Mae Trac yn falch o bweru recriwtio ar gyfer
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Gwybodaeth
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd i boblogaeth o tua 372,320 ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro. Mae'n darparu gwasanaethau Acìwt, Sylfaenol, Cymunedol, Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu trwy Ysbytai Cyffredinol a Chymunedol, Canolfannau Iechyd, Meddygfeydd Teulu, Deintyddion, Fferyllfeydd, Optometryddion a safleoedd eraill.
Cysylltu
- Address
- Glien House
- Cillefwr Industrial Estate
- Johnstown
- Carmarthen
- Carmarthenshire
- SA31 3RB
- Contact Number
- 0300 303 6138
Ffotograffydd Clinigol / Darlunydd Meddygol
Accepting applications until: 06-Apr-2025 23:59
Statws y swydd wag: Open
Accepting applications until: 06-Apr-2025 23:59
Manylion allweddol
Lleoliad
- Gwefan
- Ysbyty Cyffredinol Glangwili
- Cyfeiriad
- Heol Dolgwili
- Tref
- Caerfyrddin
- Cod post
- SA31 2AF
- Major / Minor Region
- Sir Gaerfyrddin
Math o gontract a phatrwm gwaith
- Contract
- 12 mis (Cyfnod penodol tan 13/06/2026)
- Oriau
- Rhan-amser
- Gweithio hyblyg
Cyflog
- Cyflog
- £30,420 - £37,030 y flwyddyn pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Gradd
- (Band 5)
Arbenigedd
- Prif leoliad
- Ffotograffiaeth Glinigol
- Dyddiad y cyfweliad
- 14/04/2025
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Mae swydd hon yn Cyfnod Penodol tan 13/06/2026. Os ydych yn gyflogai i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac yn gwneud cais am secondiad i'r swydd hon, bydd angen i'ch rheolwr presennol gytuno i'r secondiad cyn i chi gyflwyno eich cais
Mae cyfle wedi dod ar gael ar gyfer Ffotograffydd Clinigol/Darlunydd Meddygol band 5 rhan-amser (22.5 awr yr wythnos), i gefnogi tîm ffotograffiaeth Ysbyty Cyffredinol Glangwili, Caerfyrddin, am gyfnod cychwynnol o 12 mis. Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig a llawn cymhelliant sydd â sgiliau trefnu, rhyngbersonol a chyfathrebu rhagorol, sy'n gallu amlygu'r gallu i weithio'n annibynnol ac fel rhan o dîm.
Bydd gofyn i chi ymgymryd â Ffotograffiaeth Feddygol gan gynnwys Dermatoleg/Teledermatoleg, Offthalmoleg (FFA), y Glust, y Trwyn a'r Gwddf (ENT), Llawfeddygaeth Gyffredinol, Meddygaeth Pediatreg/Amddiffyn Plant, Profedigaeth a Ffotograffiaeth Orthopedig, a chyfrannu at y Gwasanaeth Dylunio i'r Bwrdd Iechyd.
Advert
Rheoli eich llwyth gwaith eich hun o ddydd i ddydd i fodloni gofynion y gwasanaeth. Gwneud dyfarniadau gwerth o ran y ffotograffau cywir i'w cofnodi mewn unrhyw sefyllfa, gan ystyried gofynion cwsmeriaid ac ystod eang o faterion technegol, cyfreithiol a chymdeithasol.
Gweithio'n unol â Chod Ymddygiad Proffesiynol Sefydliad y Darlunwyr Meddygol, a dilyn polisïau lleol a gweithdrefnau gweithredu safonol.
Cynnal portffolio DPP cyfredol i fodloni gofynion Cofrestr Achrededig yr Academi Gwyddor Gofal Iechyd (AHCS).
Amlygu sgiliau proffesiynol a rheoli cleifion yn y stiwdio, y clinig, y theatrau ac ar y wardiau, gan gynnwys doethineb a diplomyddiaeth er mwyn egluro'r angen am gofnodion ffotograffig clinigol.
Ymgymryd â phrosiectau dylunio ar gyfer cyhoeddi neu argraffu digidol mewnol ac allanol.
Cyfleu gwybodaeth gymhleth i weithwyr proffesiynol a chleifion/gofalwyr ynghylch y defnydd o ddelweddau clinigol; megis lefelau caniatâd, cyfrinachedd, dosbarthu, hawlfraint, diogelwch, diogelu data a chanllawiau Caldicott, gan fod yn ymwybodol bob amser o gredoau diwylliannol a
chrefyddol. Bydd hyn yn cynnwys cyfathrebu â'r rhai nad ydynt yn siarad Saesneg a'r rhai ag anableddau dysgu.
Cynorthwyo'r Pennaeth Ffotograffiaeth i flaengynllunio, datblygu a hyrwyddo'r gwasanaeth.
Cydgysylltu o bosibl â'r Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Heddlu ynghylch ffotograffiaeth/achosion Amddiffyn Plant, NAI a POVA.
Ymgymryd â hyfforddiant gorfodol y Bwrdd Iechyd.
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 12,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu i bron 400,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
4 prif ysbyty (Bronglais, Aberystwyth, Glangwili, Caerfyrddin, Tywysog Philip, Llanelli, ac Llwynhelyg, Hwlffordd).
5 ysbyty cymunedol (Ysbyty Dyffryn Aman ac Ysbyty Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin, Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion,Ysbyty Dinbych-y-pysgod a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol De Sir Benfro yn Sir Benfro.
Dwy ganolfan gofal integredig (Aberaeron ac Aberteifi, yng Ngheredigion).
Cyfleusterau cymunedol, gan gynnwys:
48 Meddygfa, 49 Deintyddfa, 98 Fferyllfa Gymunedol, 44 Practis Offthalmig Cyffredinol (gan gynnwys gwasanaethau iechyd llygaid a golwg gwan), 38 safle yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu, gofal o fewn eich cartrefi eich hun
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Bydd disgwyl i ddeiliad y swydd ddarparu ystod o sgiliau ffotograffig i gynorthwyo â diagnosteg, atgyfeirio, rheolaeth glinigol ac addysg, a hynny wrth weithio ochr yn ochr ag amrywiaeth o dimau amlddisgyblaethol. Mae’r rhain yn cynnwys defnyddio technegau arbenigol megis teledermatoleg, delweddu offthalmig (FFA), yn ogystal â ffotograffiaeth orthopedig, llawfeddygol, profedigaeth ac amddiffyn plant, a hynny ochr yn ochr â chynhyrchu gwasanaeth ffotograffig corfforaethol a masnachol anghlinigol o ansawdd uchel ar gyfer y Bwrdd Iechyd pan fo angen.
Mae gwerthoedd y Bwrdd Iechyd yn hyrwyddo rhoi pobl wrth galon popeth a wnawn, cydweithio i fod y gorau y gallwn fod ac ymdrechu i ddarparu a datblygu gwasanaethau rhagorol.
Mae’r Adran Ffotograffiaeth Glinigol/Darlunio Meddygol yn dîm bach o staff amlsgiliau ymroddedig, wedi’i leoli ar gyrion tref farchnad hanesyddol hardd Caerfyrddin. Mae'r tîm yn gwasanaethu'r 4 prif safle dros dair sir ac yn cynnal clinigau mewn lleoliadau cymunedol gwledig/arfordirol.
Dyma ychydig o’r buddion ychwanegol sydd ar gael i chi fel cyflogai:
-Mynediad i Gynllun Pensiwn y GIG
-Parcio am ddim i staff yn ein holl ysbytai a'n safleoedd cymunedol
-Cefnogaeth i'n staff sy'n ofalwyr
-Cyfleoedd datblygu gyrfa a hyfforddiGwasanaeth Lles Emosiynol sy’n cwmpasu ystod o gymorth ar-lein a mynediad wyneb yn wyneb at wasanaethau cwnsela
-Mynediad i fwyty, siop a chyfleuster tynnu arian parod yn yr ysbytai
-Mynediad i ostyngiadau unigryw, arian yn ôl a thalebau trwy gynllun Gostyngiadau'r GIG a'r Cerdyn Golau Glas
-Mynediad i gynllun ceir cronfa
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cynhelir y cyfweliadu ar 14/04/2025
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir drwy gyfrwng y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau a wneir yn y Saesneg.
NODYN PWYSIG I YMGEISWYR: Mae ceisiadau am ein rolau yn cael eu hadolygu'n ofalus a'u rhoi ar restr fer yn seiliedig ar feini prawf penodol, sy'n amrywio o swydd i swydd. Efallai na fydd defnyddio cais generig i wneud cais am rolau lluosog neu ddibynnu ar wasanaethau ceisiadau deallusrwydd artiffisial awtomataidd, fel Lazy Apply neu AI Apply, yn darparu'r wybodaeth angenrheidiol, gan arwain at anwybyddu'ch cais. Er mwyn sicrhau bod eich cais yn cael ystyriaeth lawn, rydym yn argymell cyflwyno cais wedi'i deilwra sy'n mynd i'r afael yn uniongyrchol â'r meini prawf a restrir yn adran Manyleb y Person yr hysbyseb.
Trwy gyflwyno eich cais i NHS Jobs/Trac, rydych yn gydsynio i elfennau o ddata eich cais gael eu trosglwyddo i Gofnod Staff Electronig (ESR) y GIG a systemau diogel, mewnol Gweithlu’r GIG er mwyn cefnogi a rheoli eich recriwtio a’ch cyflogaeth o fewn y sefydliad sy’n eich cyflogi; i’w defnyddio gan yr adran Recriwtio at ddibenion gwirio eich Cofrestriad Proffesiynol ar-lein (lle bo’n briodol).
Mae’r prosesau hyn yn unol â phrosesu Teg a Chyfreithlon yn unol â Deddfwriaeth Diogelu Data cyfredol yn enwedig y rhai hynny mewn perthynas â’ch data personol neu bersonol sensitif (diffinir data personol sensitif fel unrhyw gyflwr iechyd meddwl neu gorfforol, tarddiad hiliol neu ethnig, cyfeiriadedd rhywiol, aelodaeth undeb llafur, barn wleidyddol neu gred crefyddol datganedig). Fel sefydliad, rydym yn sicrhau bod y ddeddfwriaeth sy’n diffinio cyfrinachedd yn cael ei dilyn megis y defnydd o ddata at ddibenion penodol, diffiniedig, a defnydd o ddata sy’n berthnasol ac nid yn ormodol wrth ymarfer cywirdeb data a diogelwch yr holl wybodaeth bersonol adnabyddadwy a gedwir.
Os cewch eich penodi’n llwyddiannus, trwy lenwi’r ffurflen gais rydych yn awdurdodi’r BIP i gael unrhyw fanylion gwasanaeth blaenorol i’r GIG yn cynnwys yr holl wybodaeth ar salwch a gedwir yn electronig, trwy’r broses Trosglwyddo Rhyng-awdurdod ar y Cofnod Staff Electronig.
I weithio yn y DU, mae angen nawdd ar bob ymgeisydd nad yw'n wladolyn o'r DU neu Weriniaeth Iwerddon i gael naill ai fisa Gweithiwr Iechyd a Gofal neu fisa Gweithiwr Medrus, oni bai bod gennych ganiatâd i weithio trwy lwybr arall. Dylai ymgeiswyr nad ydynt yn rhan o'r DU/Gweriniaeth Iwerddon sy'n dymuno gwneud cais hunanasesu'u tebygolrwydd o gael Tystysgrif Nawdd trwy ymweld â gwefan Fisâu a Mewnfudo'r DU. Os ydych chi'n gymwys i gael y fisa Iechyd a Gofal, mae'r costau ymgeisio yn is ac nid oes angen i chi dalu Gordal Iechyd Mewnfudo blynyddol.
Gofynion yr ymgeisydd
Manyleb y person
Cymwysterau
Meini prawf hanfodol
- BSc Anrh, Tystysgrif Ol-raddedig neu gymhwyster cyfatebol mewn Ffotograffiaeth Glinigol neu Darlunio Meddygol.
Meini prawf dymunol
- Yn meddu ar gymhwyster ol-raddedig MSc mewn Ffotograffiaeth Glinigol neu Darlunio Meddygol.
- Ffotograffydd Clinigol neu Darlunydd Meddygol cofrestredig yr Academi Gwyddor Gofal Iechyd AHCS - Cofrestr Achrededig yr Awdurdod Safonau Proffesiynol
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Amlygu profiad ol-gymhwyso mewn ffotograffiaeth glinigol.
Meini prawf dymunol
- Profiad mewn adran ysbyty prifysgol
- Profiad mewn FFA, OCT a, neu Ffoto-Dermosgopi.
sgiliau a rhinweddau
Meini prawf hanfodol
- Amlygu profiad o ffotograffiaeth ddigidol.
- Amlygu lefel dda o amgyffred cyfrifiadurol, yn enwedig o ran meddalwedd delweddu digidol a meddalwedd dylunio
- Amlygu sgiliau rheoli cleifion.
Meini prawf dymunol
- Sgiliau cipio a, neu gynhyrchu fideos a sain.
Gwybodaeth Arbennig
Meini prawf hanfodol
- Amlygu gwybodaeth am ymarfer ffotograffiaeth glinigol mewn amrywiaeth o amgylcheddau clinigol
- Amlygu creadigrwydd wrth ddehongli briffiau cleientiaid, yn glinigol ac yn anghlinigol.
- Gwybodaeth am ganiatad, hawlfraint, y Ddeddf Galluedd Meddyliol a Diogelu Data mewn perthynas a fideos a ffotograffiaeth glinigol
Meini prawf dymunol
- Amlygu peth gwybodaeth a dealltwriaeth o ran tueddiadau cyfredol yn y GIG a'r proffesiwn ffotograffiaeth glinigol
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Rachel Johnstone
- Teitl y swydd
- Head of Clinical Photography/Medical Illustration
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01267 283112
Dechrau eich cais
Mewngofnodi
Creu cyfrif
Creu eich cyfrif a gwneud cais am eich swydd newydd!