Mae Trac yn falch o bweru recriwtio ar gyfer
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Gwybodaeth
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd i boblogaeth o tua 372,320 ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro. Mae'n darparu gwasanaethau Acìwt, Sylfaenol, Cymunedol, Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu trwy Ysbytai Cyffredinol a Chymunedol, Canolfannau Iechyd, Meddygfeydd Teulu, Deintyddion, Fferyllfeydd, Optometryddion a safleoedd eraill.
Cysylltu
- Address
- Glien House
- Cillefwr Industrial Estate
- Johnstown
- Carmarthen
- Carmarthenshire
- SA31 3RB
- Contact Number
- 0300 303 6138
Ymarferydd Cynorthwyol Atal Defnyddio Sylweddau ac Ymyrryd yn Gynnar
Accepting applications until: 16-Mar-2025 23:59
Statws y swydd wag: Open
Accepting applications until: 16-Mar-2025 23:59
Manylion allweddol
Lleoliad
- Gwefan
- Ty Tudur
- Cyfeiriad
- Parc St Dewi Sant
- Tref
- Caerfyrddin
- Cod post
- SA31 3BB
- Major / Minor Region
- Sir Gaerfyrddin
Math o gontract a phatrwm gwaith
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser
- Rhan-amser
Cyflog
- Cyflog
- £26,928 - £29,551 y flwyddyn pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Gradd
- (GIG AfC: Band 4)
Arbenigedd
- Prif leoliad
- Specialist Child and Mental Health Services
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Gweithio yn rhan o'r Tîm Defnyddio Sylweddau Arbenigol i ddarparu gwasanaeth seiliedig ar dystiolaeth i gleifion o fewn cylchoedd gwaith y Gwasanaeth Iechyd Meddwl i Blant a'r Glasoed (CAMHS) a Defnyddio Sylweddau, gan gefnogi anghenion gofalwyr a theuluoedd.
Gweithio ledled gwasanaethau i sicrhau proses bontio amserol ac effeithiol rhwng SCAMHS a Gwasanaethau Defnyddio Sylweddau/Iechyd Meddwl yn unol â chanllawiau polisi cenedlaethol.
Darparu gofal i gleifion heb oruchwyliaeth uniongyrchol gan glinigwyr cymwys, a hynnyyng nghartrefi'r cleifion eu hunain ac mewn lleoliadau eraill yn y gymuned.
Advert
Ac yntau'n rhan o'r tîm amlddisgyblaethol, bydd deiliad y swydd yn rhoi gofal a thriniaeth arbenigol ar gyfer Defnydd Sylweddau i gleifion, eu teuluoedd a'u gofalwyr, fel y nodir yng nghynllun gofal y claf.
Mynd ati'n barhaus i asesu ac adolygu anghenion y cleifion a'u hymateb i'r driniaeth yn ystod ymyriadau; bydd yr wybodaeth hon yn cyfrannu at asesiad a fformiwleiddiad cyffredinol y tîm amlddisgyblaethol.
Cyfrannu at y broses o gynllunio gofal ar gyfer cleifion unigol, eu teuluoedd, a'u gofalwyr gan gynorthwyo elfennau o gynllun triniaeth yr unigolyn ifanc trwy ddarparu seicoaddysg, cymryd rhan mewn sgiliau ymdopi cadarnhaol, a darparu cefnogaeth ac arweiniad i gyflawni gweithgareddau bywyd bob dydd.
Gweithio gyda chleientiaid, eu teuluoedd a’u gofalwyr i hybu iechyd meddwl a chorfforol cadarnhaol, cyfleoedd cymdeithasol, a mynediad at addysg neu gyflogaeth, gan ymgysylltu â chleifion, eu teuluoedd a’u gofalwyr i’w galluogi i gyflawni’r canlyniadau a geisir yn eu cynlluniau gofal.
Bydd y rôl hon yn cynnwys gweithio'n annibynnol o bryd i'w gilydd. Byddwch yn darparu ymyriadau mewn lleoliadau yn y gymuned yn achlysurol, gan weithio gyda phobl ifanc ag anghenion cymhleth gan gynnwys anawsterau iechyd meddwl a defnyddio sylweddau.
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 12,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu i bron 400,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
4 prif ysbyty (Bronglais, Aberystwyth, Glangwili, Caerfyrddin, Tywysog Philip, Llanelli, ac Llwynhelyg, Hwlffordd).
5 ysbyty cymunedol (Ysbyty Dyffryn Aman ac Ysbyty Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin, Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion,Ysbyty Dinbych-y-pysgod a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol De Sir Benfro yn Sir Benfro.
Dwy ganolfan gofal integredig (Aberaeron ac Aberteifi, yng Ngheredigion).
Cyfleusterau cymunedol, gan gynnwys:
48 Meddygfa, 49 Deintyddfa, 98 Fferyllfa Gymunedol, 44 Practis Offthalmig Cyffredinol (gan gynnwys gwasanaethau iechyd llygaid a golwg gwan), 38 safle yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu, gofal o fewn eich cartrefi eich hun
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saeneg wneud cais.
Cyfweliadau i'w cynnal ar 24/03/25
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Mynediad ar unwaith i’n budd llesiant ariannol – Wagestream. Mae Wagestream yn adnodd ar gyfer bywyd bob dydd sy’n eich caniatáu i gael eich talu eich ffordd eich hun, a olrain eich cyflog mewn amser real, ffrydio hyd at 50% o’r cyflog rydych wedi ennill yn barod, dysgu awgrymiadau hawdd i reoli eich arian yn well ac arbed eich tâl yn syth o’ch cyflog.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir drwy gyfrwng y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau a wneir yn y Saesneg.
NODYN PWYSIG I YMGEISWYR: Mae ceisiadau am ein rolau yn cael eu hadolygu'n ofalus a'u rhoi ar restr fer yn seiliedig ar feini prawf penodol, sy'n amrywio o swydd i swydd. Efallai na fydd defnyddio cais generig i wneud cais am rolau lluosog neu ddibynnu ar wasanaethau ceisiadau deallusrwydd artiffisial awtomataidd, fel Lazy Apply neu AI Apply, yn darparu'r wybodaeth angenrheidiol, gan arwain at anwybyddu'ch cais. Er mwyn sicrhau bod eich cais yn cael ystyriaeth lawn, rydym yn argymell cyflwyno cais wedi'i deilwra sy'n mynd i'r afael yn uniongyrchol â'r meini prawf a restrir yn adran Manyleb y Person yr hysbyseb.
Trwy gyflwyno eich cais i NHS Jobs/Trac, rydych yn gydsynio i elfennau o ddata eich cais gael eu trosglwyddo i Gofnod Staff Electronig (ESR) y GIG a systemau diogel, mewnol Gweithlu’r GIG er mwyn cefnogi a rheoli eich recriwtio a’ch cyflogaeth o fewn y sefydliad sy’n eich cyflogi; i’w defnyddio gan yr adran Recriwtio at ddibenion gwirio eich Cofrestriad Proffesiynol ar-lein (lle bo’n briodol).
Mae’r prosesau hyn yn unol â phrosesu Teg a Chyfreithlon yn unol â Deddfwriaeth Diogelu Data cyfredol yn enwedig y rhai hynny mewn perthynas â’ch data personol neu bersonol sensitif (diffinir data personol sensitif fel unrhyw gyflwr iechyd meddwl neu gorfforol, tarddiad hiliol neu ethnig, cyfeiriadedd rhywiol, aelodaeth undeb llafur, barn wleidyddol neu gred crefyddol datganedig). Fel sefydliad, rydym yn sicrhau bod y ddeddfwriaeth sy’n diffinio cyfrinachedd yn cael ei dilyn megis y defnydd o ddata at ddibenion penodol, diffiniedig, a defnydd o ddata sy’n berthnasol ac nid yn ormodol wrth ymarfer cywirdeb data a diogelwch yr holl wybodaeth bersonol adnabyddadwy a gedwir.
Os cewch eich penodi’n llwyddiannus, trwy lenwi’r ffurflen gais rydych yn awdurdodi’r BIP i gael unrhyw fanylion gwasanaeth blaenorol i’r GIG yn cynnwys yr holl wybodaeth ar salwch a gedwir yn electronig, trwy’r broses Trosglwyddo Rhyng-awdurdod ar y Cofnod Staff Electronig.
I weithio yn y DU, mae angen nawdd ar bob ymgeisydd nad yw'n wladolyn o'r DU neu Weriniaeth Iwerddon i gael naill ai fisa Gweithiwr Iechyd a Gofal neu fisa Gweithiwr Medrus, oni bai bod gennych ganiatâd i weithio trwy lwybr arall. Dylai ymgeiswyr nad ydynt yn rhan o'r DU/Gweriniaeth Iwerddon sy'n dymuno gwneud cais hunanasesu'u tebygolrwydd o gael Tystysgrif Nawdd trwy ymweld â gwefan Fisâu a Mewnfudo'r DU. Os ydych chi'n gymwys i gael y fisa Iechyd a Gofal, mae'r costau ymgeisio yn is ac nid oes angen i chi dalu Gordal Iechyd Mewnfudo blynyddol.
Gofynion yr ymgeisydd
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Cymhwyster galwedigaethol lefel 4 mewn pwnc perthnasol cysylltiedig â gofal iechyd/ Tystysgrif mewn Addysg Uwch Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd
- TGAU Mathemateg a Saesneg gradd C neu uwch neu gymhwyster sgiliau hanfodol cyfatebol lefel 2 neu uwch
- Tystiolaeth o ddatblygiad personol parhaus sy'n berthnasol i'r rôl ym maes gofal iechyd
- Yn gallu amlygu dealltwriaeth o God Ymddygiad Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd, canllawiau Cymru Gyfan ar gyfer Dirprwyo, a Fframwaith Llywodraethu Ymarferwyr Cynorthwyol Band 4 Cymru Gyfan
- Gwybodaeth glinigol sy'n berthnasol i'r rôl
- Yn amlygu dealltwriaeth o bwysigrwydd dilyn gweithdrefnau a chynlluniau triniaeth
- Yn amlygu dealltwriaeth o'r deddfwriaethau sy'n berthnasol i Ddiogelu, e.e. oedolion/plant, y Ddeddf Galluedd Meddyliol, a'r Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid, er mwyn cadw oedolion sydd o dan ei ofal yn ddiogel
Meini prawf dymunol
- Gwybodaeth leol am wasanaethau statudol a gwirfoddol
- Cymhwyster addysgu neu asesu
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad blaenorol o weithio gyda phlant a/neu bobl ifanc mewn lleoliad iechyd neu ofal cymdeithasol
- Profiad o weithio ym maes gwasanaethau defnyddio sylweddau
- Profiad sylweddol a diweddar o ddarparu gofal clinigol perthnasol
- Sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu, ynghyd â'r gallu i reoli/leddfu sefyllfaoedd heriol neu fygythiol
- Adolygu asesiadau risg
Meini prawf dymunol
- Profiad o weithio gyda'r Gwasanaethau Arbenigol Iechyd Meddwl i Blant a'r Glasoed a/neu'r gwasanaethau iechyd meddwl oedolion
- Profiad mewn perthynas ag amrywiaeth o sgiliau clinigol
- Yn achos rolau cymunedol: profiad o ddarparu gofal mewn lleoliad gofal cymunedol neu ofal sylfaenol
Sgiliau iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Rozanne Joseph
- Teitl y swydd
- Interim Team Lead - S-CAMHS Substance Misuse
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
Dechrau eich cais
Mewngofnodi
Creu cyfrif
Creu eich cyfrif a gwneud cais am eich swydd newydd!