Mae Trac yn falch o bweru recriwtio ar gyfer
Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Gwybodaeth
Ar 1 Ebrill 2019, newidiodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf ei enw. Bellach, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yw ei enw wedi iddo gymryd cyfrifoldeb am ddarparu gwasanaethau gofal iechyd i bobl yn ardal Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn awr yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, a gwasanaethau ysbyty ac iechyd meddwl i'r 450,000 o bobl sy'n byw ym Mwrdeistrefi Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf.
A ninnau mewn lleoliad delfrydol rhwng Caerdydd - prifddinas Cymru - i'r de, tref arfordirol Porthcawl i'r gorllewin, a golygfeydd syfrdanol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog i'r gogledd, rydym yn gweithredu o fewn cymuned fywiog, gyda hanes a threftadaeth gyfoethog.
Bydd gwasanaethau’n parhau i gael eu darparu ar draws rhwydwaith o Glinigau Cymunedol, Canolfannau Iechyd ac Ysbytai Cymunedol, gyda chymorth tri Ysbyty Cyffredinol Dosbarth sef Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Ysbyty’r Tywysog Siarl ym Merthyr Tudful ac Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn Llantrisant.
Fe gewch chi groeso mawr os byddwch chi’n dod i weithio i ni yng Nghwm Taf Morgannwg, ynghyd â chyfleoedd am ddatblygiad proffesiynol a gweithle clinigol sy’n arloesol ac sydd am wella canlyniadau clinigol.
Cysylltu
- Address
- Recruitment Team
- Floor 4
- Companies House
- Crown Way
- Cardiff
- CF14 3UB
- Contact Number
- 02921 500200
Ysgrifennydd y Pwyllgor/Dirprwy Gyfarwyddwr Llywodraethu Corfforaethol
Accepting applications until: 22-May-2025 23:59
Statws y swydd wag: Open
Accepting applications until: 22-May-2025 23:59
Manylion allweddol
Lleoliad
- Gwefan
- Uned 1, Charnwood Cwrt
- Cyfeiriad
- Heol Billingsley Parc Nantgarw
- Tref
- Caerdydd
- Cod post
- CF15 7QZ
- Major / Minor Region
- Merthyr Tudful
Math o gontract a phatrwm gwaith
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
Cyflog
- Cyflog
- £89,491 - £103,203 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Gradd
- (NHS AfC: Band 8d)
Arbenigedd
- Prif leoliad
- Comisiynu - Llywodraethu
Rydyn ni’n darparu gwasanaethau gofal iechyd i bobl sy’n byw ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf, ac yn gwasanaethu poblogaeth o 450,000. Mae ein lleoliad yn ddelfrydol; rydyn ni’n agos i brifddinas Cymru, mae Porthcawl i’r gorllewin ac mae golygfeydd godidog Bannau Brycheiniog.
Ein gweledigaeth yw gofalu am ein cymunedau a’n cleifion trwy atal salwch, hyrwyddo iechyd gwell, darparu gwasanaethau gwych a lleihau’r angen am ofal cleifion mewnol lle bynnag y bo’n bosibl, trwy ddarparu gwell gofal yn y cartref, gwell gofal sylfaenol a gwell gofal yn y gymuned.
Rydyn ni’n gwerthfawrogi amrywiaeth ein staff, ac rydyn ni’n croesawu ceisiadau gan bobl o grwpiau sy’n cael eu gwarchod gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010; mae hyn yn cynnwys oedran, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhyw/ailbennu rhyw, hil/cenedligrwydd, crefydd/cred, anabledd, beichiogrwydd a mamolaeth, priodas a phartneriaeth sifil.
Mae Cwm Taf Morgannwg yn Gyflogwr Cyflog Byw.
Gwiriwch eich cyfrif e-bost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn eu holl ohebiaeth am y broses recriwtio trwy’r cyfrif e-bost gafodd ei nodi ar y ffurflen gais.
Mae croeso i bob ymgeisydd ymgeisio yn y Gymraeg neu yn y Saesneg, ac ni fydd ceisiadau yn y naill iaith na’r llall yn cael eu trin yn fwy neu’n llai ffafriol.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.
Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau
Trosolwg o'r swydd
Ydych chi'n weithiwr proffesiynol llywodraethu gyda sgiliau rhyngbersonol ac arwain cryf? Os felly, mae cyfle cyffrous i arwain wedi codi o fewn y JCC fel prif gynghorydd y Cydbwyllgor Comisiynu (JCC) a Thîm y JCC ar bob agwedd ar lywodraethu.
Byddwch yn gweithio gydag Uwch Dîm Rheoli’r JCC, gan gefnogi’r Prif Gomisiynydd i gyflawni ei rôl fel Swyddog Atebol a chyfrannu at ddatblygu strategaeth, trefniadau comisiynu a chyflawni cyfrifoldebau’r JCC, fel y bo’n briodol.
Bydd deiliad llwyddiannus y swydd yn hanfodol i hyrwyddo llywodraethu sefydliadol, sicrwydd a bod yn llysgennad wrth arddangos ein Gwerthoedd a'n Hymddygiadau. Byddwch yn rhoi cyngor cadarn i'r Cadeirydd, y Prif Gomisiynydd ac aelodau unigol o dîm y JCC ar bob agwedd ar lywodraethu, sicrwydd a busnes. Byddwch yn arwain tîm i sicrhau bod y Cyd-bwyllgor a Thîm y CBY yn cyflawni ei rôl yn effeithiol, gan ddarparu lle bo'n briodol, llais cynnil, annibynnol a heriol mewn perthynas â thrafodaethau a gwneud penderfyniadau'r CBY. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio'n agos gydag Ysgrifenyddion Byrddau ar draws Byrddau Iechyd GIG Cymru a chydweithwyr Llywodraethu o fewn Llywodraeth Cymru.
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus gyfrifoldeb rheolwr llinell dros y Cyfarwyddwr Cynorthwyol Llywodraethu a Busnes.
Advert
Mae rôl Ysgrifennydd y Pwyllgor yn un hanfodol o fewn y CBC a'r Tîm CBC gan mai ef yw'r prif gynghorydd i'r CBC a'r Tîm CBC ar bob agwedd ar lywodraethu. Byddwch yn gweithio fel aelod o Uwch Dîm Rheoli’r JCC, yn cefnogi’r Prif Gomisiynydd i gyflawni ei rôl fel Swyddog Atebol ac yn cyfrannu at ddatblygu strategaeth, trefniadau comisiynu a chyflawni cyfrifoldebau’r JCC.
Bydd Ysgrifennydd y Pwyllgor yn hyrwyddo ac yn helpu i gynnal safonau llywodraethu a sicrwydd o fewn y CBC drwy:
- Cadw datblygiadau deddfwriaethol, rheoleiddiol a llywodraethu sy'n effeithio ar weithgareddau'r CBC dan adolygiad a sicrhau bod y CBC yn cael ei friffio'n briodol arnynt;
- Ennill hyder y CBC, gan weithredu fel 'cwnsler doeth' gan fod yn glust gyfrinachol i'r Cadeirydd, y Prif Gomisiynydd ac aelodau unigol o dîm CBC ar bob agwedd ar fusnes y CBC, gan gynnwys materion sy'n peri pryder;
- Arwain y CBC wrth gynnal ei rôl yn gyfrifol ac yn effeithiol, gan ddarparu, lle bo hynny'n briodol, lais synhwyrol, annibynnol a heriol mewn perthynas â thrafodaethau a gwneud penderfyniadau yn y CBC;
- Sicrhau bod y CBC yn gweithredu'n deg, gydag uniondeb, a heb ragfarn na gwahaniaethu; a
- Chyfrannu at ddatblygiad diwylliant sy'n ymgorffori gwerthoedd a safonau ymddygiad y GIG a'r CBC.
- Chwarae rôl allweddol wrth ddiogelu a gwella enw da CBC a GIG Cymru.
Gweithio i'n sefydliad
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn rhan o deulu GIG Cymru. Mae ein Bwrdd Iechyd yn darparu gofal iechyd sylfaenol, eilaidd a chymunedol ynghyd â gwasanaethau lles i tua 450,000 o bobl sy’n byw mewn tair sir: Pen-y-bont ar Ogwr, Merthur Tydful a Rhondda Cynon Taf.
Rydyn ni’n byw yn ôl ein gwerthoedd craidd:
- Rydyn ni’n gwrando, yn dysgu ac yn gwella
- Rydyn ni’n trin pawb â pharch
- Rydyn ni i gyd yn gweithio fel un tîm
Rydyn ni’n gyflogwr lleol balch; mae tua 80% o’n gweithlu o 15,000 yn byw o fewn ein rhanbarth. O ganlyniad, nid enaid y sefydliad yn unig y mae ein staff yn ei gynrychioli, ond y cymunedau amrywiol rydyn ni’n eu gwasanaethu.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Y FFRAMWAITH LLYWODRAETHU
- Dylunio a datblygu fframwaith llywodraethu'r CBC ar y cyd â'r saith Bwrdd Iechyd, gan gynnwys unrhyw grwpiau ymgynghorol a fforymau proffesiynol, gan sicrhau bod pob un yn cael ei gyfansoddi, ei weithredu a'i gefnogi'n briodol, yn unol â'r fframwaith statudol perthnasol a gyda cyfarwyddiadau a osodwyd gan Lywodraeth Cymru.
- Sicrhau bod Rheolau Sefydlog a Chyfarwyddiadau Ariannol Sefydlog yn cael eu mabwysiadu, eu gweithredu, eu hadolygu a'u diwygio a'u diweddaru yn ôl yr angen.
- Sefydlu atodlen o faterion a gedwir i'w penderfynu gan y CBC a dirprwyo cyfrifoldebau i Swyddogion, gan sicrhau aliniad â Chynllun Dirprwyo i Swyddogion y Corff Cynnal (Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (BIPCTM).
- Sicrhau synergedd â fframwaith rheoli perfformiad y CBC drwy ddylunio a datblygu system glir i weithredu penderfyniadau’r CBC, gan ddefnyddio disgyblaeth rheoli rhaglenni cryf.
- Sicrhau bod trefniadau priodol ar waith i gynnal y gwerthoedd a'r safonau ymddygiad a fabwysiadwyd o fewn y CBC a'r is-bwyllgorau ategol, sy'n cyd-fynd â threfniadau'r Corff Cynnal, gan gynnwys y rhai sy'n ymwneud â:
- adrodd a chofnodi buddiannau;
- rhoddion a lletygarwch;
- twyll; a
- chwythu'r chwiban.
- Sicrhau bod system gadarn ar waith ar y cyd â'r Corff Cynnal i ymchwilio a delio â chwynion sy'n ymwneud ag achos honedig o fynd yn groes i’r gwerthoedd a'r safonau hyn.
- Cynnal ymchwiliadau penodol, sensitif ar ran Cadeirydd y CBC a/neu'r Prif Gomisiynydd lle mae'r CBC a'r Tîm CBC wedi dirprwyo cyfrifoldebau i wneud hynny gan y Corff Cynnal.
- Adolygu'n barhaus y gwaith o ddatblygu arferion gorau mewn llywodraethu'r sector cyhoeddus, gan ystyried datblygiadau mewn rhannau eraill o'r GIG, y sector cyhoeddus ehangach a'r sector preifat a chymhwyso hyn i fframwaith llywodraethu'r CBC, fel y bo'n briodol.
ARFOGI'R CBC, YR IS-BWYLLGORAU A'R GRWPIAU YMGYNGHOROL I GYFLAWNI
- Datblygu perthynas ragweithiol gyda'r CBC, is-bwyllgorau’r CBC ac aelodau grŵp cynghori’r CBC, gan weithredu fel y pwynt cyswllt cyntaf ag aelodau a darparu cyngor a chefnogaeth barhaus ynghylch cyflawni eu dyletswyddau.
- Cyfrannu at ddylunio a datblygu'r rhaglenni ymsefydlu ar gyfer y CBC newydd, is-bwyllgorau ac aelodau grŵp ymgynghorol. Sicrhau bod cynnig ymsefydlu y cytunwyd arno yn sicrhau cyflwyniad llawn a ffurfiol i waith y CBC ac wedi ei deilwra iddo, yn unol ag unrhyw ofynion y Corff Cynnal.
- Cyfrannu at ddylunio a sicrhau bod rhaglen ddatblygu gynhwysfawr, barhaus ar gyfer y CBC, is-bwyllgorau ac aelodau grwpiau ymgynghorol.
- Sicrhau bod aelodaeth is-bwyllgorau'r CBC yn cael eu hadolygu a'u hadnewyddu'n rheolaidd, fel y bo'n briodol.
- Cefnogi cynllunio a goruchwylio cylchdro Aelodau Lleyg ar is-bwyllgorau fel y bo'n briodol.
- Hwyluso llif gwybodaeth da rhwng y CBC, / is-bwyllgorau ac aelodau grwpiau ymgynghorol, gan feithrin gwaith effeithiol rhwng Aelodau Tîm y CBC ac Aelodau Lleyg o fewn a rhwng y CBC, ei is-bwyllgorau a'i grwpiau ymgynghorol.
YMDRIN Â BUSNES Y CBC, IS-BWYLLGORAU A GRWPIAU YMGYNGHOROL
- Sicrhau bod busnes y CBC, is-bwyllgorau a grwpiau ymgynghorol yn cael ei gynllunio'n briodol a'i gydlynu'n effeithiol trwy gynhyrchu Cynlluniau Blynyddol y CBC.
- Dilyn dull rheoli rhaglenni, lle bo hynny'n berthnasol, i sicrhau bod cyfarfodydd unigol y CBC, is-bwyllgor a grwpiau ymgynghorol unigol yn rhedeg yn esmwyth drwy:
- darparu cyngor a chymorth arbenigol i Gadeirydd y CBC ar baratoi agendâu ac ansawdd a chynnwys papurau;
- sicrhau cyflwyno papurau yn amserol;
- darparu cyngor arbenigol i'r Cadeirydd a'r CBC, is-bwyllgorau ac aelodau'r grwpiau ymgynghorol ar gynnal cyfarfodydd; a
- darparu cyngor a chefnogaeth annibynnol, arbenigol i Gadeirydd y CBC ac aelodau CBC, is-bwyllgor a grwpiau ymgynghorol ar bob mater sy'n ymwneud â chydymffurfiaeth statudol a deddfwriaethol a dehongli Rheolau Sefydlog, Cyfarwyddiadau Ariannol Sefydlog a chyfarwyddiadau a chanllawiau eraill.
- Sicrhau bod penderfyniadau’r CBC, is-bwyllgorau a grwpiau ymgynghorol yn cael eu cofnodi'n glir ac yn gywir o fewn cofnodion ac adroddiadau.
- Mynd ar drywydd camau dilynol ac adrodd ar faterion sy'n codi o'r CBC, yr is-bwyllgor a'r grwpiau ymgynghorol.
GWEITHIO GYDA BARN POBL ERAILL AC YSTYRIED SAFBWYNTIAU ERAILL
- Gweithredu fel pwynt cyswllt allweddol, gan sicrhau cyfathrebu effeithiol rhwng y CBC, yr is-bwyllgor a'r grwpiau ymgynghorol a'i randdeiliaid.
- Sicrhau bod trefniadau llywodraethu cadarn yn cael eu sefydlu ac yn gweithredu'n effeithiol mewn perthynas â swyddogaethau a gyflawnir gan y CBC ar ran y Corff Cynnal.
- Sicrhau bod y CBC yn ystyried safbwyntiau'r gymuned a rhanddeiliaid yn llawn wrth wneud penderfyniadau.
- Hwyluso datblygiad a chynnal perthnasoedd cryf gyda phartneriaid a rhanddeiliaid CBC ar draws cyfrifoldebau'r CBC, gan gynnwys Llais.
SICRWYDD AR GYNNAL BUSNES Y CBC
- Dylunio a datblygu Fframwaith Sicrwydd y CBC.
- Sicrhau bod gweithgareddau sicrwydd mewnol ac allanol a gynhelir gan staff CBC ac archwilwyr, arolygwyr a rheoleiddwyr y GIG yn cael eu cynnal yn briodol, yn unol â gofynion y Corff Cynnal.
- Cydlynu a chefnogi'r gwaith o ddatblygu a chyflwyno ffynonellau allweddol o sicrwydd mewnol, gan gynnwys Archwilio Mewnol, Gwrth-dwyll, sy'n cyd-fynd â gofynion y Corff Cynnal.
- Goruchwylio rhaglen reolaidd o adolygu a gwerthuso o berfformiad yn y CBC, is-bwyllgorau a grwpiau ymgynghorol, gan ymgorffori ystod o ddulliau gan gynnwys hunanasesu, hwyluso annibynnol, ac ati.
- Ar y cyd â Chadeirydd y CBC a'r Prif Gomisiynydd, sefydlu trefniadau ar gyfer gwerthuso perfformiad unigol aelodau'r CBC ac aelodau Tîm CBC.
DANGOS ATEBOLRWYDD
- Sicrhau gwelededd, natur agored a thryloywder ym mhob agwedd ar fusnes y CBC ac is-bwyllgorau.
- Sicrhau bod gwybodaeth sy'n gysylltiedig â llywodraethu ar gael i'r cyhoedd ac eraill yn unol â Strategaeth Gyfathrebu'r Corff Cynnal.
- Sicrhau'r datgeliadau angenrheidiol ar lywodraethu a gwaith y CBC trwy baratoi, cyhoeddi a dosbarthu'r Adroddiad Blynyddol ac unrhyw ofynion eraill y Corff Cynnal.
PERTHNASOEDD ALLWEDDOL
- Datblygu a chynnal y perthnasoedd unigol a chyfunol allweddol canlynol:
- Cadeirydd CBC;
- Prif Gomisiynydd CBC;
- Cyfarwyddwr Cynllunio a Strategaeth Gorfforaethol CBC
- Cyfarwyddwr Llywodraethu Corfforaethol y Corff Cynnal;
- Prif Weithredwr y Corff Cynnal;
- Uwch Dîm Rheoli'r Corff Cynnal;
- Cadeiryddion y Bwrdd Iechyd;
- Prif Swyddogion Gweithredol y Bwrdd Iechyd;
- Cyfarwyddwyr Llywodraethu Corfforaethol y Bwrdd Iechyd;
- Uwch Dîm Rheoli CBC;
- CBC, aelodau'r is-bwyllgor a'r grwpiau ymgynghorol;
- Aelodau tîm CBC a chydweithwyr
- Cydweithwyr y Corff Cynnal, Cyfleusterau a Diogelwch, Iechyd a Diogelwch, y Gymraeg a Llywodraethu Gwybodaeth;
- Cynrychiolwyr staff ac undebau llafur y Corff Cynnal;
- Archwilwyr, arolygwyr a rheoleiddwyr;
- Partneriaethau lleol a chymunedol;
- Cyfryngau;
- Dinasyddion lleol;
- Llais; a
- Llywodraeth Cymru.
- Gallu darparu a derbyn gwybodaeth llywodraethu a sicrwydd hynod gymhleth, sensitif iawn neu hynod ddadleuol lle mae rhwystrau sylweddol i dderbyn y mae angen eu goresgyn gan ddefnyddio'r lefel uchaf o sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu.
- Gallu darparu'r math hwn o wybodaeth yn broffesiynol wrth ei chyflwyno neu ei chyfathrebu i grŵp gelyniaethus, ymosodol neu mewn amgylchedd emosiynol.
CYFRIFOLDEBAU ERAILL
- Cydymffurfio â Chynllun Dirprwyo'r Corff Cynnal a gweithredu fel y swyddog cyfrifol am gyflawni cyfrifoldebau gwasanaethau corfforaethol a ddirprwywyd i'r Tîm CBC o'r Corff Cynnal, gan gynnwys, Adnoddau Dynol, Cyfleusterau a Diogelwch, Iechyd a Diogelwch, y Gymraeg a Llywodraethu Gwybodaeth.
- Bod yn atebol am a rheoli tîm o staff a fydd yn cynorthwyo i gynnal eu busnes o ddydd i ddydd e.e. rheoli absenoldeb salwch, PDR, materion ymddygiad ac ati.
- Arwain a datblygu polisi llywodraethu corfforaethol CBC, gan sicrhau ei fod yn cydymffurfio â deddfwriaeth ac arfer gorau.
- Bod yn gyfrifol am gynnal, rheoli a monitro'r cyllidebau cyflog a di-dâl ar gyfer eu tîm o staff a'u maes gweithgaredd.
- Defnyddio systemau gwybodaeth a TG CBC i ddatblygu adroddiadau pwyllgorau.
- Bod yn aelod o Grŵp Cyfoedion GIG Cymru ar gyfer Ysgrifenyddion Bwrdd a Chyfarwyddwyr Llywodraethu Corfforaethol a chymryd rhan weithredol ynddo, ochr yn ochr â rhaglen briodol o ddatblygiad proffesiynol parhaus.
- Rhoi newyddion digroeso yn aml i’r Cadeirydd, Prif Gomisiynydd, Tîm CBC a rhanddeiliaid, a allai ennyn emosiwn neu drallod.
Yn ogystal â'r atebolrwydd allweddol a ddisgrifir uchod, efallai y bydd yn ofynnol i ddeiliad y swydd hefyd ymgymryd â dyletswyddau perthnasol eraill fel sy'n ofynnol gan y Bwrdd. Ni fydd unrhyw ddyletswyddau o'r fath yn gwrthdaro nac yn rhwystro ymddygiad prif rôl Ysgrifennydd y Pwyllgor.
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
I weithio yn y DU, mae angen nawdd ar bob ymgeisydd nad yw'n wladolyn o'r DU neu Weriniaeth Iwerddon i gael naill ai fisa Gweithiwr Iechyd a Gofal neu fisa Gweithiwr Medrus, oni bai bod gennych ganiatâd i weithio trwy lwybr arall. Dylai ymgeiswyr nad ydynt yn rhan o'r DU/Gweriniaeth Iwerddon sy'n dymuno gwneud cais hunanasesu'u tebygolrwydd o gael Tystysgrif Nawdd trwy ymweld â gwefan Fisâu a Mewnfudo'r DU. Os ydych chi'n gymwys i gael y fisa Iechyd a Gofal, mae'r costau ymgeisio yn is ac nid oes angen i chi dalu Gordal Iechyd Mewnfudo blynyddol.
Gofynion yr ymgeisydd
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Wedi'i addysgu i lefel Gradd Meistr neu brofiad cyfatebol o weithio mewn rôl lywodraethu uwch.
- Gwybodaeth broffesiynol o ddisgyblaethau fel rheoli pobl, gwybodaeth a thechnoleg a rheoli perfformiad a gafwyd dros gyfnod sylweddol trwy hyfforddiant a phrofiad.
- Gwybodaeth arbenigol o ystod o weithdrefnau ac arferion gwaith damcaniaethol ac ymarferol mewn perthynas â rôl ysgrifennydd pwyllgor, gan gynnwys, llywodraethu corfforaethol, risg a sicrwydd.
- Gwybodaeth fanwl o'r GIG a'r amgylchedd gwleidyddol, ei systemau a'r gallu i gyfathrebu a throsglwyddo'r wybodaeth hon i eraill.
- Yn gallu dangos cofnod DPP proffesiynol perthnasol.
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1 - Cymraeg cwrteisi sylfaenol) neu barodrwydd i weithio tuag at gyrraedd y lefel hon.
Meini prawf dymunol
- Cymrawd neu Gydymaith y Sefydliad Llywodraethu Corfforaethol (a elwid gynt yn Sefydliad yr Ysgrifenyddion Siartredig).
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad blaenorol helaeth o weithio mewn rôl uwch ysgrifennydd pwyllgor.
- Yn dangos y gallu i gynnal gwybodaeth dechnegol arbenigol sy'n ofynnol gan ysgrifennydd pwyllgor i sicrhau llywodraethu corfforaethol cadarn a lliniaru risg.
- Profiad o weithio trwy dimau amlddisgyblaethol, gan gynnwys rhwydweithiau ffurfiol, pwyllgorau a grwpiau, i gyflawni gwelliannau gwasanaeth sy'n gwella effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd.
- Cynnal ymchwil, adolygiadau ac archwiliadau i lywio arfer gorau mewn perthynas â rheoli pwyllgorau, llywodraethu da, rheoli risg, sicrwydd ac ati.
Sgiliau a Phriodoleddau
Meini prawf hanfodol
- Sgiliau cyfathrebu ac ymgysylltu datblygedig iawn, llafar ac ysgrifenedig.
- Yn gallu dangos sgiliau arweinyddiaeth a rheoli tosturiol effeithiol.
- Safon uchel o sgiliau TG a sgiliau bwrdd allweddol safonol.
- Y gallu i ddadansoddi a dehongli ffynonellau gwybodaeth cymhleth fel Llywodraeth Cymru ac i ddarparu cyngor strategol/arbenigol yn seiliedig ar ddadansoddi data, yn aml gydag amserlenni byr.
- Yn gallu ysgrifennu adroddiadau a dogfennau cymhleth lefel uchel ac o ansawdd;
- Yn gallu llunio a datblygu cynlluniau strategol hirdymor yn seiliedig ar wybodaeth/canllawiau cenedlaethol, sy'n cynnwys ansicrwydd, ac a allai effeithio ar amcanion y CBC ac amcanion ehangach sefydliadau comisiynu GIG Cymru.
- Datblygu ac adolygu polisïau a gweithdrefnau corfforaethol i ddiwallu anghenion sefydliadol neu mewn ymateb i newidiadau i bolisi cenedlaethol y gallai fod angen eu dadansoddi a'u dehongli i'w gweithredu'n lleol.
- Arloesol gyda ffocws cryf ar wasanaeth, gyda sgiliau cyfathrebu, dylanwadu a thrafod datblygedig iawn
- Barn gadarn i lywio gwneud penderfyniadau cadarn, wrth ymdrin â ffeithiau/gwybodaeth gymhleth iawn, trwy ddadansoddi a dehongli polisi cenedlaethol, deddfwriaeth ac ati i roi cyngor arbenigol i'r Cadeirydd, y Prif Gomisiynydd, y CBC ac ati.
- Yn gallu gweithio gyda pholisïau cyffredinol y GIG, sefydliadol neu lywodraethu corfforaethol/sicrwydd corfforaethol eang, fframweithiau ac ati gyda'r gallu i sefydlu a chynghori'n hyderus ar y ffordd y dylid dehongli'r rhain.
- Yn gallu dylanwadu a herio rhagdybiaethau rhanddeiliaid a sefydliadau darparwyr, tra'n cadw parch a chynnal hygrededd.
- Yn gallu cynnal canolbwyntio am gyfnodau hir wrth weithio i ddyddiadau cau tynn ac yn ystod cyfnodau o lwyth gwaith a phwysau trwm; gan gynnwys wrth ysgrifennu dogfennau polisi, adroddiadau, gwirio papurau ar gyfer Pwyllgorau ac ati.
Gofynion Rôl Eraill
Meini prawf hanfodol
- Y gallu i deithio i gyfarfodydd sy'n gysylltiedig â'r gwaith yng Nghymru a'r DU, pan fo angen.
- Ymagwedd hyblyg at waith ac oriau gwaith.
- Gofyniad aml ar gyfer eistedd neu sefyll mewn sefyllfa gyfyngedig am gyfran sylweddol o'r amser gwaith.
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Georgina Galletly
- Teitl y swydd
- Director of Corporate Planning and Strategy
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01443443443
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Bydd gan yr ymgeisydd addas rôl allweddol yn:
- Cynllun a datblygiad fframwaith llywodraethu a sicrwydd y JCC
- Gweinyddu a chadw at Reolau Sefydlog a Chyfarwyddiadau Ariannol Sefydlog
- Trefniadau a Chynllun Dirprwyo'r Corff a Gynhelir (Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg).
- Rheoli cydberthnasau â'r JCC, Is-bwyllgorau a Grwpiau Cynghori
- Dylunio a rhoi sicrwydd ynghylch y modd y cynhelir Busnes y JCC
- Arwain a rheoli Busnes Corfforaethol a hyrwyddo diwylliant, gwerthoedd ac ymddygiad y JCC bob amser
- Dirprwyo ar ran y Cyfarwyddwr Cynllunio Corfforaethol a Strategaeth yn ôl yr angen
Os hoffech wneud ymholiadau anffurfiol, cysylltwch â’r Cyfarwyddwr Cynllunio a Strategaeth Gorfforaethol, Georgina (George) Galletly drwy e-bost [email protected]
Dechrau eich cais
Mewngofnodi
Creu cyfrif
Creu eich cyfrif a gwneud cais am eich swydd newydd!