Mae Trac yn falch o bweru recriwtio ar gyfer
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Gwybodaeth
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd i boblogaeth o tua 372,320 ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro. Mae'n darparu gwasanaethau Acìwt, Sylfaenol, Cymunedol, Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu trwy Ysbytai Cyffredinol a Chymunedol, Canolfannau Iechyd, Meddygfeydd Teulu, Deintyddion, Fferyllfeydd, Optometryddion a safleoedd eraill.
Cysylltu
- Address
- Glien House
- Cillefwr Industrial Estate
- Johnstown
- Carmarthen
- Carmarthenshire
- SA31 3RB
- Contact Number
- 0300 303 6138
Ymarferydd Cynorthwyol Therapïau (Gofal Canolraddol)
Accepting applications until: 28-May-2025 23:59
Statws y swydd wag: Open
Accepting applications until: 28-May-2025 23:59
Manylion allweddol
Lleoliad
- Gwefan
- Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg
- Cyfeiriad
- Heol Abergwaun
- Tref
- Hwlffordd
- Cod post
- SA61 2PZ
- Major / Minor Region
- Sir Gaerfyrddin
Math o gontract a phatrwm gwaith
- Contract
- Cyfnod Penodol: 12 mis (Mae’r swydd hon am gyfnod penodol am 01.07.26 oherwydd cyllido)
- Oriau
- Rhan-amser - 26.25 awr yr wythnos
Cyflog
- Cyflog
- £26,928 - £29,551 y flwyddyn, y pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Gradd
- (Band 4)
Arbenigedd
- Prif leoliad
- Therapi
- Dyddiad y cyfweliad
- 05/06/2025
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.
Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau.
Trosolwg o'r swydd
A oes gennych ddiddordeb mewn iechyd a maeth? A ydych yn chwilio am yrfa lle gallwch wneud gwahaniaeth a darparu gofal rhagorol i'r rhai y mae arnynt ei angen?
Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â'r tîm Gofal Brys a Chanolraddol yn Sir Benfro.
Rydym yn dîm amlddisgyblaethol arloesol a chynhwysfawr o Ddeietegwyr, Therapyddion Galwedigaethol, Ffisiotherapyddion, Ymarferwyr Cynorthwyol Therapïau, Nyrsys, Meddygon Teulu, Uwch-ymarferwyr Nyrsio, Uwch-ymarferwyr Parafeddygol, Uwch ymarferwyr Clinigol, Cymdeithion Meddygol, Gweithwyr Cymdeithasol, Gweithwyr Ailalluogi, ac Asiantau Trydydd Sector sy'n ymdrechu i ddarparu'r cymorth cywir, ar yr adeg gywir, yn y lle cywir i gleifion.
Mae'r Tîm Gofal Canolraddol Amlddisgyblaethol yn cydweithio i ddarparu gofal i gleifion mewn modd holistaidd, sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, gan gynorthwyo cleifion i aros yn eu cartref/ddychwelyd yn ddiogel i'w cartref eu hunain yn unol â pholisi chwe nod Llywodraeth Cymru i alluogi gwell gofal, canlyniadau, profiad, a gwerth.
Bydd deiliad y swydd yn cynorthwyo i gynnal sgrinio maeth a rhaeadru gwybodaeth am faeth i'r tîm amlddisgyblaethol a'r cyhoedd trwy gynnal sesiynau hyfforddi ac addysg. Bydd yn cynorthwyo'r Deietegydd a'r tîm amlddisgyblaethol ehangach i nodi cleifion sydd mewn perygl o ddiffyg maeth, trwy gynnal asesiadau maeth a darparu cymorth maeth. Y
prif nod yw grymuso cleifion i wella eu statws maethol ac atal datgyflyru trwy wneud newid cadarnhaol cyraeddadwy.
Advert
- Cefnogi'r gwaith o ddarparu amrywiaeth o asesiadau, triniaethau ac ymyriadau maeth a deieteteg arbenigol yn unol â chanllawiau, protocolau a llwybrau gofal cytunedig.
- Datblygu ac addasu cynlluniau gofal maeth ar gyfer cleifion y gellir rhagweld eu hadferiad/dirywiad.
- Cefnogi'r broses o fonitro a gwerthuso ymyriadau maeth a deieteteg yn unol â chynlluniau gofal rhagnodedig.
- Amlygu gwybodaeth sylweddol am faeth ac effaith cyflwr meddygol y claf er mwyn addasu unrhyw ganllawiau ynghylch maeth a deieteteg a roddir, a defnyddio blaengaredd mewn modd priodol ar sail yr ymgyflwyniad.
- Gweithio mewn partneriaeth â fferyllfeydd, practisau meddygon teulu, gofal cymdeithasol, a'r tîm amlddisgyblaethol i sicrhau bod ymyriadau therapiwtig maeth a deietetig yn cael eu hwyluso mewn modd effeithiol.
- Mynd ati i gefnogi gwelliannau mewn safonau gofal maeth y gellir eu trosglwyddo o’r lleoliad acíwt i’r lleoliad cymunedol.
- Gwerthuso effeithiolrwydd ymyriadau a gofal maeth, gan gynnwys monitro systemau a phrosesau a gyflawnir gan dimau y tu allan i'r adran ddeieteg.
- Cynorthwyo'r tîm deieteteg i gynllunio, cyflwyno, a gwerthuso sesiynau addysg a hyfforddiant wedi'u sgriptio i ystod o grwpiau staff a chleifion.
- Datrys problemau i leihau effaith materion sy'n gysylltiedig â maeth ar ganlyniadau'r cleifion.
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 12,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu i bron 400,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
4 prif ysbyty (Bronglais, Aberystwyth, Glangwili, Caerfyrddin, Tywysog Philip, Llanelli, ac Llwynhelyg, Hwlffordd).
5 ysbyty cymunedol (Ysbyty Dyffryn Aman ac Ysbyty Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin, Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion,Ysbyty Dinbych-y-pysgod a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol De Sir Benfro yn Sir Benfro.
Dwy ganolfan gofal integredig (Aberaeron ac Aberteifi, yng Ngheredigion).
Cyfleusterau cymunedol, gan gynnwys:
48 Meddygfa, 49 Deintyddfa, 98 Fferyllfa Gymunedol, 44 Practis Offthalmig Cyffredinol (gan gynnwys gwasanaethau iechyd llygaid a golwg gwan), 38 safle yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu, gofal o fewn eich cartrefi eich hun
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
I wneud cais, dylai fod gennych NVQ lefel 3 neu gymhwyster cyfatebol, ynghyd â phrofiad clinigol perthnasol yn gweithio mewn lleoliad gofal iechyd.
Rydym yn chwilio am unigolyn rhagweithiol, tosturiol a llawn cymhelliant, sy'n teimlo'n angerddol ynghylch gwerth adsefydlu cymunedol ac i gynnal momentwm o ran trawsnewid ein gwasanaethau cymunedol ledled y sefydliad ar gyfer pobl Sir Benfro a chenedlaethau'r dyfodol.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cynhelir y cyfweliadu ar 05/06/2025
MAE’R SWYDD HON AM GYFNOD PENODOL AM 01.07.26 OHERWYDD CYLLIDO
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir drwy gyfrwng y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau a wneir yn y Saesneg.
NODYN PWYSIG I YMGEISWYR: Mae ceisiadau am ein rolau yn cael eu hadolygu'n ofalus a'u rhoi ar restr fer yn seiliedig ar feini prawf penodol, sy'n amrywio o swydd i swydd. Efallai na fydd defnyddio cais generig i wneud cais am rolau lluosog neu ddibynnu ar wasanaethau ceisiadau deallusrwydd artiffisial awtomataidd, fel Lazy Apply neu AI Apply, yn darparu'r wybodaeth angenrheidiol, gan arwain at anwybyddu'ch cais. Er mwyn sicrhau bod eich cais yn cael ystyriaeth lawn, rydym yn argymell cyflwyno cais wedi'i deilwra sy'n mynd i'r afael yn uniongyrchol â'r meini prawf a restrir yn adran Manyleb y Person yr hysbyseb.
Trwy gyflwyno eich cais i NHS Jobs/Trac, rydych yn gydsynio i elfennau o ddata eich cais gael eu trosglwyddo i Gofnod Staff Electronig (ESR) y GIG a systemau diogel, mewnol Gweithlu’r GIG er mwyn cefnogi a rheoli eich recriwtio a’ch cyflogaeth o fewn y sefydliad sy’n eich cyflogi; i’w defnyddio gan yr adran Recriwtio at ddibenion gwirio eich Cofrestriad Proffesiynol ar-lein (lle bo’n briodol).
Mae’r prosesau hyn yn unol â phrosesu Teg a Chyfreithlon yn unol â Deddfwriaeth Diogelu Data cyfredol yn enwedig y rhai hynny mewn perthynas â’ch data personol neu bersonol sensitif (diffinir data personol sensitif fel unrhyw gyflwr iechyd meddwl neu gorfforol, tarddiad hiliol neu ethnig, cyfeiriadedd rhywiol, aelodaeth undeb llafur, barn wleidyddol neu gred crefyddol datganedig). Fel sefydliad, rydym yn sicrhau bod y ddeddfwriaeth sy’n diffinio cyfrinachedd yn cael ei dilyn megis y defnydd o ddata at ddibenion penodol, diffiniedig, a defnydd o ddata sy’n berthnasol ac nid yn ormodol wrth ymarfer cywirdeb data a diogelwch yr holl wybodaeth bersonol adnabyddadwy a gedwir.
Os cewch eich penodi’n llwyddiannus, trwy lenwi’r ffurflen gais rydych yn awdurdodi’r BIP i gael unrhyw fanylion gwasanaeth blaenorol i’r GIG yn cynnwys yr holl wybodaeth ar salwch a gedwir yn electronig, trwy’r broses Trosglwyddo Rhyng-awdurdod ar y Cofnod Staff Electronig.
I weithio yn y DU, mae angen nawdd ar bob ymgeisydd nad yw'n wladolyn o'r DU neu Weriniaeth Iwerddon i gael naill ai fisa Gweithiwr Iechyd a Gofal neu fisa Gweithiwr Medrus, oni bai bod gennych ganiatâd i weithio trwy lwybr arall. Dylai ymgeiswyr nad ydynt yn rhan o'r DU/Gweriniaeth Iwerddon sy'n dymuno gwneud cais hunanasesu'u tebygolrwydd o gael Tystysgrif Nawdd trwy ymweld â gwefan Fisâu a Mewnfudo'r DU. Os ydych chi'n gymwys i gael y fisa Iechyd a Gofal, mae'r costau ymgeisio yn is ac nid oes angen i chi dalu Gordal Iechyd Mewnfudo blynyddol.
Gofynion yr ymgeisydd
Manyleb y person
Qualifications and Knowledge
Meini prawf hanfodol
- Cymhwyster mewn maetheg, iechyd neu faes perthnasol arall, sy'n cyfateb i o leiaf 120 credyd ar lefel 4 neu NVQ neu ddiploma lefel 3 neu gymhwyster cyfatebol, ac yn barod i gwblhau 120 credyd ar lefel 4 sy'n berthnasol i'r rôl cyn pen dwy flynedd o gael eich penodi, gyda phrofiad lefel 4 cyfatebol.
- TGAU Mathemateg a Saesneg (graddau A-C) neu Sgiliau Hanfodol Cymru
- Meistrolaeth dda ar y Saesneg ac yn gallu cymhwyso Mathemateg sylfaenol
- Yn hyddysg mewn TG
- Gwybodaeth a dealltwriaeth mewn perthynas â'r sylfaen dystiolaeth sy'n sail i faetheg ym maes gofal iechyd
Meini prawf dymunol
- Prentisiaeth Therapi Lefel 4
- Cyrsiau perthnasol i gefnogi gwaith maetheg/clinigol
- Gwybodaeth TG am systemau casglu data
- Cymhwyster proffesiynol, technegol neu academaidd sy'n berthnasol i faetheg neu ymarfer clinigol hyd at 180 credyd ar am lefel 4
- Wedi cael hyfforddiant cyf-weld ysgogiadol
Experience
Meini prawf hanfodol
- Profiad mewn perthynas â gofal iechyd, llesiant a maetheg, neu o fod yn weithiwr cymorth mewn gwasanaeth nyrsio neu therapi, neu mewn maes cysylltiedig
Meini prawf dymunol
- Profiad o fod yn weithiwr cymorth deieteg
- Profiad clinigol ychwanegol neu ym maes gofal iechyd
- Profiad o weithio gyda grwpiau o gleifion
- Profiad o oruchwylio
Other
Meini prawf hanfodol
- Y gallu a'r parodrwydd i deithio ledled safleoedd ac ymweld â chleifion yn ôl y gofyn
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Shelby Rossiter
- Teitl y swydd
- Clinical Lead Dietician
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01437774339
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Sarah Roberts
Dirprwy Bennaeth Maeth a Deieteg
Dechrau eich cais
Mewngofnodi
Creu cyfrif
Creu eich cyfrif a gwneud cais am eich swydd newydd!