Mae Trac yn falch o bweru recriwtio ar gyfer
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Gwybodaeth
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd i boblogaeth o tua 372,320 ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro. Mae'n darparu gwasanaethau Acìwt, Sylfaenol, Cymunedol, Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu trwy Ysbytai Cyffredinol a Chymunedol, Canolfannau Iechyd, Meddygfeydd Teulu, Deintyddion, Fferyllfeydd, Optometryddion a safleoedd eraill.
Cysylltu
- Address
- Glien House
- Cillefwr Industrial Estate
- Johnstown
- Carmarthen
- Carmarthenshire
- SA31 3RB
- Contact Number
- 0300 303 6138
Cydymaith Ymchwil
Accepting applications until: 02-Feb-2025 23:59
Statws y swydd wag: Open
Accepting applications until: 02-Feb-2025 23:59
Manylion allweddol
Lleoliad
- Gwefan
- Parc Dura
- Tref
- Llanelli
- Cod post
- SA14 9TD
- Major / Minor Region
- Sir Gaerfyrddin
Math o gontract a phatrwm gwaith
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
Cyflog
- Cyflog
- £46,840 - £53,602 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Gradd
- (Gradd 7)
Arbenigedd
- Prif leoliad
- Ymchwil ac Arloesi
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae’r raddfa gyflog uchod wedi’i chytuno fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2024/2025. Bydd yn cael ei rhoi ar waith ym mis Tachwedd 2024 wedi’i hôl-ddyddio i 1 Ebrill 2024 lle bo’n berthnasol.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Nod Sefydliad TriTech a'r is-adran Arloesi (sy'n rhan o'r Adran Ymchwil ac Arloesi ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda) yw cefnogi'r gwaith o ddatblygu a gwerthuso datrysiadau arloesol ym maes gofal iechyd (yn dechnolegau ac yn ddatblygiadau arloesol mwy cyffredinol, fel ei gilydd). Mae gan TriTech dîm amlddisgyblaethol o weithwyr gofal iechyd proffesiynol, gwyddonwyr a pheirianwyr sydd â hanes blaenorol o weithio gyda chwmnïau, academyddion ac arloeswyr i gefnogi ymchwiliadau a gwerthusiadau i gyfrannu at fuddion i gleifion, staff, a'r economi iechyd ehangach.
Bydd y Cydymaith Ymchwil ac Arloesedd yn aelod pwysig o’r tîm, wedi’i leoli mewn cyfleusterau pwrpasol, a bydd disgwyl iddo weithio heb oruchwyliaeth. Bydd disgwyl i ddeiliad y swydd reoli portffolio amrywiol o waith a fydd yn cynnwys ystod eang o brosiectau gwahanol. Bydd deiliad y swydd yn gweithio ar draws y sector iechyd, gan gysylltu a chydweithio â phobl o ddiwydiant, y byd academaidd, iechyd, a'r cyhoedd yn gyffredinol. Bydd y Cydymaith Ymchwil ac Arloesedd yn arwain prosiectau unigol o fewn Sefydliad TriTech a’r portffolio arloesedd, a bydd disgwyl iddo reoli a goruchwylio aelodau iau’r tîm wrth gyflawni’r prosiectau hyn.
Advert
O fod yn uwch-aelod o Sefydliad TriTech a'r tîm Arloesi, bydd prif ddyletswyddau’r Cydymaith Ymchwil ac Arloesedd yn cynnwys:
Rhoi cyngor arbenigol i bartneriaid yn y diwydiant a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ynghylch cynllunio, cymeradwyo a chynnal ymchwiliadau clinigol;
Datblygu a chefnogi astudiaethau ymchwil ac arloesedd ar ran partneriaid mewnol ac allanol i gefnogi datblygiad ymchwil ac arloesedd;
Paratoi ceisiadau am gyllid a chydweithio i alluogi ymchwiliadau clinigol i gael eu cynnal;
Hyrwyddo’r gwaith o gyflawni’r strategaeth Ymchwil, Datblygu ac Arloesi, ac yn arbennig yr amcanion hynny sydd wedi'u cysylltu'n uniongyrchol â’r adran TriTech;
Cyfrannu at y dangosyddion perfformiad allweddol sy'n berthnasol i'r adran ymchwil a datblygu.
Arwain y gwaith o gyflawni prosiectau penodol, gan reoli a goruchwylio aelodau iau'r tîm i gyflawni'r amcanion y cytunwyd arnynt ar gyfer y prosiect.
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 12,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu i bron 400,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
4 prif ysbyty (Bronglais, Aberystwyth, Glangwili, Caerfyrddin, Tywysog Philip, Llanelli, ac Llwynhelyg, Hwlffordd).
5 ysbyty cymunedol (Ysbyty Dyffryn Aman ac Ysbyty Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin, Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion,Ysbyty Dinbych-y-pysgod a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol De Sir Benfro yn Sir Benfro.
Dwy ganolfan gofal integredig (Aberaeron ac Aberteifi, yng Ngheredigion).
Cyfleusterau cymunedol, gan gynnwys:
48 Meddygfa, 49 Deintyddfa, 98 Fferyllfa Gymunedol, 44 Practis Offthalmig Cyffredinol (gan gynnwys gwasanaethau iechyd llygaid a golwg gwan), 38 safle yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu, gofal o fewn eich cartrefi eich hun
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cynhelir y cyfweliadu ar 10/02/2025.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir drwy gyfrwng y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau a wneir yn y Saesneg.
NODYN PWYSIG I YMGEISWYR: Mae ceisiadau am ein rolau yn cael eu hadolygu'n ofalus a'u rhoi ar restr fer yn seiliedig ar feini prawf penodol, sy'n amrywio o swydd i swydd. Efallai na fydd defnyddio cais generig i wneud cais am rolau lluosog neu ddibynnu ar wasanaethau ceisiadau deallusrwydd artiffisial awtomataidd, fel Lazy Apply neu AI Apply, yn darparu'r wybodaeth angenrheidiol, gan arwain at anwybyddu'ch cais. Er mwyn sicrhau bod eich cais yn cael ystyriaeth lawn, rydym yn argymell cyflwyno cais wedi'i deilwra sy'n mynd i'r afael yn uniongyrchol â'r meini prawf a restrir yn adran Manyleb y Person yr hysbyseb.
Trwy gyflwyno eich cais i NHS Jobs/Trac, rydych yn gydsynio i elfennau o ddata eich cais gael eu trosglwyddo i Gofnod Staff Electronig (ESR) y GIG a systemau diogel, mewnol Gweithlu’r GIG er mwyn cefnogi a rheoli eich recriwtio a’ch cyflogaeth o fewn y sefydliad sy’n eich cyflogi; i’w defnyddio gan yr adran Recriwtio at ddibenion gwirio eich Cofrestriad Proffesiynol ar-lein (lle bo’n briodol).
Mae’r prosesau hyn yn unol â phrosesu Teg a Chyfreithlon yn unol â Deddfwriaeth Diogelu Data cyfredol yn enwedig y rhai hynny mewn perthynas â’ch data personol neu bersonol sensitif (diffinir data personol sensitif fel unrhyw gyflwr iechyd meddwl neu gorfforol, tarddiad hiliol neu ethnig, cyfeiriadedd rhywiol, aelodaeth undeb llafur, barn wleidyddol neu gred crefyddol datganedig). Fel sefydliad, rydym yn sicrhau bod y ddeddfwriaeth sy’n diffinio cyfrinachedd yn cael ei dilyn megis y defnydd o ddata at ddibenion penodol, diffiniedig, a defnydd o ddata sy’n berthnasol ac nid yn ormodol wrth ymarfer cywirdeb data a diogelwch yr holl wybodaeth bersonol adnabyddadwy a gedwir.
Os cewch eich penodi’n llwyddiannus, trwy lenwi’r ffurflen gais rydych yn awdurdodi’r BIP i gael unrhyw fanylion gwasanaeth blaenorol i’r GIG yn cynnwys yr holl wybodaeth ar salwch a gedwir yn electronig, trwy’r broses Trosglwyddo Rhyng-awdurdod ar y Cofnod Staff Electronig.
I weithio yn y DU, mae angen nawdd ar bob ymgeisydd nad yw'n wladolyn o'r DU neu Weriniaeth Iwerddon i gael naill ai fisa Gweithiwr Iechyd a Gofal neu fisa Gweithiwr Medrus, oni bai bod gennych ganiatâd i weithio trwy lwybr arall. Dylai ymgeiswyr nad ydynt yn rhan o'r DU/Gweriniaeth Iwerddon sy'n dymuno gwneud cais hunanasesu'u tebygolrwydd o gael Tystysgrif Nawdd trwy ymweld â gwefan Fisâu a Mewnfudo'r DU. Os ydych chi'n gymwys i gael y fisa Iechyd a Gofal, mae'r costau ymgeisio yn is ac nid oes angen i chi dalu Gordal Iechyd Mewnfudo blynyddol.
Gofynion yr ymgeisydd
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Gradd
- Gradd meistr neu lefel gyfatebol o brofiad
- Y gallu i gynllunio a chynnal ymchwiliadau clinigol i gefnogi datblygiadau newydd mewn technoleg
- Gwybodaeth arbenigol am weithdrefnau a threfniadau llywodraethu Ymchwil a Datblygu y GIG
- Gwybodaeth dda am ddatblygu ymchwil, gan gynnwys cyllid
- Dealltwriaeth dda o gyfrinachedd a diogelu data
Meini prawf dymunol
- Wedi cwblhau PhD neu'n agos at ei gwblhau
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad blaenorol mewn amgylchedd ymchwil.
- Profiad blaenorol o weithio gyda phartneriaid masnachol, yn ddelfrydol mewn perthynas â datblygu technolegau a dyfeisiau newydd
- Profiad o weithio gyda'r GIG a phrifysgolion.
- Profiad o reoli astudiaethau ymchwil glinigol.
- Llwyddiant blaenorol wrth sicrhau cyllid ar gyfer ymchwil neu gyfrannu at geisiadau am gyllid.
Arall
Meini prawf hanfodol
- Y gallu i deithio i leoliadau gwahanol yn y Bwrdd Iechyd mewn modd amserol
- Agwedd hyblyg at anghenion y gwasanaeth
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Matthew Lawrence
- Teitl y swydd
- Deputy Head of Tritech Institute and Innovation
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 07581 188168
Dechrau eich cais
Mewngofnodi
Creu cyfrif
Creu eich cyfrif a gwneud cais am eich swydd newydd!