Mae Trac yn falch o bweru recriwtio ar gyfer
Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC)

Gwybodaeth
Wedi'i sefydlu ar 1 Hydref 2018, mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn Awdurdod Iechyd Arbennig sy'n eistedd ochr yn ochr â'r Byrddau Iechyd a'r Ymddiriedolaethau o fewn GIG Cymru ac sydd â rôl arweiniol mewn addysg, hyfforddiant, datblygu a siapio'r gweithlu gofal iechyd yn Cymru, er mwyn sicrhau gofal o ansawdd uchel i bobl Cymru.
Cysylltu
- Address
Darganfod rhagor
open_in_new SwyddiUwch Nyrs Arweiniol Endosgopi Academi Endosgopi Cymru
Accepting applications until: 27-Apr-2025 23:59
Statws y swydd wag: Open
Accepting applications until: 27-Apr-2025 23:59
Manylion allweddol
Lleoliad
- Gwefan
- Addysg a Gwella Iechyd Cymru
- Cyfeiriad
- Ty Dysgu
- Tref
- Nantgarw
- Cod post
- CF15 7QQ
- Major / Minor Region
- Caerdydd
Math o gontract a phatrwm gwaith
- Contract
- Secondiad: 2 flynedd (Yn unol â'r cyllid sydd ar gael)
- Oriau
- Rhan-amser
- Gweithio hyblyg
Cyflog
- Cyflog
- £54,550 - £61,412 Y Flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Gradd
- (Gradd 8a)
Arbenigedd
- Prif leoliad
- Endosgopi
Trosolwg o'r swydd
Rydym yn awyddus i benodi Uwch Nyrs Arweiniol Endosgopi profiadol ar gyfer Academi Endosgopi Cymru. Bydd y rôl yn cynnwys gweithio gyda’r Arweinydd Clinigol a’r Dirprwy Arweinydd i wneud cyfraniad canolog at ddatblygu a darparu rhaglenni hyfforddi o ansawdd uchel ar gyfer gweithlu Endosgopi GIG Cymru. Byddant hefyd yn arwain staff cymorth yr Academi Endosgopi. Mae’r swydd hon yn gyfle unigryw i rywun sydd â phrofiad o weithio ym maes endosgopi, ac sydd â gwybodaeth a phrofiad o ddysgu ac addysg seiliedig ar waith, i lunio dyfodol hyfforddiant endosgopi yng Nghymru. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus hefyd yn gweithio ochr yn ochr â'r Arweinydd Endosgopi Clinigol.
Mae'r swydd hon yn cael ei chynnig fel cyfle secondiad yn unig. Os dymunwch wneud cais, rhaid i chi gael cymeradwyaeth eich rheolwr llinell cyn ymgeisio. Mae’r swydd hon am gyfnod secondiad penodol ond gellir ei hymestyn neu ei gwneud yn barhaol ar ddiwedd y cyfnod secondiad yn dibynnu ar y cyllid sydd ar gael a’r gofynion busnes.
Advert
Bydd yr Uwch Nyrs Arweiniol Endosgopi yn ganolog i gyflwyno’r rhaglen hyfforddi Endosgopi ar gyfer gweithlu Endosgopi GIG Cymru. Byddant yn datblygu, yn cyflwyno ac yn gwerthuso cyrsiau ar gyfer nyrsys, gweithwyr cymorth gofal iechyd, arweinwyr, rheolwyr a staff gweinyddol. Gan weithio fel rhan o dîm arwain yr Academi ac arwain tîm o staff cymorth, byddant yn datblygu ac yn mireinio llywodraethu’r Academi, yn sicrhau ansawdd gwaith yr Academi, ac yn cefnogi’r gwaith o ddarparu addysg a hyfforddiant o ansawdd uchel ledled Cymru. Bydd y cymorth hwn yn cynnwys elfen logistaidd a gweithredol a bydd yn cynnwys teithio i safleoedd ledled Cymru. Byddant yn sicrhau bod yr Academi Endosgopi yn gweithredu o fewn strwythur rhaglen effeithiol, llywodraethu a system fonitro.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael y cyfle i gynrychioli Academi Endosgopi Cymru mewn fforymau cenedlaethol, rheoli perthnasoedd â rhanddeiliaid a chyfathrebu’n effeithiol ag amrywiaeth o bartneriaid. Byddant hefyd yn cynrychioli’r Academi mewn grwpiau perthnasol ac yn cysylltu ag academïau endosgopi eraill a Chymdeithas Gastroenteroleg Prydain, gan gynnal statws achredu JAG ar gyfer yr academi trwy gyflwyno allbwn, adborth, a dadansoddi effaith.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Mae croeso cydradd i siaradwyr Cymraeg a Saesneg ymgeisio.
Gweithio i'n sefydliad
Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yw'r corff gweithlu strategol ar gyfer GIG Cymru sydd â swyddogaethau statudol sy'n cynnwys addysg a hyfforddiant, cynllunio'r gweithlu, datblygu a thrawsnewid y gweithlu, arweinyddiaeth a chynllunio olyniaeth, a gyrfaoedd. Ein diben yw datblygu gweithlu sy'n darparu gofal rhagorol i gleifion/defnyddwyr gwasanaethau ac iechyd rhagorol yn y boblogaeth. Rydym yn Awdurdod Iechyd Arbennig sy'n gweithio'n agos gyda'n partneriaid; Gofal Cymdeithasol Cymru, darparwyr addysg, cyrff proffesiynol a rheoleiddiol a Llywodraeth Cymru.
Mae AaGIC wedi ymrwymo i ddatblygu diwylliant mewnol o ddewis. Mae ein Gwerthoedd yn adlewyrchu ein meddyliau, ein teimladau a'n credoau o ran sut y byddwn, ac na fyddwn, yn ymddwyn ac yn trin eraill:
- Parch i Bawb ym mhob cyswllt sydd gennym ag eraill,
- Syniadau sy'n Gwella: Harneisio creadigrwydd ac arloesi, gwerthuso a gwella'n barhaus,
- Gyda'n Gilydd fel Tîm
Derbyniodd AaGIC Wobr HPMA ar gyfer Ymgysylltu â Gweithwyr yn 2019.
Yr hyn y gallwch ei ddisgwyl:
- cyfnod ymsefydlu corfforaethol ag amserlen Croeso 90 diwrnod,
- arweinyddiaeth dosturiol,
- proses arfarnu perfformiad ystyrlon sy'n seiliedig ar werthoedd,
- y cyfle i effeithio ar wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a bywydau a lles pobl Cymru.
Mae llawer o'n cydweithwyr a'n rhanddeiliaid wedi gwneud sylwadau ar y cyffro a'r awyrgylch a olygwn drwy gydweithio fel "Un Tîm AaGIC". Ydych chi am ymuno â'r tîm hwnnw?
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gallwch ddod o hyd i Swydd Ddisgrifiad llawn a Manyleb y Person ynghlwm yn y dogfennau ategol neu gallwch glicio “Ymgeisio nawr” i'w gweld drwy gyfrwng Trac.
Mae’r swydd hon am secondiad am 2 blwyddyn otherwydd cyllido.
Os oes diddordeb gyda chi mewn ceiso am swydd secondiad, mae’n rhaid I chi gael caniatad eich rheolwer llinell presennol cyn I chi geisio am y swydd hon.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.
Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau
Mae'n hanfodol bod eich cais yn dangos sut rydych chi'n cwrdd â'r disgrifiad swydd / manyleb person ar gyfer y swydd hon.
Rydym wedi ymrwymo i hyrwyddo cynhwysiant yn AaGIC ac rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb sy'n cydnabod y gwerth y mae amrywiaeth yn ei roi i'n gweithlu. I weithio yn y DU, mae angen i ymgeiswyr nad ydynt yn ddinasyddion y DU neu Weriniaeth Iwerddon (ROI) gael eu noddi trwy Fisa Gweithiwr Medrus, oni bai bod ganddynt ganiatâd i weithio trwy lwybr arall. Sylwch nad oes gan AaGIC drwydded ar hyn o bryd i benodi gweithwyr medrus o dramor drwy eu noddi i weithio yn y DU. Os byddant yn llwyddiannus, byddai ymgeiswyr o'r tu allan i'r DU neu ROI yn gyfrifol am gael eu nawdd neu fisa eu hunain i'w galluogi i weithio i AaGIC - Gweithio yn y DU - Work in the UK
Gofynion yr ymgeisydd
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Wedi derbyn addysg at lefel Gradd Meistr neu brofiad cyfatebol
- Cofrestriad cyfredol gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth
- Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus.
- Profiad o ddarparu addysg a hyfforddiant.
- Cymhwyster neu brofiad arwain.
- Gwybodaeth am bolisïau iechyd a gofal cymdeithasol cyfredol.
- Gwybodaeth am Ddyletswydd Ansawdd a safonau a phrosesau rheoleiddio gofal iechyd.
- Hyfforddiant achrededig JAG Yr Hyfforddwr, JETS Workforce ENDO 1, ENDO 2, hyfforddwr ENDO 3
Meini prawf dymunol
- Cymhwyster rheoli prosiect , PRINCE2, MSP neu brofiad cyfatebol
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad amlwg o weithio yn yr amgylchedd Endosgopi/gastroenteroleg ar Fand 7 neu uwch
- Profiad o reoli amodau triniaeth Endosgopig cymhleth.
- Profiad o addysgu a darparu cynnwys ar gyfer rhaglenni hyfforddi gydag ymagwedd gyfunol at ddysgu mewn amgylcheddau clinigol/anghlinigol.
- Profiad o oruchwylio ac asesu ymarfer mewn amgylchedd ymarfer rhyngbroffesiynol.
- Dealltwriaeth o ofynion a phrosesau JAG
- Profiad o ddatblygu polisïau a gweithdrefnau
- Profiad o arwain a datblygu staff
- Profiad o weithio'n effeithiol gyda rhanddeiliaid
- Profiad o reoli tîm yn llwyddiannus
- Y wybodaeth ddiweddaraf am yr opsiynau gastroenteroleg a thriniaeth a gynigir o fewn GIG Cymru
Meini prawf dymunol
- Gwybodaeth/profiad o ddatblygu a chomisiynu addysg.
- Gwybodaeth/profiad o wasanaethau caffael.
- Gwybodaeth am bolisïau addysg yng Nghymru a'r DU.
- Tystiolaeth o gyflwyno canfyddiadau ymchwil neu archwilio ar lefel ranbarthol neu genedlaethol, neu o gyhoeddiadau.
- Profiad o reoli a llywio rhaglenni a phrosiectau llwyddiannus ar lefel uwch
Arall
Meini prawf hanfodol
- Dealltwriaeth dda o brosesau llywodraethu.
- Dangos ymwybyddiaeth o bolisi cyfredol y GIG a materion gweithredol
- Rhaid bod yn ymrwymedig i gefnogi gwerthoedd AaGIC
- Y gallu i deithio o fewn a thu allan i Gymru
Meini prawf dymunol
- Gallu gweithio oriau hyblyg.
Sgiliau a Phriodoleddau
Meini prawf hanfodol
- Sgiliau arwain a threfnu rhagorol
- Sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu effeithiol.
- Dull strategol a dadansoddol o feddwl gyda sgiliau diagnostig a sgiliau datrys problemau.
- Sgiliau dylanwadu a thrafod rhagorol
- Gallu cryf i ysgrifennu papurau briffio a phapurau lefel uchel o safon i uwch reolwyr a phwyllgorau
- Y gallu i dderbyn gwybodaeth gymhleth
- Sgiliau cyflwyno rhagorol i gyflwyno ystod o gysyniadau a dadansoddiadau i uwch reolwyr, cyfarwyddwyr, uwch glinigwyr a gweithwyr proffesiynol yn y gymuned iechyd ehangach. Rhaid gallu rheoli lefelau amrywiol o ddealltwriaeth
- Y gallu i gynhyrchu gwaith o ansawdd rhagorol i derfynau amser tynn ac anodd
- Y gallu i weithio ar draws ffiniau sefydliadol.
- Y gallu i ddatblygu perthnasoedd effeithiol ar bob lefel
- Rheoli amser yn dda, blaenoriaethu ac effeithlonrwydd
- Sgiliau Ymchwil
- Y gallu i ddefnyddio pecyn meddalwedd Microsoft Office i lefel ddigon uchel i gefnogi cynhyrchu adroddiadau / cyflwyniadau sy'n aml yn gofyn am gyfathrebu gwybodaeth gymhleth gan gynnwys i gynulleidfaoedd nad ydynt yn arbenigwyr
Meini prawf dymunol
- Mae Sgiliau Iaith Gymraeg yn ddymunol ar lefelau 1 i 5 o ran deall, siarad, darllen, ac ysgrifennu yn y Gymraeg
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Neil Hawkes
- Teitl y swydd
- Endoscopy Academy of Wales Clinical Lead
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
Dechrau eich cais
Mewngofnodi
Creu cyfrif
Creu eich cyfrif a gwneud cais am eich swydd newydd!