Mae Trac yn falch o bweru recriwtio ar gyfer
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Gwybodaeth
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd i boblogaeth o tua 372,320 ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro. Mae'n darparu gwasanaethau Acìwt, Sylfaenol, Cymunedol, Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu trwy Ysbytai Cyffredinol a Chymunedol, Canolfannau Iechyd, Meddygfeydd Teulu, Deintyddion, Fferyllfeydd, Optometryddion a safleoedd eraill.
Cysylltu
- Address
- Glien House
- Cillefwr Industrial Estate
- Johnstown
- Carmarthen
- Carmarthenshire
- SA31 3RB
- Contact Number
- 0300 303 6138
Rheolwr Rhaglen
Accepting applications until: 09-Mar-2025 23:59
Statws y swydd wag: Open
Accepting applications until: 09-Mar-2025 23:59
Manylion allweddol
Lleoliad
- Gwefan
- Ysbyty Cyffredinol Glangwili
- Cyfeiriad
- Heol Dolgwili
- Tref
- Caerfyrddin
- Cod post
- SA31 2AF
- Major / Minor Region
- Sir Gaerfyrddin
Math o gontract a phatrwm gwaith
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
Cyflog
- Cyflog
- £54,550 - £61,412 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Gradd
- (Band 8a)
Arbenigedd
- Prif leoliad
- Rheolwr Rhaglen
- Dyddiad y cyfweliad
- 18/03/2025
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
A ydych yn arweinydd dynamig ac ymgysylltiol?A ydych yn mwynhau arwain mentrau ar gyfer newid?A ydych yn llawn cyffro ynghylch y posibilrwydd o gyfleoedd ar gyfer trawsnewid digidol? Mae'n bosibl mai hon yw'r rôl i chi.
Mae gan y broses trawsnewid digidol y potensial i newid y ffordd yr ydym yn gweithio yn y sefydliad a'r modd yr ydym yn cefnogi ein cleifion a'n cymunedau.
Mae HDUHB yn cydnabod bod buddsoddi mewn arloesedd a thrawsnewid digidol yn alluogwr allweddol i helpu ein sefydliad i gyflawni ein hamcanion strategol.
Rydym yn rhagweld y bydd trawsnewid digidol yn cyffwrdd â phob rhan o’n sefydliad, gan adolygu ein ffyrdd o weithio, gwella a hybu'r systemau cyfredol, datblygu sgiliau digidol ein cyd-weithwyr a phobl yn ein cymunedau, a’n galluogi i ddarparu ein gwasanaethau mewn modd mwy effeithlon ac effeithiol.
Byddwch yn hollbwysig o ran arwain a chyflawni ein gweledigaeth.Rydym yn chwilio am rywun a all arwain y gwaith o weithredu a chyflawni ystod eang o raglenni a phrosiectau trawsnewid digidol proffil uchel ledled y sefydliad, a hynny mewn cydweithrediad â chyd-weithwyr a phartneriaid ar lefel leol a chenedlaethol.Bydd yn rheoli mentrau a rhaglenni mawr yn ymwneud â phortffolio o brosiectau sy'n cael eu cynnal gan y Gwasanaethau Digidol, a hynny o'r cam cynllunio cychwynnol hyd at y cam lansio a chyflwyno, gan sicrhau cyfnod pontio
esmwyth ac effeithiol o'r prosiectau i fusnes fel arfer trwy weithio'n agos gyda'r rheolwyr prosiectau a'u rheoli.
Advert
Mae'r Rheolwr Rhaglen yn gyfrifol am gynllunio rhaglenni, nodi cyfleoedd ac arbedion, sicrhau gwelliant cyflym mewn meysydd a nodir, a chyflawni buddion. Bydd deiliad y swydd yn hanfodol i hyrwyddo diwylliant o welliant parhaus trwy roi methodoleg newid y Bwrdd Iechyd ar waith.
Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am gylchredau oes rhaglenni/prosiectau, sy'n cynnwys cwmpasu, cynllunio, datblygu a gwireddu buddion prosiectau yn unol ag amserlenni, cyllidebau a disgwyliadau o ran ansawdd.
Bydd yr Rheolwr Rhaglen yn cefnogi’r Pennaeth Arloesedd a Thrawsnewid yn y gwaith o reoli a llywodraethu elfen gwelliant cyflym yr agenda drawsnewid, a bydd yn sicrhau bod adroddiadau ar gynnydd y rhaglen, yn unol â'r cerrig milltir a'r targedau, yn cael eu cwblhau yn unol â’r amserlen.
Disgwylir i’r Rheolwr Rhaglen weithredu yn rôl llysgennad y tîm Arloesedd a Thrawsnewid i weddill y sefydliad, gan gynrychioli tîm cefnogol sy’n perfformio’n dda ac sy’n hyddysg yn anghenion cyfredol y sefydliad ac yn darparu syniadau ar gyfer atebion.
Bydd yr Rheolwr Rhaglen atebol i’r Pennaeth Arloesedd a Thrawsnewid am weithio mewn modd proffesiynol ac yn unol â dulliau diffiniedig y Bwrdd Iechyd, a'i brosesau llywodraethu ac adrodd.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; Mae croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg a / neu Saesneg wneud cais.
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 12,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu i bron 400,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
4 prif ysbyty (Bronglais, Aberystwyth, Glangwili, Caerfyrddin, Tywysog Philip, Llanelli, ac Llwynhelyg, Hwlffordd).
5 ysbyty cymunedol (Ysbyty Dyffryn Aman ac Ysbyty Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin, Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion,Ysbyty Dinbych-y-pysgod a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol De Sir Benfro yn Sir Benfro.
Dwy ganolfan gofal integredig (Aberaeron ac Aberteifi, yng Ngheredigion).
Cyfleusterau cymunedol, gan gynnwys:
48 Meddygfa, 49 Deintyddfa, 98 Fferyllfa Gymunedol, 44 Practis Offthalmig Cyffredinol (gan gynnwys gwasanaethau iechyd llygaid a golwg gwan), 38 safle yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu, gofal o fewn eich cartrefi eich hun
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Bydd yr Rheolwr Rhaglen yn darparu arbenigedd pwnc yn ogystal â’r trylwyredd sydd ei angen i gyflawni newid cymhleth mewn sefydliad mawr ar y cyd â’r rhanbarth. Fel y cyfryw, mae'n ofynnol i ddeiliad y swydd feddu ar sgiliau rhyngbersonol cryf i weithio ar draws ffiniau sefydliadol. Disgwylir i ddeiliad y swydd allu cyflwyno'n dda mewn cyfarfodydd bwrdd mewnol ac allanol.
Pwrpas y rôl yw gweithio gyda phartneriaid mewnol ac allanol i lunio a chyflwyno strategaethau digidol trawsnewidiol ac arloesol sy’n darparu gwasanaethau sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr ac sy’n gwella eu profiad o’n sefydliad, boed hynny fel claf neu aelod o staff.
Rydym yn cynnig trefniadau gweithio hybrid ar ein safleoedd yng Ngorllewin Cymru, a byddwch yn rhan o dîm sy'n wirioneddol boeni ynghylch yr effaith y mae'n ei chael ar ein gweithlu a'n cymunedau. Rydym hefyd yn cynnig amrywiaeth o fuddion i gyflogeion.
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cynhelir y cyfweliadu ar 18/03/2025.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir drwy gyfrwng y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau a wneir yn y Saesneg.
NODYN PWYSIG I YMGEISWYR: Mae ceisiadau am ein rolau yn cael eu hadolygu'n ofalus a'u rhoi ar restr fer yn seiliedig ar feini prawf penodol, sy'n amrywio o swydd i swydd. Efallai na fydd defnyddio cais generig i wneud cais am rolau lluosog neu ddibynnu ar wasanaethau ceisiadau deallusrwydd artiffisial awtomataidd, fel Lazy Apply neu AI Apply, yn darparu'r wybodaeth angenrheidiol, gan arwain at anwybyddu'ch cais. Er mwyn sicrhau bod eich cais yn cael ystyriaeth lawn, rydym yn argymell cyflwyno cais wedi'i deilwra sy'n mynd i'r afael yn uniongyrchol â'r meini prawf a restrir yn adran Manyleb y Person yr hysbyseb.
Trwy gyflwyno eich cais i NHS Jobs/Trac, rydych yn gydsynio i elfennau o ddata eich cais gael eu trosglwyddo i Gofnod Staff Electronig (ESR) y GIG a systemau diogel, mewnol Gweithlu’r GIG er mwyn cefnogi a rheoli eich recriwtio a’ch cyflogaeth o fewn y sefydliad sy’n eich cyflogi; i’w defnyddio gan yr adran Recriwtio at ddibenion gwirio eich Cofrestriad Proffesiynol ar-lein (lle bo’n briodol).
Mae’r prosesau hyn yn unol â phrosesu Teg a Chyfreithlon yn unol â Deddfwriaeth Diogelu Data cyfredol yn enwedig y rhai hynny mewn perthynas â’ch data personol neu bersonol sensitif (diffinir data personol sensitif fel unrhyw gyflwr iechyd meddwl neu gorfforol, tarddiad hiliol neu ethnig, cyfeiriadedd rhywiol, aelodaeth undeb llafur, barn wleidyddol neu gred crefyddol datganedig). Fel sefydliad, rydym yn sicrhau bod y ddeddfwriaeth sy’n diffinio cyfrinachedd yn cael ei dilyn megis y defnydd o ddata at ddibenion penodol, diffiniedig, a defnydd o ddata sy’n berthnasol ac nid yn ormodol wrth ymarfer cywirdeb data a diogelwch yr holl wybodaeth bersonol adnabyddadwy a gedwir.
Os cewch eich penodi’n llwyddiannus, trwy lenwi’r ffurflen gais rydych yn awdurdodi’r BIP i gael unrhyw fanylion gwasanaeth blaenorol i’r GIG yn cynnwys yr holl wybodaeth ar salwch a gedwir yn electronig, trwy’r broses Trosglwyddo Rhyng-awdurdod ar y Cofnod Staff Electronig.
I weithio yn y DU, mae angen nawdd ar bob ymgeisydd nad yw'n wladolyn o'r DU neu Weriniaeth Iwerddon i gael naill ai fisa Gweithiwr Iechyd a Gofal neu fisa Gweithiwr Medrus, oni bai bod gennych ganiatâd i weithio trwy lwybr arall. Dylai ymgeiswyr nad ydynt yn rhan o'r DU/Gweriniaeth Iwerddon sy'n dymuno gwneud cais hunanasesu'u tebygolrwydd o gael Tystysgrif Nawdd trwy ymweld â gwefan Fisâu a Mewnfudo'r DU. Os ydych chi'n gymwys i gael y fisa Iechyd a Gofal, mae'r costau ymgeisio yn is ac nid oes angen i chi dalu Gordal Iechyd Mewnfudo blynyddol.
Gofynion yr ymgeisydd
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Addysg i lefel Gradd Meistr neu brofiad cyfatebol
- Yn meddu ar dystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus
- Cymhwyster swyddfa rheoli prosiectau a/neu raglenni, APMG, PRINCE2, MSP neu brofiad cyfatebol
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad o reoli, yn cynnwys rheoli prosiectau llwyddiannus ar lefel uwch
- Profiad o weithio'n llwyddiannus mewn partneriaeth yn y sector cyhoeddus
- Profiad sylweddol o gyflawni prosiectau newid yn llwyddiannus mewn amgylcheddau cymhleth a heriol
- Profiad o weithio'n effeithiol gyda rhanddeiliaid mewn cyrff allanol
Meini prawf dymunol
- Sgiliau TG uwch mewn amrywiaeth o gymwysiadau bwrdd gwaith, e.e. Excel, Power BI
Sgiliau a Phriodweddau
Meini prawf hanfodol
- Sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu datblygedig iawn
- Sgiliau rheoli pobl
- Hanes o ddatrys problemau cymhleth mewn amgylchedd rheoli prosiectau
- Yn gymwys yn y defnydd o gymwysiadau bwrdd gwaith
Meini prawf dymunol
- Sgiliau TG uwch mewn amrywiaeth o gymwysiadau bwrdd gwaith, e.e. Excel, Power BI
Arall
Meini prawf hanfodol
- Teithio o amgylch Cymru, ac o bosibl ymhellach, a hynny'n rheolaidd
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Carolyn Williams
- Teitl y swydd
- Head of Digital Innovation & Transformation
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01267 248676
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Nodwch nad ydym yn derbyn CV, a bod yn rhaid gwneud ceisiadau trwy ein porth ymgeisio.
Dechrau eich cais
Mewngofnodi
Creu cyfrif
Creu eich cyfrif a gwneud cais am eich swydd newydd!