Mae Trac yn falch o bweru recriwtio ar gyfer
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Gwybodaeth
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd i boblogaeth o tua 372,320 ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro. Mae'n darparu gwasanaethau Acìwt, Sylfaenol, Cymunedol, Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu trwy Ysbytai Cyffredinol a Chymunedol, Canolfannau Iechyd, Meddygfeydd Teulu, Deintyddion, Fferyllfeydd, Optometryddion a safleoedd eraill.
Cysylltu
- Address
- Glien House
- Cillefwr Industrial Estate
- Johnstown
- Carmarthen
- Carmarthenshire
- SA31 3RB
- Contact Number
- 0300 303 6138
Prif Nyrs Gymunedol
Accepting applications until: 12-May-2025 23:59
Statws y swydd wag: Open
Accepting applications until: 12-May-2025 23:59
Manylion allweddol
Lleoliad
- Gwefan
- Canolfan Iechyd Sgwar Manceinion
- Tref
- Aberdaugleddau
- Cod post
- SA73 2JW
- Major / Minor Region
- Sir Gaerfyrddin
Math o gontract a phatrwm gwaith
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
Cyflog
- Cyflog
- £37,898 - £45,637 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Gradd
- (Gradd 6)
Arbenigedd
- Prif leoliad
- Cymunedol
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.
Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau.
Trosolwg o'r swydd
Mae cyfres o gyfleoedd cyffrous wedi dod ar gael ar gyfer Prif Nyrs Iau Band 6 parhaol yn Nhim Nyrsio Ardal Aberdaugleddau. Bydd gan ddeiliaid y swydd brofiad cymunedol blaenorol, a rhaid eu bod eisoes wedi ymgymryd â'r Cymhwyster Ymarferydd Arbenigol (SPQ) mewn Nyrsio Ardal.
Bydd y cyfle hwn yn eich galluogi i gefnogi neu reoli llwyth achosion dirprwyedig yn y Tîm Nyrsio Cymunedol, gan ddarparu gwasanaeth rheoli gofal cymhleth o ansawdd uchel i gleifion yn eu cartrefi eu hunain, a hynny dan arweiniad a gyda chymorth Arweinydd Tîm profiadol ar gyfer Nyrsys Ardal.
Bydd deiliad y swydd yn sicrhau bod gofal o safon uchel yn cael ei ddarparu i gleifion a'u teuluoedd/gofalwyr yn eu cartrefi neu mewn clinig. Mae hyn yn cynnwys cysylltu â staff, cleifion/gofalwyr ac asiantaethau/a sefydliadau eraill, yn ôl y gofyn, i sicrhau bod dyletswyddau'n cael eu dirprwyo a risgiau'n cael eu rheoli mewn modd priodol. Ar yr un pryd, bydd yn ofynnol sicrhau bod yna gyfathrebu effeithiol yn digwydd rhwng y rhai hynny sy'n gysylltiedig â'r pecyn gofal.
Ynghyd â chyd-weithwyr sy'n Nyrsys Ardal Band 6, bydd gofyn i chi ddirprwyo yn absenoldeb yr Arweinydd Tîm Band 7 ar gyfer Nyrsys Ardal yn achos dyletswyddau'r tîm o ran perfformiad gweithredol/proffesiynol ehangach, ansawdd, effeithiolrwydd clinigol, a rheolaeth effeithiol ar adnoddau/y gyllideb.
Advert
Byddwch yn:
- Cyfuno ymarfer clinigol rhagorol â'r gwaith o ddydd i ddydd o gydgysylltu shifftiau, ynghyd ag ymgymryd â chyfrifoldebau arwain a rheoli i gefnogi'r Uwch-brif Nyrs.
- Cydweithio â'r Uwch-brif Nyrs, a'i chefnogi'n barhaus, gan ddirprwyo/ ofalu am y tîm nyrsio cymunedol yn absenoldeb yr Uwch-brif Nyrs.
- Darparu sgiliau rheolaeth oruchwyliol ac arweinyddiaeth glinigol gref, gan amlygu deallusrwydd emosiynol i gydnabod pwysau ar staff a datblygu mecanweithiau i gefnogi a datblygu staff i gydnabod effaith gofalu am bobl ar eich pen eich hunain mewn amgylchedd cymunedol cymhleth a dan bwysau.
- Darparu arweinyddiaeth ac arweiniad nyrsio proffesiynol (yn unol â safonau'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth) a chyngor clinigol, yn ogystal ag ymgymryd â gweithgareddau rheoli a monitro llwyth achosion i sicrhau y cynhelir safonau uchel bob amser mewn perthynas â gofal nyrsio.
- Gweithio ochr yn ochr ag aelodau’r tîm nyrsio cymunedol a thîm amlddisgyblaethol y gymuned ehangach, gan ddarparu cymorth i gyd-weithwyr iau wrth ddarparu gofal uniongyrchol i ddiwallu anghenion iechyd cyhoeddus lleol unigolion, grwpiau a’r gymuned ehangach.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saeneg wneud cais.
Cyfweliadau i'w cynnal ar 22/05/2025.
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 12,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu i bron 400,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
4 prif ysbyty (Bronglais, Aberystwyth, Glangwili, Caerfyrddin, Tywysog Philip, Llanelli, ac Llwynhelyg, Hwlffordd).
5 ysbyty cymunedol (Ysbyty Dyffryn Aman ac Ysbyty Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin, Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion,Ysbyty Dinbych-y-pysgod a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol De Sir Benfro yn Sir Benfro.
Dwy ganolfan gofal integredig (Aberaeron ac Aberteifi, yng Ngheredigion).
Cyfleusterau cymunedol, gan gynnwys:
48 Meddygfa, 49 Deintyddfa, 98 Fferyllfa Gymunedol, 44 Practis Offthalmig Cyffredinol (gan gynnwys gwasanaethau iechyd llygaid a golwg gwan), 38 safle yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu, gofal o fewn eich cartrefi eich hun
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Mynediad ar unwaith i’n budd llesiant ariannol – Wagestream. Mae Wagestream yn adnodd ar gyfer bywyd bob dydd sy’n eich caniatáu i gael eich talu eich ffordd eich hun, a olrain eich cyflog mewn amser real, ffrydio hyd at 50% o’r cyflog rydych wedi ennill yn barod, dysgu awgrymiadau hawdd i reoli eich arian yn well ac arbed eich tâl yn syth o’ch cyflog.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir drwy gyfrwng y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau a wneir yn y Saesneg.
NODYN PWYSIG I YMGEISWYR: Mae ceisiadau am ein rolau yn cael eu hadolygu'n ofalus a'u rhoi ar restr fer yn seiliedig ar feini prawf penodol, sy'n amrywio o swydd i swydd. Efallai na fydd defnyddio cais generig i wneud cais am rolau lluosog neu ddibynnu ar wasanaethau ceisiadau deallusrwydd artiffisial awtomataidd, fel Lazy Apply neu AI Apply, yn darparu'r wybodaeth angenrheidiol, gan arwain at anwybyddu'ch cais. Er mwyn sicrhau bod eich cais yn cael ystyriaeth lawn, rydym yn argymell cyflwyno cais wedi'i deilwra sy'n mynd i'r afael yn uniongyrchol â'r meini prawf a restrir yn adran Manyleb y Person yr hysbyseb.
Trwy gyflwyno eich cais i NHS Jobs/Trac, rydych yn gydsynio i elfennau o ddata eich cais gael eu trosglwyddo i Gofnod Staff Electronig (ESR) y GIG a systemau diogel, mewnol Gweithlu’r GIG er mwyn cefnogi a rheoli eich recriwtio a’ch cyflogaeth o fewn y sefydliad sy’n eich cyflogi; i’w defnyddio gan yr adran Recriwtio at ddibenion gwirio eich Cofrestriad Proffesiynol ar-lein (lle bo’n briodol).
Mae’r prosesau hyn yn unol â phrosesu Teg a Chyfreithlon yn unol â Deddfwriaeth Diogelu Data cyfredol yn enwedig y rhai hynny mewn perthynas â’ch data personol neu bersonol sensitif (diffinir data personol sensitif fel unrhyw gyflwr iechyd meddwl neu gorfforol, tarddiad hiliol neu ethnig, cyfeiriadedd rhywiol, aelodaeth undeb llafur, barn wleidyddol neu gred crefyddol datganedig). Fel sefydliad, rydym yn sicrhau bod y ddeddfwriaeth sy’n diffinio cyfrinachedd yn cael ei dilyn megis y defnydd o ddata at ddibenion penodol, diffiniedig, a defnydd o ddata sy’n berthnasol ac nid yn ormodol wrth ymarfer cywirdeb data a diogelwch yr holl wybodaeth bersonol adnabyddadwy a gedwir.
Os cewch eich penodi’n llwyddiannus, trwy lenwi’r ffurflen gais rydych yn awdurdodi’r BIP i gael unrhyw fanylion gwasanaeth blaenorol i’r GIG yn cynnwys yr holl wybodaeth ar salwch a gedwir yn electronig, trwy’r broses Trosglwyddo Rhyng-awdurdod ar y Cofnod Staff Electronig.
I weithio yn y DU, mae angen nawdd ar bob ymgeisydd nad yw'n wladolyn o'r DU neu Weriniaeth Iwerddon i gael naill ai fisa Gweithiwr Iechyd a Gofal neu fisa Gweithiwr Medrus, oni bai bod gennych ganiatâd i weithio trwy lwybr arall. Dylai ymgeiswyr nad ydynt yn rhan o'r DU/Gweriniaeth Iwerddon sy'n dymuno gwneud cais hunanasesu'u tebygolrwydd o gael Tystysgrif Nawdd trwy ymweld â gwefan Fisâu a Mewnfudo'r DU. Os ydych chi'n gymwys i gael y fisa Iechyd a Gofal, mae'r costau ymgeisio yn is ac nid oes angen i chi dalu Gordal Iechyd Mewnfudo blynyddol.
Gofynion yr ymgeisydd
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Nyrs Gofrestredig (Rhan 1)
- Cofrestriad Cyfredol gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth
- Gradd Baglor (neu brofiad cyfwerth)
- Diploma ôl-raddedig perthnasol (neu ddatblygiad / profiad cyfwerth a pharodrwydd i ymgymryd ag astudiaeth briodol ar lefel diploma ôl-raddedig). (D.S. mae angen Specialist Practice Award in District Nursing ar gyfer swyddi Nyrsio Ardal)
- IQT Efydd
Meini prawf dymunol
- Cymhwyster addysgu (neu brofiad cyfwerth)
- Cymhwyster rheoli cydnabyddedig
- Nyrs-ragnodydd Gymunedol
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad priodol o fewn arbenigedd a gallu dangos gwybodaeth gadarn o arbenigedd berthnasol
- Y gallu i ddangos gwybodaeth gadarn o God yr NMC (2015)
- Profiad o weithio mewn amgylchedd aml-broffesiynol
- Profiad o redeg ward/ardal/adran
- Profiad o weithio gyda myfyrwyr nyrsio/ bydwreigiaeth cyn cofrestru
- Profiad o addysgu ffurfiol/ anffurfiol ac o fentora myfyrwyr nyrsio/ bydwreigiaeth cyn cofrestru
- Dealltwriaeth o agenda ehangach nyrsio a gofal iechyd
- Sgiliau TG
- Sgiliau rheolaeth oruchwyliol
- Y gallu i gysylltu theori ac amarfer trwy sgiliau adlewyrchol
Meini prawf dymunol
- Profiad o gydlynu tîm
- Profiad o hwyluso dysgu yn ymarferol ac o ymarfer
- Profiad blaenorol o arwain a rheoli
- Ymwybyddiaeth o faterion cyfredol mewn nyrsio ac arbenigedd
- Ymwybyddiaeth o reolaeth ariannol a rheoli adnoddau
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Mindy Hawkins
- Teitl y swydd
- Locality Nurse Intermediate Care
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 07855977652
Dechrau eich cais
Mewngofnodi
Creu cyfrif
Creu eich cyfrif a gwneud cais am eich swydd newydd!