Mae Trac yn falch o bweru recriwtio ar gyfer
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Gwybodaeth
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd i boblogaeth o tua 372,320 ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro. Mae'n darparu gwasanaethau Acìwt, Sylfaenol, Cymunedol, Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu trwy Ysbytai Cyffredinol a Chymunedol, Canolfannau Iechyd, Meddygfeydd Teulu, Deintyddion, Fferyllfeydd, Optometryddion a safleoedd eraill.
Cysylltu
- Address
- Glien House
- Cillefwr Industrial Estate
- Johnstown
- Carmarthen
- Carmarthenshire
- SA31 3RB
- Contact Number
- 0300 303 6138
Uwch-reolwr Prosiectau
Accepting applications until: 26-May-2025 23:59
Statws y swydd wag: Open
Accepting applications until: 26-May-2025 23:59
Manylion allweddol
Lleoliad
- Gwefan
- Ysbyty Cyffredinol Glangwili
- Cyfeiriad
- Heol Dolgwilli
- Tref
- Caerfyrddin
- Cod post
- SA31 2AF
- Major / Minor Region
- Sir Gaerfyrddin
Math o gontract a phatrwm gwaith
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
Cyflog
- Cyflog
- £46,840 - £53,602 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Gradd
- (Gradd 7)
Arbenigedd
- Prif leoliad
- Gwasanaethau Digidol
- Dyddiad y cyfweliad
- 12/06/2025
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.
Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau.
Trosolwg o'r swydd
Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â thîm trawsnewidiol dynamig a chefnogol yn y GIG yn rôl Uwch-reolwr Prosiectau yng Ngorllewin Cymru.
Rydym yn chwilio am bobl sy'n dymuno dilyn gyrfa ym maes Prosiectau, sy'n deall yr heriau o gyflawni rhywbeth newydd ac sydd am ddefnyddio eu sgiliau i gefnogi a galluogi'r gwaith o drawsnewid y modd y darperir gwasanaethau. Byddem yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n
meddu ar ystod amrywiol o sgiliau a phrofiadau ac sy'n dymuno dechrau eu gyrfa, neu ei datblygu ymhellach, ym maes Cyflawni Prosiectau.
Rydym yn chwilio am unigolyn trefnus, brwdfrydig a rhagweithiol sy'n llawn cymhelliant i arwain a chyflawni prosiectau trawsnewid digidol ledled ein sefydliad.
Mae angen model gweithio hybrid, lle byddai deiliad y swydd yn gweithio o bell ac yn mynychu safle yn wythnosol/misol.
Advert
Mae'r swydd yng Nghyfarwyddiaeth y Gwasanaethau Digidol ac yn darparu llwyfan delfrydol i ddysgu a datblygu yn y GIG a'r maes digidol.
Gwahoddir ceisiadau am swydd Uwch-reolwr Prosiectau i ymuno â'r Tîm Arloesedd a Thrawsnewid Digidol yn Hywel Dda i chwarae rhan ganolog wrth gyflawni prosiectau digidol strategol allweddol yn y Gymuned Iechyd.
Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am reoli'r gwaith o gyflawni prosiectau digidol cymhleth sy'n ffurfio rhan o nodau strategol yr Ymateb Digidol, ac sy'n allweddol o ran sicrhau bod Strategaeth y Bwrdd Iechyd yn cael ei rhoi ar waith mewn modd llwyddiannus.
Rydym yn awyddus i recriwtio rheolwyr prosiectau profiadol sy'n teimlo'n angerddol ynghylch yr hyn a wnânt ac sydd am wneud gwahaniaeth i'n cleifion a'n cymunedau. Er y byddai rhywfaint o wybodaeth am weithio mewn amgylchedd digidol yn ddefnyddiol, nid yw'n hanfodol. Rydym yn chwilio am rywun a all weithio'n llwyddiannus yn rhan o dîm, ond a all hefyd ddangos blaengaredd ac arwain pan fo hynny'n briodol.
Dylai'r ymgeisydd feddu ar gymhwyster rheoli prosiectau megis APMP neu Prince2, a bydd ganddo brofiad o reoli prosiectau lluosog yn rhan o raglen neu bortffolio. Bydd ganddo sgiliau cyfathrebu, trefnu a rhyngbersonol rhagorol, a bydd yn gallu defnyddio'r sgiliau hynny i ymgysylltu â rhanddeiliaid mewnol ac allanol, i drefnu digwyddiadau neu weithdai, ac i sicrhau bod prosiectau lluosog yn cael eu dechrau a'u rhoi ar waith yn llwyddiannus.
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 12,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu i bron 400,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
4 prif ysbyty (Bronglais, Aberystwyth, Glangwili, Caerfyrddin, Tywysog Philip, Llanelli, ac Llwynhelyg, Hwlffordd).
5 ysbyty cymunedol (Ysbyty Dyffryn Aman ac Ysbyty Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin, Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion,Ysbyty Dinbych-y-pysgod a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol De Sir Benfro yn Sir Benfro.
Dwy ganolfan gofal integredig (Aberaeron ac Aberteifi, yng Ngheredigion).
Cyfleusterau cymunedol, gan gynnwys:
48 Meddygfa, 49 Deintyddfa, 98 Fferyllfa Gymunedol, 44 Practis Offthalmig Cyffredinol (gan gynnwys gwasanaethau iechyd llygaid a golwg gwan), 38 safle yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu, gofal o fewn eich cartrefi eich hun
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Bydd deiliad y swydd yn rhan o dîm dynamig ac yn gweithio'n agos gyda'r holl dimau eraill yng Nghyfarwyddiaeth y Gwasanaethau Digidol i reoli'r broses o weithredu atebion digidol. Yn y rôl hon byddwch yn meithrin ac yn cynnal perthnasoedd â rhanddeiliaid ledled ein sefydliad, gan reoli
prosiectau allweddol o'r dechrau i'r diwedd. Chi fydd yr adnodd arweiniol wrth gyflawni prosiectau digidol strategol yn y tîm Arloesedd a Thrawsnewid Digidol.
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cynhelir asesiadau ar 09/06/2025 ac os byddwch yn llwyddiannus yn y rownd hon, byddwch yn cael gwahoddiad i gyfweliad ar 12/06/2025.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir drwy gyfrwng y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau a wneir yn y Saesneg.
NODYN PWYSIG I YMGEISWYR: Mae ceisiadau am ein rolau yn cael eu hadolygu'n ofalus a'u rhoi ar restr fer yn seiliedig ar feini prawf penodol, sy'n amrywio o swydd i swydd. Efallai na fydd defnyddio cais generig i wneud cais am rolau lluosog neu ddibynnu ar wasanaethau ceisiadau deallusrwydd artiffisial awtomataidd, fel Lazy Apply neu AI Apply, yn darparu'r wybodaeth angenrheidiol, gan arwain at anwybyddu'ch cais. Er mwyn sicrhau bod eich cais yn cael ystyriaeth lawn, rydym yn argymell cyflwyno cais wedi'i deilwra sy'n mynd i'r afael yn uniongyrchol â'r meini prawf a restrir yn adran Manyleb y Person yr hysbyseb.
Trwy gyflwyno eich cais i NHS Jobs/Trac, rydych yn gydsynio i elfennau o ddata eich cais gael eu trosglwyddo i Gofnod Staff Electronig (ESR) y GIG a systemau diogel, mewnol Gweithlu’r GIG er mwyn cefnogi a rheoli eich recriwtio a’ch cyflogaeth o fewn y sefydliad sy’n eich cyflogi; i’w defnyddio gan yr adran Recriwtio at ddibenion gwirio eich Cofrestriad Proffesiynol ar-lein (lle bo’n briodol).
Mae’r prosesau hyn yn unol â phrosesu Teg a Chyfreithlon yn unol â Deddfwriaeth Diogelu Data cyfredol yn enwedig y rhai hynny mewn perthynas â’ch data personol neu bersonol sensitif (diffinir data personol sensitif fel unrhyw gyflwr iechyd meddwl neu gorfforol, tarddiad hiliol neu ethnig, cyfeiriadedd rhywiol, aelodaeth undeb llafur, barn wleidyddol neu gred crefyddol datganedig). Fel sefydliad, rydym yn sicrhau bod y ddeddfwriaeth sy’n diffinio cyfrinachedd yn cael ei dilyn megis y defnydd o ddata at ddibenion penodol, diffiniedig, a defnydd o ddata sy’n berthnasol ac nid yn ormodol wrth ymarfer cywirdeb data a diogelwch yr holl wybodaeth bersonol adnabyddadwy a gedwir.
Os cewch eich penodi’n llwyddiannus, trwy lenwi’r ffurflen gais rydych yn awdurdodi’r BIP i gael unrhyw fanylion gwasanaeth blaenorol i’r GIG yn cynnwys yr holl wybodaeth ar salwch a gedwir yn electronig, trwy’r broses Trosglwyddo Rhyng-awdurdod ar y Cofnod Staff Electronig.
I weithio yn y DU, mae angen nawdd ar bob ymgeisydd nad yw'n wladolyn o'r DU neu Weriniaeth Iwerddon i gael naill ai fisa Gweithiwr Iechyd a Gofal neu fisa Gweithiwr Medrus, oni bai bod gennych ganiatâd i weithio trwy lwybr arall. Dylai ymgeiswyr nad ydynt yn rhan o'r DU/Gweriniaeth Iwerddon sy'n dymuno gwneud cais hunanasesu'u tebygolrwydd o gael Tystysgrif Nawdd trwy ymweld â gwefan Fisâu a Mewnfudo'r DU. Os ydych chi'n gymwys i gael y fisa Iechyd a Gofal, mae'r costau ymgeisio yn is ac nid oes angen i chi dalu Gordal Iechyd Mewnfudo blynyddol.
Gofynion yr ymgeisydd
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Addysg hyd at lefel gradd, neu brofiad cyfatebol
- Ymarferydd APMP/PRINCE2 neu brofiad priodol o reoli prosiectau ar lefel gyfatebol
- Cymwysterau lefel diploma olraddedig neu brofiad ar lefel gyfatebol
- Dealltwriaeth o anghenion clinigwyr yn y gweithle
- Gwybodaeth fanwl am strwythurau sefydliadol, llinellau adrodd rheolwyr, a llwybrau priodol ar gyfer dirprwyo pecynnau gwaith prosiectau
- Dealltwriaeth o'r ardal a wasanaethir gan y Bwrdd Iechyd a'i chymeriad cymdeithasol ac economaidd
- Tystiolaeth o ddatblygiad pellach – addysg/hyfforddiant
Meini prawf dymunol
- Ymarferydd Rheoli Rhaglenni Llwyddiannus (MSP)
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad ar lefel glinigol, dechnegol (e.e. Gwybodeg) neu reoli
- Hanes profedig o reoli prosiectau ffurfiol ar raddfa ganolig
- Hanes profedig o allu cydgysylltu timau aml-lefel/amlddisgyblaethol
- Gwybodaeth am gyllidebu a gweithdrefnau dyrannu adnoddau
- Profiad o weithio ym maes gofal iechyd
- Gwybodaeth am y broses gaffael, gan gynnwys trafodaethau contract yn enwedig mewn perthynas a chaffaeliadau TG
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siarad Cymraeg (Lefel 1)
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Sarah Charles
- Teitl y swydd
- Programme Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Cysylltwch â Sarah Charles neu Sarah Dunderdale am ragor o wybodaeth. Manylion isod:
Dechrau eich cais
Mewngofnodi
Creu cyfrif
Creu eich cyfrif a gwneud cais am eich swydd newydd!