Mae Trac yn falch o bweru recriwtio ar gyfer
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Gwybodaeth
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd i boblogaeth o tua 372,320 ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro. Mae'n darparu gwasanaethau Acìwt, Sylfaenol, Cymunedol, Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu trwy Ysbytai Cyffredinol a Chymunedol, Canolfannau Iechyd, Meddygfeydd Teulu, Deintyddion, Fferyllfeydd, Optometryddion a safleoedd eraill.
Cysylltu
- Address
- Glien House
- Cillefwr Industrial Estate
- Johnstown
- Carmarthen
- Carmarthenshire
- SA31 3RB
- Contact Number
- 0300 303 6138
Uwch-swyddog Ystadau
Accepting applications until: 11-May-2025 23:59
Statws y swydd wag: Open
Accepting applications until: 11-May-2025 23:59
Manylion allweddol
Lleoliad
- Gwefan
- Ysbyty Cyffredinol Glangwili
- Cyfeiriad
- Heol Dolgwili
- Tref
- Caerfyrddin
- Cod post
- SA31 2AF
- Major / Minor Region
- Sir Gaerfyrddin
Math o gontract a phatrwm gwaith
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (ar alwad)
Cyflog
- Cyflog
- £46,840 - £53,602 y flwyddyn, a lwfans ar alwad
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Gradd
- (Band 7)
Arbenigedd
- Prif leoliad
- Gweithrediadau Ystadau
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.
Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau.
Trosolwg o'r swydd
Rydym chwilio am Senior Estates Officer i Cynorthwyo'r Rheolwyr Ystadau i ddarparu amgylchedd diogel, cyfforddus a chydsyniol ar gyfer cleifion, staff, contractwyr, ymgynghorwyr ac ymwelwyr.
Bydd deiliad y swydd yn sicrhau bod yr holl wasanaethau hanfodol yn cael eu cynnal i gefnogi adrannau clinigol o ran eu prif dasg o drin cleifion, gan hefyd sicrhau y cydymffurfir â'r holl Ddeddfwriaethau Statudol.
Mae'r rol hon yn allweddol o ran cefnogi'r Rheolwyr ystadau ac o ran rheoli ac arwain dau Swyddog Ystadau cynorthwyol ym mhob safle acíwt. Arwain a rheoli swyddogaeth cynnal a chadw a pheirianneg hanfodol er mwyn sicrhau bod pob safle yn weithredol ac yn cydymffurfio bob amser. Mae meithrin partneriaethau allweddol â chyd-weithwyr ymhlith rheolwyr yr ysbyty, swyddogion cydymffurfedd statudol a chyd-weithwyr cyfalaf yn hanfodol i lwyddiant y rolau hyn.
Advert
Darparu cyngor technegol lefel uchel wrth weithredu rhaglen strategol i foderneiddio ystod o systemau seilwaith peirianneg hanfodol, a hynny mewn partneriaeth ag Ymgynghorwyr Dylunio a Pheirianneg mewnol.
Darparu cyngor arweiniol ym maes peirianneg/adeiladu, gan gefnogi ac ategu arbenigedd y Rheolwr Ystadau o ran peirianneg (Arbenigwr Mecanyddol a Thrydanol).
Cyfrannu at y broses cynllunio Cyfalaf trwy gynorthwyo'r Rheolwr Ystadau i ddatblygu Rhaglen Adnewyddu Seilwaith/Peiriannau hirdymor (pum mlynedd), â blaenoriaeth, a gweithio'n agos gyda'r Adran Eiddo ar flaenoriaethau Statudol wedi'u cydgysylltu yn y Strategaeth Ystadau
gyffredinol, gan gynnal asesiadau risg i flaenoriaethu ein Rhaglen Cyfalaf.
Deall safonau deddfwriaethol, a chynghori arnynt, a chymhwyso canllawiau cenedlaethol sy'n berthnasol i'r swyddogaeth cynnal a chadw briodol, ynghyd ag amlygu arbenigedd wrth sicrhau cydymffurfedd a'r safonau.
Sicrhau bod rhaglen cynnal a chadw gynlluniedig y Bwrdd Iechyd yn cael ei chynnal yn y prif ysbyty a'r eiddo lleol perthnasol er mwyn sicrhau bod gofynion statudol yn cael eu bodloni a bod gwasanaethau cleifion yn cael eu cefnogi.
Llunio adroddiadau misol yn cynghori uwchgydweithwyr Ystadau ar gydymffurfedd yn unol a Dangosyddion Perfformiad Allweddol cytunedig.
Yn ystod cyfnodau ar alwad, cymryd rheolaeth lwyr ar ddigwyddiadau peirianneg/adeiladu, a lleoli staff yn unol a hynny.
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 12,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu i bron 400,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
4 prif ysbyty (Bronglais, Aberystwyth, Glangwili, Caerfyrddin, Tywysog Philip, Llanelli, ac Llwynhelyg, Hwlffordd).
5 ysbyty cymunedol (Ysbyty Dyffryn Aman ac Ysbyty Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin, Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion,Ysbyty Dinbych-y-pysgod a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol De Sir Benfro yn Sir Benfro.
Dwy ganolfan gofal integredig (Aberaeron ac Aberteifi, yng Ngheredigion).
Cyfleusterau cymunedol, gan gynnwys:
48 Meddygfa, 49 Deintyddfa, 98 Fferyllfa Gymunedol, 44 Practis Offthalmig Cyffredinol (gan gynnwys gwasanaethau iechyd llygaid a golwg gwan), 38 safle yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu, gofal o fewn eich cartrefi eich hun.
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg a chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cynhelir y cyfweliadau ar 21.05.25
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir drwy gyfrwng y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau a wneir yn y Saesneg.
NODYN PWYSIG I YMGEISWYR: Mae ceisiadau am ein rolau yn cael eu hadolygu'n ofalus a'u rhoi ar restr fer yn seiliedig ar feini prawf penodol, sy'n amrywio o swydd i swydd. Efallai na fydd defnyddio cais generig i wneud cais am rolau lluosog neu ddibynnu ar wasanaethau ceisiadau deallusrwydd artiffisial awtomataidd, fel Lazy Apply neu AI Apply, yn darparu'r wybodaeth angenrheidiol, gan arwain at anwybyddu'ch cais. Er mwyn sicrhau bod eich cais yn cael ystyriaeth lawn, rydym yn argymell cyflwyno cais wedi'i deilwra sy'n mynd i'r afael yn uniongyrchol â'r meini prawf a restrir yn adran Manyleb y Person yr hysbyseb.
Trwy gyflwyno eich cais i NHS Jobs/Trac, rydych yn gydsynio i elfennau o ddata eich cais gael eu trosglwyddo i Gofnod Staff Electronig (ESR) y GIG a systemau diogel, mewnol Gweithlu’r GIG er mwyn cefnogi a rheoli eich recriwtio a’ch cyflogaeth o fewn y sefydliad sy’n eich cyflogi; i’w defnyddio gan yr adran Recriwtio at ddibenion gwirio eich Cofrestriad Proffesiynol ar-lein (lle bo’n briodol).
Mae’r prosesau hyn yn unol â phrosesu Teg a Chyfreithlon yn unol â Deddfwriaeth Diogelu Data cyfredol yn enwedig y rhai hynny mewn perthynas â’ch data personol neu bersonol sensitif (diffinir data personol sensitif fel unrhyw gyflwr iechyd meddwl neu gorfforol, tarddiad hiliol neu ethnig, cyfeiriadedd rhywiol, aelodaeth undeb llafur, barn wleidyddol neu gred crefyddol datganedig). Fel sefydliad, rydym yn sicrhau bod y ddeddfwriaeth sy’n diffinio cyfrinachedd yn cael ei dilyn megis y defnydd o ddata at ddibenion penodol, diffiniedig, a defnydd o ddata sy’n berthnasol ac nid yn ormodol wrth ymarfer cywirdeb data a diogelwch yr holl wybodaeth bersonol adnabyddadwy a gedwir.
Os cewch eich penodi’n llwyddiannus, trwy lenwi’r ffurflen gais rydych yn awdurdodi’r BIP i gael unrhyw fanylion gwasanaeth blaenorol i’r GIG yn cynnwys yr holl wybodaeth ar salwch a gedwir yn electronig, trwy’r broses Trosglwyddo Rhyng-awdurdod ar y Cofnod Staff Electronig.
I weithio yn y DU, mae angen nawdd ar bob ymgeisydd nad yw'n wladolyn o'r DU neu Weriniaeth Iwerddon i gael naill ai fisa Gweithiwr Iechyd a Gofal neu fisa Gweithiwr Medrus, oni bai bod gennych ganiatâd i weithio trwy lwybr arall. Dylai ymgeiswyr nad ydynt yn rhan o'r DU/Gweriniaeth Iwerddon sy'n dymuno gwneud cais hunanasesu'u tebygolrwydd o gael Tystysgrif Nawdd trwy ymweld â gwefan Fisâu a Mewnfudo'r DU. Os ydych chi'n gymwys i gael y fisa Iechyd a Gofal, mae'r costau ymgeisio yn is ac nid oes angen i chi dalu Gordal Iechyd Mewnfudo blynyddol.
Gofynion yr ymgeisydd
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Gradd mewn peirianneg neu bwnc perthnasol neu HNC/HND a phrofiad sylweddol o beirianneg hyd at lefel gradd, yn ogystal â gwybodaeth arbenigol am beirianneg a rheoli ystadau hyd at lefel gradd Meistr
- Gwybodaeth ymarferol dda am amrywiaeth eang o wasanaethau
- Yn gyfarwydd â Memoranda Technegol Iechyd a Deddfwriaeth Statudol
- Ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol parhaus
Meini prawf dymunol
- Yn meddu ar gymhwyster proffesiynol gyda'r IHEEM/I.Eng neu gorff amgen priodol
- Dealltwriaeth eang o amrywiaeth o wasanaethau peirianneg, ynghyd â'r gallu i symud eich gwybodaeth eich hun yn ei blaen
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Peiriannydd cymwysedig â phrofiad o weithio mewn ysbyty
- Yn gyfarwydd ag amgylchedd ysbyty acíwt
Meini prawf dymunol
- Yn meddu ar brofiad priodol o foltedd uchel, nwyon meddygol, ac ati, ac yn unigolyn awdurdodedig ar gyfer disgyblaeth briodol
Arall
Meini prawf hanfodol
- Yn llawn cymhelliant
- Yn frwdfrydig ac yn llawn cymhelliant
- Cydwybodol
- Yn barod i fod ar alwad
- Yn meddu ar agwedd hyblyg at anghenion y gwasanaeth
- Y gallu i deithio rhwng safleoedd mewn modd amserol
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Mr Paul Hill
- Teitl y swydd
- Estates Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01267 227942
Dechrau eich cais
Mewngofnodi
Creu cyfrif
Creu eich cyfrif a gwneud cais am eich swydd newydd!