Mae Trac yn falch o bweru recriwtio ar gyfer
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Gwybodaeth
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd i boblogaeth o tua 372,320 ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro. Mae'n darparu gwasanaethau Acìwt, Sylfaenol, Cymunedol, Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu trwy Ysbytai Cyffredinol a Chymunedol, Canolfannau Iechyd, Meddygfeydd Teulu, Deintyddion, Fferyllfeydd, Optometryddion a safleoedd eraill.
Cysylltu
- Address
- Glien House
- Cillefwr Industrial Estate
- Johnstown
- Carmarthen
- Carmarthenshire
- SA31 3RB
- Contact Number
- 0300 303 6138
Therapydd Seicolegol
Accepting applications until: 03-Jun-2025 23:59
Statws y swydd wag: Open
Accepting applications until: 03-Jun-2025 23:59
Manylion allweddol
Lleoliad
- Gwefan
- Ysbyty Cyffredinol Glangwili
- Cyfeiriad
- Heol Dolgwili
- Tref
- Caerfyrddin
- Cod post
- SA31 2AF
- Major / Minor Region
- Sir Gaerfyrddin
Math o gontract a phatrwm gwaith
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Rhan-amser
- Gweithio hyblyg
Cyflog
- Cyflog
- £37,898 - £45,637 y flwyddyn pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Gradd
- (Gradd 6/ Atodiad 21)
Arbenigedd
- Prif leoliad
- Iechyd Meddwl
- Dyddiad y cyfweliad
- 09/06/2025
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.
Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau.
Trosolwg o'r swydd
Mae'r swydd hon yn cael ei hysbysebu ar lefel Band 6, ac yn ddelfrydol bydd yr ymgeiswyr ar gyfer y rôl hon eisoes wedi sicrhau achrediad gyda Chymdeithas Cwnsela a Seicotherapi Prydain (BACP) neu Gymdeithas Seicotherapi Ymddygiadol a Gwybyddol Prydain (BABCP). Fodd bynnag, anogir ymgeiswyr nad ydynt yn meddu ar yr achrediad gofynnol ar
gyfer y rôl Band 6 ar hyn o bryd, ond y maent yn bodloni'r holl ofynion cymhwystra sy'n ofynnol ar gyfer cael eu hachredu, i wneud cais. Os byddant yn llwyddiannus, bydd angen iddynt gyflwyno eu cais i gael eu hachredu cyn pen chwe mis ar ôl y dyddiad dechrau, a chânt eu penodi dan reolau Atodiad 21 Cymru Gyfan. Mae hyn yn golygu y byddant yn
cael eu cefnogi gan gynllun datblygu. (Yn ystod y flwyddyn gyntaf, bydd y taliad yn 75% o'r gyfradd cyflog uchaf ym Mand 6, ac ar ôl cael yr achrediad bydd deiliad y swydd yn cael ei dalu ar Fand 6 (pwynt isaf y raddfa)). Darperir cymorth a goruchwyliaeth er mwyn
datblygu'r ymgeisydd llwyddiannus ar gyfer y rôl Band 6. Gallai peidio â sicrhau'r achrediad a'r cymwyseddau gofynnol yn unol â'r amserlen ddynodedig arwain at adleoli.
Mae'n bleser gennym rannu'r cyfle hwn i therapydd seicolegol medrus a phrofiadol iawn ymuno â Gwasanaeth Llesiant Seicolegol y Staff mewn rôl unigryw ac amrywiol. Byddwch yn gwneud gwahaniaeth ystyrlon i staff y GIG, yn gweithio mewn amgylchedd tîm cefnogol, yn elwa o weithio'n hyblyg ac yn cael y cyfle i gyfrannu at arfer arloesol a chydweithio.
Advert
Mae llesiant y staff yn flaenoriaeth allweddol yn Hywel Dda, ac mae staff, rheolwyr ac uwch-arweinwyr yn rhoi gwerth uchel ar ein gwasanaeth. Rydym yn chwilio am Therapydd Seicolegol profiadol, hunanysgogol a brwdfrydig i ddarparu therapi seicolegol arbenigol byrdymor i'n staff. Byddwch hefyd yn cael y cyfle i gyfrannu at ymyriadau grŵp a rhaglenni seico-addysgol.
Mae cymhwyster proffesiynol mewn Therapi Gwybyddol Ymddygiadol neu Gwnsela hyd at o leiaf lefel Diploma yn hanfodol, ynghyd ag achrediad (neu'n barod i wneud cais am achrediad) gan gorff proffesiynol cydnabyddedig megis y BABCP neu'r BACP ac aelodaeth gyfredol ohono. Os ydych eisoes wedi sicrhau achrediad, rydym yn eich annog i nodi'r manylion hyn yn glir ar eich ffurflen gais. Mae profiad ôl-gymhwyso sylweddol mewn gwaith cleientiaid amlddisgyblaethol gydag oedolion yn hanfodol, gan gynnwys asesu, gwaith byr sy'n canolbwyntio ar atebion, a phrofiad o gwnsela yn y gweithle.
Byddwch yn hyderus i asesu a rheoli materion megis risg, diogelu, a gwrthdaro buddiannau, a byddwch yn gallu cyrchu cymorth o fewn ein tîm a gwasanaethau cynghori arbenigol eraill yn y Bwrdd Iechyd.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; Mae croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg a / neu Saesneg wneud cais.
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 12,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu i bron 400,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
4 prif ysbyty (Bronglais, Aberystwyth, Glangwili, Caerfyrddin, Tywysog Philip, Llanelli, ac Llwynhelyg, Hwlffordd).
5 ysbyty cymunedol (Ysbyty Dyffryn Aman ac Ysbyty Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin, Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion,Ysbyty Dinbych-y-pysgod a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol De Sir Benfro yn Sir Benfro.
Dwy ganolfan gofal integredig (Aberaeron ac Aberteifi, yng Ngheredigion).
Cyfleusterau cymunedol, gan gynnwys:
48 Meddygfa, 49 Deintyddfa, 98 Fferyllfa Gymunedol, 44 Practis Offthalmig Cyffredinol (gan gynnwys gwasanaethau iechyd llygaid a golwg gwan), 38 safle yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu, gofal o fewn eich cartrefi eich hun
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Mae'r gwaith therapiwtig yn werth chweil ac amrywiol, gan fod y staff yn ymgyflwyno ag amrywiaeth eang o broblemau, yn bersonol ac yn ymwneud â'r gwaith, fel ei gilydd, ac yn aml yn gyfuniad o'r ddau. Rydym yn gweithio i sicrhau cynhwysiant a hygyrchedd ac yn croesawu ceisiadau gan ymarferwyr sy'n gallu addasu ffyrdd o weithio ac amlygu deallusrwydd diwylliannol.
Mae'r swydd wedi'i lleoli yn Sir Gaerfyrddin ac efallai y bydd yn ofynnol gwneud rhywfaint o deithio gan ddarparu gwasanaeth o fwy nag un safle, a chynnig apwyntiadau wyneb yn wyneb. Rydym yn cynnig model ymgysylltu cyfunol sy'n cynnwys gwaith wyneb yn wyneb yn ogystal â defnyddio llwyfannau rhithwir, felly gellir ystyried ceisiadau i weithio rhywfaint o gartref.
Rydym yn dîm cyfeillgar, cefnogol a gweithgar, ac rydym yn gweithio'n agos gydag ystod o wasanaethau a thimau eraill ledled y tair sir. Rydym yn tynnu ar dystiolaeth ac arfer gorau o bob cwr o'r byd, ond hefyd yn gwerthfawrogi arloesedd ac yn canolbwyntio ar ddysgu a gwella parhaus. Rydym yn cynnig rhaglen gymorth dda, ynghyd â'r cyfle ar gyfer datblygiad proffesiynol, gyda fframwaith goruchwylio sy'n cynnwys goruchwyliaeth glinigol allanol un i un, goruchwyliaeth gan grŵp cymheiriaid, a rhwydweithio â chymheiriaid ar sail Cymru gyfan.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg wneud cais.
Byddwch yn gallu dod o hyd i'r swydd-ddisgrifiad llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i goleddu'r angen am
ddwyieithrwydd yn llawn, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr
gwasanaethau. Yn unol â'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Bydd cyfweliadau rownd 1 yn cael eu cynnal ar 09.06.2025
Bydd cyfweliadau rownd 2 yn cael eu cynnal ar 17.06.2025
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir drwy gyfrwng y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau a wneir yn y Saesneg.
NODYN PWYSIG I YMGEISWYR: Mae ceisiadau am ein rolau yn cael eu hadolygu'n ofalus a'u rhoi ar restr fer yn seiliedig ar feini prawf penodol, sy'n amrywio o swydd i swydd. Efallai na fydd defnyddio cais generig i wneud cais am rolau lluosog neu ddibynnu ar wasanaethau ceisiadau deallusrwydd artiffisial awtomataidd, fel Lazy Apply neu AI Apply, yn darparu'r wybodaeth angenrheidiol, gan arwain at anwybyddu'ch cais. Er mwyn sicrhau bod eich cais yn cael ystyriaeth lawn, rydym yn argymell cyflwyno cais wedi'i deilwra sy'n mynd i'r afael yn uniongyrchol â'r meini prawf a restrir yn adran Manyleb y Person yr hysbyseb.
Trwy gyflwyno eich cais i NHS Jobs/Trac, rydych yn gydsynio i elfennau o ddata eich cais gael eu trosglwyddo i Gofnod Staff Electronig (ESR) y GIG a systemau diogel, mewnol Gweithlu’r GIG er mwyn cefnogi a rheoli eich recriwtio a’ch cyflogaeth o fewn y sefydliad sy’n eich cyflogi; i’w defnyddio gan yr adran Recriwtio at ddibenion gwirio eich Cofrestriad Proffesiynol ar-lein (lle bo’n briodol).
Mae’r prosesau hyn yn unol â phrosesu Teg a Chyfreithlon yn unol â Deddfwriaeth Diogelu Data cyfredol yn enwedig y rhai hynny mewn perthynas â’ch data personol neu bersonol sensitif (diffinir data personol sensitif fel unrhyw gyflwr iechyd meddwl neu gorfforol, tarddiad hiliol neu ethnig, cyfeiriadedd rhywiol, aelodaeth undeb llafur, barn wleidyddol neu gred crefyddol datganedig). Fel sefydliad, rydym yn sicrhau bod y ddeddfwriaeth sy’n diffinio cyfrinachedd yn cael ei dilyn megis y defnydd o ddata at ddibenion penodol, diffiniedig, a defnydd o ddata sy’n berthnasol ac nid yn ormodol wrth ymarfer cywirdeb data a diogelwch yr holl wybodaeth bersonol adnabyddadwy a gedwir.
Os cewch eich penodi’n llwyddiannus, trwy lenwi’r ffurflen gais rydych yn awdurdodi’r BIP i gael unrhyw fanylion gwasanaeth blaenorol i’r GIG yn cynnwys yr holl wybodaeth ar salwch a gedwir yn electronig, trwy’r broses Trosglwyddo Rhyng-awdurdod ar y Cofnod Staff Electronig.
I weithio yn y DU, mae angen nawdd ar bob ymgeisydd nad yw'n wladolyn o'r DU neu Weriniaeth Iwerddon i gael naill ai fisa Gweithiwr Iechyd a Gofal neu fisa Gweithiwr Medrus, oni bai bod gennych ganiatâd i weithio trwy lwybr arall. Dylai ymgeiswyr nad ydynt yn rhan o'r DU/Gweriniaeth Iwerddon sy'n dymuno gwneud cais hunanasesu'u tebygolrwydd o gael Tystysgrif Nawdd trwy ymweld â gwefan Fisâu a Mewnfudo'r DU. Os ydych chi'n gymwys i gael y fisa Iechyd a Gofal, mae'r costau ymgeisio yn is ac nid oes angen i chi dalu Gordal Iechyd Mewnfudo blynyddol.
Gofynion yr ymgeisydd
Manyleb y person
Cymwysterau & Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Cymhwyster proffesiynol cydnabyddedig mewn Cwnsela neu Therapi Gwybyddol Ymddygiadol, a hynny hyd at o leiaf lefel Diploma
- Aelodaeth o gorff proffesiynol priodol.
- Achrediad gyda chorff proffesiynol priodol (e.e. y BABCP, BACP neu gorff cyfatebol)
- Gwybodaeth ymarferol am fwy nag un model therapiwtig seiliedig ar dystiolaeth
- Gwybodaeth ymarferol am fodelau asesu, sgrinio ac ymyriad byr
- Gwybodaeth am fesurau canlyniadau clinigol a'u defnydd at ddibenion clinigol ac archwilio
- Ymwybyddiaeth o faterion cydraddoldeb ac amrywiaeth
Meini prawf dymunol
- Cymhwyster proffesiynol cydnabyddedig mewn Cwnsela Byr â Ffocws, Cwnsela ar Brofedigaeth, Rheoli Dicter/Gorbryder, Materion Perthnasoedd
- Gradd meistr mewn Therapi Ymddygiad Gwybyddol neu Gwnsela
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad ôl-gymhwyso sylweddol o waith amlddisgyblaethol gyda chleientiaid sy'n oedolion, yn cynnwys gwaith byr â ffocws ac asesu
- Profiad o gael goruchwyliaeth glinigol reolaidd a phriodol
- Profiad blaenorol o therapi/gwnsela yn y gweithle
- Profiad o lwyth achosion clinigol eang ac amrywiol
Meini prawf dymunol
- Profiad o hwyluso gwaith cymorth yn dilyn trawma
- Profiad o weithio gyda grwpiau
- Profiad o weithio yn y GIG neu mewn lleoliad Gofal iechyd arall
- Profiad o addysgu/hyfforddi oedolion
- Profiad o weinyddu a defnyddio holiaduron clinigol ac archwilio
Arall
Meini prawf hanfodol
- Yn gallu teithio mewn modd amserol ledled y Bwrdd Iechyd yn ôl yr angen
- Yn gallu gweithio oriau hyblyg yn unol â gofynion y gwasanaeth
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Joanna Ferguson
- Teitl y swydd
- Psychological Therapies Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01437772527
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Dechrau eich cais
Mewngofnodi
Creu cyfrif
Creu eich cyfrif a gwneud cais am eich swydd newydd!