Mae Trac yn falch o bweru recriwtio ar gyfer
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Gwybodaeth
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd i boblogaeth o tua 372,320 ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro. Mae'n darparu gwasanaethau Acìwt, Sylfaenol, Cymunedol, Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu trwy Ysbytai Cyffredinol a Chymunedol, Canolfannau Iechyd, Meddygfeydd Teulu, Deintyddion, Fferyllfeydd, Optometryddion a safleoedd eraill.
Cysylltu
- Address
- Glien House
- Cillefwr Industrial Estate
- Johnstown
- Carmarthen
- Carmarthenshire
- SA31 3RB
- Contact Number
- 0300 303 6138
Uwch-fferyllydd
Accepting applications until: 14-May-2025 23:59
Statws y swydd wag: Open
Accepting applications until: 14-May-2025 23:59
Manylion allweddol
Lleoliad
- Gwefan
- Ysbyty Cyffredinol Bronglais
- Cyfeiriad
- Heol Caradoc
- Tref
- Aberystwyth
- Cod post
- SY23 1ER
- Major / Minor Region
- Sir Gaerfyrddin
Math o gontract a phatrwm gwaith
- Contract
- Parhaol: Bydd swydd amser llawn ond yn cael ei ystyried yn rhan-amser ac oriau rhannu swyddi
- Oriau
- Llawnamser
- Rhan-amser
- Rhannu swydd
Cyflog
- Cyflog
- £54,550 - £61,412 y flwyddyn (pro rata os rhan amser)
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Gradd
- (Gradd 8a)
Arbenigedd
- Prif leoliad
- Rheoli Meddyginiaethau
- Dyddiad y cyfweliad
- 22/05/2025
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.
Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau.
Trosolwg o'r swydd
Mae cyfle cyffrous a heriol wedi dod ar gael i fferyllydd clinigol uwch arloesol ac ysbrydoledig arwain addysg a hyfforddiant i’r adran fferylliaeth, gan weithio’n agos gyda’r prif dechnegydd. Byddwch yn cydlynu'r gwaith o oruchwylio a hyfforddi myfyrwyr fferylliaeth
israddedig, a fferyllwyr sylfaen ac ôl-sylfaen, a byddwch yn cael y cyfle yn ogystal i arbenigo mewn maes clinigol arall.
Mae Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Ysbyty Cyffredinol Dosbarth a chanddo tua 130 o welyau, ac mae wedi'i leoli yn nhref glan môr Aberystwyth. Mae'r Adran Fferylliaeth yn cyflogi tua 30 o aelodau staff. Mae’n darparu ystod o arbenigeddau meddygol, gan gynnwys uned gofal coronaidd acíwt, a gwasanaethau anadlol, oncoleg, hematoleg, gastroenteroleg, endocrinoleg, strôc acíwt, pediatreg, mamolaeth, llawfeddygaeth gyffredinol ac orthopedeg, yn ogystal ag uned penderfyniadau clinigol brysur ac adran achosion brys.
Mae'n rhaid i chi feddu ar radd Meistr mewn Fferylliaeth neu gymhwyster cyfatebol, ynghyd â chofrestriad gyda'r Cyngor Fferyllol Cyffredinol, a byddwch wedi cwblhau diploma ôl-raddedig mewn fferylliaeth glinigol neu gymwysterau cyfatebol, neu bydd gennych brofiad cyfatebol.
Bydd disgwyl i chi ymgymryd ag Ymrwymiad i Ddyletswydd Frys (ar alwad), a gweithio ar benwythnosau a gwyliau banc yn rhan o rota.
Mae'r swydd yn un lawn-amser, ond rhoddir ystyriaeth i geisiadau am waith rhan-amser a rhannu swydd.
Advert
Yn rôl fferyllydd uwch byddwch yn gyfrifol am gydlynu a darparu gwasanaeth fferylliaeth glinigol sy'n canolbwyntio ar y claf, gan weithio o fewn arbenigedd i ddatblygu rôl y fferyllydd; er enghraifft, yn rôl presgripsiynydd annibynnol mewn clinigau dan arweiniad fferyllwyr, gyda'r tîm amlddisgyblaethol, monitro gwariant ariannol, ac ymgymryd â gwaith ymchwil a phrosiectau gwella gwasanaethau. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus hefyd yn cyflenwi yn y fferyllfa ac yn cynnal gwiriadau clinigol o bresgripsiynau hematoleg ac oncoleg.
Byddwch yn rhan o'n tîm fferylliaeth cyfeillgar a brwd, a byddwch yn cyfrannu at y broses o optimeiddio meddyginiaethau, gan ymdrechu am ragoriaeth. Byddwch yn darparu gwasanaeth arbenigol a phroffesiynol i'n galluogi i sicrhau gofal a diogelwch uchel eu safon i gleifion.
Bydd angen i chi fod yn ddibynadwy, effeithlon ac ymatebol, a dylech amlygu agwedd hyblyg at anghenion y gwasanaeth heriol hwn sy'n tyfu. Bydd yn ofynnol i'r deiliad swydd llwyddiannus hefyd feddu ar sgiliau cyfathrebu rhagorol, a bod yn hunanysgogol, yn arloesol, ac yn ymrwymedig i ddarparu gofal o safon uchel i gleifion.
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 12,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu i bron 400,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
4 prif ysbyty (Bronglais, Aberystwyth, Glangwili, Caerfyrddin, Tywysog Philip, Llanelli, ac Llwynhelyg, Hwlffordd).
5 ysbyty cymunedol (Ysbyty Dyffryn Aman ac Ysbyty Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin, Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion,Ysbyty Dinbych-y-pysgod a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol De Sir Benfro yn Sir Benfro.
Dwy ganolfan gofal integredig (Aberaeron ac Aberteifi, yng Ngheredigion).
Cyfleusterau cymunedol, gan gynnwys:
48 Meddygfa, 49 Deintyddfa, 98 Fferyllfa Gymunedol, 44 Practis Offthalmig Cyffredinol (gan gynnwys gwasanaethau iechyd llygaid a golwg gwan), 38 safle yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu, gofal o fewn eich cartrefi eich hun
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; Mae croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg a / neu Saesneg wneud cais.
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cynhelir y cyfweliadau ar 22/05/2025.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir drwy gyfrwng y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau a wneir yn y Saesneg.
NODYN PWYSIG I YMGEISWYR: Mae ceisiadau am ein rolau yn cael eu hadolygu'n ofalus a'u rhoi ar restr fer yn seiliedig ar feini prawf penodol, sy'n amrywio o swydd i swydd. Efallai na fydd defnyddio cais generig i wneud cais am rolau lluosog neu ddibynnu ar wasanaethau ceisiadau deallusrwydd artiffisial awtomataidd, fel Lazy Apply neu AI Apply, yn darparu'r wybodaeth angenrheidiol, gan arwain at anwybyddu'ch cais. Er mwyn sicrhau bod eich cais yn cael ystyriaeth lawn, rydym yn argymell cyflwyno cais wedi'i deilwra sy'n mynd i'r afael yn uniongyrchol â'r meini prawf a restrir yn adran Manyleb y Person yr hysbyseb.
Trwy gyflwyno eich cais i NHS Jobs/Trac, rydych yn gydsynio i elfennau o ddata eich cais gael eu trosglwyddo i Gofnod Staff Electronig (ESR) y GIG a systemau diogel, mewnol Gweithlu’r GIG er mwyn cefnogi a rheoli eich recriwtio a’ch cyflogaeth o fewn y sefydliad sy’n eich cyflogi; i’w defnyddio gan yr adran Recriwtio at ddibenion gwirio eich Cofrestriad Proffesiynol ar-lein (lle bo’n briodol).
Mae’r prosesau hyn yn unol â phrosesu Teg a Chyfreithlon yn unol â Deddfwriaeth Diogelu Data cyfredol yn enwedig y rhai hynny mewn perthynas â’ch data personol neu bersonol sensitif (diffinir data personol sensitif fel unrhyw gyflwr iechyd meddwl neu gorfforol, tarddiad hiliol neu ethnig, cyfeiriadedd rhywiol, aelodaeth undeb llafur, barn wleidyddol neu gred crefyddol datganedig). Fel sefydliad, rydym yn sicrhau bod y ddeddfwriaeth sy’n diffinio cyfrinachedd yn cael ei dilyn megis y defnydd o ddata at ddibenion penodol, diffiniedig, a defnydd o ddata sy’n berthnasol ac nid yn ormodol wrth ymarfer cywirdeb data a diogelwch yr holl wybodaeth bersonol adnabyddadwy a gedwir.
Os cewch eich penodi’n llwyddiannus, trwy lenwi’r ffurflen gais rydych yn awdurdodi’r BIP i gael unrhyw fanylion gwasanaeth blaenorol i’r GIG yn cynnwys yr holl wybodaeth ar salwch a gedwir yn electronig, trwy’r broses Trosglwyddo Rhyng-awdurdod ar y Cofnod Staff Electronig.
I weithio yn y DU, mae angen nawdd ar bob ymgeisydd nad yw'n wladolyn o'r DU neu Weriniaeth Iwerddon i gael naill ai fisa Gweithiwr Iechyd a Gofal neu fisa Gweithiwr Medrus, oni bai bod gennych ganiatâd i weithio trwy lwybr arall. Dylai ymgeiswyr nad ydynt yn rhan o'r DU/Gweriniaeth Iwerddon sy'n dymuno gwneud cais hunanasesu'u tebygolrwydd o gael Tystysgrif Nawdd trwy ymweld â gwefan Fisâu a Mewnfudo'r DU. Os ydych chi'n gymwys i gael y fisa Iechyd a Gofal, mae'r costau ymgeisio yn is ac nid oes angen i chi dalu Gordal Iechyd Mewnfudo blynyddol.
Gofynion yr ymgeisydd
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Gradd meistr mewn Fferylliaeth
- Yn gofrestredig gyda'r Cyngor Fferyllol Cyffredinol
- MSc neu Ddiploma ol-raddedig yn y maes ymarfer, neu brofiad neu gymwysterau cyfatebol
Meini prawf dymunol
- Goruchwylydd achrededig ar gyfer Fferyllwyr sylfaen neu ôl-sylfaen
- Presgripsiynydd Annibynnol
- Paratoi a Dosbarthu Meddyginiaethau mewn modd Aseptig (Prifysgol Leeds) neu gymhwyster cyfatebol os yw'r rol yn cynnwys deunyddiau aseptig
- Yn gofrestredig i Reoli Ansawdd os yw'r rol yn cynnwys deunyddiau aseptig
- Yn aelod o'r Gymdeithas Fferyllol Frenhinol
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Gwybodaeth arbenigol am systemau rheoli meddyginiaethau mewn GIG integredig
- Gwybodaeth am ofal iechyd a phrofiad ohono
- Gwybodaeth arbenigol am eich maes ymarfer eich hun, sydd wedi'i meithrin trwy hyfforddiant lefel diploma a phrofiad
Meini prawf dymunol
- Yn amlygu gwybodaeth arbenigol mewn mwy nag un maes
- Profiad o ymchwil ymarferol
- Hyfforddi ac addysgu staff fferyllfa a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol
- Profiad o reoli newid
- Profiad o wella gwasanaethau
Arall
Meini prawf hanfodol
- Y gallu i deithio rhwng safleoedd mewn modd amserol
- Ymagwedd hyblyg at anghenion y gwasanaeth i ymgymryd a gwaith ar alwad, ac i agor ar y penwythnos a gyda'r nos
Gofynion Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Donna Robson
- Teitl y swydd
- Pharmacy Site Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01970 635927
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Sean Thomas
Arweinydd Fferylliaeth Glinigol
01970 635733
Dechrau eich cais
Mewngofnodi
Creu cyfrif
Creu eich cyfrif a gwneud cais am eich swydd newydd!