Mae Trac yn falch o bweru recriwtio ar gyfer
Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC)

Gwybodaeth
Wedi'i sefydlu ar 1 Hydref 2018, mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn Awdurdod Iechyd Arbennig sy'n eistedd ochr yn ochr â'r Byrddau Iechyd a'r Ymddiriedolaethau o fewn GIG Cymru ac sydd â rôl arweiniol mewn addysg, hyfforddiant, datblygu a siapio'r gweithlu gofal iechyd yn Cymru, er mwyn sicrhau gofal o ansawdd uchel i bobl Cymru.
Cysylltu
- Address
Darganfod rhagor
open_in_new SwyddiCymrawd Hyfforddiant Arweinyddiaeth Glinigol Cymru
Accepting applications until: 18-May-2025 23:59
Statws y swydd wag: Open
Accepting applications until: 18-May-2025 23:59
Manylion allweddol
Lleoliad
- Gwefan
- Wedi’i leoli mewn Sefydliadau Lletya
- Cyfeiriad
- Ty Dysgu
- Tref
- Nantgarw
- Cod post
- CF15 7QQ
- Major / Minor Region
- Caerdydd
Math o gontract a phatrwm gwaith
- Contract
- Cyfnod Penodol: 12 mis (penodol/secondiad am 12 misoedd)
- Oriau
- Llawnamser
- Gweithio hyblyg
Cyflog
- Cyflog
- £46,840 - £61,412 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Gradd
- (Hyfforddeion Meddygol a Deintyddol (DCT2 a ST3 ac uwch), Agenda ar gyfer Newid Band 7-8A, Nyrsys, Fferyllwyr, Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd, Optometryddion a Gwyddonwyr Gofal Iechyd (sylwer y dylai ymgeiswyr fod yn gweithio o leiaf ar lefel band 7 A4C ar y adeg gwneud cais, ac os yw'n llwyddiannus, ar adeg ymuno â'r cynllun cymrodoriaeth).)
Arbenigedd
- Prif leoliad
- Cymrawd Hyfforddiant Arweinyddiaeth Glinigol Cymru
Trosolwg o'r swydd
Mae'r cyfle blwyddyn hwn yn darparu hyfforddiant a phrofiad ymarferol mewn arweinyddiaeth glinigol a rheolaeth. Mae'r agoriad hwn ar gael I'r tim aml-ddisgyblaeth sy'n cynnwys meddygon mewn hyfforddiant arbenigol (ST3/DCT2 ac uwch), Fferyllwyr, Optometryddion, Gweithwyr Proffesiynol Perthygol I iwchyd, Gwyddonwyr Gofal Iechyd a Nyrsys (Agenda ar gyfer Newis Band 7-Band 8a) (nodwch y dylai ymgeiswyr fod yn gweithio ar y lefel hyn ar bwynt cais, ac os yn llwyddiannus, ar bwynt cychwyn I'r cynllun cymrodoriaeth)
Gan weithio'n uniongyrchol i Uwch Arweinydd ynghyd â'u timau ar draws GIG Cymru ac ymgysylltu ag amrywiaeth eang o randdeiliaid, mae'r rôl hon yn cynnig cyfle datblygu gyrfa sylweddol i gymrodyr adeiladu rhwydweithiau, helpu i lunio mentrau cenedlaethol a rhanbarthol, tra'n cefnogi'r gwaith o ddarparu rhaglenni gwaith allweddol.
Mae’r swydd hon am gyfnod penodol/secondiad am 12 misoedd oherwydd cwrdd gofynion y gwasanaeth. Os byddwch yn llwyddiannus yn y cyfweliad byddwch yn cael eich secondio yn unol â’ch cyflog cytundebol.
Os oes diddordeb gyda chi mewn ceisio am swydd secondiad, mae’n rhaid i chi gael caniatad eich rheolwr llinell presennol cyn i chi geisio am y swydd hon.
Advert
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn ymgymryd â phrosiect arwain a rheoli o gynigion sydd wedi'u cyflwyno gan sefydliadau gofal iechyd yng Nghymru. Bydd cymrodyr arweinyddiaeth yn cael eu cefnogi yn eu sefydliadau gwesteiwr gan oruchwylwyr prosiect. Bydd amserlen ddangosol yn cael ei chynnig yn manylu ar elfen academaidd helaeth o'r rhaglen sy'n cael ei darparu gan Brifysgol Glyndŵr, y Gyfadran Arweinyddiaeth a Rheolaeth Feddygol ynghyd â'r sesiynau a gyflwynir trwy gydol y flwyddyn fel rhan o Gyfres Arbenigwyr AaGIC.
Mae’r swydd hon am gyfnod penodol/secondiad am 12 mis oherwydd cwrdd gofynion y gwasanaeth
Os oes diddordeb gyda chi mewn ceisio am swydd secondiad, mae’n rhaid i chi gael caniatad eich rheolwr llinell presennol cyn i chi geisio am y swydd hon.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Gweithio i'n sefydliad
Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yw'r corff gweithlu strategol ar gyfer GIG Cymru sydd â swyddogaethau statudol sy'n cynnwys addysg a hyfforddiant, cynllunio'r gweithlu, datblygu a thrawsnewid y gweithlu, arweinyddiaeth a chynllunio olyniaeth, a gyrfaoedd. Ein diben yw datblygu gweithlu sy'n darparu gofal rhagorol i gleifion/defnyddwyr gwasanaethau ac iechyd rhagorol yn y boblogaeth. Rydym yn Awdurdod Iechyd Arbennig sy'n gweithio'n agos gyda'n partneriaid; Gofal Cymdeithasol Cymru, darparwyr addysg, cyrff proffesiynol a rheoleiddiol a Llywodraeth Cymru.
Mae AaGIC wedi ymrwymo i ddatblygu diwylliant mewnol o ddewis. Mae ein Gwerthoedd yn adlewyrchu ein meddyliau, ein teimladau a'n credoau o ran sut y byddwn, ac na fyddwn, yn ymddwyn ac yn trin eraill:
- Parch i Bawb ym mhob cyswllt sydd gennym ag eraill,
- Syniadau sy'n Gwella: Harneisio creadigrwydd ac arloesi, gwerthuso a gwella'n barhaus,
- Gyda'n Gilydd fel Tîm
Derbyniodd AaGIC Wobr HPMA ar gyfer Ymgysylltu â Gweithwyr yn 2019.
Yr hyn y gallwch ei ddisgwyl:
- cyfnod ymsefydlu corfforaethol ag amserlen Croeso 90 diwrnod,
- arweinyddiaeth dosturiol,
- proses arfarnu perfformiad ystyrlon sy'n seiliedig ar werthoedd,
- y cyfle i effeithio ar wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a bywydau a lles pobl Cymru.
Mae llawer o'n cydweithwyr a'n rhanddeiliaid wedi gwneud sylwadau ar y cyffro a'r awyrgylch a olygwn drwy gydweithio fel "Un Tîm AaGIC". Ydych chi am ymuno â'r tîm hwnnw?
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.
Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau
Mae'n hanfodol bod eich cais yn dangos sut rydych chi'n cwrdd â'r disgrifiad swydd / manyleb person ar gyfer y swydd hon.
Rydym wedi ymrwymo i hyrwyddo cynhwysiant yn AaGIC ac rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb sy'n cydnabod y gwerth y mae amrywiaeth yn ei roi i'n gweithlu. I weithio yn y DU, mae angen i ymgeiswyr nad ydynt yn ddinasyddion y DU neu Weriniaeth Iwerddon (ROI) gael eu noddi trwy Fisa Gweithiwr Medrus, oni bai bod ganddynt ganiatâd i weithio trwy lwybr arall. Sylwch nad oes gan AaGIC drwydded ar hyn o bryd i benodi gweithwyr medrus o dramor drwy eu noddi i weithio yn y DU. Os byddant yn llwyddiannus, byddai ymgeiswyr o'r tu allan i'r DU neu ROI yn gyfrifol am gael eu nawdd neu fisa eu hunain i'w galluogi i weithio i AaGIC - Gweithio yn y DU - Work in the UK
Gofynion yr ymgeisydd
Manyleb y person
Cymwysterau neu Wybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Cymwysterau proffesiynol, technegol neu academaidd neu wybodaeth sydd eu hangen neu'r hyfforddiant a gyflawnir neu brofiad amlwg e.e. gradd meddygaeth neu radd sy'n gysylltiedig ag ymarfer proffesiynol os gweithiwr gofal iechyd proffesiynol arall).
- Rhaid bod yn gyflogedig ar A4C Band 7 - Band 8a / ST3 neu'n uwch (hyfforddeion meddygol, ac eithrio hyfforddeion meddyg teulu), GPST2 neu uwch (hyfforddeion meddyg teulu, DCT2 neu uwch (hyfforddeion deintyddol) ar adeg gwneud y cais
Meini prawf dymunol
- Cymhwyster lefel Meistr
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Gwybodaeth helaeth am feysydd arbenigol a gafwyd drwy ddiploma ôl-raddedig neu brofiad neu hyfforddiant cyfatebol yn ogystal â gwybodaeth neu brofiad arbenigol pellach i'r hyn sy'n cyfateb i lefel meistr.
- Tystiolaeth o ddatblygiad ôl-gymhwyso a datblygiad proffesiynol parhaus.
- Yn dangos dyheadau arweinyddiaeth glir.
- Tystiolaeth o ymwneud ag arwain a rheoli sy'n gymesur â phrofiad, gyda myfyrio ar effaith bersonol.
- Y gallu i weithio gydag eraill yn effeithiol mewn tîm amlbroffesiynol.
- Profiad o reoli neu ysgogi tîm/tîm rhithwir.
- Profiad o adolygu perfformiad unigolion.
- Profiad o adnabod a dehongli polisi cenedlaethol.
Meini prawf dymunol
- Profiad cynhwysfawr o egwyddorion ac offer prosiect fel Prince 2 a Managing Successful Projects.
- Cael dealltwriaeth o gefndir a nodau'r polisi gofal iechyd cyfredol a gwerthfawrogi goblygiadau hyn ar ymgysylltu.
- Cael gwerthfawrogiad o'r berthynas rhwng yr Adran Iechyd a sefydliadau darparwyr a chomisiynu unigol.
- Profiad o hyfforddi a mentora.
- Tystiolaeth o ragoriaeth glinigol trwy wobrau, cyflwyniadau a phapurau.
- Gradd ôl-raddedig gysylltiedig ychwanegol mewn pwnc arwain a rheoli perthnasol.
Gwerthoedd
Meini prawf hanfodol
- Ymrwymiad a chanolbwyntio ar ansawdd, ac yn hyrwyddo safonau uchel ym mhopeth maen nhw'n ei wneud.
- Gallu gwneud cysylltiad rhwng eu gwaith a'r budd i gleifion a'r cyhoedd.
- Yn meddwl yn gyson am sut y gall eu gwaith helpu a chefnogi clinigwyr a staff rheng flaen i sicrhau canlyniadau gwell i gleifion.
- Yn gwerthfawrogi amrywiaeth a gwahaniaeth yn gweithredu gydag uniondeb a didwylledd.
- Yn gweithio'n dda gydag eraill, yn gadarnhaol ac yn ddefnyddiol, yn gwrando, yn cynnwys, yn parchu ac yn dysgu o gyfraniad pobl eraill.
- Yn ceisio gwella'r hyn maen nhw'n ei wneud, chwilio am ffyrdd llwyddiannus o weithio sydd wedi'u profi, a hefyd yn chwilio am arloesedd yn gyson.
- Yn mynd ati i ddatblygu eu hunain ac yn cefnogi eraill i wneud yr un peth.
- Dealltwriaeth o gyfle cyfartal a pherthnasoedd gwaith da ac ymrwymiad iddynt.
- Y gallu i gynnal cyfrinachedd ac ymddiriedaeth.
- Gallu i addasu, hyblygrwydd a'r gallu i ymdopi ag ansicrwydd a newid.
- Yn dangos gonestrwydd ym mhob agwedd o fywyd proffesiynol.
Meini prawf dymunol
- Chwilio am ac yn gweithredu ar adborth ynghylch effeithiolrwydd ei hun a meysydd i'w datblygu.
- Yn myfyrio ar berfformiad yn y gorffennol ac yn cymhwyso dysgu i arfer cyfredol.
- Yn cyfeirio at safonau a fframweithiau arwain a rheoli cenedlaethol i ddatblygu ymddygiadau a chymwyseddau priodol ym maes arwain a rheoli e.e. safonau arweinyddiaeth a rheolaeth FMLM ar gyfer gweithwyr meddygol proffesiynol
Arall
Meini prawf hanfodol
- Gofynion arbennig i berfformio yn y rôl e.e. y gallu i deithio o fewn ardal ddaearyddol. Gallu gweithio oriau'n hyblyg. Unrhyw beth arall nad yw wedi'i gynnwys uchod.
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Dawn Daniel
- Teitl y swydd
- Programme Support Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Dr Ian Collings,
Director of Medic Professional Support & Development, Postgrad Dean/Deputy Dean Senior Team
E-mail: [email protected]
Dechrau eich cais
Mewngofnodi
Creu cyfrif
Creu eich cyfrif a gwneud cais am eich swydd newydd!