Mae Trac yn falch o bweru recriwtio ar gyfer
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Gwybodaeth
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd i boblogaeth o tua 372,320 ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro. Mae'n darparu gwasanaethau Acìwt, Sylfaenol, Cymunedol, Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu trwy Ysbytai Cyffredinol a Chymunedol, Canolfannau Iechyd, Meddygfeydd Teulu, Deintyddion, Fferyllfeydd, Optometryddion a safleoedd eraill.
Cysylltu
- Address
- Glien House
- Cillefwr Industrial Estate
- Johnstown
- Carmarthen
- Carmarthenshire
- SA31 3RB
- Contact Number
- 0300 303 6138
Hwylusydd Nyrsio ar gyfer Imiwneiddio
Accepting applications until: 01-May-2025 23:59
Statws y swydd wag: Open
Accepting applications until: 01-May-2025 23:59
Manylion allweddol
Lleoliad
- Gwefan
- Ar draws y Bwrdd Iechyd
- Tref
- TBC
- Cod post
- SA31 3BB
- Major / Minor Region
- Sir Gaerfyrddin
Math o gontract a phatrwm gwaith
- Contract
- Parhaol: Mae'r patrwm gweithio arferol rhwng 9 a 5 o ddydd Llun i ddydd Gwener, ynghyd â gwaith gyda'r nos ac ar benwythnosau yn unol â gofynion y gwasanaeth
- Oriau
- Llawnamser
- Rhan-amser
Cyflog
- Cyflog
- £37,898 - £45,637 y flwyddyn (pro rata os rhan amser)
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Gradd
- (Gradd 6)
Arbenigedd
- Prif leoliad
- Iechyd y Cyhoedd
- Dyddiad y cyfweliad
- 12/05/2025
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.
Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau.
Trosolwg o'r swydd
Bydd deiliad y swydd yn Nyrs Gofrestredig a bydd yn gweithio yn y tîm Diogelu Iechyd ac Imiwneiddio ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Byddwch yn cefnogi’r Cydgysylltydd Imiwneiddio a'r Nyrs Arweiniol Diogelu Iechyd ac Imiwneiddio yn y gwaith o ddatblygu gwasanaeth imiwneiddio o ansawdd uchel ledled y tair ardal, a hynny trwy weithredu Cynllun Cyflenwi Lleol er mwyn cyflawni dangosyddion perfformiad allweddol Llywodraeth Cymru ar gyfer imiwneiddio a brechu.
Bydd deiliad y swydd yn cydweithio mewn partneriaeth â disgyblaethau ac asiantaethau eraill er mwyn gwella'r nifer sy'n manteisio ar raglenni imiwneiddio arferol, yn ogystal â'r rhai y gellir eu dethol. Bydd y gwaith hwn yn cael ei gyfarwyddo gan Gyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd, sy'n arwain y broses o Imiwneiddio a Brechu, a bydd yn gweithio'n agos gydag Iechyd y Cyhoedd a Llywodraeth Cymru.
Bydd deiliad y swydd yn cefnogi ac yn goruchwylio'r tîm diogelu iechyd ac imiwneiddio. Bydd yn cydgysylltu'r broses o ddarparu hyfforddiant i imiwneiddwyr y Bwrdd Iechyd, yn darparu cyngor clinigol, ac yn cynnal archwiliadau fel y nodir gan y Cydgysylltydd Imiwneiddio. Bydd gan ddeiliad y swydd ddealltwriaeth eang o amserlenni rhaglenni imiwneiddio oedolion a phlant.
Mae oriau llawn-amser a rhan-amser ar gael.
Cynhelir y cyfweliadau ar 12/5/25
Advert
Cynorthwyo'r Cydgysylltydd Imiwneiddio i gyflawni'r Agenda Imiwneiddio a Brechu ledled y Bwrdd Iechyd. Rheoli llwyth gwaith fel ymarferydd annibynnol. Bod yn gyfrifol am gynllunio a threfnu eich llwyth gwaith eich hun o ddydd i ddydd, gan sicrhau bod yr holl dasgau'n cael eu cyflawni o fewn yr amserlenni priodol. Blaenoriaethu'r tasgau sy'n cael eu cyflawni wrth i flaenoriaethau newid, gan gynnwys yn achos sefyllfa lle mae yna frigiad o achosion. Cysylltu â meddygon teulu, rheolwyr, clinigwyr a staff gweinyddol, gan gyfleu gwybodaeth gyfrinachol am gleifion, adroddiadau imiwneiddio a data ynglŷn â nifer y bobl sy'n cael eu himiwneiddio.
Darparu cyngor arbenigol yn ymwneud â rhaglenni imiwneiddio a brechu i weithwyr iechyd proffesiynol eraill, cyd-weithwyr a'r cyhoedd. Cynrychioli'r Cydgysylltydd Imiwneiddio yng nghyfarfodydd imiwneiddio y Bwrdd Iechyd neu gyfarfodydd Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn ôl y gofyn. Bod yn ffynhonnell arbenigedd i weithwyr proffesiynol, y cyhoedd a rhanddeiliaid eraill ar bob mater sy'n ymwneud ag imiwneiddio a brechu, gan gynnwys cymryd rhan yn y gwaith o ddatblygu safonau a rhoi sylwadau ar gynigion ar gyfer newid protocolau a pholisïau.
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 12,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu i bron 400,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
4 prif ysbyty (Bronglais, Aberystwyth, Glangwili, Caerfyrddin, Tywysog Philip, Llanelli, ac Llwynhelyg, Hwlffordd).
5 ysbyty cymunedol (Ysbyty Dyffryn Aman ac Ysbyty Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin, Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion,Ysbyty Dinbych-y-pysgod a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol De Sir Benfro yn Sir Benfro.
Dwy ganolfan gofal integredig (Aberaeron ac Aberteifi, yng Ngheredigion).
Cyfleusterau cymunedol, gan gynnwys:
48 Meddygfa, 49 Deintyddfa, 98 Fferyllfa Gymunedol, 44 Practis Offthalmig Cyffredinol (gan gynnwys gwasanaethau iechyd llygaid a golwg gwan), 38 safle yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu, gofal o fewn eich cartrefi eich hun
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Darparu hyfforddiant i staff a chynnig cymorth mewn perthynas â rhaglenni imiwneiddio. Gweithredu'n unol â chanllawiau cyfreithiol a statudol a chydymffurfio â holl bolisïau/weithdrefnau y Bwrdd Iechyd, gan gynnwys mewn perthynas â diogelu. Prosesu a throsglwyddo data am imiwneiddio gan ddefnyddio systemau papur a chyfrifiadurol. Cymryd rhan yng nghynllun adolygiad o berfformiad/gwerthuso staff Bwrdd Iechyd y Brifysgol. Ymgymryd â hyfforddiant statudol a gorfodol.
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Mynediad ar unwaith i’n budd llesiant ariannol – Wagestream. Mae Wagestream yn adnodd ar gyfer bywyd bob dydd sy’n eich caniatáu i gael eich talu eich ffordd eich hun, a olrain eich cyflog mewn amser real, ffrydio hyd at 50% o’r cyflog rydych wedi ennill yn barod, dysgu awgrymiadau hawdd i reoli eich arian yn well ac arbed eich tâl yn syth o’ch cyflog.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir drwy gyfrwng y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau a wneir yn y Saesneg.
NODYN PWYSIG I YMGEISWYR: Mae ceisiadau am ein rolau yn cael eu hadolygu'n ofalus a'u rhoi ar restr fer yn seiliedig ar feini prawf penodol, sy'n amrywio o swydd i swydd. Efallai na fydd defnyddio cais generig i wneud cais am rolau lluosog neu ddibynnu ar wasanaethau ceisiadau deallusrwydd artiffisial awtomataidd, fel Lazy Apply neu AI Apply, yn darparu'r wybodaeth angenrheidiol, gan arwain at anwybyddu'ch cais. Er mwyn sicrhau bod eich cais yn cael ystyriaeth lawn, rydym yn argymell cyflwyno cais wedi'i deilwra sy'n mynd i'r afael yn uniongyrchol â'r meini prawf a restrir yn adran Manyleb y Person yr hysbyseb.
Trwy gyflwyno eich cais i NHS Jobs/Trac, rydych yn gydsynio i elfennau o ddata eich cais gael eu trosglwyddo i Gofnod Staff Electronig (ESR) y GIG a systemau diogel, mewnol Gweithlu’r GIG er mwyn cefnogi a rheoli eich recriwtio a’ch cyflogaeth o fewn y sefydliad sy’n eich cyflogi; i’w defnyddio gan yr adran Recriwtio at ddibenion gwirio eich Cofrestriad Proffesiynol ar-lein (lle bo’n briodol).
Mae’r prosesau hyn yn unol â phrosesu Teg a Chyfreithlon yn unol â Deddfwriaeth Diogelu Data cyfredol yn enwedig y rhai hynny mewn perthynas â’ch data personol neu bersonol sensitif (diffinir data personol sensitif fel unrhyw gyflwr iechyd meddwl neu gorfforol, tarddiad hiliol neu ethnig, cyfeiriadedd rhywiol, aelodaeth undeb llafur, barn wleidyddol neu gred crefyddol datganedig). Fel sefydliad, rydym yn sicrhau bod y ddeddfwriaeth sy’n diffinio cyfrinachedd yn cael ei dilyn megis y defnydd o ddata at ddibenion penodol, diffiniedig, a defnydd o ddata sy’n berthnasol ac nid yn ormodol wrth ymarfer cywirdeb data a diogelwch yr holl wybodaeth bersonol adnabyddadwy a gedwir.
Os cewch eich penodi’n llwyddiannus, trwy lenwi’r ffurflen gais rydych yn awdurdodi’r BIP i gael unrhyw fanylion gwasanaeth blaenorol i’r GIG yn cynnwys yr holl wybodaeth ar salwch a gedwir yn electronig, trwy’r broses Trosglwyddo Rhyng-awdurdod ar y Cofnod Staff Electronig.
I weithio yn y DU, mae angen nawdd ar bob ymgeisydd nad yw'n wladolyn o'r DU neu Weriniaeth Iwerddon i gael naill ai fisa Gweithiwr Iechyd a Gofal neu fisa Gweithiwr Medrus, oni bai bod gennych ganiatâd i weithio trwy lwybr arall. Dylai ymgeiswyr nad ydynt yn rhan o'r DU/Gweriniaeth Iwerddon sy'n dymuno gwneud cais hunanasesu'u tebygolrwydd o gael Tystysgrif Nawdd trwy ymweld â gwefan Fisâu a Mewnfudo'r DU. Os ydych chi'n gymwys i gael y fisa Iechyd a Gofal, mae'r costau ymgeisio yn is ac nid oes angen i chi dalu Gordal Iechyd Mewnfudo blynyddol.
Gofynion yr ymgeisydd
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Nyrs gymwysedig gofrestredig y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth
- Gwybodaeth broffesiynol a gafwyd trwy Radd, ac a ategir gan Gymhwyster/Ddiploma Ôl-raddedig; neu'n meddu ar sgiliau, gwybodaeth, hyfforddiant a phrofiad cyfwerth
Meini prawf dymunol
- Cymhwyster addysgu ac asesu
- Cymhwyster ym maes rheoli
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad o weithio mewn rôl broffesiynol ym maes imiwneiddio a brechu
- Profiad o ddarparu sesiynau hyfforddi ac addysgu
- Profiad o oruchwylio staff
Meini prawf dymunol
- Profiad o reoli staff
- Profiad o gynnal archwiliadau
- Profiad o roi syniadau neu arferion newydd ar waith
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (lefel 1)
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Angelo Rossi
- Teitl y swydd
- Lead Nurse Health Protection and Immunisations.
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 07823640747
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Ginny Morgan- Senior Nurse Health Protection and Immunisation.
ginny,[email protected]
Dechrau eich cais
Mewngofnodi
Creu cyfrif
Creu eich cyfrif a gwneud cais am eich swydd newydd!