Mae Trac yn falch o bweru recriwtio ar gyfer
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Gwybodaeth
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd i boblogaeth o tua 372,320 ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro. Mae'n darparu gwasanaethau Acìwt, Sylfaenol, Cymunedol, Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu trwy Ysbytai Cyffredinol a Chymunedol, Canolfannau Iechyd, Meddygfeydd Teulu, Deintyddion, Fferyllfeydd, Optometryddion a safleoedd eraill.
Cysylltu
- Address
- Glien House
- Cillefwr Industrial Estate
- Johnstown
- Carmarthen
- Carmarthenshire
- SA31 3RB
- Contact Number
- 0300 303 6138
Uwch-weithiwr Cymorth/Ymarferydd Cynorthwyol Therapi Galwedigaethol
Accepting applications until: 19-Jun-2025 23:59
Statws y swydd wag: Open
Accepting applications until: 19-Jun-2025 23:59
Manylion allweddol
Lleoliad
- Gwefan
- Clinig Elizabeth Williams
- Cyfeiriad
- Lôn y Felin
- Tref
- Llanelli
- Cod post
- SA15 3SE
- Major / Minor Region
- Sir Gaerfyrddin
Math o gontract a phatrwm gwaith
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Rhan-amser
- Gweithio hyblyg
- Oriau cywasgedig
Cyflog
- Cyflog
- £26,928 - £29,551 y flwyddyn pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Gradd
- (Band 4)
Arbenigedd
- Prif leoliad
- Therapi Galwedigaethol
- Dyddiad y cyfweliad
- 27/06/2025
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.
Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau.
Trosolwg o'r swydd
Mae cyfle cyffrous wedi dod ar gael i unigolyn creadigol, brwdfrydig a diddorol gefnogi'r gwaith o ddarparu rhaglenni therapi galwedigaethol i blant a phobl ifanc, a hynny yn rôl Uwch-weithiwr Cymorth Therapi Galwedigaethol ym Mwrdd Iechyd Hywel Dda.
Rydym yn helpu plant a phobl ifanc i gymryd rhan yn y gweithgareddau o ddydd i ddydd (gweithgareddau) sy'n bwysig iddynt – gartref, yn yr ysgol, ac mewn mannau eraill.
Mae rhai plant a phobl ifanc yn ei chael yn anodd gwneud pethau y mae arnynt eisiau neu y mae'n rhaid iddynt ei wneud am fod ganddynt anghenion corfforol, dysgu, neu iechyd meddwl. Mae eraill yn cael trafferth oherwydd salwch neu amgylchiadau teuluol, neu oherwydd newidiadau sy'n digwydd wrth iddynt dyfu a datblygu.
Advert
Rydym yn ceisio penodi unigolyn rhagweithiol, llawn cymhelliant a dynamig i gefnogi Therapyddion Galwedigaethol yn y timau cymunedol ledled Bwrdd Iechyd Hywel Dda, ac y mae ei werthoedd yn cyd-fynd â gwerthoedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.
Trwy weithio gyda phlant a'u teuluoedd a'u cefnogi i gyflawni eu nodau o ran Therapi Galwedigaethol a bod mor annibynnol â phosibl, nod y rôl yw annog plant a phobl ifanc i gymryd rhan mewn gweithgareddau sy'n bwysig iddynt yn eu bywyd. Gallai hyn olygu sgiliau hunanofal hanfodol, yn yr ysgol, neu hamdden/hobïau. Yn ddelfrydol, bydd gennych brofiad o weithio gyda phlant a phobl ifanc a bydd gennych ddealltwriaeth o'r
heriau sy'n eu hwynebu.
Dylech allu amlygu sgiliau rhesymu clinigol i'ch galluogi i asesu a thrin cleifion yn unol â phrotocolau heb oruchwyliaeth uniongyrchol. Mae ein tîm yn ddynamig ac yn gyfeillgar. Rydym yn mynd ati i gefnogi ac annog staff i ddatblygu'n bersonol ac yn broffesiynol trwy oruchwyliaeth a hyfforddiant clinigol.
I wneud cais, dylech feddu ar gymhwyster NVQ Lefel 3 sy'n berthnasol i'r maes gwaith hwn, neu hyfforddiant, cymwysterau neu brofiadau cyfatebol eraill.
Disgwylir i ddeiliad y swydd deithio rhwng lleoliadau. Mae lwfans milltiredd yn daladwy.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 12,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu i bron 400,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
4 prif ysbyty (Bronglais, Aberystwyth, Glangwili, Caerfyrddin, Tywysog Philip, Llanelli, ac Llwynhelyg, Hwlffordd).
5 ysbyty cymunedol (Ysbyty Dyffryn Aman ac Ysbyty Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin, Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion,Ysbyty Dinbych-y-pysgod a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol De Sir Benfro yn Sir Benfro.
Dwy ganolfan gofal integredig (Aberaeron ac Aberteifi, yng Ngheredigion).
Cyfleusterau cymunedol, gan gynnwys:
48 Meddygfa, 49 Deintyddfa, 98 Fferyllfa Gymunedol, 44 Practis Offthalmig Cyffredinol (gan gynnwys gwasanaethau iechyd llygaid a golwg gwan), 38 safle yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu, gofal o fewn eich cartrefi eich hun.
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Ni waeth beth yw'r rheswm, rydym yn cefnogi plant a phobl ifanc i gymryd rhan mewn gweithgareddau a threfnau arferol sy'n rhoi pwrpas ac ystyr i'w bywydau. Mae'r rhain yn cynnwys:
gweithgareddau hunanofal – gwisgo, bwyta a chysgu
gweithgareddau cynhyrchiol – dysgu, ysgrifennu, gwneud ymarfer corff
chwarae a hamdden – chwarae gyda ffrindiau a chymryd rhan mewn chwaraeon neu hobïau.
Rydym yn helpu plant a phobl ifanc i dyfu, ffynnu, a chyflawni eu potensial llawn trwy nodi:
Gweithgareddau y maent yn eu cyflawni'n dda a'r rheiny sy'n peri trafferth iddynt
Ffactorau personol, amgylcheddol a thasg-benodol sy'n helpu neu'n cyfyngu ar eu gallu i gymryd rhan
Ffyrdd gwahanol o wneud pethau, addysgu sgiliau newydd, neu newid yr
amgylchedd i'w gwneud yn haws iddynt gymryd rhan, cael hwyl, a chyflawni.
(Coleg Brenhinol y Therapyddion Galwedigaethol, 2024)
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cynhelir y cyfweliadau ar 27/06/2025.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir drwy gyfrwng y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau a wneir yn y Saesneg.
NODYN PWYSIG I YMGEISWYR: Mae ceisiadau am ein rolau yn cael eu hadolygu'n ofalus a'u rhoi ar restr fer yn seiliedig ar feini prawf penodol, sy'n amrywio o swydd i swydd. Efallai na fydd defnyddio cais generig i wneud cais am rolau lluosog neu ddibynnu ar wasanaethau ceisiadau deallusrwydd artiffisial awtomataidd, fel Lazy Apply neu AI Apply, yn darparu'r wybodaeth angenrheidiol, gan arwain at anwybyddu'ch cais. Er mwyn sicrhau bod eich cais yn cael ystyriaeth lawn, rydym yn argymell cyflwyno cais wedi'i deilwra sy'n mynd i'r afael yn uniongyrchol â'r meini prawf a restrir yn adran Manyleb y Person yr hysbyseb.
Trwy gyflwyno eich cais i NHS Jobs/Trac, rydych yn gydsynio i elfennau o ddata eich cais gael eu trosglwyddo i Gofnod Staff Electronig (ESR) y GIG a systemau diogel, mewnol Gweithlu’r GIG er mwyn cefnogi a rheoli eich recriwtio a’ch cyflogaeth o fewn y sefydliad sy’n eich cyflogi; i’w defnyddio gan yr adran Recriwtio at ddibenion gwirio eich Cofrestriad Proffesiynol ar-lein (lle bo’n briodol).
Mae’r prosesau hyn yn unol â phrosesu Teg a Chyfreithlon yn unol â Deddfwriaeth Diogelu Data cyfredol yn enwedig y rhai hynny mewn perthynas â’ch data personol neu bersonol sensitif (diffinir data personol sensitif fel unrhyw gyflwr iechyd meddwl neu gorfforol, tarddiad hiliol neu ethnig, cyfeiriadedd rhywiol, aelodaeth undeb llafur, barn wleidyddol neu gred crefyddol datganedig). Fel sefydliad, rydym yn sicrhau bod y ddeddfwriaeth sy’n diffinio cyfrinachedd yn cael ei dilyn megis y defnydd o ddata at ddibenion penodol, diffiniedig, a defnydd o ddata sy’n berthnasol ac nid yn ormodol wrth ymarfer cywirdeb data a diogelwch yr holl wybodaeth bersonol adnabyddadwy a gedwir.
Os cewch eich penodi’n llwyddiannus, trwy lenwi’r ffurflen gais rydych yn awdurdodi’r BIP i gael unrhyw fanylion gwasanaeth blaenorol i’r GIG yn cynnwys yr holl wybodaeth ar salwch a gedwir yn electronig, trwy’r broses Trosglwyddo Rhyng-awdurdod ar y Cofnod Staff Electronig.
I weithio yn y DU, mae angen nawdd ar bob ymgeisydd nad yw'n wladolyn o'r DU neu Weriniaeth Iwerddon i gael naill ai fisa Gweithiwr Iechyd a Gofal neu fisa Gweithiwr Medrus, oni bai bod gennych ganiatâd i weithio trwy lwybr arall. Dylai ymgeiswyr nad ydynt yn rhan o'r DU/Gweriniaeth Iwerddon sy'n dymuno gwneud cais hunanasesu'u tebygolrwydd o gael Tystysgrif Nawdd trwy ymweld â gwefan Fisâu a Mewnfudo'r DU. Os ydych chi'n gymwys i gael y fisa Iechyd a Gofal, mae'r costau ymgeisio yn is ac nid oes angen i chi dalu Gordal Iechyd Mewnfudo blynyddol.
Gofynion yr ymgeisydd
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Tystiolaeth o gymhwyster Lefel 3 sy'n berthnasol i'r gweithle, NEU hyfforddiant, cymwysterau neu brofiadau cyfatebol eraill
- Profiad Lefel 4, ynghyd a pharodrwydd, yn dilyn penodiad i'r swydd, i gwblhau'r cymhwyster Lefel 4 perthnasol o fewn amserlen benodol
- Sgiliau TG, ynghyd a gwybodaeth dda am raglenni Microsoft Office a phrofiad o'u defnyddio
- Rhifedd a llythrennedd hyd at lefel 2 o leiaf (TGAU gradd C neu uwch)
- Gwybodaeth dda am Therapi Galwedigaethol trwy brofiad a/neu hyfforddiant a gafwyd
- Gwybodaeth ymarferol am gyfarpar therapiwtig
- Gwybodaeth am rolau grwpiau staff eraill ym maes iechyd a gofal cymdeithasol
Meini prawf dymunol
- Tystiolaeth o weithgareddau DPP sy'n gysylltiedig a'r rol
- Hyfforddiant Asesydd Dibynadwy mewn cyfarpar ac ymaddasiadau
- Gwybodaeth am Lywodraethu Clinigol, yn cynnwys ymchwil ac archwilio
- Gwybodaeth am fesurau canlyniadau perthnasol i amlygu effeithiolrwydd ymyriadau
- Gwybodaeth am flaenoriaethau ac arferion y Bwrdd Iechyd
- Gwybodaeth am amrywiaeth o ymyriadau adsefydlu ar draws pob therapi
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Ystod eang o brofiad o weithio mewn gwasanaeth therapi neu mewn maes perthnasol arall. Gall hyn gynnwys profiad gwirfoddol yn ogystal a phrofiad cyflogedig
- Profiad o weithio gydag amrywiaeth o bobl ag anghenion gwahanol
- Gweithio'n rhan o dim
- Gweithio'n annibynnol
- Rheoli eich amser eich hun a blaenoriaethu gweithgareddau
- Cyfrannu at wella gwasanaethau
- Hunanddatblygiad a dysgu
- Defnyddio technegau a addaswyd i wella annibyniaeth y claf
Meini prawf dymunol
- Profiad o weithio gyda grwpiau
- Profiad o weithio mewn lleoliad cymunedol
- Goruchwylio staff
- Profiad o ddefnyddio dull Cyfweld Ysgogiadol neu ymyriadau sy'n canolbwyntio ar atebion
- Profiad o ymdopi'n annibynnol a sefyllfaoedd trallodus neu emosiynol mewn amgylcheddau gwaith heriol
- Profiad o ddefnyddio llwyfannau cyfathrebu rhithwir, h.y. Skype, Teams neu Zoom
Arall
Meini prawf hanfodol
- Y gallu i deithio i ddarparu gwasanaethau, gan gynnwys teithio rhwng safleoedd, a hynny mewn modd amserol
- Agwedd hyblyg at anghenion y gwasanaeth
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Kelly Southway
- Teitl y swydd
- Service Lead Occupational Therapist
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 07811 066200
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Kelly Southway - Therapydd Galwedigaethol Arweiniol Gwasanaeth 07811 066200 [email protected]
Dechrau eich cais
Mewngofnodi
Creu cyfrif
Creu eich cyfrif a gwneud cais am eich swydd newydd!