yn cael ei dilyn megis y defnydd o ddata at ddibenion penodol, diffiniedig, a defnydd o ddata sy’n berthnasol ac nid yn ormodol wrth ymarfer cywirdeb data a diogelwch yr holl wybodaeth bersonol adnabyddadwy a gedwir.
Os cewch eich penodi’n llwyddiannus, trwy lenwi’r ffurflen gais rydych yn awdurdodi’r BIP i gael unrhyw fanylion gwasanaeth blaenorol i’r GIG yn cynnwys yr holl wybodaeth ar salwch a gedwir yn electronig, trwy’r broses Trosglwyddo Rhyng-awdurdod ar y Cofnod Staff Electronig.
I weithio yn y DU, mae angen nawdd ar bob ymgeisydd nad yw'n wladolyn o'r DU neu Weriniaeth Iwerddon i gael naill ai fisa Gweithiwr Iechyd a Gofal neu fisa Gweithiwr Medrus, oni bai bod gennych ganiatâd i weithio trwy lwybr arall. Dylai ymgeiswyr nad ydynt yn rhan o'r DU/Gweriniaeth Iwerddon sy'n dymuno gwneud cais hunanasesu'u tebygolrwydd o gael Tystysgrif Nawdd trwy ymweld â gwefan Fisâu a Mewnfudo'r DU. Os ydych chi'n gymwys i gael y fisa Iechyd a Gofal, mae'r costau ymgeisio yn is ac nid oes angen i chi dalu Gordal Iechyd Mewnfudo blynyddol.
Gofynion yr ymgeisydd
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Cymhwyster ar lefel meistr neu brofiad perthnasol cyfatebol
- Hyfforddiant arbenigol pellach, yn ddelfrydol ym maes rheoli gofal iechyd
- Yn meddu ar dystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus
- Profiad helaeth o reoli prosiectau (ynghyd â'r cymhwyster perthnasol)
Meini prawf dymunol
- PhD neu gymhwyster cyfatebol
- Y gallu i weithio ar draws ffiniau proffesiynol a sefydliadol mewn amgylchedd amlddisgyblaethol.
- Profiad o reoli ar lefel uwch
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Tystiolaeth o reoli, yn cynnwys rheoli prosiectau/rhaglenni llwyddiannus ar lefel uwch
- Profiad sylweddol o weithio mewn rôl ymchwil ac arloesi
- Profiad sylweddol o gyflawni prosiectau'n llwyddiannus mewn amgylcheddau cymhleth a heriol
- Profiad o weithio'n effeithiol gyda rhanddeiliaid mewn cyrff allanol, yn cynnwys partneriaid masnachol/academaidd
Meini prawf dymunol
- Profiad o weithio yn y GIG
- Profiad o drefniadau a llywodraethu treialon clinigol y GIG
- Profiad sylweddol o ysgwyddo cyfrifoldeb am gywirdeb a chyflawnder gwybodaeth, ac o arwain a rhoi cyngor i aelodau iau o'r tîm
Arall
Meini prawf hanfodol
- Teithio o amgylch Cymru, ac o bosibl ymhellach, a hynny'n rheolaidd
- Yn agored i newid yn ôl y gofyn
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Matthew Lawrence
- Teitl y swydd
- Deputy Head of Tritech Institute and Innovation
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 07581188168
Dechrau eich cais
Mewngofnodi
Creu cyfrif
Creu eich cyfrif a gwneud cais am eich swydd newydd!