Mae Trac yn falch o bweru recriwtio ar gyfer
Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru

Gwybodaeth
Croeso i Iechyd Cyhoeddus Cymru - asiantaeth iechyd cyhoeddus genedlaethol Cymru. Rydym yn bodoli i ddiogelu a gwella iechyd a llesiant a lleihau anghydraddoldebau iechyd i bobl yng Nghymru.
I gael gwybod mwy ewch i Iechyd Cyhoeddus Cymru a gwyliwch y fideo hwn am ein Cynllun Strategol
Dilynwch ni ar Twitter, Facebook, Linkedin a Instagram
Gweithio gyda'n gilydd, gydag ymddiriedaeth a pharch, i wneud gwahaniaeth
Ein diben yw ‘gweithio gyda'n gilydd ar gyfer Cymru iachach'. Rydym yn bodoli i helpu pawb yng Nghymru i fyw bywydau hirach, iachach. Gyda'n partneriaid, ein nod yw cynyddu disgwyliad oes iach, gwella iechyd a llesiant, a lleihau anghydraddoldebau i bawb yng Nghymru, nawr ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Gyda'i gilydd, mae ein timau'n gweithio i atal clefyd, diogelu iechyd, a darparu arweinyddiaeth, gwasanaethau arbenigol ac arbenigedd iechyd cyhoeddus. Ni yw'r brif ffynhonnell o wybodaeth, ymchwil ac arloesedd iechyd cyhoeddus yng Nghymru.
Cysylltu
- Address
- No.2 Capital Quarter
- Tyndall Street
- Cardiff
- CF10 4BZ
- Contact Number
- 02921 500200
Pennaeth Dadansoddi Ariannol – Cynllunio a Chyflawni Ariannol
Accepting applications until: 13-Apr-2025 23:59
Statws y swydd wag: Open
Accepting applications until: 13-Apr-2025 23:59
Manylion allweddol
Lleoliad
- Gwefan
- Parc Bocam
- Cyfeiriad
- Parc Bocam, Pencoed
- Tref
- PEN-Y-BONT AR OGWR
- Cod post
- CF35 5LJ
- Major / Minor Region
- Caerdydd
Math o gontract a phatrwm gwaith
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
Cyflog
- Cyflog
- £54,550 - £61,412 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Gradd
- (Band 8a)
Arbenigedd
- Prif leoliad
- Timau Dadansoddi
- Dyddiad y cyfweliad
- 24/04/2025
Croeso i Weithrediaeth GIG Cymru, swyddogaeth gymorth genedlaethol newydd, yn weithredol o 1 Ebrill 2023
Ein pwrpas allweddol yw...
Ysgogi gwelliannau yn ansawdd a diogelwch gofal - gan arwain at ganlyniadau gwell a thecach, mynediad a phrofiad y claf, llai o amrywiad, a gwelliannau yn iechyd y boblogaeth.
I gael gwybod mwy, ewch i Weithrediaeth GIG Cymru.
Ein Gwerthoedd
Gweithio gyda'n gilydd, gydag ymddiriedaeth a pharch, i wneud gwahaniaeth
Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg. I gefnogi ein gwasanaeth i Gymru gyfan, croesawn yn fawr ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Trosolwg o'r swydd
Sefydlwyd y Gyfarwyddiaeth Cynllunio a Chyflawni Ariannol (“y Gyfarwyddiaeth”) i ddarparu cymorth proffesiynol er mwyn i Lywodraeth Cymru ymateb a mynd i’r afael â’r heriau ariannol sy’n wynebu GIG Cymru. Mae'r Gyfarwyddiaeth yn gweithredu ledled Cymru ac yn cefnogi holl sefydliadau GIG Cymru yn ôl yr angen. Mae hyn yn cynnwys:
· Monitro a rheoli risg ariannol yn GIG Cymru, gan ymateb yn gyflym pan fo sefydliadau'n dangos arwyddion o bryder ariannol.
· Cefnogi'r gwaith o ddatblygu a chyflawni cynlluniau ariannol ac adnoddau cadarn yn ystod y flwyddyn a’r tymor canolig.
· Hybu'r agenda effeithlonrwydd ar gyfer GIG Cymru, gan weithio gyda sefydliadau GIG Cymru i sicrhau'r canlyniadau gorau posibl o gyfleoedd effeithlonrwydd.
· Datblygu Canolfan Ragoriaeth ar gyfer Gwybodaeth a Deallusrwydd Ariannol, sy'n ymwneud â chostio, meincnodi, dyrannu a defnyddio adnoddau, er mwyn helpu i ysgogi gwelliannau ar effeithlonrwydd technegol a dyrannu ar draws GIG Cymru.
· Arwain ymchwil a nodi arferion gorau o ran rheolaeth ariannol a mabwysiadu arferion a thystiolaeth y profwyd eu bod yn gweithio yn gyflym mewn ffordd gyson a chynhwysfawr ledled Cymru. Mae hyn yn cynnwys dulliau arferion gorau, methodoleg, defnyddio a gwreiddio.
• Cefnogi datblygiad Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth o fewn GIG Cymru yn ôl yr angen.
Advert
Mae'r rôl hon wrth wraidd y Gyfarwyddiaeth ac, mewn partneriaeth â’r Pennaeth Gwyddor Data, mae'n gweithio i greu canolfan ragoriaeth gydnabyddedig ar gyfer dadansoddi ariannol a gwyddor data. Lle, mewn termau lleyg, bydd y Tîm Gwyddor Data yn echdynnu ac yn cysylltu data â chynhyrchion y gellir eu defnyddio, y bydd y Tîm Dadansoddi Ariannol wedyn yn eu defnyddio i gefnogi holl anghenion gwybodaeth arferol ac ad hoc y Gyfarwyddiaeth.
Byddwch yn gyfrifydd cymwysedig sydd am gymryd rôl reoli mewn dadansoddeg ariannol ac yn frwdfrydig dros wneud gwahaniaeth trwy ddefnydd ymarferol o ddata a dadansoddi o ansawdd uchel. Bydd gennych brofiad amlwg o ddarparu allbynnau a chynhyrchion o ansawdd uchel ar gyfer ystod o wahanol randdeiliaid a byddwch yn fedrus wrth reoli rhaglen waith, gan gynnwys dyrannu gwaith a rheoli terfynau amser. Os ydych chi'n unigolyn brwdfrydig iawn ac yn awyddus i ddysgu am y GIG ar lefel genedlaethol, hoffem glywed gennych.
Gweithio i'n sefydliad
Mae Gweithrediaeth y GIG yn gweithio mewn partneriaeth ar gyfer Llywodraeth Cymru yn a chyda GIG Cymru ac mae’n cael ei lletya gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Ein prif bwrpas yw ysgogi gwelliannau o ran ansawdd a diogelwch gofal - gan arwain at ganlyniadau, mynediad a phrofiad gwell a thecach i’r claf gyda llai o amrywiad, a gwelliannau o ran iechyd y boblogaeth.
Gwnawn hyn drwy ddarparu arweinyddiaeth a chyfeiriad strategol cryf – gan alluogi, cefnogi a chyfarwyddo GIG Cymru i drawsnewid gwasanaethau clinigol yn unol â blaenoriaethau a safonau cenedlaethol.
I ddarganfod mwy am weithio i ni a'r buddion rydym yn eu cynnig, ewch i Gyrfaoedd - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)
I gael arweiniad ar y broses ymgeisio, ewch i Gwybodaeth a Chanllawiau i Ymgeiswyr - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
- Cyflwyno dadansoddiadau sy'n sylfaen greiddiol i waith y Gyfarwyddiaeth, trwy gyfuno a dadansoddi data sy'n cynnwys adroddiadau monitro misol, cynlluniau ariannol blynyddol a chynlluniau tymor canolig integredig.
- Cefnogi ein rhanddeiliaid mewnol ac allanol ar sail ad hoc i gysylltu dadansoddiad ariannol â data arall sy’n cefnogi monitro, cynllunio a gwneud penderfyniadau strategol a gweithredol.
- Bydd hyn yn cynnwys cefnogi’r gwaith parhaus o gynnal a datblygu ystorfa Cymru gyfan ar gyfer cynhyrchion dadansoddol sy’n cynnwys data ariannol, perfformiad a meincnodi hynod gymhleth.
- Bydd deiliad y swydd yn cyfarwyddo ac yn arwain y gwaith hwn drwy dîm bach o ddadansoddwyr busnes, a bydd yn arbenigwr pwnc o ran defnyddio a dehongli data o fewn y Gyfarwyddiaeth Cynllunio a Chyflawni Ariannol.
- Darparu arweinyddiaeth ac arbenigedd yn y pynciau hyn sydd wedyn yn cefnogi addysg a datblygiad eraill, gan gynnwys cyflwyno data cymhleth mewn ffordd hygyrch, i sicrhau bod allbynnau’n cael eu deall yn ddigonol a’u defnyddio’n briodol.
- Fel rhan o’r Uwch Dîm, bydd gofyn i ddeiliad y swydd gyfrannu at ddatblygiad, rheolaeth a llwyddiant y Gyfarwyddiaeth gyfan.
Fe welwch Swydd-ddisgrifiad a Manyleb Person llawn ynghlwm gyda’r dogfennau ategol neu cliciwch ar “Ymgeisio Nawr” i’w gweld yn Trac.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
I gael rhagor o fanylion cysylltwch â: Jessica>[email protected]
Mae gan Gweithrediaeth GIG Cymru yr hawl i gau’r swydd wag hon yn gynnar. Felly rydym yn annog ceisiadau cynnar.
Rhoddir blaenoriaeth i staff sy’n aros i gael eu hadleoli. Rydym yn cadw’r hawl felly i dynnu’r hysbyseb hon yn ôl ar unrhyw adeg.
Os oes gennych anabledd a bod gennych unrhyw anghenion penodol i'ch galluogi i gymryd rhan yn y broses ymgeisio, cysylltwch â [email protected]
Os byddwch yn llwyddiannus ac os cewch eich dewis ar gyfer y rhestr fer am gyfweliad, cysylltir â chi ar e-bost gan ddefnyddio’r cyfeiriad a ddefnyddiwyd gennych i gofrestru. Sicrhewch eich bod yn edrych ar eich cyfrif e-bost yn rheolaidd.
Rydym wedi ymrwymo i recriwtio teg a thryloyw ac rydym yn credu mewn cyfle cyfartal yn ein gweithle. Ni fyddwn yn goddef gwahaniaethu ar sail oedran, anabledd, hunaniaeth rywiol, crefydd neu gred, hil neu genedligrwydd, priodas neu bartneriaeth sifil, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, patrwm gwaith, cyfrifoldebau gofalu, gweithgarwch gydag undebau llafur neu gredoau gwleidyddol – nac ar unrhyw sail arall. Croesawn geisiadau gan unigolion a ddymunent weithio’n rhan-amser neu wneud cais i rannu swydd.
I weithio yn y DU, mae angen nawdd ar bob ymgeisydd nad yw'n wladolyn o'r DU neu Weriniaeth Iwerddon i gael naill ai fisa Gweithiwr Iechyd a Gofal neu fisa Gweithiwr Medrus, oni bai bod gennych ganiatâd i weithio trwy lwybr arall. Dylai ymgeiswyr nad ydynt yn rhan o'r DU/Gweriniaeth Iwerddon sy'n dymuno gwneud cais hunanasesu'u tebygolrwydd o gael Tystysgrif Nawdd trwy ymweld â gwefan Fisâu a Mewnfudo'r DU. Os ydych chi'n gymwys i gael y fisa Iechyd a Gofal, mae'r costau ymgeisio yn is ac nid oes angen i chi dalu Gordal Iechyd Mewnfudo blynyddol.
Mae'r raddfa gyflog a ddangosir ar gyfer aelod o staff llawn amser, a chaiff y swm ei addasu pro rata ar gyfer y rhai sy'n gweithio llai na 37.5 awr yr wythnos.
Gellir gweld Graddfeydd Cyflog GIG Cymru yma.
Yn gyffredinol, bydd unrhyw un sy'n ymuno â'n sefydliad nad yw wedi gweithio yn y GIG o'r blaen, yn cychwyn ar bwynt cyntaf y band tâl a hysbysebir yn awtomatig. Yna bydd datblygiad cyflog yn cael ei bennu gan Adolygiadau Perfformiad a Datblygu blynyddol yn unol â Pholisi Datblygiad Cyflog GIG Cymru. Gellir ystyried cais am Gredyd Cynyddol, ond dim ond ar sail gwasanaeth cyfrifadwy â thystiolaeth a/neu brofiad cyfatebol, perthnasol y gellir ei ddyfarnu.
Gofynion yr ymgeisydd
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- • Cyfrifydd cymwys gydag ardystiad CCAB/CIMA
- • Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol/personol parhaus
Meini prawf dymunol
- • Cymhwyster rheoli rhaglenni neu brosiectau neu brofiad cyfatebol e.e. PRINCE 2
Profiad
Meini prawf hanfodol
- • Profiad amlwg o ddeall setiau data ariannol cymhleth a ffynonellau data eraill, sy’n cynnwys ansawdd a dibynadwyedd y data e.e. datganiadau monitro misol, cynlluniau ariannol ac achosion busnes
- • Profiad amlwg o driongli data ariannol gyda ffynonellau eraill yn cynnwys data gweithlu a data gweithgarwch
- • Profiad amlwg o arwain y gwaith o roi newidiadau proses llwyddiannus ar waith
- • Profiad o weithredu fel arbenigwr arweiniol mewn datblygu a chynhyrchu cynhyrchion neu allbynnau
- • Profiad sylweddol o weithio gyda grwpiau proffesiynol a rheoli uwch amrywiol ar draws amrywiaeth o sefydliadau a disgyblaethau proffesiynol
- • Profiad o ddatblygu a gweithredu prosiectau sy'n ymwneud â thystiolaeth
- • Gallu profedig i feithrin perthnasoedd â rhanddeiliaid i ddeall a darparu gofynion gwasanaeth
- • Gallu profedig o weithio ar y cyd
- • Profiad o drin a chyfathrebu gwybodaeth sensitif a chyfrinachol i randdeiliaid mewnol ac allanol ar bob lefel
Meini prawf dymunol
- • Profiad o weithio gyda sefydliadau partner allweddol, yn enwedig Llywodraeth Cymru, Iechyd a Gofal Digidol Cymru (IGDC) (Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru (NWIS) gynt), Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru (WHSSC) a Byrddau Iechyd y GIG, yn ogystal â sefydliadau y tu hwnt i Gymru
Sgiliau a Phriodoleddau
Meini prawf hanfodol
- • Yn gallu deall a dehongli gofynion defnyddwyr a’u datblygu i lunio gwybodaeth ystyrlon trwy ddefnyddio technegau priodol, yn cynnwys delweddu data.
- • Yn gallu adolygu a dehongli gwybodaeth gymhleth (ansoddol a meintiol) a chyfleu negeseuon a chyngor allweddol cryno i gynulleidfa uwch.
- • Sgiliau cyfathrebu cryf a'r gallu i reoli nifer o randdeiliaid allweddol.
- • Sgiliau uwch mewn Microsoft Excel
- • Yn gallu gweithio'n annibynnol trwy ddefnyddio eich menter eich hun, adolygiadau tystiolaeth ac ymchwil i ddyfeisio datrysiadau lle nad oes cynsail.
- • Sgiliau cyfathrebu ar lafar cryf i egluro dadansoddeg gymhleth (ariannol ac anariannol) i amrywiaeth o randdeiliaid, sydd yn aml yn cynnwys uwch staff nad ydynt yn ymwneud â’r maes cyllid.
- • Dealltwriaeth glir o gynllunio a rheoli prosiectau, yn cynnwys monitro a gwerthuso prosiectau
- • Yn gallu ysbrydoli ac ysgogi pobl eraill i gymryd rhan mewn prosiect
- • Tystiolaeth o'r gallu i ddefnyddio sgiliau rhwydweithio i drafod a sicrhau cydweithrediad gan gydweithwyr a rhanddeiliaid o sefydliadau eraill. Profiad o sut i gynnal a gwella ansawdd y gwasanaeth trwy fonitro, gwerthuso a gwella
- • Gallu profedig i drosi gwybodaeth yn effeithiol er mwyn dylanwadu ar arfer
- • Yn gallu aml-dasgio mewn amgylchedd cyfnewidiol
- • Yn gallu blaenoriaethu, cynllunio a rheoli ei lwyth gwaith ei hun
- • Sgiliau cyfathrebu a chyflwyno rhagorol a thystiolaeth o weithio ar y cyd â chlinigwyr ac uwch randdeiliaid eraill
- • Sgiliau rheoli gwybodaeth
- • Rheolaeth gyllidebol
- • Sgiliau bysellfwrdd a TG ar gyfer meddalwedd swyddfa gyffredin
Meini prawf dymunol
- • Yn gallu siarad Cymraeg neu barodrwydd i ddysgu’r iaith
- • Yn gallu cyflawni newid drwy sgiliau ymgysylltu, trafod a pherswadio
- • Sgiliau mewn Power BI a PowerPoint
Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- • Arbenigwr pwnc ar faterion yn ymwneud â defnyddio a dehongli data, yn cynnwys defnyddio meddalwedd gwybodaeth busnes
- • Gwybodaeth ymarferol a damcaniaethol helaeth am arferion ariannol y GIG a’r heriau ariannol sy’n wynebu’r sefydliad.
- • Sgiliau a phrofiad arbenigol o ddadansoddi gwybodaeth ystadegol a thueddiadau. Yn gallu gwneud cyfrifiadau a chysoniadau hynod gymhleth o amrywiaeth o ffynonellau data, mawr a bach
- • Lefel uchel o ymwybyddiaeth o ffynonellau gwybodaeth berthnasol
- • Arbenigwr mewn materion syntheseiddio tystiolaeth perthnasol a gwybodaeth eang am dechnegau delweddu data
- • Dealltwriaeth dda o ofal iechyd sy'n seiliedig ar werth a'r rôl y gall data a dadansoddeg ei chwarae wrth gefnogi gweithrediad polisi cenedlaethol
- • Meddu ar yr wybodaeth ddiweddaraf am strategaethau a pholisïau cyllid cyfredol y GIG megis Costau Cyfeirio'r GIG, Costau Lefel Cleifion a Rhaglen Trawsnewid Costau NHS Improvement.
Meini prawf dymunol
- • Dealltwriaeth o broses a chynnwys ffurflenni costau Cymru.
- • Deall y cyd-destun amgylcheddol a “gwleidyddol” y mae cyfundrefn Gyllid y GIG yn gweithio ynddo.
- • Dealltwriaeth o benderfynyddion iechyd ac anghydraddoldebau iechyd
- • Gwybodaeth am feddalwedd Rheoli Prosiectau
Rhinweddau Personol (Y gellir eu dangos)
Meini prawf hanfodol
- • Yn gallu defnyddio meddwl creadigol i ddatblygu a gweithredu datrysiadau effeithiol i broblemau cymhleth
- • Yn gallu dylanwadu’n gadarnhaol ar weithredoedd pobl eraill
- • Yn gallu arwain y gwaith o reoli tîm o ddydd i ddydd, yn cynnwys cynllunio llwyth gwaith, blaenoriaethu a chydgysylltu, a sicrhau bod yr holl allbynnau o ansawdd uchel ac yn rhoi mewnwelediad i randdeiliaid allweddol
- • Yn gallu cyfathrebu a lledaenu gwybodaeth yn effeithiol i randdeiliaid/partneriaid ar bob lefel.
- • Hynod ymroddedig ac yn gallu cymell ei hun
- • Yn egniol, yn wydn ac ymroddedig
- • Ysgogydd
- • Yn gweithio’n dda mewn tîm
- • Gallu profedig i weithio i derfynau amser tynn ac o dan bwysau
Arall
Meini prawf hanfodol
- • Yn gallu teithio i leoliadau ledled Cymru
Dogfennau
- Job Description & Person Specification (PDF, 253.0KB)
- Pennaeth Dadansoddi Ariannol – Cynllunio a Chyflawni Ariannol (PDF, 246.6KB)
- Occupational Health FRF (PDF, 656.5KB)
- Welsh Language Requirements (PDF, 704.3KB)
- Hyderus o Ran Anabledd Arweinydd (PDF, 180.8KB)
- Canllawiau ar gyfer Ymgeiswyr (PDF, 278.7KB)
- Ein Rhwydweithiau Amrywiaeth (PDF, 330.6KB)
- Gwasanaethau Recriwtio Hysbysiad Preifatrwydd (PDF, 696.3KB)
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Jess Hammond
- Teitl y swydd
- Business Support Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
Dechrau eich cais
Mewngofnodi
Creu cyfrif
Creu eich cyfrif a gwneud cais am eich swydd newydd!