Mae Trac yn falch o bweru recriwtio ar gyfer
Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru
![Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru logo](https://static.trac.jobs/employer-logos/200.png)
Gwybodaeth
Croeso i Iechyd Cyhoeddus Cymru - asiantaeth iechyd cyhoeddus genedlaethol Cymru. Rydym yn bodoli i ddiogelu a gwella iechyd a llesiant a lleihau anghydraddoldebau iechyd i bobl yng Nghymru.
I gael gwybod mwy ewch i Iechyd Cyhoeddus Cymru a gwyliwch y fideo hwn am ein Cynllun Strategol
Dilynwch ni ar Twitter, Facebook, Linkedin a Instagram
Gweithio gyda'n gilydd, gydag ymddiriedaeth a pharch, i wneud gwahaniaeth
Ein diben yw ‘gweithio gyda'n gilydd ar gyfer Cymru iachach'. Rydym yn bodoli i helpu pawb yng Nghymru i fyw bywydau hirach, iachach. Gyda'n partneriaid, ein nod yw cynyddu disgwyliad oes iach, gwella iechyd a llesiant, a lleihau anghydraddoldebau i bawb yng Nghymru, nawr ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Gyda'i gilydd, mae ein timau'n gweithio i atal clefyd, diogelu iechyd, a darparu arweinyddiaeth, gwasanaethau arbenigol ac arbenigedd iechyd cyhoeddus. Ni yw'r brif ffynhonnell o wybodaeth, ymchwil ac arloesedd iechyd cyhoeddus yng Nghymru.
Cysylltu
- Address
- No.2 Capital Quarter
- Tyndall Street
- Cardiff
- CF10 4BZ
- Contact Number
- 02921 500200
Arbenigwr Cymorth TG
Accepting applications until: 19-Feb-2025 23:59
Statws y swydd wag: Open
Accepting applications until: 19-Feb-2025 23:59
Manylion allweddol
Lleoliad
- Gwefan
- Iechyd Cyhoeddus Cymru, Chwarter 2 y Brifddinas
- Cyfeiriad
- Stryd Tyndall
- Tref
- Caerdydd
- Cod post
- CF10 4BZ
- Major / Minor Region
- Caerdydd
Math o gontract a phatrwm gwaith
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (Bydd gweithio'n hyblyg fel y mae'r gwasanaeth yn ei ganiatáu yn cael ei drafod yn y cyfweliad)
Cyflog
- Cyflog
- £30,420 - £37,030 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Gradd
- (Gradd 5)
Arbenigedd
- Prif leoliad
- Digidol
Croeso i Iechyd Cyhoeddus Cymru, asiantaeth iechyd cyhoeddus genedlaethol Cymru
Ein gweledigaeth yw Gweithio i wireddu dyfodol iachach i Gymru
Am ragor o wybodaeth amdanom, ewch i’n tudalen hafan, darllenwch am ein cynllun strategol
Dilynwch ni ar Twitter, Facebook, LinkedIn and Instagram
Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg. I gefnogi ein gwasanaeth i Gymru gyfan, croesawn yn fawr ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Trosolwg o'r swydd
Ydych chi'n barod i gymryd y cam nesaf yn eich gyrfa TG? Ymunwch â'n tîm Bwrdd Gwaith a Dyfeisiau, i gefnogi amrywiaeth eang o raglenni'r Ymddiriedolaeth gyda'r gwaith o baratoi, ffurfweddu a defnyddio cyfrifiaduron personol, dyfeisiau a'u meddalwedd ategol yn amserol. Byddwch yn cynorthwyo wrth datblygu, cynnal a chadw'r ystâd a'r seilwaith, ymateb i alwadau ail-linell ac uwchgyfeiriol, ac yn Cyfrannu at osod caledwedd/meddalwedd ar raddfa fawr, tra'n cefnogi prosiectau newid seilwaith, meddalwedd a chaledwedd ledled y sefydliad.
Bydd cyfle i gael effaith wirioneddol wrth ddatblygu eich sgiliau technegol ochr yn ochr â thîm Digidol dawnus a chefnogol. Rydym yn chwilio am rywun sy’n gallu perfformio i safon uchel tra dan bwysau mewn amgylchedd sy’n symud yn gyflym, yn brysur ac yn rhoi boddhad, yn meddu ar alluoedd technegol datblygedig gyda sylw i fanylion a sgiliau cyfathrebu cryf.
Os ydych chi'n frwdfrydig, yn rhagweithiol, ac yn barod i wneud gwahaniaeth, byddem wrth ein bodd i glywed oddi wrthych!
Advert
I ddarparu cymorth TG technegol ac arbenigol o fewn Iechyd Cyhoeddus Cymru. gan ganolbwyntio ar leoli caledwedd, galwadau uwch a sicrhau ymarferoldeb di-dor ar gyfer defnyddwyr y gwasanaethau.
Cymryd rhan ragweithiol wrth ddatblygu ac optimeiddio seilwaith bwrdd gwaith, dogfennaeth, a systemau i fodloni gofynion sefydliadol, gan gynnwys cymryd cyfrifoldeb arweiniol am brosiectau lleoli perthnasol.
Cydweithio â thimau TG ehangach i gefnogi eu mentrau, gan ganolbwyntio'n benodol ar wella prosesau a chanlyniadau defnyddio bwrdd gwaith.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Gweithio i'n sefydliad
Ni yw Iechyd Cyhoeddus Cymru - asiantaeth iechyd cyhoeddus genedlaethol Cymru. Ein diben yw ‘gweithio gyda'n gilydd ar gyfer Cymru iachach'. Rydym yn bodoli i helpu pawb yng Nghymru i fyw bywydau hirach, iachach. Gyda'n partneriaid, ein nod yw cynyddu disgwyliad oes iach, gwella iechyd a llesiant, a lleihau anghydraddoldebau i bawb yng Nghymru, nawr ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Gyda'i gilydd, mae ein timau'n gweithio i atal clefyd, diogelu iechyd, a darparu arweinyddiaeth, gwasanaethau arbenigol ac arbenigedd iechyd cyhoeddus. Ni yw'r brif ffynhonnell o wybodaeth, ymchwil ac arloesedd iechyd cyhoeddus yng Nghymru. Nid yw iechyd cyhoeddus erioed wedi bod mor bwysig wrth i ni ddod drwy bandemig y Coronafeirws, wynebu heriau'r argyfwng costau byw a mynd i'r afael ac atal effeithiau niweidiol newid hinsawdd.
Caiff ein sefydliad ei arwain gan ein gwerthoedd 'Cydweithio, gydag ymddiriedaeth a pharch, i wneud gwahaniaeth'. Rydym wedi ymrwymo i greu gweithle cynhwysol sy'n rhoi gwerth ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Rydym yn croesawu ceisiadau sy'n cynrychioli amrywiaeth gyfoethog y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu a chan y rhai sy'n dymuno gweithio'n rhan amser neu rannu swydd.
I ddarganfod mwy am weithio i ni a'r buddion rydym yn eu cynnig, ewch i Gyrfaoedd - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)
I gael arweiniad ar y broses ymgeisio, ewch i Gwybodaeth a Chanllawiau i Ymgeiswyr - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Lefel uchel o sgiliau cyfathrebu a pherthynas rhwng cydweithwyr/tîm
Yn dangos gwybodaeth helaeth sy'n berthnasol i'r maes, wedi'i hategu gan gymwysterau ffurfiol, hyfforddiant a phrofiad proffesiynol.
Yn defnyddio meddwl beirniadol i asesu sefyllfaoedd, pwyso a mesur opsiynau, a gwneud penderfyniadau gwybodus, yn aml o dan bwysau.
Arwain y gwaith o greu neu fireinio polisïau a gweithdrefnau i gyd-fynd â nodau sefydliadol a safonau rheoleiddio.
Ysgogi gweithrediad gwasanaethau neu welliannau newydd, gan sicrhau eu bod yn diwallu anghenion rhanddeiliaid ac yn sicrhau effaith fesuradwy.
Yn cefnogi rheoli asedau ffisegol, megis technoleg, cyfleusterau, neu offer, gan sicrhau cynnal a chadw a defnydd priodol.
Sicrhau cydymffurfiaeth â chyfreithiau ac arferion gorau diogelu data, gan ddiogelu gwybodaeth sensitif.
Cydweithio â rhanddeiliaid a chydweithwyr i ddatblygu a phrofi methodolegau, offer, neu strategaethau newydd i wella arferion neu ganlyniadau.
Gallu trosi canfyddiadau ymchwil yn welliannau neu fentrau y gellir eu gweithredu.
Mae’r raddfa gyflog uchod wedi’i chytuno fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2024/2025. Bydd yn cael ei rhoi ar waith ym mis Tachwedd 2024 wedi’i hôl-ddyddio i 1 Ebrill 2024 lle bo’n berthnasol.
Ceidw Iechyd Cyhoeddus Cymru yr hawl i gau’r swydd wag hon yn gynnar. Felly rydym yn annog ceisiadau cynnar.
Rhoddir blaenoriaeth i staff sy’n aros i gael eu hadleoli. Rydym yn cadw’r hawl felly i dynnu’r hysbyseb hon yn ôl ar unrhyw adeg.
Os oes gennych anabledd a bod gennych unrhyw anghenion penodol i'ch galluogi i gymryd rhan yn y broses ymgeisio, cysylltwch â [email protected]
NODYN PWYSIG I YMGEISWYR: Mae ceisiadau am ein rolau yn cael eu hadolygu'n ofalus a'u rhoi ar restr fer yn seiliedig ar feini prawf penodol, sy'n amrywio o swydd i swydd. Efallai na fydd defnyddio cais generig i wneud cais am rolau lluosog neu ddibynnu ar wasanaethau ceisiadau deallusrwydd artiffisial awtomataidd, fel Lazy Apply neu AI Apply, yn darparu'r wybodaeth angenrheidiol, gan arwain at anwybyddu'ch cais. Er mwyn sicrhau bod eich cais yn cael ystyriaeth lawn, rydym yn argymell cyflwyno cais wedi'i deilwra sy'n mynd i'r afael yn uniongyrchol â'r meini prawf a restrir yn adran Manyleb y Person yr hysbyseb.
Os byddwch yn llwyddiannus ac os cewch eich dewis ar gyfer y rhestr fer am gyfweliad, cysylltir â chi ar e-bost gan ddefnyddio’r cyfeiriad a ddefnyddiwyd gennych i gofrestru. Sicrhewch eich bod yn edrych ar eich cyfrif e-bost yn rheolaidd.
Rydym wedi ymrwymo i recriwtio teg a thryloyw ac rydym yn credu mewn cyfle cyfartal yn ein gweithle. Ni fyddwn yn goddef gwahaniaethu ar sail oedran, anabledd, hunaniaeth rywiol, crefydd neu gred, hil neu genedligrwydd, priodas neu bartneriaeth sifil, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, patrwm gwaith, cyfrifoldebau gofalu, gweithgarwch gydag undebau llafur neu gredoau gwleidyddol – nac ar unrhyw sail arall. Croesawn geisiadau gan unigolion a ddymunent weithio’n rhan-amser neu wneud cais i rannu swydd.
I weithio yn y DU, mae angen nawdd ar bob ymgeisydd nad yw'n wladolyn o'r DU neu Weriniaeth Iwerddon i gael naill ai fisa Gweithiwr Iechyd a Gofal neu fisa Gweithiwr Medrus, oni bai bod gennych ganiatâd i weithio trwy lwybr arall. Dylai ymgeiswyr nad ydynt yn rhan o'r DU/Gweriniaeth Iwerddon sy'n dymuno gwneud cais hunanasesu'u tebygolrwydd o gael Tystysgrif Nawdd trwy ymweld â gwefan Fisâu a Mewnfudo'r DU. Os ydych chi'n gymwys i gael y fisa Iechyd a Gofal, mae'r costau ymgeisio yn is ac nid oes angen i chi dalu Gordal Iechyd Mewnfudo blynyddol.
Mae'r raddfa gyflog a ddangosir ar gyfer aelod o staff llawn amser, a chaiff y swm ei addasu pro rata ar gyfer y rhai sy'n gweithio llai na 37.5 awr yr wythnos.
Gellir gweld Graddfeydd Cyflog GIG Cymru yma.
Yn gyffredinol, bydd unrhyw un sy'n ymuno â'n Hymddiriedolaeth nad yw wedi gweithio yn y GIG o'r blaen, yn cychwyn ar bwynt cyntaf y band tâl a hysbysebir yn awtomatig. Yna bydd datblygiad cyflog yn cael ei bennu gan Adolygiadau Perfformiad a Datblygu blynyddol yn unol â Pholisi Datblygiad Cyflog GIG Cymru. Gellir ystyried cais am Gredyd Cynyddol, ond dim ond ar sail gwasanaeth cyfrifadwy â thystiolaeth a/neu brofiad cyfatebol, perthnasol y gellir ei ddyfarnu.
Gofynion yr ymgeisydd
Manyleb y person
Cymwysterau
Meini prawf hanfodol
- - Llythrennog a rhifog. - Gradd mewn pwnc cysylltiedig â TG NEU gymwysterau cyfatebol NEU brofiad cyfatebol.
Meini prawf dymunol
- - Cymhwyster TG proffesiynol fel MCP neu CCNA neu gymhwyster lefel diploma graddedig NEU brofiad cyfatebol. - Cwblhau cyrsiau hyfforddiant TG arbenigol a ffurfiol perthnasol yn llwyddiannus.
Profiad
Meini prawf hanfodol
- - Profiad manwl o weithio mewn amgylchedd rhwydwaith TCP/IP PC seiliedig ar Windows mewn rôl cymorth TG. - Profiad mewn rôl gweithredu technegol gyda systemau gweinydd Windows, gosod cyfrifiaduron pen desg/gliniadur a switshys Cisco. - Profiad o weithio mewn amgylchedd Windows Active Directory. - Profiad o roi diogelwch TG.
Meini prawf dymunol
- - Profiad o hyfforddi defnyddwyr TG. - Profiad GIG/Gofal Iechyd neu Sector Cyhoeddus. - Profiad o reoli prosiectau Rheoli Gwybodaeth a Thechnoleg bach. - Profiad o ffurfweddu systemau teleffoni modern. - Seilwaith gweinydd VMWare ESX.
Sgiliau
Meini prawf hanfodol
- - Yn gallu i weithio'n effeithiol fel rhan o dîm a hefyd ar eich menter eich hun. - Rhoi sylw da i fanylion. - Lefel uchel o rifedd, llythrennedd a llythrennedd cyfrifiadurol. - Sgiliau cynllunio, blaenoriaethu a threfnu i ddelio ag ystod eang o weithgareddau parhaus cymhleth. - Yn gallu dadansoddi, dehongli a chyfathrebu gwybodaeth dechnegol gymhleth i arbenigwyr ar rhai nad ydynt yn arbenigwyr yn ysgrifenedig, dros y ffôn ac mewn cyfarfodydd. - Gallu uniaethu'n dda â staff ar bob lefel - Yn gallu ymdrin â gwybodaeth sensitif yn briodol. - Sgiliau bysellfwrdd safonol. - Yn gallu ymdopi â phatrymau gwaith anrhagweladwy lle ceir ymyriadau cyson. - Yn gallu gwneud dyfarniadau sy'n cynnwys gwybodaeth gymhleth sy'n gofyn am ddadansoddi a chymharu ystod o opsiynau. - Yn gallu gweithio'n effeithiol (am gyfnodau hir weithiau) mewn amodau gwaith annymunol (e.e. tymheredd isel, ystafelloedd swnllyd, mannau cyfyngedig, offer ac ardaloedd llychlyd neu swnllyd). - Yn gallu rheoli prosiectau Rheoli Gwybodaeth a Thechnoleg bach a gweithrediadau technegol. Yn gallu cynorthwyo gyda chynllunio a gweithredu prosiectau. - Yn gallu hyfforddi defnyddwyr eraill a staff TG ar dechnolegau newydd a phresennol. - Rhaid canolbwyntio ar y cwsmer.
Meini prawf dymunol
- - Sgiliau rheoli prosiect datblygedig. - Datblygu sgiliau cyfathrebu a negodi ar gyfer rheoli perthnasoedd yn effeithiol â chyflenwyr a sefydliadau eraill y GIG. - Y gallu i gyfrannu at ddatblygu gweithdrefnau a pholisïau Rheoli Gwybodaeth a Thechnoleg.
Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- - Dylai gwybodaeth fod yn gyfwerth â gradd mewn pwnc sy'n ymwneud â TG yn ddelfrydol o brofiad perthnasol. - Gwybodaeth dda am ystod o galedwedd cyfrifiadurol cyffredin (yn enwedig cyfrifiaduron personol ac argraffwyr). - Gwybodaeth helaeth am systemau gweithredu cleient a gweinydd Windows, TCP/IP, DHCP, DNS a rhwydweithio ether-rwyd. - Gwybodaeth ddamcaniaethol gadarn o Windows Active Directory, Polisïau Grŵp, Exchange a Microsoft Office. - Prosesau wrth gefn ac adfer data. - Deddfwriaeth diogelu data. - Cysyniadau o rhithwiroli.
Meini prawf dymunol
- - Gwybodaeth ddamcaniaethol ar sut i leihau bygythiadau diogelwch TG a rheoli digwyddiadau diogelwch TG. Profiad o baratoi cyllideb, a chaffael TG. - Gwybodaeth sy'n cyfateb i lefel cymhwyster TG proffesiynol fel CCNA (Cydymaith Rhwydwaith Ardystiedig Cisco) neu MCP (Proffesiynol Ardystiedig Microsoft) yn ddelfrydol wedi'i hennill o brofiad perthnasol. - Gwybodaeth am brosesau ITIL a methodolegau PRINCE2. - Seilwaith gweinydd VMWare ESX. - Gwybodaeth dda o Microsoft SCCM, WSUS, Gweinydd SQL.
Rhinweddau Personol
Meini prawf hanfodol
- Dibynadwy; ymagwedd hyblyg at waith i ddiwallu anghenion y gwasanaeth; drylwyr, yn parchu cyfrinachedd. - Agwedd frwdfrydig a chadarnhaol. - Rhaid bod yn rhagweithiol a hunan-gymhellol wrth ddysgu technolegau TG newydd trwy hunan-astudio a phrofiad ymarferol. - Gallu sefydlu perthynas waith dda gyda phobl ar bob lefel. - Penderfynol a hunanysgogol.
Arall
Meini prawf hanfodol
- - Yn gallu gweithio’n achlysurol y tu allan i oriau arferol neu yn ystod y penwythnos pan fo’n ofynnol. - Yn gallu cymryd rhan mewn rota ar alwad - Yn gallu teithio rhwng safleoedd mewn modd amserol i ddiwallu anghenion y gwasanaeth. - Yn gallu teithio a gweithio i ffwrdd o'r ganolfan o bryd i'w gilydd. - Gallu gweithio o'r ganolfan waith ddynodedig.
Meini prawf dymunol
- - Yn gallu siarad Cymraeg
Dogfennau
- Job Description (PDF, 320.4KB)
- Person Specification (PDF, 488.3KB)
- OH-Functional Requirements Form (PDF, 656.5KB)
- disgrifiad swydd (PDF, 400.4KB)
- manyleb person (PDF, 488.3KB)
- Hyderus o Ran Anabledd Arweinydd (PDF, 180.8KB)
- Canllawiau ar gyfer Ymgeiswyr (PDF, 278.7KB)
- Ein Rhwydweithiau Amrywiaeth (PDF, 330.6KB)
- Gwasanaethau Recriwtio Hysbysiad Preifatrwydd (PDF, 696.3KB)
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Mark Coleman
- Teitl y swydd
- Desktop & Devices Service Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 02920104545
Dechrau eich cais
Mewngofnodi
Creu cyfrif
Creu eich cyfrif a gwneud cais am eich swydd newydd!