Mae Trac yn falch o bweru recriwtio ar gyfer
Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru

Gwybodaeth
Croeso i Iechyd Cyhoeddus Cymru - asiantaeth iechyd cyhoeddus genedlaethol Cymru. Rydym yn bodoli i ddiogelu a gwella iechyd a llesiant a lleihau anghydraddoldebau iechyd i bobl yng Nghymru.
I gael gwybod mwy ewch i Iechyd Cyhoeddus Cymru a gwyliwch y fideo hwn am ein Cynllun Strategol
Dilynwch ni ar Twitter, Facebook, Linkedin a Instagram
Gweithio gyda'n gilydd, gydag ymddiriedaeth a pharch, i wneud gwahaniaeth
Ein diben yw ‘gweithio gyda'n gilydd ar gyfer Cymru iachach'. Rydym yn bodoli i helpu pawb yng Nghymru i fyw bywydau hirach, iachach. Gyda'n partneriaid, ein nod yw cynyddu disgwyliad oes iach, gwella iechyd a llesiant, a lleihau anghydraddoldebau i bawb yng Nghymru, nawr ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Gyda'i gilydd, mae ein timau'n gweithio i atal clefyd, diogelu iechyd, a darparu arweinyddiaeth, gwasanaethau arbenigol ac arbenigedd iechyd cyhoeddus. Ni yw'r brif ffynhonnell o wybodaeth, ymchwil ac arloesedd iechyd cyhoeddus yng Nghymru.
Cysylltu
- Address
- No.2 Capital Quarter
- Tyndall Street
- Cardiff
- CF10 4BZ
- Contact Number
- 02921 500200
Mae newidiadau mewngofnodi ar ddod
O fis Gorffennaf 2025, bydd proses Dilysu Aml-Ffactor (MFA) yn cael ei chyflwyno i'r wefan hon. Bydd hyn yn ychwanegu cam ychwanegol at y broses mewngofnodi: bydd gofyn i chi fewnbynnu Cod Mynediad Untro (OTP) wrth i chi fewngofnodi i leihau twyll a sicrhau diogelwch. Gweler ein tudalen crynodeb yma am ragor o fanylion.
Ymgynghorydd mewn Microbioleg (a / neu mewn Clefyd Heintus)
Accepting applications until: 22-Jul-2025 23:59
Statws y swydd wag: Open
Accepting applications until: 22-Jul-2025 23:59
Manylion allweddol
Lleoliad
- Gwefan
- Ysbyty Singleton
- Cyfeiriad
- Sketty Lane
- Tref
- Abertawe
- Cod post
- SA2 8QA
- Major / Minor Region
- Caerdydd
Math o gontract a phatrwm gwaith
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 10 sesiwn yr wythnos
Cyflog
- Cyflog
- £106,000 - £154,760 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Gradd
- (Ymgynghorydd)
Arbenigedd
- Prif leoliad
- Microbioleg Meddygol a Chlefydau Heintus
Croeso i Iechyd Cyhoeddus Cymru, asiantaeth iechyd cyhoeddus genedlaethol Cymru
Ein gweledigaeth yw Gweithio i wireddu dyfodol iachach i Gymru
Am ragor o wybodaeth amdanom, ewch i’n tudalen hafan, darllenwch am ein cynllun strategol
Dilynwch ni ar Twitter, Facebook, LinkedIn and Instagram
Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg. I gefnogi ein gwasanaeth i Gymru gyfan, croesawn yn fawr ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.
Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau.
Trosolwg o'r swydd
Gan gydnabod pwysigrwydd atal a rheoli heintiau, mae Llywodraeth ddatganoledig Cymru wedi rhoi blaenoriaeth i fuddsoddi’n sylweddol yn natblygiad ein gwasanaethau heintiau cenedlaethol a lleol. Gan ddatblygu ein cryfderau, a gweithio'n agos gyda chydweithwyr ym maes diogelu iechyd a phartneriaid ehangach, rydym yn trawsnewid ein gwasanaethau er mwyn darparu gwasanaeth o'r radd flaenaf ar gyfer atal a rheoli heintiau.
I gyd-fynd â'n timau presennol, sy'n cynnwys arweinwyr rhyngwladol ym meysydd diagnosis a rheoli heintiau, rydym yn chwilio am gydweithwyr newydd er mwyn helpu i sicrhau'r atebion a'r canlyniadau gorau i bobl Cymru, datblygu modelau gweithlu a thechnolegol newydd a diwallu anghenion poblogaeth sy'n newid.
Mae ein gwasanaethau yn defnyddio technoleg folecwlaidd a genomig newydd er mwyn darparu gwasanaethau clinigol a diagnostig yn lleol, yn genedlaethol ac ar lefel y DU gyfan, gyda chyfleoedd i weithio mewn partneriaeth a gwneud gwaith ymchwil oddi mewn i fodel cenedlaethol y GIG, sy'n rhoi blaenoriaeth i gydweithio a gwaith atal.
Mae gan y tîm clefydau heintus / microbioleg yn Abertawe berthynas waith agos ag Ysgol Feddygaeth ac Athrofa Gwyddor Bywyd Prifysgol Abertawe. Mae'r swyddi canlynol ar gael - Ymgynghorydd clefydau heintus / microbioleg ar y cyd, Ymgynghorydd mewn microbioleg. Anogir ceisiadau gan ymgeiswyr sydd â diddordeb yn unrhyw un o'r swyddi uchod. Byddwch yn ymuno â thîm o 9 Ymgynghorydda, 10 SPR ac 2 Meddyg cyswllt.
Advert
Arweinyddiaeth a chyfathrebu strategol a phroffesiynol:
Bydd y sawl a benodir yn sicrhau diwylliant sy’n cynnal ac yn gwella ansawdd yn barhaus. Yn y rôl hon, bydd y sawl a benodir yn gwneud y canlynol:
· Hyrwyddo gwaith tîm aml broffesiynol yn yr adran
· Sicrhau cyfathrebu a gwaith tîm priodol gyda gwasanaethau eraill o fewn Ymddiriedolaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru a gwasanaethau mewn Ymddiriedolaethau, Byrddau Iechyd, a chymunedau iechyd eraill sy'n cael eu gwasanaethu gan Adran Ficrobioleg Abertawe.
· Cyfrannu at gyfarfodydd yr adran
· Cyfrannu at ddatblygiadau a gwelliannau'r gwasanaeth
· Cyfrannu at ddatblygu llwybrau sy'n canolbwyntio ar gleifion
· Cyfrannu at archwilio clinigol, adolygu, a chynllunio gwasanaethau
· Datblygu achosion busnes fel sy'n briodol
· Cyfrannu at ddatblygiad gwasanaeth yn unol ag amcanion rhwydwaith Gwasanaeth Heintiau Ymddiriedolaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru a'r agenda Moderneiddio Patholeg genedlaethol a lleol
· Ymgynghori â phob adran o'r gwasanaeth ar newidiadau, gan gynnwys caffael offer
· Cyfrannu at y gwaith o ddatblygu a chryfhau cysylltiadau gwaith gyda darparwyr a chomisiynwyr gofal sylfaenol/cymunedol
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae’r un croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg ymgeisio am y swydd.
Gweithio i'n sefydliad
Iechyd Cyhoeddus Cymru yw Sefydliad Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol Cymru. Ein gweledigaeth yw 'Gweithio i gyflawni dyfodol iachach i Gymru'. Rydym yn chwarae rhan ganolog wrth ysgogi gwelliannau yn iechyd a llesiant y boblogaeth, lleihau anghydraddoldebau iechyd, gwella canlyniadau gofal iechyd, diogelu'r cyhoedd a chefnogi'r gwaith o ddatblygu iechyd ym mhob polisi ledled Cymru.
Nid yw iechyd cyhoeddus erioed wedi bod mor bwysig wrth i ni ddod drwy bandemig y Coronafeirws, wynebu heriau'r argyfwng costau byw a mynd i'r afael ac atal effeithiau niweidiol newid hinsawdd. Rydym yn sefydliad sy'n rhoi ein hunain wrth wraidd cefnogi pobl, cymunedau, partneriaid a Llywodraeth Cymru wrth fynd i'r afael â'r heriau mawr hyn a darparu atebion ar gyfer gweithredu.
Caiff ein sefydliad ei arwain gan ein gwerthoedd “Cydweithio, gydag ymddiriedaeth a pharch, i wneud gwahaniaeth”. Rydym wedi ymrwymo i greu gweithle cynhwysol sy'n rhoi gwerth ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Rydym yn croesawu ceisiadau sy'n cynrychioli amrywiaeth gyfoethog y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu a chan y rhai sy'n dymuno gweithio'n rhan amser neu rannu swydd.
I ddarganfod mwy am weithio i ni a'r buddion rydym yn eu cynnig, ewch i Gyrfaoedd - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)
I gael arweiniad ar y broses ymgeisio, ewch i Gwybodaeth a Chanllawiau i Ymgeiswyr - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Rheoli Gweithredol
Ar y cyd â thîm rheoli Gwasanaeth Heintiau Abertawe, bydd y sawl a benodir yn gyfrifol am:
· Sicrhau bod risgiau cyffredinol a chlinigol yn cael eu hasesu bob blwyddyn, a bod sicrwydd rheolaethau a safonau priodol yn cael eu gweithredu
· Sicrhau bod amcanion llywodraethu clinigol yn cael eu cytuno gydag Arweinydd Clinigol Labordy Abertawe, a'u bod yn cael eu cyflawni/eu gweithredu ynghyd â chydweithwyr clinigol eraill, gan gynnwys:
· sicrhau safonau sydd wedi'u gosod gan gyrff achredu perthnasol (e.e. Achrediad Patholeg Glinigol (UKAS) (UK) Ltd)
· monitro perfformiad yn rheolaidd mewn cynlluniau sicrhau ansawdd mewnol ac allanol, gan gymryd camau ymchwilio ac unioni yn ôl yr angen
· cydymffurfio â Fframweithiau Gwasanaethau Cenedlaethol, safonau clinigol, a chanllawiau cyrff proffesiynol perthnasol
· cydgysylltu'r gwaith o adrodd, ymchwilio, a chymryd camau dilynol mewn perthynas â digwyddiadau niweidiol yn y gwasanaeth, fel y'i disgrifir gan bolisïau'r Ymddiriedolaeth/ysbyty a chynlluniau cenedlaethol
· gwelliannau amlwg o ganlyniad i archwiliadau clinigol, prosiectau gwella ansawdd, arolygon boddhad cleifion neu gwynion
· sicrhau bod polisïau a gweithdrefnau'r Ymddiriedolaeth/ysbyty ar gael i staff a'u bod yn cael eu gweithredu
· system i staff ddysgu'r gwersi o ddigwyddiadau, ymgyfreitha, a chwynion
Darparu Gwasanaethau
Darparu gofal yn ôl Telerau ac Amodau Gwasanaeth - Contract Ymgynghorwyr Cymru
Cyflawni dyletswyddau yn ymwneud â darparu Gwasanaeth Heintiau Abertawe ac ar gyfer sefydliadau eraill sy'n cael eu gwasanaethu gan Ymddiriedolaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru o dan gyfarwyddwyd Arweinydd Clinigol Labordy Microbioleg Abertawe. Gan ddibynnu ar brofiad, bydd y dyletswyddau hyn yn cynnwys gwaith sy'n gysylltiedig â'r gwasanaeth clefydau heintus (ymweld â wardiau, adolygiadau o gleifion erchwyn gwely, clinigau) a / neu'r gwasanaeth microbioleg (cyngor ar sbesimenau priodol, helpu i ddadansoddi sbesimenau, dilysu a dehongli canlyniadau, a chyfrannu at wasanaethau rheoli heintiau ar gyfer timau clinigol ledled Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, ac ar gyfer Practisau Cyffredinol lleol). Bydd y gwaith o ddarparu'r gwasanaeth yn cael ei rannu gydag aelodau uwch staff clinigol eraill yn yr Adran.
Cymryd rhan, fel sy'n briodol ar sail profiad, yng ngwaith paratoi polisi'r Adran Ficrobioleg, Gweithdrefnau Gweithredu Safonol, llwybrau gofal ac ati.
Dyletswyddau rheoli yn unol â'r hyn a gytunwyd ag Arweinydd Clinigol Labordy Microbioleg Abertawe.
Fel rhan o wasanaeth rheoli heintiau, bydd angen helpu i gyflawni swyddogaethau a darparu gwasanaethau rheoli heintiau mewn cydweithrediad â chydweithwyr Microbiolegwyr Ymgynghorol a Chyfarwyddwr y Bwrdd Iechyd ar gyfer Rheoli Heintiau mewn Ysbytai.
Cyfrannu at swyddogaeth addysgu a hyfforddi'r Adran, gan gynnwys:
-
- Goruchwyliaeth broffesiynol o staff meddygol iau yn yr Adran. (Mae Microbioleg Abertawe yn labordy achrededig ar gyfer hyfforddi cofrestryddion arbenigol Microbioleg.)
- Addysgu, asesiadau, ac arholiadau israddedigion yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe
- Cyfrannu at addysgu a hyfforddi gweithwyr a myfyrwyr gofal iechyd eraill fel sy'n briodol
Gweithio gydag ymgynghorwyr a chydweithwyr eraill, (a, phan fydd angen, gydag unedau arbenigol yng Nghymru ac Iechyd Cyhoeddus Lloegr), i ddarparu cymorth microbiolegol ac epidemiolegol ar gyfer Ymgynghorwyr sy'n Rheoli Clefydau Trosglwyddadwy, Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd, Llywodraeth Cymru, a staff clinigol mewn lleoliadau gofal sylfaenol ac eilaidd.
Cyfrannu at weithgareddau a datblygiad Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Cydweithio â swyddogion clinigol ac anghlinigol eraill o Iechyd Cyhoeddus Cymru, gan ddefnyddio cyfleusterau cyfeirio ac epidemiolegol canolog, er mwyn adrodd ar heintiau ac ymchwilio iddynt, rheoli achosion, asesu brechlynnau, datblygu dulliau labordy, cymryd rhan mewn arolygon, ac ati.
Darpariaeth cyflenwi ar gyfer cyfnodau absenoldeb cydweithwyr ymgynghorol, a chymryd rhan yn y rota ar alwad microbioleg (gan dderbyn tâl yn unol â Chontract Ymgynghorwyr Cymru)
Gweithgareddau ymchwil yn unol â blaenoriaethau Iechyd Cyhoeddus Cymru ac yn amodol ar argaeledd cyllid ac adnoddau.
Cymryd rhan mewn cynllun Datblygiad Proffesiynol Parhaus cydnabyddedig. (Bydd absenoldeb astudio yn unol â Chontract Ymgynghorwyr Cymru gyda chymorth ariannol priodol ar gael at ddibenion y cytunwyd arnynt yng nghyd-destun polisi Iechyd Cyhoeddus Cymru)
Cymryd rhan yn y cynllun arfarnu rheolaidd fel y cytunwyd arno gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.
Os oes cytundeb rhwng y partïon, gweithio ar ran Iechyd Cyhoeddus Cymru neu'r Bwrdd Iechyd/Awdurdod Iechyd i gynnal ymgynghoriadau cartref, neu wasanaethau sy'n cael eu darparu ar gyfer asiantaethau eraill e.e. y gwasanaeth carchardai
Unrhyw ddyletswyddau ychwanegol sy'n briodol i'r swydd ac i brofiad y sawl a benodir fel sy'n ofynnol o bryd i'w gilydd, naill ai gan Gyfarwyddwr y Labordy neu gan y Cyfarwyddwr, Diogelu Iechyd yn dilyn ymgynghoriad priodol.
Ar hyn o bryd, mae yna ddiddordeb mewn datblygu'r gwasanaeth therapi gwrthficrobaidd parenterol i gleifion allanol yn Abertawe. Anogir ceisiadau gan unigolion sydd â'r profiad a'r sgiliau angenrheidiol i weithio ar yr agwedd hon o'r gwasanaeth.
Cysylltiadau proffesiynol allweddol
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn rheolaethol atebol i'r canlynol:
Arweinydd Clinigol Iechyd Cyhoeddus Cymru ar gyfer Microbioleg Abertawe.
Hefyd, bydd disgwyl iddo weithio mewn cydweithrediad â'r canlynol:
Aelodau staff uwch eraill o Ymddiriedolaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru ledled Cymru gan gynnwys Microbiolegwyr Ymgynghorol a Firolegwyr, Gwyddonwyr Clinigol, staff BMS, Ymgynghorwyr Rheoli Clefydau Trosglwyddadwy a Chanolfan Arolygu Clefydau Trosglwyddadwy Cymru.
Aelodau o'r Gyfarwyddiaeth Patholeg ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe
Clinigwyr ymgynghorol a'u staff iau ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, ac ymarferwyr cyffredinol a chlinigwyr ysbytai ledled Cymru sy'n defnyddio'r gwasanaethau diagnostig a chyngor clinigol sy'n cael eu darparu gan Microbioleg Abertawe
Y Prif Weithredwr ac aelodau staff uwch eraill o Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a Byrddau ac Ymddiriedolaethau Iechyd eraill sy'n cael eu gwasanaethu gan Iechyd Cyhoeddus Cymru
Tîm Diogelu Iechyd Iechyd Cyhoeddus Cymru (Ymgynghorwyr Rheoli Clefydau Trosglwyddadwy a Nyrsys Iechyd y Cyhoedd).
Timau Rheoli Heintiau Ymddiriedolaethau ledled Cymru yn unol â chais y Meddygon Rheoli Heintiau perthnasol
Microbiolegwyr ymgynghorol ledled Cymru mewn labordai nad ydynt yn cael eu rheoli gan Iechyd Cyhoeddus Cymru
Aelodau o staff Prifysgol Abertawe, yn yr adran microbioleg feddygol yn benodol
Cyfarwyddwyr Iechyd y Cyhoedd ledled Cymru
Uwch aelodau staff Iechyd Cyhoeddus Lloegr
Mae Swydd-ddisgrifiad llawn a Manyleb y Person wedi'u hatodi yn y dogfennau ategol, neu cliciwch ar "Ymgeisio nawr" i'w gweld yn Trac.
Ceidw Iechyd Cyhoeddus Cymru yr hawl i gau’r swydd wag hon yn gynnar. Felly rydym yn annog ceisiadau cynnar.
Rhoddir blaenoriaeth i staff sy’n aros i gael eu hadleoli. Rydym yn cadw’r hawl felly i dynnu’r hysbyseb hon yn ôl ar unrhyw adeg.
Os oes gennych anabledd a bod gennych unrhyw anghenion penodol i'ch galluogi i gymryd rhan yn y broses ymgeisio, cysylltwch â [email protected]
NODYN PWYSIG I YMGEISWYR: Mae ceisiadau am ein rolau yn cael eu hadolygu'n ofalus a'u rhoi ar restr fer yn seiliedig ar feini prawf penodol, sy'n amrywio o swydd i swydd. Efallai na fydd defnyddio cais generig i wneud cais am rolau lluosog neu ddibynnu ar wasanaethau ceisiadau deallusrwydd artiffisial awtomataidd, fel Lazy Apply neu AI Apply, yn darparu'r wybodaeth angenrheidiol, gan arwain at anwybyddu'ch cais. Er mwyn sicrhau bod eich cais yn cael ystyriaeth lawn, rydym yn argymell cyflwyno cais wedi'i deilwra sy'n mynd i'r afael yn uniongyrchol â'r meini prawf a restrir yn adran Manyleb y Person yr hysbyseb.
Os byddwch yn llwyddiannus ac os cewch eich dewis ar gyfer y rhestr fer am gyfweliad, cysylltir â chi ar e-bost gan ddefnyddio’r cyfeiriad a ddefnyddiwyd gennych i gofrestru. Sicrhewch eich bod yn edrych ar eich cyfrif e-bost yn rheolaidd.
Rydym wedi ymrwymo i recriwtio teg a thryloyw ac rydym yn credu mewn cyfle cyfartal yn ein gweithle. Ni fyddwn yn goddef gwahaniaethu ar sail oedran, anabledd, hunaniaeth rywiol, crefydd neu gred, hil neu genedligrwydd, priodas neu bartneriaeth sifil, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, patrwm gwaith, cyfrifoldebau gofalu, gweithgarwch gydag undebau llafur neu gredoau gwleidyddol – nac ar unrhyw sail arall. Croesawn geisiadau gan unigolion a ddymunent weithio’n rhan-amser neu wneud cais i rannu swydd.
I weithio yn y DU, mae angen nawdd ar bob ymgeisydd nad yw'n wladolyn o'r DU neu Weriniaeth Iwerddon i gael naill ai fisa Gweithiwr Iechyd a Gofal neu fisa Gweithiwr Medrus, oni bai bod gennych ganiatâd i weithio trwy lwybr arall. Dylai ymgeiswyr nad ydynt yn rhan o'r DU/Gweriniaeth Iwerddon sy'n dymuno gwneud cais hunanasesu'u tebygolrwydd o gael Tystysgrif Nawdd trwy ymweld â gwefan Fisâu a Mewnfudo'r DU. Os ydych chi'n gymwys i gael y fisa Iechyd a Gofal, mae'r costau ymgeisio yn is ac nid oes angen i chi dalu Gordal Iechyd Mewnfudo blynyddol.
Mae'r raddfa gyflog a ddangosir ar gyfer aelod o staff llawn amser, a chaiff y swm ei addasu pro rata ar gyfer y rhai sy'n gweithio llai na 37.5 awr yr wythnos.
Gellir gweld Graddfeydd Cyflog GIG Cymru yma.
Yn gyffredinol, bydd unrhyw un sy'n ymuno â'n Hymddiriedolaeth nad yw wedi gweithio yn y GIG o'r blaen, yn cychwyn ar bwynt cyntaf y band tâl a hysbysebir yn awtomatig. Yna bydd datblygiad cyflog yn cael ei bennu gan Adolygiadau Perfformiad a Datblygu blynyddol yn unol â Pholisi Datblygiad Cyflog GIG Cymru. Gellir ystyried cais am Gredyd Cynyddol, ond dim ond ar sail gwasanaeth cyfrifadwy â thystiolaeth a/neu brofiad cyfatebol, perthnasol y gellir ei ddyfarnu.
Gofynion yr ymgeisydd
Manyleb y person
CYRHAEDDIADAU ADDYSGOL A GALWEDIGAETHOL
Meini prawf hanfodol
- Cofrestriad llawn ac arbenigol (a gyda thrwydded i ymarfer) gyda'r Cyngor Meddygol Cyffredinol (GMC) (neu fod yn gymwys i gofrestru o fewn chwe mis i gyfweliad)
- Rhaid i ymgeiswyr sydd wedi'u hyfforddi yn y DU fod yn ddeiliad Tystysgrif Cwblhau Hyfforddiant (CCT), neu fod o fewn chwe mis o dderbyn CCT erbyn dyddiad y cyfweliad.
- Bydd gofyn i ymgeiswyr nad ydynt wedi'u hyfforddi yn y DU ddangos tystiolaeth o dystysgrif gyfwerth â CCT y DU.
- CCT/ tystysgrif gyfwerth (yn ddelfrydol mewn Microbioleg a/neu Glefydau Heintus)
- FRCPath neu gymhwyster cyfatebol
Meini prawf dymunol
- MRCP neu gymhwyster cyfatebol
CYMMHWYSTERAU A SGILIAU ARBENNIG
Meini prawf hanfodol
- Ymrwymiad i weithio mewn tîm
- Ymrwymiad i ddatblygu gyrfa
- Hunan-gymhelliant, rhagweithiol, arloesol
- Gallu blaenoriaethu gwaith ac ymdopi â newid ac ansicrwydd
- Sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig
Meini prawf dymunol
- Meddyliwr strategol
- Diddordeb a Phrofiad mewn OPAT
- Rheoli staff
DIDDORDEBAU
Meini prawf hanfodol
- Profiad mewn addysgu meddygol israddedig ac ôl-raddedig
GWAREDIGAETH
Meini prawf hanfodol
- Gallu addasu i sefyllfaoedd a thrin pobl o bob gallu ac agwedd
- Sgiliau rhyngbersonol a dylanwadol effeithiol
GOFYNION ARBENNIG
Meini prawf hanfodol
- Rhaid bod yn barod i fyw o fewn pellter teithio rhesymol i'r labordy, a bod yn barod i deithio a gweithio mewn safleoedd sy'n ofynnol gan y rôl
Meini prawf dymunol
- Yn siarad Cymraeg
Dogfennau
- Job Description and Person Specification Welsh (PDF, 482.8KB)
- Occupational Health Functional Requirements Form (PDF, 656.5KB)
- Job Description and Person Specification English (PDF, 411.1KB)
- Hyderus o Ran Anabledd Arweinydd (PDF, 180.8KB)
- Canllawiau ar gyfer Ymgeiswyr (PDF, 278.7KB)
- Ein Rhwydweithiau Amrywiaeth (PDF, 330.6KB)
- Gwasanaethau Recriwtio Hysbysiad Preifatrwydd (PDF, 696.3KB)
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Brendan Healy
- Teitl y swydd
- Clinical Lead, Microbiology Swansea
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01792285053
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Gellir cyrraedd PA i Dr Robin Howe trwy e-bost:
Dechrau eich cais
Mewngofnodi
Creu cyfrif
Creu eich cyfrif a gwneud cais am eich swydd newydd!