Mae Trac yn falch o bweru recriwtio ar gyfer
Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru

Gwybodaeth
Croeso i Iechyd Cyhoeddus Cymru - asiantaeth iechyd cyhoeddus genedlaethol Cymru. Rydym yn bodoli i ddiogelu a gwella iechyd a llesiant a lleihau anghydraddoldebau iechyd i bobl yng Nghymru.
I gael gwybod mwy ewch i Iechyd Cyhoeddus Cymru a gwyliwch y fideo hwn am ein Cynllun Strategol
Dilynwch ni ar Twitter, Facebook, Linkedin a Instagram
Gweithio gyda'n gilydd, gydag ymddiriedaeth a pharch, i wneud gwahaniaeth
Ein diben yw ‘gweithio gyda'n gilydd ar gyfer Cymru iachach'. Rydym yn bodoli i helpu pawb yng Nghymru i fyw bywydau hirach, iachach. Gyda'n partneriaid, ein nod yw cynyddu disgwyliad oes iach, gwella iechyd a llesiant, a lleihau anghydraddoldebau i bawb yng Nghymru, nawr ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Gyda'i gilydd, mae ein timau'n gweithio i atal clefyd, diogelu iechyd, a darparu arweinyddiaeth, gwasanaethau arbenigol ac arbenigedd iechyd cyhoeddus. Ni yw'r brif ffynhonnell o wybodaeth, ymchwil ac arloesedd iechyd cyhoeddus yng Nghymru.
Cysylltu
- Address
- No.2 Capital Quarter
- Tyndall Street
- Cardiff
- CF10 4BZ
- Contact Number
- 02921 500200
Mae newidiadau mewngofnodi ar ddod
O fis Gorffennaf 2025, bydd proses Dilysu Aml-Ffactor (MFA) yn cael ei chyflwyno i'r wefan hon. Bydd hyn yn ychwanegu cam ychwanegol at y broses mewngofnodi: bydd gofyn i chi fewnbynnu Cod Mynediad Untro (OTP) wrth i chi fewngofnodi i leihau twyll a sicrhau diogelwch. Gweler ein tudalen crynodeb yma am ragor o fanylion.
Uwch Beiriannydd Data
Accepting applications until: 11-Aug-2025 23:59
Statws y swydd wag: Open
Accepting applications until: 11-Aug-2025 23:59
Manylion allweddol
Lleoliad
- Gwefan
- 2 Capital Quarter
- Cyfeiriad
- Stryd Tyndal
- Tref
- Caerdydd
- Cod post
- CF10 4BZ
- Major / Minor Region
- Caerdydd
Math o gontract a phatrwm gwaith
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
Cyflog
- Cyflog
- £46,840 - £53,602 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Gradd
- (Gradd 7)
Arbenigedd
- Prif leoliad
- Uwch Beiriannydd Data
- Dyddiad y cyfweliad
- 01/09/2025
Croeso i Iechyd Cyhoeddus Cymru, asiantaeth iechyd cyhoeddus genedlaethol Cymru
Ein gweledigaeth yw Gweithio i wireddu dyfodol iachach i Gymru
Am ragor o wybodaeth amdanom, ewch i’n tudalen hafan, darllenwch am ein cynllun strategol
Dilynwch ni ar Twitter, Facebook, LinkedIn and Instagram
Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg. I gefnogi ein gwasanaeth i Gymru gyfan, croesawn yn fawr ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.
Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau.
Trosolwg o'r swydd
Ydych chi'n beiriannydd data sydd â brwdfrydedd dros wasanaeth cyhoeddus? Yna efallai eich bod chi'n chwilio amdanom ni!
Rydym yn chwilio am Uwch Beiriannydd Data profiadol a medrus i fod yn rhan o dîm sy'n tyfu sy'n cyflawni ein cenhadaeth o ddiogelu a gwella iechyd a llesiant pobl Cymru. Byddwch chi'n rhan o wella ein harferion data, catalogio ein data, awtomeiddio ein prosesu data, piblinellau dadansoddol a datblygu ein haeddfedrwydd data cyffredinol.
Wrth weithio gyda ni, byddwch yn cydweithio ag arbenigwyr technegol eraill (megis datblygwyr, gweinyddwyr cronfeydd data, dadansoddwyr data a gwyddonwyr data) ar ddatblygu, gweithredu, cynnal a chadw a gwella seilwaith data cadarn, effeithlon, diogel y gellir ei ehangu. Byddwch yn chwarae rhan allweddol wrth gyfathrebu rhwng y rhai technegol a'r rhai nad ydynt yn dechnegol; gan wrando ar, dehongli a throsi anghenion rhanddeiliaid technegol a busnes i sicrhau dealltwriaeth gyffredin a datrysiadau effeithiol.
Advert
Byddwch chi'n hyrwyddwr dros beirianneg data fel proffesiwn, arferion datblygu Agile a dulliau fel CI/CD. Byddwch yn cefnogi datblygiad galluoedd adrodd y tîm, gan wneud defnydd o Microsoft Stack (SQL Server, SSMS, SSIS ac SSRS), Power BI ac Azure DevOps.
Drwy adeiladu platfformau, piblinellau a chatalogau data cadarn a thrwy ddiffinio'r metadata, y modelau a'r sgema sy'n sail i'n prosesau gwneud penderfyniadau am ddata, byddwch wrth wraidd moderneiddio a gwella'r ffordd rydym yn gwneud pethau.
Atebolrwydd
- Gweithredu modelau data menter, piblinellau a rheoli metadata
- Datblygu a chynnal cydrannau platfform data (e.e. catalog data, llyn data, warws, fframweithiau ETL)
- Dilynwch yr arferion gorau mewn diogelwch data, cydymffurfiaeth, a defnydd moesegol data yn unol â safonau a gofynion megis GDPR a Cyber Essentials Plus
- Gweithredu fframweithiau mewnbynnu ac integreiddio data cadarn sy'n sicrhau cysondeb, cywirdeb ac amseroldeb data ar draws ein systemau.
· Cydweithio â thimau busnes, cynnyrch a pheirianneg i ddeall anghenion data a'u trosi'n gynhyrchion data swyddogaethol, gan alinio ein pensaernïaeth data â strategaethau a blaenoriaethau digidol sefydliadol ehangach
- Darparu arweiniad technegol i arbenigwyr eraill, gan feithrin diwylliant o ragoriaeth beirianyddol a dysgu parhaus a dilyn safonau peirianneg
- Cefnogi cyflawni prosiectau strategol
Cyfeiriwch at y proffil swydd sydd ynghlwm am fwy o fanylion.
Gweithio i'n sefydliad
Iechyd Cyhoeddus Cymru ydym ni – yr asiantaeth iechyd y cyhoedd genedlaethol yng Nghymru. Ein pwrpas yw ‘Gweithio gyda'n gilydd ar gyfer Cymru Iachach’. Rydym yn bodoli i helpu pawb yng Nghymru i fyw bywydau hirach, iachach a hapusach. Gyda'n partneriaid, rydym yn gweithio i gynyddu disgwyliad oes iach, gwella iechyd a llesiant, a lleihau anghydraddoldebau i bawb yng Nghymru, yn awr ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Mae ein timau'n gweithio i atal clefydau, diogelu iechyd, a darparu arweinyddiaeth, gwasanaethau arbenigol ac arbenigedd iechyd y cyhoedd. Ni yw prif ffynhonnell gwybodaeth, ymchwil ac arloesedd iechyd y cyhoedd yng Nghymru. Mewn byd sy'n wynebu heriau iechyd cymhleth, nid yw ein gwaith erioed wedi bod mor bwysig.
Rydym yn cael ein harwain gan ein Gwerthoedd, 'Gweithio gyda'n gilydd, gydag ymddiriedaeth a pharch, i wneud gwahaniaeth'. Rydym wedi ymrwymo i adeiladu gweithle cynhwysol sy'n gwerthfawrogi cydraddoldeb ac amrywiaeth. Rydym yn croesawu ceisiadau sy'n cynrychioli amrywiaeth gyfoethog y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu ac sy'n cefnogi trefniadau gweithio hyblyg, gan gynnwys rolau rhan-amser a rhannu swyddi.
I gael gwybod rhagor am weithio i ni a’r buddion rydym yn eu cynnig, ewch i https://icc.gig.cymru/gyrfaoedd/
I gael arweiniad ar y broses ymgeisio, ewch i https://icc.gig.cymru/gyrfaoedd/gwybodaeth-a-chanllawiau-i-ymgeiswyr/
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Sgiliau, Gwybodaeth a Phrofiad Allweddol:
- Sgiliau SQL a sgriptio uwch (e.e., TSQL, PowerShell[LN1] [FB2] ) ar gyfer tasgau peirianneg data, awtomeiddio ac offeryniaeth.
- Sgiliau trin a gweinyddu cronfeydd data uwch, yn enwedig T-SQL, Azure SQL, yn ogystal â gallu gydag ieithoedd rheoli data heb strwythur a heb gysylltiad.
- Profiad o ddefnyddio a gweithredu dylunio sgema a metadata (e.e., star schema, snowflake, ffurfiau arferol), gyda dealltwriaeth gref o reoli data meistr a chyfeirnod.
- Profiad o weithio gydag Azure/GCP yn adeiladu a rheoli datrysiadau data fel llynnoedd data neu warysau data, Azure Data Factory, Data Bricks ac yn y blaen
- Medrus wrth ddefnyddio offer cwmwl fel DataFlow, Cloud Composer a Big Query
- Profiad gydag offer delweddu data, yn enwedig ar Microsoft Stack neu GCP.
- Gwybodaeth am batrymau a thechnolegau integreiddio data (e.e., ETL, ELT, API-first), gan gynnwys dulliau bron mewn amser real a dulliau sy'n cael eu sbarduno gan ddigwyddiadau.
- Profiad o fudo o'r safle i'r Cwmwl a phrosiectau maes newydd.
- Profiad o gydweithio â rhanddeiliaid busnes, dadansoddwyr a datblygwyr i drosi anghenion busnes yn ddatrysiadau technegol.
Yr hyn y byddwch chi'n ei gyfrannu i'r tîm:
- Profiad amlwg fel Peiriannydd Data mewn rôl ymarferol, gyda sgiliau cyfathrebu a chydweithio i gyd-fynd â'ch arbenigedd technegol.
- Profiad amlwg mewn platfformau cwmwl fel Azure a GCP.
- Hyfedredd cryf mewn awtomeiddio prosesau data, yn enwedig ETL/ELT ar raddfa fawr.
- Sgiliau rhaglennu uwch yn SQL a Python [LN3] [FB4] a dull CI/CD cydweithredol o wthio cod; profiad gydag offer offeryniaeth a phiblinellau data.
· Dull sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr o gyflwyno data, gan sicrhau bod allbynnau'n hygyrch, yn ymarferol ac wedi'u seilio mewn cyd-destun byd go iawn
- Sgiliau cyfathrebu ac ymgysylltu â rhanddeiliaid effeithiol, gyda'r gallu i ddylanwadu ar bob lefel o'r sefydliad.
- Meddylfryd cydweithredol, ynghyd ag angerdd dros gyflawni mewn amgylchedd tîm sy’n perfformio’n dda.
Byddwch yn gallu dod o hyd i ddisgrifiad Swydd llawn a Manyleb Person sydd ynghlwm o fewn y dogfennau ategol neu cliciwch "Gwnewch gais nawr" i'w weld yn Trac.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Ceidw Iechyd Cyhoeddus Cymru yr hawl i gau’r swydd wag hon yn gynnar. Felly rydym yn annog ceisiadau cynnar.
Rhoddir blaenoriaeth i staff sy’n aros i gael eu hadleoli. Rydym yn cadw’r hawl felly i dynnu’r hysbyseb hon yn ôl ar unrhyw adeg.
Os oes gennych anabledd a bod gennych unrhyw anghenion penodol i'ch galluogi i gymryd rhan yn y broses ymgeisio, cysylltwch â [email protected]
NODYN PWYSIG I YMGEISWYR: Mae ceisiadau am ein rolau yn cael eu hadolygu'n ofalus a'u rhoi ar restr fer yn seiliedig ar feini prawf penodol, sy'n amrywio o swydd i swydd.
Ni fydd defnyddio cymhwysiad generig neu gymhwysiad AI awtomatig, fel Lazy Apply neu AI Apply, fel arfer yn darparu digon o dystiolaeth bersonol o'ch sgiliau a'ch profiad sy’n berthnasol i'r rôl. Gall hyn ei gwneud hi'n anodd i ni asesu eich addasrwydd a bydd yn lleihau eich siawns o gael eich rhoi ar y rhestr fer.
Er mwyn sicrhau bod eich cais yn cael ystyriaeth lawn, rydym yn argymell eich bod yn cyflwyno cais wedi'i deilwra sy'n mynd i'r afael yn uniongyrchol â'r meini prawf a restrir yn adran Manyleb y Person yr hysbyseb, gan ddarparu tystiolaeth glir ac enghreifftiau i ddangos sut rydych chi'n bodloni pob gofyniad.
Cymhwysedd ar gyfer Nawdd Fisa
- Os oes angen nawdd arnoch drwy lwybrau Fisa Gweithiwr Medrus neu Fisa Gweithiwr Iechyd a Gofal, gwnewch yn siŵr eich bod yn hunanasesu eich cymhwysedd i gael nawdd ar gyfer y rôl hon cyn gwneud cais.
- Gwiriwch y canllawiau fisa Gweithiwr Medrus neu'r canllawiau fisa Gweithiwr Iechyd a Gofal am fanylion ynghylch cymhwysedd swydd, cyflog, yr iaith Saesneg, a gofynion nawdd.
Os byddwch yn llwyddiannus ac os cewch eich dewis ar gyfer y rhestr fer am gyfweliad, cysylltir â chi ar e-bost gan ddefnyddio’r cyfeiriad a ddefnyddiwyd gennych i gofrestru. Sicrhewch eich bod yn edrych ar eich cyfrif e-bost yn rheolaidd.
Rydym wedi ymrwymo i recriwtio teg a thryloyw ac rydym yn credu mewn cyfle cyfartal yn ein gweithle. Ni fyddwn yn goddef gwahaniaethu ar sail oedran, anabledd, hunaniaeth rywiol, crefydd neu gred, hil neu genedligrwydd, priodas neu bartneriaeth sifil, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, patrwm gwaith, cyfrifoldebau gofalu, gweithgarwch gydag undebau llafur neu gredoau gwleidyddol – nac ar unrhyw sail arall. Croesawn geisiadau gan unigolion a ddymunent weithio’n rhan-amser neu wneud cais i rannu swydd.
I weithio yn y DU, mae angen nawdd ar bob ymgeisydd nad yw'n wladolyn o'r DU neu Weriniaeth Iwerddon i gael naill ai fisa Gweithiwr Iechyd a Gofal neu fisa Gweithiwr Medrus, oni bai bod gennych ganiatâd i weithio trwy lwybr arall. Dylai ymgeiswyr nad ydynt yn rhan o'r DU/Gweriniaeth Iwerddon sy'n dymuno gwneud cais hunanasesu'u tebygolrwydd o gael Tystysgrif Nawdd trwy ymweld â gwefan Fisâu a Mewnfudo'r DU. Os ydych chi'n gymwys i gael y fisa Iechyd a Gofal, mae'r costau ymgeisio yn is ac nid oes angen i chi dalu Gordal Iechyd Mewnfudo blynyddol.
Mae'r raddfa gyflog a ddangosir ar gyfer aelod o staff llawn amser, a chaiff y swm ei addasu pro rata ar gyfer y rhai sy'n gweithio llai na 37.5 awr yr wythnos.
Cytunwyd ar y raddfa gyflog uchod fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2025/2026 a chaiff ei weithredu ym mis Awst 2025 gydag ôl-ddyddio i 1af Ebrill 2025 lle bo'n berthnasol.
Yn gyffredinol, bydd unrhyw un sy'n ymuno â'n Hymddiriedolaeth nad yw wedi gweithio yn y GIG o'r blaen, yn cychwyn ar bwynt cyntaf y band tâl a hysbysebir yn awtomatig. Yna bydd datblygiad cyflog yn cael ei bennu gan Adolygiadau Perfformiad a Datblygu blynyddol yn unol â Pholisi Datblygiad Cyflog GIG Cymru. Gellir ystyried cais am Gredyd Cynyddol, ond dim ond ar sail gwasanaeth cyfrifadwy â thystiolaeth a/neu brofiad cyfatebol, perthnasol y gellir ei ddyfarnu.
Gofynion yr ymgeisydd
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- • Gradd israddedig neu wybodaeth a sgiliau cyfatebol mewn peirianneg data neu ddisgyblaeth gysylltiedig, er enghraifft (ond heb fod yn gyfyngedig i) gyfrifiadureg, gwyddor data, technoleg gwybodaeth, peirianneg feddalwedd, neu ddisgyblaeth arall gyda chydran sylweddol o beirianneg data
- • Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus a chymhwyso dysgu ymarferol mewn peirianneg data
Profiad
Meini prawf hanfodol
- • Sgiliau technegol da a phrofiad mewn Python / R, Power BI a Power Apps, Google Cloud Platform, Azure, peirianneg cwmwl-i-ar-y-safle, SQL, NoSQL, dangosfyrddau, cronfeydd data a delweddu, rhyngwynebau rhaglennu cymwysiadau, gan gynnwys dealltwriaeth a chymhwyso arferion da yn y meysydd hyn.
- • Tystiolaeth o ddatblygu a chyflawni prosiectau peirianneg data effeithiol, gan gynnwys saernïaeth data, modelu data, prosesau ETL, a chysyniadau rheoli metadata
- • Tystiolaeth o ddefnyddio offer fel Git, GitHub a/neu Azure DevOps i reoli llif gwaith, rheoli fersiynau, a datblygu cydweithredol yn effeithiol, a defnyddio methodolegau cyflwyno Agile.
- • Tystiolaeth o ddealltwriaeth a chymhwyso rheoliadau diogelwch data, llywodraethu a chydymffurfiaeth
- • Tystiolaeth o gyflwyno cynhyrchion peirianneg data yn llwyddiannus mewn amgylchedd sefydliadol cymhleth
Sgiliau a Phriodoleddau
Meini prawf hanfodol
- • Cyfathrebu rhwng y technegol a'r annhechnegol. Gallwch gyfathrebu'n effeithiol â rhanddeiliaid technegol ac annhechnegol. Gallwch gefnogi a chynnal trafodaethau o fewn tîm amlddisgyblaethol, gyda deinameg a allai fod yn anodd. Gallwch fod yn eiriolwr i'r tîm yn allanol a gallwch reoli gwahanol safbwyntiau. (Lefel sgil: gweithio)
- • Dadansoddi a synthesis data. Gallwch ymgymryd â phroffilio data a dadansoddi systemau ffynhonnell. Gallwch gyflwyno mewnwelediadau clir i gydweithwyr i gefnogi defnydd terfynol y data. (Lefel sgil: gweithio)
- • Proses datblygu data. Gallwch ddylunio, adeiladu a phrofi cynhyrchion data sy'n gymhleth neu ar raddfa fawr. Gallwch adeiladu timau i gwblhau gwasanaethau integreiddio data. (Lefel sgil: ymarferwr)
- • Arloesi data. Gallwch ddeall effaith tueddiadau sy'n dod i'r amlwg mewn offer data, technegau dadansoddi a defnyddio data ar y sefydliad. (Lefel sgil: gweithio)
- • Dyluniad integreiddio data. Gallwch ddewis a gweithredu'r technolegau priodol i ddarparu datrysiadau data gwydn, y gellir eu ehangu sy'n addas ar gyfer y dyfodol. (Lefel sgil: ymarferwr)
- • Modelu data. Gallwch gynhyrchu modelau data perthnasol ar draws sawl maes pwnc. Gallwch egluro pa fodelau i'w defnyddio at ba ddiben. Gallwch ddeall patrymau a safonau modelu data a gydnabyddir gan y diwydiant, a phryd i'w cymhwyso. Gallwch gymharu ac alinio modelau data gwahanol. (Lefel sgil: ymarferwr)
- • Rheoli metadata. Gallwch ddylunio ystorfa fetadata briodol a chyflwyno newidiadau i ystorfeydd metadata presennol. Gallwch ddeall ystod o offer ar gyfer storio a gweithio gyda metadata. Gallwch ddarparu trosolwg a chyngor i aelodau mwy dibrofiad o'r tîm. (Lefel sgil: ymarferwr)
- • Datrys problemau (data). Gallwch ymateb i broblemau mewn cronfeydd data, prosesau data, cynhyrchion data a gwasanaethau wrth iddynt godi. Gallwch gychwyn camau gweithredu, monitro gwasanaethau, a nodi tueddiadau i ddatrys problemau. Gallwch benderfynu ar y datrysiad priodol a chynorthwyo gyda'i roi ar waith, a chyda mesurau ataliol. (Lefel sgil: gweithio)
- • Rhaglennu ac adeiladu (peirianneg data). Gallwch ddefnyddio safonau ac offer y cytunwyd arnynt i ddylunio, codio, profi, cywiro a dogfennu rhaglenni a sgriptiau cymedrol i gymhleth o fanylebau y cytunwyd arnynt ac iteriadau dilynol. Gallwch gydweithio ag eraill i adolygu manylebau lle bo'n briodol. (Lefel sgil: ymarferwr)
- • Dealltwriaeth dechnegol. Gallwch ddeall y cysyniadau technegol craidd sy'n gysylltiedig â'r rôl a'u cymhwyso gydag arweiniad. (Lefel sgil: gweithio)
- • Profi. Gallwch adolygu gofynion a manylebau a diffinio amodau prawf. Gallwch nodi problemau a risgiau sy'n gysylltiedig â gwaith. Gallwch ddadansoddi ac adrodd ar weithgareddau a chanlyniadau profion. (Lefel sgil: gweithio)
- • Gallu profedig i groesawu, gyrru ac arwain newid, i arwain eraill i gyflawni nodau ac amcanion sefydliadol, gyda brwdfrydedd dros wella perfformiad a gwasanaethau
- • Y gallu i addasu cynlluniau a llwythi gwaith yn hyblyg i fodloni gofynion y rôl, megis cynllunioa threfnu ystod eang o weithgareddau cymhleth; llunio, addasu cynlluniau neu strategaethau
- • Cynllunio prosiectau arbenigol sy'n effeithio ar draws meysydd clinigol ac anghlinigol
- • Yn gallu dangos dealltwriaeth a chymhwysiad o werthoedd ein gweithle, ynghyd â'r ymddygiadau sylfaenol a nodwyd ar gyfer llwyddiant yn y rôl hon
Meini prawf dymunol
- • Mae Sgiliau Cymraeg yn ddymunol ar lefelau 1 o ran deall, siarad, darllen ac ysgrifennu.
Arall
Meini prawf hanfodol
- • Parodrwydd a gallu i deithio rhwng safleoedd mewn modd amserol i ddiwallu anghenion y gwasanaeth
Dogfennau
- Job Description and Person Specification English (PDF, 280.4KB)
- Occupational Health Functional Requirements Form (PDF, 888.5KB)
- Job Description and Person Specification Welsh (PDF, 672.3KB)
- Hyderus o Ran Anabledd Arweinydd (PDF, 180.8KB)
- Canllawiau ar gyfer Ymgeiswyr (PDF, 278.7KB)
- Ein Rhwydweithiau Amrywiaeth (PDF, 330.6KB)
- Gwasanaethau Recriwtio Hysbysiad Preifatrwydd (PDF, 696.3KB)
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Fliss Bennee
- Teitl y swydd
- Head of Data
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
Dechrau eich cais
Mewngofnodi
Creu cyfrif
Creu eich cyfrif a gwneud cais am eich swydd newydd!