Mae Trac yn falch o bweru recriwtio ar gyfer
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Gwybodaeth
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd i boblogaeth o tua 372,320 ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro. Mae'n darparu gwasanaethau Acìwt, Sylfaenol, Cymunedol, Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu trwy Ysbytai Cyffredinol a Chymunedol, Canolfannau Iechyd, Meddygfeydd Teulu, Deintyddion, Fferyllfeydd, Optometryddion a safleoedd eraill.
Cysylltu
- Address
- Glien House
- Cillefwr Industrial Estate
- Johnstown
- Carmarthen
- Carmarthenshire
- SA31 3RB
- Contact Number
- 0300 303 6138
Y Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio, Ansawdd a Phrofiad y Claf
Accepting applications until: 02-Mar-2025 23:59
Statws y swydd wag: Open
Accepting applications until: 02-Mar-2025 23:59
Manylion allweddol
Lleoliad
- Gwefan
- Adeilad Ystwyth, Hafan Derwen, Parc Dewi Sant
- Tref
- Caerfyrddin
- Cod post
- SA31 3BB
- Major / Minor Region
- Sir Gaerfyrddin
Math o gontract a phatrwm gwaith
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
Cyflog
- Gradd
- Executives VSM
Arbenigedd
- Prif leoliad
- Nyrsio
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw sefydliad lleol y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng nghanolbarth a gorllewin Cymru.
Fel bwrdd iechyd, rydym yn cynllunio, yn trefnu ac yn darparu gwasanaethau iechyd ar gyfer bron 400,000 o bobl ledled Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, a Sir Benfro. Rydym yn rheoli ac yn talu am y gofal a’r driniaeth a ddarperir i bobl yn yr ardal hon ar gyfer iechyd corfforol, iechyd meddwl ac anableddau dysgu.
Mae ein strategaeth uchelgeisiol yn ceisio datblygu a gweithredu proses i drawsnewid y ffordd y darparwn wasanaethau gofal iechyd, trwy ymrwymiad i symud o system sy’n canolbwyntio ar driniaeth a diagnosis i un lle mae atal afiechyd yn weithgaredd craidd a lle mae llesiant pobl yn cael ei gymryd i ystyriaeth. Mae ein Model Cymdeithasol ar gyfer Iechyd a Llesiant, fel y’i gelwir, yn rhan ganolog o’n strategaeth 10 mlynedd.
I wireddu’r uchelgais hwn, ni allwn weithio ar ein pennau ein hunain. Rydym yn cydnabod pwysigrwydd gweithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol, sefydliadau cymunedol, busnesau a chymunedau i wella nid yn unig y gwasanaethau a ddarparwn ond hefyd yr amgylchiadau lle’r ydym yn tyfu i fyny, yn byw, yn gweithio, yn chwarae ac yn heneiddio’n dda.
Mae’r tair blynedd diwethaf wedi dangos yn glir bwysigrwydd y perthnasoedd hyn. Allan o adfyd, mae’r cysylltiadau hyn wedi ffynnu, wrth i bartneriaethau presennol gael eu cryfhau a rhai newydd gael eu creu ar draws sectorau, i reoli effaith uniongyrchol a thymor hwy y pandemig.
Advert
Fel y Cyfarwyddwr Nyrsio, Ansawdd a Phrofiad y Claf, byddwn yn disgwyl i chi arwain ein gweledigaeth strategol gyda’r timau nyrsio a bydwreigiaeth i’n galluogi i ddatblygu’r cyfleoedd hyn ymhellach a hyrwyddo ein huchelgeisiau ar gyfer poblogaeth iachach a hapusach, y mae ei llesiant yn rhan ganolog o’n meddylfryd.
Rhaid i chi fod yn arweinydd ysbrydoledig, creadigol a gweladwy sy’n hyrwyddo buddiannau defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr. Fel arweinydd nyrsio profiadol sy’n gweithio ar lefel gorfforaethol neu’n agos at lefel y Bwrdd, byddwch yn dod â gweledigaeth a hygrededd i’r rôl. Byddwch yn gyfforddus wrth feithrin perthnasoedd ag ystod eang o randdeiliaid yn y sefydliad, yn ein system iechyd ehangach ac yn ein cymunedau a bydd eich diddordeb angerddol mewn arweinyddiaeth broffesiynol a chlinigol yn cyd-fynd ag egni a brwdfrydedd ein gweithlu nyrsio a bydwreigiaeth arloesol, ymroddedig. Afraid dweud bod rhaid hefyd i chi fod wedi’ch cofrestru â’r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth.
Os tybiwch mai hon yw’r rôl i chi ac mai chi yw’r sawl a ddisgrifir uchod, byddem wrth ein boddau yn clywed gennych. Rydym wedi cynnwys pecyn ymgeisydd sy’n cynnwys rhagor o wybodaeth am ein Bwrdd Iechyd a’r rôl hon ac os hoffech drafod y rôl, byddai Phil Kloer, ein Brif Weithredwr yn falch iawn o siarad â chi.
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 11,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu ar gyfer tua 384,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth, Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli a Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd;
Saith ysbyty cymunedol: Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin; Tregaron, Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ysbyty Dinbych-y-pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro;
48 o bractisau cyffredinol (chwech ohonynt yn bractisau a reolir), 47 practis deintyddol (gan gynnwys tri orthodontig), 99 o fferyllfeydd cymunedol, 44 o bractisau offthalmig cyffredinol (43 yn darparu Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru a 34 o wasanaethau golwg gwan) ac 17 o ddarparwyr gofal cartref yn unig ac 11 canolfannau iechyd;
Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu;
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau yw 02/03/2025 ac fe welwch sut i gyflwyno cais yn y pecyn recriwtio.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg, fel ei gilydd, wneud cais.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir drwy gyfrwng y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau a wneir yn y Saesneg.
NODYN PWYSIG I YMGEISWYR: Mae ceisiadau am ein rolau yn cael eu hadolygu'n ofalus a'u rhoi ar restr fer yn seiliedig ar feini prawf penodol, sy'n amrywio o swydd i swydd. Efallai na fydd defnyddio cais generig i wneud cais am rolau lluosog neu ddibynnu ar wasanaethau ceisiadau deallusrwydd artiffisial awtomataidd, fel Lazy Apply neu AI Apply, yn darparu'r wybodaeth angenrheidiol, gan arwain at anwybyddu'ch cais. Er mwyn sicrhau bod eich cais yn cael ystyriaeth lawn, rydym yn argymell cyflwyno cais wedi'i deilwra sy'n mynd i'r afael yn uniongyrchol â'r meini prawf a restrir yn adran Manyleb y Person yr hysbyseb.
Trwy gyflwyno eich cais i NHS Jobs/Trac, rydych yn gydsynio i elfennau o ddata eich cais gael eu trosglwyddo i Gofnod Staff Electronig (ESR) y GIG a systemau diogel, mewnol Gweithlu’r GIG er mwyn cefnogi a rheoli eich recriwtio a’ch cyflogaeth o fewn y sefydliad sy’n eich cyflogi; i’w defnyddio gan yr adran Recriwtio at ddibenion gwirio eich Cofrestriad Proffesiynol ar-lein (lle bo’n briodol).
Mae’r prosesau hyn yn unol â phrosesu Teg a Chyfreithlon yn unol â Deddfwriaeth Diogelu Data cyfredol yn enwedig y rhai hynny mewn perthynas â’ch data personol neu bersonol sensitif (diffinir data personol sensitif fel unrhyw gyflwr iechyd meddwl neu gorfforol, tarddiad hiliol neu ethnig, cyfeiriadedd rhywiol, aelodaeth undeb llafur, barn wleidyddol neu gred crefyddol datganedig). Fel sefydliad, rydym yn sicrhau bod y ddeddfwriaeth sy’n diffinio cyfrinachedd yn cael ei dilyn megis y defnydd o ddata at ddibenion penodol, diffiniedig, a defnydd o ddata sy’n berthnasol ac nid yn ormodol wrth ymarfer cywirdeb data a diogelwch yr holl wybodaeth bersonol adnabyddadwy a gedwir.
Os cewch eich penodi’n llwyddiannus, trwy lenwi’r ffurflen gais rydych yn awdurdodi’r BIP i gael unrhyw fanylion gwasanaeth blaenorol i’r GIG yn cynnwys yr holl wybodaeth ar salwch a gedwir yn electronig, trwy’r broses Trosglwyddo Rhyng-awdurdod ar y Cofnod Staff Electronig.
I weithio yn y DU, mae angen nawdd ar bob ymgeisydd nad yw'n wladolyn o'r DU neu Weriniaeth Iwerddon i gael naill ai fisa Gweithiwr Iechyd a Gofal neu fisa Gweithiwr Medrus, oni bai bod gennych ganiatâd i weithio trwy lwybr arall. Dylai ymgeiswyr nad ydynt yn rhan o'r DU/Gweriniaeth Iwerddon sy'n dymuno gwneud cais hunanasesu'u tebygolrwydd o gael Tystysgrif Nawdd trwy ymweld â gwefan Fisâu a Mewnfudo'r DU. Os ydych chi'n gymwys i gael y fisa Iechyd a Gofal, mae'r costau ymgeisio yn is ac nid oes angen i chi dalu Gordal Iechyd Mewnfudo blynyddol.
Gofynion yr ymgeisydd
Manyleb y person
Cymwysterau
Meini prawf hanfodol
- Cofrestriad cyfredol fel nyrs neu fydwraig â’r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth.
- Tystiolaeth o ddatblygu arweinyddiaeth a rheolaeth.
- Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus.lopment.
- Wedi eich addysgu i lefel gradd Meistr.
Profiad a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Profiad o weithredu’n effeithiol ar lefel strategol mewn sefydliad sy’n comisiynu neu’n darparu gwasanaethau iechyd.
- Profiad diamheuol o weithio a chyfrannu ar lefel Bwrdd.
- Profiad rheolaethol neu broffesiynol sylweddol.
- Profiad helaeth o gydweithio’n effeithiol â sefydliadau eraill yn y sector statudol, y sector annibynnol a’r trydydd sector i gynllunio a chyflwyno gwasanaethau.
- Profiad o gynllunio a datblygu strategol.
- Tystiolaeth o gyfraniad gweithredol mewn gwaith gwella gwasanaethau ac effeithlonrwydd.
- Profiad o ddatblygu hygrededd personol a phroffesiynol gyda Bwrdd, timau rheolaethol a chlinigol, a staff.
- Gwybodaeth helaeth am yr agenda nyrsio proffesiynol ar draws gofal sylfaenol, gofal cymunedol a gofal eilaidd.
- Gwybodaeth helaeth am lywodraethu clinigol a chorfforaethol a’i gymhwysiad ar draws y gwasanaeth iechyd.
- Gwybodaeth helaeth am gymhlethdodau system weithredu’r GIG ac effaith gweithgareddau statudol ac anstatudol y sector cyhoeddus a’r sector preifat ar iechyd a gofal iechyd.
- Gwybodaeth helaeth am y cysylltiadau rhwng cynllunio’r gweithlu, addysg a datblygu’r gweithlu.
- Dealltwriaeth drylwyr o’r heriau sy’n wynebu’r gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn yr unfed ganrif ar hugain.
- Gwybodaeth fanwl am y ffactorau sy’n dylanwadu ar ymddygiad cysylltiedig ag iechyd mewn unigolion a phoblogaethau.
Galluoedd a Rhinweddau Personol
Meini prawf hanfodol
- Gallu bod yn Llysgennad ar ran y BIP
- Modelu ymddygiad priodol wrth dderbyn a chyflwyno adroddiadau cadarnhaol a negyddol ynghylch profiad y claf.
- Arwain trwy siampl, gan hyrwyddo’r safonau uchaf o ymarweddiad, uniondeb a gonestrwydd personol a phroffesiynol.
- Yn ymrwymedig i'r broses barhaus o ddatblygu staff a chi eich hun.
- Ymrwymiad i ddatblygu diwylliant agored a phartneriaeth.
- Lefel uchel o hunanymwybyddiaeth, a dealltwriaeth o’ch emosiynau, eich cryfderau a’ch cyfyngiadau eich hun.
- Sicrhau eich bod yn bodloni eich gofynion eich hun o ran ailddilysu a chymwyseddau’r NMC.
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Phil Kloer
- Teitl y swydd
- Chief Executive
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Lisa Gostling
Cyfarwyddwr Gweithredol y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol/Dirprwy Brif Weithredwr
Os ydych yn cael problemau'n gwneud cais, cysylltwch â
- Address
- Resourcing Team
- Hafan Derwen
- Carmarthen
- SA31 3BB
Dechrau eich cais
Mewngofnodi
Creu cyfrif
Creu eich cyfrif a gwneud cais am eich swydd newydd!