Mae Trac yn falch o bweru recriwtio ar gyfer
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Gwybodaeth
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yw’r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, ac mae’n darparu amrediad llawn o wasanaethau ysbyty llym, cychwynnol, cymunedol ac iechyd meddwl i boblogaeth o tua 700,000 ar draws chwe sir Gogledd Cymru (Ynys Môn, Gwynedd, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam) yn ogystal â rhai rhannau o ganolbarth Cymru, Swydd Caer a Swydd Amwythig.
Mae’r Bwrdd Iechyd yn cyflogi tua 19,000 aelod o staff ac mae ganddo gyllideb o oddeutu £1.2biliwn. Mae’n gyfrifol am redeg tri ysbyty cyffredinol dosbarth (Ysbyty Gwynedd ym Mangor, Ysbyty Glan Clwyd ger Y Rhyl, ac Ysbyty Maelor Wrecsam) yn ogystal â 22 ysbyty llym a chymuned arall, a rhwydwaith o dros 90 o ganolfannau iechyd, clinigau, canolfannau timau iechyd cymunedol ac unedau iechyd meddwl. Mae hefyd yn cydlynu gwaith 96 meddygfa a 78 gwasanaethau’r GIG sy’n cael eu darparu gan ddeintyddion, optegwyr a 145 fferyllwyr Gogledd Cymru.
Os cewch drafferthion i ymgeisio ar lein, cysylltwch â Gyrfa Cymru ar rhadffôn 0800 100 900.
Cysylltu
- Address
- Ysbyty Gwynedd
- Penrhosgarnedd
- Bangor
- Gwynedd
- LL57 2PW
- Contact Number
- 01248 384384
Cyfarwyddwr y Rhaglen Gofal wedi’i Gynllunio
Accepting applications until: 02-Jun-2025 23:59
Statws y swydd wag: Open
Accepting applications until: 02-Jun-2025 23:59
Manylion allweddol
Lleoliad
- Gwefan
- Cwrt Carlton
- Cyfeiriad
- Parc Busnes Llanelwy
- Tref
- Llanelwy
- Cod post
- LL17 0JG
Math o gontract a phatrwm gwaith
- Contract
- Secondiad: 10 mis (i 31 Mawrth 2026 i cwrdd gofynion y gwasanaeth)
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
Cyflog
- Cyflog
- £89,491 - £103,203 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Gradd
- (Gradd 8d)
Arbenigedd
- Prif leoliad
- Trawsnewid a Cynllunio Strategol
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.
Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau
Trosolwg o'r swydd
Mae're swydd hon am gyfnod penodol/secondiad am 31.03.2026 oherwydd cwrdd gofynion y gwasanaeth
Os oes diddordeb gyda chi mewn ceisio am swydd secondiad, mae’n rhaid i chi gael caniatad eich rheolwr llinell presennol cyn i chi geisio am y swydd hon.
Dyma gyfle gwych gan y Gyfarwyddiaeth Trawsnewid a Chynllunio Strategol i arweinydd Gofal Iechyd profiadol ymgymryd â rôl Cyfarwyddwr Rhaglen Gofal wedi'i Gynllunio.. Mae hwn yn gyfnod cyffrous yn ein taith drawsnewid wrth i ni ailosod ac adnewyddu ein dulliau mewn cyfnod o newid mawr o fewn y sefydliad, a byddwch yn un o bedwar Cyfarwyddwr Rhaglen fydd yn gweithio ar draws y rhaglenni newid mawr y cytunwyd arnynt.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cyfuno dealltwriaeth gref o heriau gweithredol o fewn Gofal wedi’i Gynllunio â sgiliau rheoli rhaglenni rhagorol a'r gallu i weithredu rhaglenni gwaith strwythuredig o fewn modelau sydd wedi'u llywodraethu. Rydym yn chwilio am unigolyn sy’n angerddol dros newid sydd â’r weledigaeth i wneud pethau’n wahanol. Bydd gennych brofiad sylweddol o ymgysylltu clinigol gyda sgiliau cyfathrebu a dylanwadu cryf.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Advert
Bydd cyfrifoldebau allweddol y swydd yn cynnwys:
· Llunio a chyflwyno’r rhaglen waith gymhleth a sicrhau effaith ar ansawdd gofal cleifion a darparu gwasanaethau
· Datblygu cynllun cyfathrebu ac ymgysylltu cynhwysfawr i sicrhau bod yr holl randdeiliaid, yn lleol ac yn genedlaethol, yn cael eu hysbysu'n llawn am y cynnydd a’r heriau
· Goruchwylio datblygiad fframwaith canlyniadau effeithiol, gan weithio'n agos gyda chydweithwyr mewn perfformiad a DDaT
· Goruchwylio adrodd a sicrwydd rheolaidd, gan sicrhau bod buddion disgwyliedig y rhaglen yn cael eu mynegi a'u cyflawni'n glir
· Sicrhau dull cadarn o weithredu Fframweithiau Optimeiddio a GIRFT o fewn y sefydliad
· Hwyluso'r gwaith o gyflwyno cynllunio galw a chapasiti cadarn ar lefel gwasanaeth
· Datblygu cynigion ar gyfer modelau gofal newydd
· Sicrhau ymagwedd integredig ar gyfer yr holl gynlluniau o fewn Gofal wedi'i Gynllunio ee. integreiddio gweithredoedd archwilio i'r cynllun trosfwaol
· Cyswllt rheolaidd gyda'r Tîm Gweithredol ac uwch arweinwyr o fewn y sefydliad
· Gofyn rheolaidd i gyflwyno, gan gynnwys cyflwyno cynigion cymhleth i grwpiau amlbroffesiynol lle gallai fod safbwyntiau gwahanol
· Gweithio'n agos gyda'r Swyddfa Bortffolio i sicrhau bod trefniadau llywodraethu cadarn yn eu lle a bod ymagwedd gyson at drawsnewid a newid yn cael ei ddilyn
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Bydd gofyn i chi gefnogi’r gwaith o gyflawni amcanion strategol ar gyfer y sefydliad, gan droi nodau tymor hwy yn rhaglenni gwaith diriaethol sy’n gwella ansawdd a mynediad at ofal ar gyfer cleifion, sy’n canolbwyntio ar y 6 ffrwd waith allweddol canlynol:
· Rheoli Rhestr Aros: Dilysu
· Cyngor ac Arweiniad ar Gyfeirio a Brysbennu Cyfeiriadau/Llwybrau Amgen
· Archebu
· Effeithiolrwydd Cyn Llawdriniaethol a Llawdriniaethol (gan gynnwys y defnydd o theatrau)
· Dilyniant
· Cynllunio integredig ar gyfer gofal wedi'i gynllunio, canser a diagnosteg
Mae'r Cyfarwyddwr Rhaglen yn gyfrifol am weithredu'r rhaglen a glustnodir ledled Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Bydd yn chwarae rôl ganolog wrth siapio a darparu rhaglenni gofal iechyd cymhleth sy'n werth miliynau o bunnoedd sy'n effeithio ar ansawdd gofal cleifion a'r broses o ddarparu gwasanaeth ym mhob rhan o'n sefydliad. Wrth ddatblygu'r rhaglen a glustnodir a'i rhoi ar waith, bydd y rôl yn gyfrifol am arwain:
• Trawsnewid y gwasanaeth a'r cynllun gan gynnwys yn ddigidol
• Ymgysylltu, ymgynghori a chyfathrebu
• Dadansoddi'r gwasanaeth a datblygu achos busnes
• Rheoli'r rhaglen
• Rheolaeth ariannol
• Datblygu'r Gweithlu / Adnoddau Dynol
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac
I weithio yn y DU, mae angen nawdd ar bob ymgeisydd nad yw'n wladolyn o'r DU neu Weriniaeth Iwerddon i gael naill ai fisa Gweithiwr Iechyd a Gofal neu fisa Gweithiwr Medrus, oni bai bod gennych ganiatâd i weithio trwy lwybr arall. Dylai ymgeiswyr nad ydynt yn rhan o'r DU/Gweriniaeth Iwerddon sy'n dymuno gwneud cais hunanasesu'u tebygolrwydd o gael Tystysgrif Nawdd trwy ymweld â gwefan Fisâu a Mewnfudo'r DU. Os ydych chi'n gymwys i gael y fisa Iechyd a Gofal, mae'r costau ymgeisio yn is ac nid oes angen i chi dalu Gordal Iechyd Mewnfudo blynyddol.
Gofynion yr ymgeisydd
Manyleb y person
Cymwysterau a/neu Wybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Gradd Meistr, yn ddelfrydol mewn rheoli gofal iechyd, neu brofiad cyfatebol. Rheoli Rhaglen (Ymarferydd MSP) Ymarferydd Gwelliant Parhaus / profiad/cymhwyster cyfatebol mewn methodolegau gwella Gwybodaeth helaeth dros ystod o ddisgyblaethau gan gynnwys rheoli perfformiad, gwelliant parhaus, rheoli rhaglenni, digidol, gwybodaeth, cyllid, adnoddau dynol, Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus. Gwybodaeth arbenigol am systemau gofal iechyd, dadansoddi gwasanaethau, trawsnewid gwybodaeth a rheoli rhaglenni ynghyd â gwybodaeth am ymgysylltu, ymgynghori a chyfathrebu a chydberthnasau uwch (lefel Bwrdd) â sefydliadau partner. Ymwybyddiaeth wleidyddol a gwybodaeth am yr amgylchedd gwleidyddol yng Nghymru Gwybodaeth helaeth mewn ystod o ddisgyblaethau gan gynnwys rheoli perfformiad, cyllid, adnoddau dynol, Gwybodaeth fanwl am ofal iechyd a safonau deddfwriaethol a chenedlaethol gyda'r gallu i'w dehongli fel sy'n briodol i'r rôl hon
Meini prawf dymunol
- Rheoli Prosiectau (Ymarferydd PRINCE2 neu gymhwyster cyfatebol) Gwybodaeth am brosesau cyfalaf.
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad sylweddol ac arbenigedd mewn rheoli rhaglen o fewn y sector gofal iechyd, gyda chofnod amlwg o gyflawniadau o ran darparu rhaglenni cymhleth yn llwyddiannus. Gwybodaeth a phrofiad proffesiynol manwl mewn nifer o ddisgyblaethau gan gynnwys systemau gofal iechyd, dadansoddi gwasanaethau, newid/trawsnewid gwasanaethau a rheoli rhaglenni. Arbenigedd eang mewn uwch-reolaeth yn y GIG ar lefel Bwrdd mewn amgylchedd sector cyhoeddus gan gynnwys gwybodaeth fanwl o reolaeth ariannol, rheoli perfformiad systemau gwybodaeth a rheoli staff. Profiad o weithio mewn timau amlasiantaethol er mwyn cyflawni arloesedd a gwella gwasanaethau Cyflawniad a phrofiad mewn cynllunio strategaethau, modelu gwasanaethau a datblygu achosion busnes llwyddiannus Yn gallu arwain, rheoli a rhoi newidiadau ar waith er mwyn gwella gwasanaethau i gleifion Gwybodaeth a chymhwyso strategaethau, polisïau ac amcanion allweddol Llywodraeth Cymru Sgiliau rheoli prosiectau datblygedig gyda phrofiad sylweddol o reoli prosiectau cymhleth Cofnod gwaith amlwg o gyflawni safonau uchel yn gyson a chyflawni amcanion a blaenoriaethau'r Bwrdd Iechyd Profiad o ymgysylltu a negodi'n effeithiol mewn amgylchedd anodd Profiad sylweddol o reoli cyllidebau ac adnoddau yn llwyddiannus mewn sawl adran/sefydliad Profiad o lunio gwybodaeth yn rheolaidd, o ddefnyddio meddalwedd i lunio adroddiadau a diweddaru systemau gwybodaeth Profiad o ddatblygu meddalwedd ar gyfer adroddiadau rheoli perfformiad. Profiad o ymgymryd â gwaith Ymchwil a Datblygu, llunio a chynnal arolygon. Profiad sylweddol o gyflawni fel uwch-reolwr mewn amgylchedd cymhleth Profiad a dealltwriaeth fanwl o sbardunau gwleidyddol, cymdeithasol, economaidd a thechnolegol o fewn gofal iechyd Profiad sylweddol o ymdrin ag ystod o faterion hynod gymhleth mewn sefydliad mawr Profiad o sicrhau atebion/gwelliannau i faterion cymhleth mewn sefydliad mawr Profiad a gwybodaeth sylweddol o ran prosesau rheoli gweithredol, rheoli perfformiad, rheoli prosiectau/rhaglenni ac ailddylunio'r gweithlu (e.e. gwelliannau) a ddatblygwyd dros gyfnod estynedig Profiad sylweddol o bennu, cynllunio a gweithredu strategaeth hirdymor Gallu amlwg i sefydlu a rheoli rhaglen o brosiectau arwyddocaol a chymhleth yn llwyddiannus dros gyfnod hir o amser Arwain prosiectau rheoli newid/gwella ac ail-lunio prosesau arwyddocaol dros gyfnod hir o amser gyda chanlyniadau cadarnhaol Profiad sylweddol o reoli cyllidebau, datblygu achosion busnes/ceisiadau, negodi contractau, gweithdrefnau caffael ac ariannol Llwyddiant amlwg o ran sefydlu, arwain, cymell, rheoli a datblygu timau sy'n perfformio'n dda drwy reolaeth uniongyrchol a rheolaeth matrics. Profiad sylweddol o weithio gyda staff, eu cynrychiolwyr ac undebau llafur/sefydliadau proffesiynol. Gallu amlwg i ddylanwadu ar bob lefel mewn sefydliad cymhleth.
Meini prawf dymunol
- Profiad helaeth o reoli prosiectau a chyllidebau gwerth miliynau o bunnoedd gan gynnwys profiad o waith caffael cymhleth
Gwerthoedd
Meini prawf hanfodol
- Ymrwymiad amlwg, a ffocws ar ansawdd, a hyrwyddo safonau uchel i wella canlyniadau i gleifion yn gyson. Yn gwerthfawrogi amrywiaeth a gwahaniaeth, yn gweithredu gydag uniondeb a gan fod yn agored. Trin eraill â thrugaredd, empathi a pharch.
Arall
Meini prawf hanfodol
- Y gallu i ymwneud â staff o bob disgyblaeth ac ar bob lefel a meithrin cydberthnasau credadwy ag ystod eang o weithwyr proffesiynol. Diwyd, brwdfrydig, ymrwymedig, rhagweithiol ac arloesol. Dangos cydnerthedd, stamina a dibynadwyedd o dan bwysau cyson. Lefel uchel o uniondeb personol. Dull hyblyg i roi cynnig ar weithdrefnau ac arferion newydd. Dethol, datblygu ac arwain timau cymhleth ac amlddefnydd Datblygu a rheoli cynlluniau prosiect cymhleth a risgiau gan ddefnyddio dulliau rheoli prosiectau sefydledig. Yn gallu teithio'n aml ledled Gogledd Cymru, ac weithiau'n genedlaethol, wrth ymgymryd â'r rôl hon.
Sgiliau a Galluoedd
Meini prawf hanfodol
- Dealltwriaeth gref o bolisïau a gweithdrefnau'r GIG a rheoliadau gofal iechyd. Sgiliau cyfathrebu a chyflwyno gwych. Sgiliau hyfforddi a rheoli arweinwyr. Y gallu i arwain drwy esiampl a dylanwadu ar eraill. Y gallu i ddangos lefel uchel o sgiliau rhyngbersonol, gan ddangos hygrededd, dylanwad a chraffter gwleidyddol. Y gallu i feithrin a chynnal cydberthnasau gwaith effeithiol; gallu amlwg i ddylanwadu ar staff ar bob lefel, eu darbwyllo a negodi â nhw. Y gallu i rymuso, datblygu, hyfforddi a chefnogi staff er mwyn cymell timau a sicrhau eu bod yn perfformio'n dda bob amser. Barn gadarn, sgiliau gwneud penderfyniadau a threfnu. Gallu amlwg i gyfathrebu ar lafar ac yn ysgrifenedig i safon uchel mewn ffordd sy'n glir, yn rhugl ac yn llawn perswâd Yn gallu dangos lefel uchel o sgiliau rhyngbersonol, gan ddangos hygrededd, dylanwad a chraffter gwleidyddol Sgiliau TG a bysellfwrdd datblygedig gyda'r gallu i ddadansoddi gwybodaeth gymhleth o amrywiaeth o ffynonellau a chyflwyno gwybodaeth hynod gymhleth yn briodol, fel ei bod yn hawdd ei deall Sgiliau datrys gwrthdaro Y gallu i rymuso, datblygu, hyfforddi a chefnogi staff er mwyn cymell timau a sicrhau eu bod yn perfformio'n dda bob amser Barn gadarn a sgiliau gwneud penderfyniadau a threfnu cryf Ystod eang o sgiliau gan gynnwys rheoli newid, negodi, dylanwadu, TGCh ac ati.
Meini prawf dymunol
- Y gallu i siarad Cymraeg Y gallu i ddefnyddio cyfryngau amrywiol i rannu gwybodaeth am waith prosiect
Dogfennau
- Cyfarwyddwr y Rhaglen Gofal wedi’i Gynllunio (PDF, 568.5KB)
- Cyfarwyddwr y Rhaglen Gofal wedi’i Gynllunio (PDF, 656.5KB)
- Cyfarwyddwr y Rhaglen Gofal wedi’i Gynllunio (PDF, 648.5KB)
- Hysbysiad Preifatrwydd Penodi hyd Ymddeoliad PCGC (PDF, 696.3KB)
- NHS North Wales - The Right Choice (PDF, 3.6MB)
- Matrics Iaith Cymraeg (PDF, 134.3KB)
- Guidance notes for Applicants v1.2 April 2024-bilingual (PDF, 267.0KB)
- Values and Behaviour Framework (PDF, 2.0MB)
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Paolo Tardivel
- Teitl y swydd
- Exec Dir - Transformation & Strategic Planning
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 0300 085 4663
Dechrau eich cais
Mewngofnodi
Creu cyfrif
Creu eich cyfrif a gwneud cais am eich swydd newydd!