Mae Trac yn falch o bweru recriwtio ar gyfer
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Gwybodaeth
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd i boblogaeth o tua 372,320 ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro. Mae'n darparu gwasanaethau Acìwt, Sylfaenol, Cymunedol, Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu trwy Ysbytai Cyffredinol a Chymunedol, Canolfannau Iechyd, Meddygfeydd Teulu, Deintyddion, Fferyllfeydd, Optometryddion a safleoedd eraill.
Cysylltu
- Address
- Glien House
- Cillefwr Industrial Estate
- Johnstown
- Carmarthen
- Carmarthenshire
- SA31 3RB
- Contact Number
- 0300 303 6138
Rheolwr Rhaglen Iechyd y Cyhoedd
Accepting applications until: 11-Jun-2025 23:59
Statws y swydd wag: Open
Accepting applications until: 11-Jun-2025 23:59
Manylion allweddol
Lleoliad
- Gwefan
- Hafan Derwen, Parc Dewi Sant
- Cyfeiriad
- Heol Ffynnon Job
- Tref
- Caerfyrddin
- Cod post
- SA31 3BB
- Major / Minor Region
- Sir Gaerfyrddin
Math o gontract a phatrwm gwaith
- Contract
- 6 mis (Cyfnod Penodol / Secondiad tan 14/12/2025)
- Oriau
- Rhan-amser - 15 awr yr wythnos (2 diwrnod yr wythnos)
Cyflog
- Cyflog
- £75,405 - £86,885 y flwyddyn pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Gradd
- (NHS AfC: Band 8c)
Arbenigedd
- Prif leoliad
- Iechyd y Cyhoedd
- Dyddiad y cyfweliad
- 18/06/2025
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.
Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau.
Trosolwg o'r swydd
Mae'r swydd yma am gyfnod penodol / secondiad tan 14/12/2025. Os ydych yn yn gyflogai i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac yn gwneud cais am secondiad i'r swydd hon, bydd angen i'ch rheolwr presennol gytuno i'r secondiad cyn i chi gyflwyno eich cais.
Mae cyfle cyffrous wedi dod ar gael i Uwch-ymarferydd Iechyd y Cyhoedd ymuno â Chyfarwyddiaeth Iechyd y Cyhoedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, i wasanaethu cymunedau Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.
Dyma eich cyfle i gefnogi rhai o'r materion pwysicaf ym maes iechyd y cyhoedd tra byddwch yn cyflawni rôl arweinyddiaeth mewn perthynas â chynllunio a gweithredu a pherfformiad sy'n gyson â nodau iechyd y cyhoedd. Byddwch yn gweithio'n agos gyda Chyfarwyddwr Gweithredol Iechyd y Cyhoedd a'r uwch-dîm arwain i sicrhau bod dulliau iechyd y cyhoedd yn cael eu cynnwys ym mhob ffrwd waith berthnasol. Mae'r rôl yn gofyn am feddwl strategol, sgiliau gwleidyddol, a'r gallu i ddylanwadu ar draws ffiniau.
Advert
Bydd deiliad y swydd yn arwain y broses o gynllunio, gweithredu a monitro Rhaglenni Iechyd y Cyhoedd allweddol. Bydd y rhaglenni'n cyflenwi blaenoriaethau proffesiynol Iechyd y Cyhoedd, sydd wedi'u cydlynu'n dda, ac sy'n effeithlon, yn effeithiol ac o ansawdd uchel, gan gyflawni gofynion statudol a rheolaethol a gofynion y GIG, a chan sicrhau eu bod yn gyson ag amcanion GIG Cymru a Strategaeth Canolbarth a Gorllewin Cymru Iachach.
Bydd deiliad y swydd yn darparu cyngor a chymorth i uwch-arweinwyr gweithredol ar draws gofal iechyd, y gymuned, ac ysbytai acíwt er mwyn datblygu, gweithredu a monitro cynlluniau gweithredol a chynlluniau gwella sy'n galluogi i system iechyd y boblogaeth gael ei thrawsnewid yn unol â disgwyliadau Strategaeth Canolbarth a Gorllewin Cymru.
Bydd deiliad y swydd yn meddu ar brofiad helaeth o weithio ym maes Iechyd y Cyhoedd mewn rôl reoli, a bydd ganddo sgiliau datblygedig iawn o ran gwyddor data a dadansoddeg er mwyn darparu'r Wybodaeth Fusnes ofynnol i'r Rhaglen i sicrhau ei bod yn cael ei darparu mewn modd effeithlon ac effeithiol.
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 12,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu i bron 400,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
4 prif ysbyty (Bronglais, Aberystwyth, Glangwili, Caerfyrddin, Tywysog Philip, Llanelli, ac Llwynhelyg, Hwlffordd).
5 ysbyty cymunedol (Ysbyty Dyffryn Aman ac Ysbyty Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin, Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion,Ysbyty Dinbych-y-pysgod a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol De Sir Benfro yn Sir Benfro.
Dwy ganolfan gofal integredig (Aberaeron ac Aberteifi, yng Ngheredigion).
Cyfleusterau cymunedol, gan gynnwys:
48 Meddygfa, 49 Deintyddfa, 98 Fferyllfa Gymunedol, 44 Practis Offthalmig Cyffredinol (gan gynnwys gwasanaethau iechyd llygaid a golwg gwan), 38 safle yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu, gofal o fewn eich cartrefi eich hun
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cynhelir y cyfweliadau ar 18/06/2025.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir drwy gyfrwng y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau a wneir yn y Saesneg.
NODYN PWYSIG I YMGEISWYR: Mae ceisiadau am ein rolau yn cael eu hadolygu'n ofalus a'u rhoi ar restr fer yn seiliedig ar feini prawf penodol, sy'n amrywio o swydd i swydd. Efallai na fydd defnyddio cais generig i wneud cais am rolau lluosog neu ddibynnu ar wasanaethau ceisiadau deallusrwydd artiffisial awtomataidd, fel Lazy Apply neu AI Apply, yn darparu'r wybodaeth angenrheidiol, gan arwain at anwybyddu'ch cais. Er mwyn sicrhau bod eich cais yn cael ystyriaeth lawn, rydym yn argymell cyflwyno cais wedi'i deilwra sy'n mynd i'r afael yn uniongyrchol â'r meini prawf a restrir yn adran Manyleb y Person yr hysbyseb.
Trwy gyflwyno eich cais i NHS Jobs/Trac, rydych yn gydsynio i elfennau o ddata eich cais gael eu trosglwyddo i Gofnod Staff Electronig (ESR) y GIG a systemau diogel, mewnol Gweithlu’r GIG er mwyn cefnogi a rheoli eich recriwtio a’ch cyflogaeth o fewn y sefydliad sy’n eich cyflogi; i’w defnyddio gan yr adran Recriwtio at ddibenion gwirio eich Cofrestriad Proffesiynol ar-lein (lle bo’n briodol).
Mae’r prosesau hyn yn unol â phrosesu Teg a Chyfreithlon yn unol â Deddfwriaeth Diogelu Data cyfredol yn enwedig y rhai hynny mewn perthynas â’ch data personol neu bersonol sensitif (diffinir data personol sensitif fel unrhyw gyflwr iechyd meddwl neu gorfforol, tarddiad hiliol neu ethnig, cyfeiriadedd rhywiol, aelodaeth undeb llafur, barn wleidyddol neu gred crefyddol datganedig). Fel sefydliad, rydym yn sicrhau bod y ddeddfwriaeth sy’n diffinio cyfrinachedd yn cael ei dilyn megis y defnydd o ddata at ddibenion penodol, diffiniedig, a defnydd o ddata sy’n berthnasol ac nid yn ormodol wrth ymarfer cywirdeb data a diogelwch yr holl wybodaeth bersonol adnabyddadwy a gedwir.
Os cewch eich penodi’n llwyddiannus, trwy lenwi’r ffurflen gais rydych yn awdurdodi’r BIP i gael unrhyw fanylion gwasanaeth blaenorol i’r GIG yn cynnwys yr holl wybodaeth ar salwch a gedwir yn electronig, trwy’r broses Trosglwyddo Rhyng-awdurdod ar y Cofnod Staff Electronig.
I weithio yn y DU, mae angen nawdd ar bob ymgeisydd nad yw'n wladolyn o'r DU neu Weriniaeth Iwerddon i gael naill ai fisa Gweithiwr Iechyd a Gofal neu fisa Gweithiwr Medrus, oni bai bod gennych ganiatâd i weithio trwy lwybr arall. Dylai ymgeiswyr nad ydynt yn rhan o'r DU/Gweriniaeth Iwerddon sy'n dymuno gwneud cais hunanasesu'u tebygolrwydd o gael Tystysgrif Nawdd trwy ymweld â gwefan Fisâu a Mewnfudo'r DU. Os ydych chi'n gymwys i gael y fisa Iechyd a Gofal, mae'r costau ymgeisio yn is ac nid oes angen i chi dalu Gordal Iechyd Mewnfudo blynyddol.
Gofynion yr ymgeisydd
Manyleb y person
Cymwysterau a Gallu
Meini prawf hanfodol
- Wedi cael addysg hyd at lefel gradd Meistr neu'n meddu ar brofiad/wybodaeth berthnasol
- Dealltwriaeth dda o egwyddorion Rheoli Perfformiad a Rhaglenni ac yn gallu eu cymhwyso
- Yn meddu ar wybodaeth arbenigol a phroffesiynol fanwl am nifer o ddisgyblaethau, a sicrhawyd trwy hyfforddiant a phrofiad dros gyfnod sylweddol
- Yn meddu ar dystiolaeth o reolaeth barhaus a datblygiad personol
- Yn meddu ar ddealltwriaeth drylwyr o'r rôl a'i diben yn y sefydliad
- Yn meddu ar wybodaeth am strategaethau, polisïau a chynlluniau'r GIG, Llywodraeth Cymru a'r Bwrdd Iechyd, gan gynnwys polisïau adnoddau dynol
- Yn meddu ar wybodaeth gyfredol am arfer gorau, a sicrhawyd trwy waith ymchwil personol
- Yn meddu ar wybodaeth fanwl am yr agenda gofal iechyd strategol sy'n ymwneud â chyflenwi gwasanaethau
- Gwybodaeth helaeth am Ddadansoddi Data a Methodoleg Gwella
- Sgiliau a gwybodaeth tra datblygedig mewn perthynas â gwyddor data a dadansoddeg i ddarparu'r Wybodaeth Fusnes ofynnol i'r Rhaglen i sicrhau ei bod yn cael ei darparu mewn modd effeithlon ac effeithiol
- Yn meddu ar wybodaeth ymarferol dda a chyfredol am strategaethau a pholisïau iechyd ar lefel genedlaethol a lleol a ddefnyddir i ddatblygu cynlluniau gwaith ar gyfer iechyd y cyhoedd i gefnogi gwelliannau sefydliadol parhaus
Meini prawf dymunol
- Ymarferydd PRINCE2
- MSc mewn Gwyddor Data / Gwybodeg (neu gymhwyster cyfatebol).
Language Skills
Meini prawf dymunol
- Welsh Speaker (Level 1)
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad gweithredol a rheolaethol sylweddol ar draws maes iechyd y cyhoedd
- Profiad o weithio ar draws sefydliadau
- Profiad sylweddol ar lefel uwch o ran rheoli rhaglenni a phrosiectau newid yn y GIG neu mewn sefydliad mawr tebyg
- Profiad sylweddol o ddadansoddi a chyflwyno data yn sail i ddatblygu, gweithredu a monitro Rhaglenni
- Profiad o arwain a chymell timau i gyflawni gwaith o safon uchel tra byddant dan bwysau ac yn wynebu amgylchiadau heriol
- Sgiliau rheoli perthnasoedd soffistigedig profedig i ymgysylltu â rhanddeiliaid mewnol ac allanol ar lefel uwch, gan gynnwys rheoli perthnasoedd ac annog cydweithio
- Yn amlygu dealltwriaeth o weithio yng nghyd-destun sefydliadol heriol i gefnogi gwasanaethau a chyflawni targedau perfformiad cenedlaethol
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Dr Bruce Bolam
- Teitl y swydd
- Deputy Director of Public Health
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
Dechrau eich cais
Mewngofnodi
Creu cyfrif
Creu eich cyfrif a gwneud cais am eich swydd newydd!