Mae Trac yn falch o bweru recriwtio ar gyfer
Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru

Gwybodaeth
Croeso i Iechyd Cyhoeddus Cymru - asiantaeth iechyd cyhoeddus genedlaethol Cymru. Rydym yn bodoli i ddiogelu a gwella iechyd a llesiant a lleihau anghydraddoldebau iechyd i bobl yng Nghymru.
I gael gwybod mwy ewch i Iechyd Cyhoeddus Cymru a gwyliwch y fideo hwn am ein Cynllun Strategol
Dilynwch ni ar Twitter, Facebook, Linkedin a Instagram
Gweithio gyda'n gilydd, gydag ymddiriedaeth a pharch, i wneud gwahaniaeth
Ein diben yw ‘gweithio gyda'n gilydd ar gyfer Cymru iachach'. Rydym yn bodoli i helpu pawb yng Nghymru i fyw bywydau hirach, iachach. Gyda'n partneriaid, ein nod yw cynyddu disgwyliad oes iach, gwella iechyd a llesiant, a lleihau anghydraddoldebau i bawb yng Nghymru, nawr ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Gyda'i gilydd, mae ein timau'n gweithio i atal clefyd, diogelu iechyd, a darparu arweinyddiaeth, gwasanaethau arbenigol ac arbenigedd iechyd cyhoeddus. Ni yw'r brif ffynhonnell o wybodaeth, ymchwil ac arloesedd iechyd cyhoeddus yng Nghymru.
Cysylltu
- Address
- No.2 Capital Quarter
- Tyndall Street
- Cardiff
- CF10 4BZ
- Contact Number
- 02921 500200
Mae newidiadau mewngofnodi ar ddod
O fis Gorffennaf 2025, bydd proses Dilysu Aml-Ffactor (MFA) yn cael ei chyflwyno i'r wefan hon. Bydd hyn yn ychwanegu cam ychwanegol at y broses mewngofnodi: bydd gofyn i chi fewnbynnu Cod Mynediad Untro (OTP) wrth i chi fewngofnodi i leihau twyll a sicrhau diogelwch. Gweler ein tudalen crynodeb yma am ragor o fanylion.
Arbenigwr Cymorth TG
Accepting applications until: 27-Jul-2025 23:59
Statws y swydd wag: Open
Accepting applications until: 27-Jul-2025 23:59
Manylion allweddol
Lleoliad
- Gwefan
- 2 Capital Quarter
- Cyfeiriad
- Stryd Tyndal
- Tref
- Caerdydd
- Cod post
- CF10 4BZ
- Major / Minor Region
- Caerdydd
Math o gontract a phatrwm gwaith
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
Cyflog
- Cyflog
- £31,516 - £38,364 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Gradd
- (Gradd 5)
Arbenigedd
- Prif leoliad
- IT Support
Croeso i Iechyd Cyhoeddus Cymru, asiantaeth iechyd cyhoeddus genedlaethol Cymru
Ein gweledigaeth yw Gweithio i wireddu dyfodol iachach i Gymru
Am ragor o wybodaeth amdanom, ewch i’n tudalen hafan, darllenwch am ein cynllun strategol
Dilynwch ni ar Twitter, Facebook, LinkedIn and Instagram
Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg. I gefnogi ein gwasanaeth i Gymru gyfan, croesawn yn fawr ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.
Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau.
Trosolwg o'r swydd
Ydych chi'n barod i gymryd y cam nesaf yn eich gyrfa TG? Ymunwch â'n tîm Bwrdd Gwaith a Dyfeisiau ymroddedig, a chefnogi amrywiaeth eang o raglenni’r Ymddiriedolaeth gan gynnwys paratoi, ffurfweddu a gosod cyfrifiaduron personol, dyfeisiau a'u meddalwedd cysylltiedig yn brydlon. Byddwch yn cynorthwyo gyda gwaith datblygu a chynnal a chadw'r ystad a'r seilwaith, yn mynd i'r afael â galwadau ail linell ac uwchgyfeirio materion. Byddwch hefyd yn cyfrannu at gyflwyno caledwedd/meddalwedd ar raddfa fawr wrth gefnogi prosiectau newid meddalwedd, caledwedd a seilwaith ar draws y sefydliad.
Bydd cyfle gennych i gael effaith go iawn wrth ddatblygu eich sgiliau technegol ochr yn ochr â thîm Digidol talentog a chefnogol. Rydym yn chwilio am rywun a all berfformio i safon uchel o dan bwysau mewn amgylchedd prysur, cyflym ac sy’n rhoi boddhad, rhywun sydd â galluoedd technegol datblygedig iawn, sylw i fanylion a sgiliau cyfathrebu cryf. Os ydych chi'n frwdfrydig, yn rhagweithiol ac yn barod i wneud gwahaniaeth, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi!
Advert
Rhoi cymorth TG technegol ac arbenigol o fewn tîm Bwrdd Gwaith a Dyfeisiau Iechyd Cyhoeddus Cymru, gan ganolbwyntio ar osod caledwedd, galwadau wedi'u huwchgyfeirio a sicrhau ymarferoldeb di-dor i ddefnyddwyr terfynol. Cymryd rôl ragweithiol wrth ddatblygu ac optimeiddio dogfennaeth, systemau a seilwaith bwrdd gwaith i fodloni gofynion sefydliadol, gan gynnwys cymryd cyfrifoldeb arweiniol am brosiectau gosod perthnasol. Cydweithio â thimau TG ehangach i gefnogi eu mentrau, gyda ffocws penodol ar wella prosesau a chanlyniadau gosod byrddau gwaith. I gael manylion pellach neu i drefnu sgwrs anffurfiol cysylltwch â:-
Mark Coleman, Rheolwr Gwasanaeth Bwrdd Gwaith a Dyfeisiau
[email protected]
Gweithio i'n sefydliad
Iechyd Cyhoeddus Cymru ydym ni – yr asiantaeth iechyd y cyhoedd genedlaethol yng Nghymru. Ein pwrpas yw ‘Gweithio gyda'n gilydd ar gyfer Cymru Iachach’. Rydym yn bodoli i helpu pawb yng Nghymru i fyw bywydau hirach, iachach a hapusach. Gyda'n partneriaid, rydym yn gweithio i gynyddu disgwyliad oes iach, gwella iechyd a llesiant, a lleihau anghydraddoldebau i bawb yng Nghymru, yn awr ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Mae ein timau'n gweithio i atal clefydau, diogelu iechyd, a darparu arweinyddiaeth, gwasanaethau arbenigol ac arbenigedd iechyd y cyhoedd. Ni yw prif ffynhonnell gwybodaeth, ymchwil ac arloesedd iechyd y cyhoedd yng Nghymru. Mewn byd sy'n wynebu heriau iechyd cymhleth, nid yw ein gwaith erioed wedi bod mor bwysig.
Rydym yn cael ein harwain gan ein Gwerthoedd, 'Gweithio gyda'n gilydd, gydag ymddiriedaeth a pharch, i wneud gwahaniaeth'. Rydym wedi ymrwymo i adeiladu gweithle cynhwysol sy'n gwerthfawrogi cydraddoldeb ac amrywiaeth. Rydym yn croesawu ceisiadau sy'n cynrychioli amrywiaeth gyfoethog y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu ac sy'n cefnogi trefniadau gweithio hyblyg, gan gynnwys rolau rhan-amser a rhannu swyddi.
I gael gwybod rhagor am weithio i ni a’r buddion rydym yn eu cynnig, ewch i https://icc.gig.cymru/gyrfaoedd/
I gael arweiniad ar y broses ymgeisio, ewch i https://icc.gig.cymru/gyrfaoedd/gwybodaeth-a-chanllawiau-i-ymgeiswyr/
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Sgiliau cyfathrebu a meithrin perthnasoedd lefel uchel rhwng cydweithwyr/tîm. Yn dangos gwybodaeth helaeth sy'n berthnasol i'r maes, wedi'i chefnogi gan gymwysterau ffurfiol, hyfforddiant a phrofiad proffesiynol.
Yn defnyddio meddwl beirniadol i asesu sefyllfaoedd, pwyso a mesur opsiynau, a gwneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth, yn aml dan bwysau. Yn arwain y gwaith o greu neu fireinio polisïau a gweithdrefnau i gyd-fynd â nodau sefydliadol a safonau rheoleiddio. Yn llywio gweithrediad gwasanaethau neu welliannau newydd, gan sicrhau eu bod yn diwallu anghenion rhanddeiliaid ac yn cyflawni effaith fesuradwy. Yn cefnogi rheoli asedau ffisegol, fel technoleg, cyfleusterau neu offer, gan sicrhau cynnal a chadw a defnydd priodol. Yn sicrhau cydymffurfedd â chyfreithiau diogelu data ac arferion gorau, gan ddiogelu gwybodaeth sensitif. Yn cydweithio â rhanddeiliaid a chydweithwyr i ddatblygu a phrofi methodolegau, offer neu strategaethau newydd i wella arferion neu ganlyniadau. Yn gallu trosi canfyddiadau ymchwil yn welliannau neu fentrau y gellir gweithredu arnynt.
Cymwysterau
Hanfodol
- Rhifog a llythrennog.
- Gradd mewn pwnc cysylltiedig â TG NEU gymwysterau cyfatebol NEU brofiad cyfatebol
Dymunol
- Cymhwyster TG proffesiynol fel MCP neu CCNA neu gymhwyster lefel diploma graddedig NEU brofiad cyfatebol.
- Cwblhau cyrsiau hyfforddi TG arbenigol ffurfiol perthnasol yn llwyddiannus.
Profiad
Hanfodol
- Profiad manwl o weithio mewn amgylchedd rhwydwaith TCP/IP PC seiliedig ar Windows mewn rôl cymorth TG.
- Profiad mewn rôl gweithredu dechnegol gyda systemau gweinydd Windows, gosod cyfrifiaduron bwrdd gwaith/gliniadur
- Profiad o weithio mewn amgylchedd Windows Active Directory.
- Profiad o weithio gyda Systemau Rheoli Pwyntiau Terfynol Unedig.
- Profiad o ddiogelwch TG.
Dymunol
- Profiad o hyfforddi defnyddwyr TG.
- Profiad GIG/Gofal Iechyd neu Sector Cyhoeddus.
- Profiad o reoli prosiectau Rheoli Gwybodaeth a Thechnoleg bach.
- Profiad o ffurfweddu systemau teleffoni modern.
- Seilwaith gweinydd VMWare ESX.
Sgiliau
Hanfodol
- Gallu gweithio'n effeithiol fel rhan o dîm a hefyd ar eich menter eich hun.
- Rhoi sylw da i fanylion.
- Lefel uchel o rifedd, llythrennedd a llythrennedd cyfrifiadurol.
- Sgiliau cynllunio, blaenoriaethu a threfnu i ddelio ag ystod eang o weithgareddau parhaus cymhleth.
- Yn gallu dadansoddi, dehongli a chyfleu gwybodaeth dechnegol gymhleth i gynulleidfaoedd arbenigol a rhai nad ydynt yn arbenigol yn ysgrifenedig, dros y ffôn ac mewn cyfarfodydd. Gallu uniaethu'n dda â staff ar bob lefel
- Yn gallu ymdrin â gwybodaeth sensitif yn briodol.
- Gallu ymdopi â phatrymau gwaith anrhagweladwy lle ceir ymyriadau cyson.
- Yn gallu ffurfio barn yn ymwneud â gwybodaeth gymhleth, sy’n gofyn am ddadansoddi a chymharu ystod o opsiynau.
- Yn gallu gweithio’n effeithiol (weithiau am gyfnodau hir) o dan amodau gwaith annymunol (e.e. ystafelloedd â thymheredd isel a swnllyd, mannau cyfyngedig, offer ac ardaloedd llychlyd neu swnllyd)
- Yn gallu rheoli prosiectau Rheoli Gwybodaeth a Thechnoleg bach a gweithrediadau technegol.
- Gallu cynorthwyo gyda chynllunio a gweithredu prosiectau.
- Yn gallu hyfforddi defnyddwyr eraill a staff TG ar dechnolegau newydd a phresennol.
- Rhaid canolbwyntio ar y cwsmer.
Dymunol
- Sgiliau rheoli prosiectau datblygedig.
- Datblygu sgiliau cyfathrebu a negodi ar gyfer rheoli perthnasoedd yn effeithiol â chyflenwyr a sefydliadau eraill y GIG.
- Gallu cyfrannu at ddatblygu gweithdrefnau a pholisïau Rheoli Gwybodaeth a Thechnoleg.
Gwybodaeth
Hanfodol
- Dylai gwybodaeth fod yn gyfwerth â gradd mewn pwnc sy'n ymwneud â TG yn ddelfrydol o brofiad perthnasol.
- Gwybodaeth dda am ystod o galedwedd cyfrifiadurol cyffredin (yn enwedig cyfrifiaduron personol ac argraffwyr).
- Gwybodaeth helaeth am systemau gweithredu cleient a gweinydd Windows, TCP/IP, DHCP, DNS a rhwydweithio ether-rwyd.
- Gwybodaeth ddamcaniaethol gadarn o Windows Active Directory, Polisïau Grŵp, Exchange a Microsoft Office.
- Deddfwriaeth diogelu data.
- Cysyniadau rhithwiroli
Dymunol
- Gwybodaeth ddamcaniaethol ar sut i leihau bygythiadau diogelwch TG a rheoli digwyddiadau diogelwch TG.
- Profiad o baratoi cyllidebau, a chaffael TG.
- Gwybodaeth sy'n cyfateb i lefel cymhwyster TG proffesiynol fel CCNA (Cydymaith Rhwydwaith Ardystiedig Cisco) neu MCP (Gweithiwr Proffesiynol Ardystiedig Microsoft) yn ddelfrydol wedi'i hennill o brofiad perthnasol.
- Gwybodaeth am brosesau ITIL a methodolegau PRINCE2.
- Seilwaith gweinydd VMWare ESX.
- Gwybodaeth dda am Microsoft SCCM, Office 365, a Systemau Rheoli Pwyntiau Terfynol Unedig.
Priodoleddau Personol
Hanfodol
- Dibynadwy; agwedd hyblyg at waith i ddiwallu anghenion y gwasanaeth; trylwyr, yn parchu cyfrinachedd.
- Ymagwedd frwdfrydig a chadarnhaol.
- Rhaid bod yn rhagweithiol a hunangymhellol wrth ddysgu technolegau TG newydd trwy hunan-astudio a phrofiad ymarferol.
- Gallu sefydlu perthynas waith dda gyda phobl ar bob lefel.
- Penderfynol a hunanysgogol.
Arall
Hanfodol
- Yn gallu gweithio’n achlysurol y tu allan i oriau arferol neu yn ystod y penwythnos pan fo’n ofynnol.
- Yn gallu teithio rhwng safleoedd yn brydlon i ddiwallu anghenion y gwasanaeth.
- Yn gallu teithio a gweithio i ffwrdd o'r lleoliad o bryd i'w gilydd
- Gallu gweithio o'r lleoliad gwaith dynodedig.
Dymunol
- Yn gallu siarad Cymraeg
Byddwch yn gallu dod o hyd i ddisgrifiad Swydd llawn a Manyleb Person sydd ynghlwm o fewn y dogfennau ategol neu cliciwch "Gwnewch gais nawr" i'w weld yn Trac.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Ceidw Iechyd Cyhoeddus Cymru yr hawl i gau’r swydd wag hon yn gynnar. Felly rydym yn annog ceisiadau cynnar.
Rhoddir blaenoriaeth i staff sy’n aros i gael eu hadleoli. Rydym yn cadw’r hawl felly i dynnu’r hysbyseb hon yn ôl ar unrhyw adeg.
Os oes gennych anabledd a bod gennych unrhyw anghenion penodol i'ch galluogi i gymryd rhan yn y broses ymgeisio, cysylltwch â [email protected]
NODYN PWYSIG I YMGEISWYR: Mae ceisiadau am ein rolau yn cael eu hadolygu'n ofalus a'u rhoi ar restr fer yn seiliedig ar feini prawf penodol, sy'n amrywio o swydd i swydd.
Ni fydd defnyddio cymhwysiad generig neu gymhwysiad AI awtomatig, fel Lazy Apply neu AI Apply, fel arfer yn darparu digon o dystiolaeth bersonol o'ch sgiliau a'ch profiad sy’n berthnasol i'r rôl. Gall hyn ei gwneud hi'n anodd i ni asesu eich addasrwydd a bydd yn lleihau eich siawns o gael eich rhoi ar y rhestr fer.
Er mwyn sicrhau bod eich cais yn cael ystyriaeth lawn, rydym yn argymell eich bod yn cyflwyno cais wedi'i deilwra sy'n mynd i'r afael yn uniongyrchol â'r meini prawf a restrir yn adran Manyleb y Person yr hysbyseb, gan ddarparu tystiolaeth glir ac enghreifftiau i ddangos sut rydych chi'n bodloni pob gofyniad.
Cymhwysedd ar gyfer Nawdd Fisa
- Os oes angen nawdd arnoch drwy lwybrau Fisa Gweithiwr Medrus neu Fisa Gweithiwr Iechyd a Gofal, gwnewch yn siŵr eich bod yn hunanasesu eich cymhwysedd i gael nawdd ar gyfer y rôl hon cyn gwneud cais.
- Gwiriwch y canllawiau fisa Gweithiwr Medrus neu'r canllawiau fisa Gweithiwr Iechyd a Gofal am fanylion ynghylch cymhwysedd swydd, cyflog, yr iaith Saesneg, a gofynion nawdd.
Os byddwch yn llwyddiannus ac os cewch eich dewis ar gyfer y rhestr fer am gyfweliad, cysylltir â chi ar e-bost gan ddefnyddio’r cyfeiriad a ddefnyddiwyd gennych i gofrestru. Sicrhewch eich bod yn edrych ar eich cyfrif e-bost yn rheolaidd.
Rydym wedi ymrwymo i recriwtio teg a thryloyw ac rydym yn credu mewn cyfle cyfartal yn ein gweithle. Ni fyddwn yn goddef gwahaniaethu ar sail oedran, anabledd, hunaniaeth rywiol, crefydd neu gred, hil neu genedligrwydd, priodas neu bartneriaeth sifil, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, patrwm gwaith, cyfrifoldebau gofalu, gweithgarwch gydag undebau llafur neu gredoau gwleidyddol – nac ar unrhyw sail arall. Croesawn geisiadau gan unigolion a ddymunent weithio’n rhan-amser neu wneud cais i rannu swydd.
I weithio yn y DU, mae angen nawdd ar bob ymgeisydd nad yw'n wladolyn o'r DU neu Weriniaeth Iwerddon i gael naill ai fisa Gweithiwr Iechyd a Gofal neu fisa Gweithiwr Medrus, oni bai bod gennych ganiatâd i weithio trwy lwybr arall. Dylai ymgeiswyr nad ydynt yn rhan o'r DU/Gweriniaeth Iwerddon sy'n dymuno gwneud cais hunanasesu'u tebygolrwydd o gael Tystysgrif Nawdd trwy ymweld â gwefan Fisâu a Mewnfudo'r DU. Os ydych chi'n gymwys i gael y fisa Iechyd a Gofal, mae'r costau ymgeisio yn is ac nid oes angen i chi dalu Gordal Iechyd Mewnfudo blynyddol.
Mae'r raddfa gyflog a ddangosir ar gyfer aelod o staff llawn amser, a chaiff y swm ei addasu pro rata ar gyfer y rhai sy'n gweithio llai na 37.5 awr yr wythnos.
Cytunwyd ar y raddfa gyflog uchod fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2025/2026 a chaiff ei weithredu ym mis Awst 2025 gydag ôl-ddyddio i 1af Ebrill 2025 lle bo'n berthnasol.
Yn gyffredinol, bydd unrhyw un sy'n ymuno â'n Hymddiriedolaeth nad yw wedi gweithio yn y GIG o'r blaen, yn cychwyn ar bwynt cyntaf y band tâl a hysbysebir yn awtomatig. Yna bydd datblygiad cyflog yn cael ei bennu gan Adolygiadau Perfformiad a Datblygu blynyddol yn unol â Pholisi Datblygiad Cyflog GIG Cymru. Gellir ystyried cais am Gredyd Cynyddol, ond dim ond ar sail gwasanaeth cyfrifadwy â thystiolaeth a/neu brofiad cyfatebol, perthnasol y gellir ei ddyfarnu.
Gofynion yr ymgeisydd
Manyleb y person
CYMWYSTERAU
Meini prawf hanfodol
- • Llythrennog a rhifog.
- • Gradd mewn pwnc cysylltiedig â TG NEU gymwysterau cyfatebol NEU brofiad cyfatebol.
Meini prawf dymunol
- • Cymhwyster TG proffesiynol fel MCP neu CCNA neu gymhwyster lefel diploma graddedig NEU brofiad cyfatebol.
- • Cwblhau cyrsiau hyfforddiant TG arbenigol a ffurfiol perthnasol yn llwyddiannus.
Profiad
Meini prawf hanfodol
- • Profiad manwl o weithio mewn amgylchedd rhwydwaith TCP/IP PC seiliedig ar Windows mewn rôl cymorth TG.
- • Profiad mewn rôl gweithredu technegol gyda systemau gweinydd Windows, gosod cyfrifiaduron pen desg/gliniadur a switshys Cisco.
- • Profiad o weithio mewn amgylchedd Windows Active Directory.
- • Profiad o roi diogelwch TG.
Meini prawf dymunol
- • Profiad o hyfforddi defnyddwyr TG.
- • Profiad GIG/Gofal Iechyd neu Sector Cyhoeddus.
- • Profiad o reoli prosiectau Rheoli Gwybodaeth a Thechnoleg bach.
- • Profiad o ffurfweddu systemau teleffoni modern.
- • Seilwaith gweinydd VMWare ESX.
SGILIAU
Meini prawf hanfodol
- • Yn gallu i weithio'n effeithiol fel rhan o dîm a hefyd ar eich menter eich hun.
- • Rhoi sylw da i fanylion.
- • Lefel uchel o rifedd, llythrennedd a llythrennedd cyfrifiadurol.
- • Sgiliau cynllunio, blaenoriaethu a threfnu i ddelio ag ystod eang o weithgareddau parhaus cymhleth.
- • Yn gallu dadansoddi, dehongli a chyfathrebu gwybodaeth dechnegol gymhleth i arbenigwyr ar rhai nad ydynt yn arbenigwyr yn ysgrifenedig, dros y ffôn ac mewn cyfarfodydd.
- • Gallu uniaethu'n dda â staff ar bob lefel
- • Yn gallu ymdrin â gwybodaeth sensitif yn briodol.
- • Sgiliau bysellfwrdd safonol.
- Yn gallu ymdopi â phatrymau gwaith anrhagweladwy lle ceir ymyriadau cyson.
- • Yn gallu gwneud dyfarniadau sy'n cynnwys gwybodaeth gymhleth sy'n gofyn am ddadansoddi a chymharu ystod o opsiynau.
- • Yn gallu gweithio'n effeithiol (am gyfnodau hir weithiau) mewn amodau gwaith annymunol (e.e. tymheredd isel, ystafelloedd swnllyd, mannau cyfyngedig, offer ac ardaloedd llychlyd neu swnllyd).
- • Yn gallu rheoli prosiectau Rheoli Gwybodaeth a Thechnoleg bach a gweithrediadau technegol. Yn gallu cynorthwyo gyda chynllunio a gweithredu prosiectau.
- • Yn gallu hyfforddi defnyddwyr eraill a staff TG ar dechnolegau newydd a phresennol.
- • Rhaid canolbwyntio ar y cwsmer.
Meini prawf dymunol
- • Sgiliau rheoli prosiect datblygedig.
- • Datblygu sgiliau cyfathrebu a negodi ar gyfer rheoli perthnasoedd yn effeithiol â chyflenwyr a sefydliadau eraill y GIG.
- • Y gallu i gyfrannu at ddatblygu gweithdrefnau a pholisïau Rheoli Gwybodaeth a Thechnoleg.
GWYBODAETH
Meini prawf hanfodol
- • • Dylai gwybodaeth fod yn gyfwerth â gradd mewn pwnc sy'n ymwneud â TG yn ddelfrydol o brofiad perthnasol.
- • Gwybodaeth dda am ystod o galedwedd cyfrifiadurol cyffredin (yn enwedig cyfrifiaduron personol ac argraffwyr).
- • Gwybodaeth helaeth am systemau gweithredu cleient a gweinydd Windows, TCP/IP, DHCP, DNS a rhwydweithio ether-rwyd.
- • Gwybodaeth ddamcaniaethol gadarn o Windows Active Directory, Polisïau Grŵp, Exchange a Microsoft Office.
- •• Prosesau wrth gefn ac adfer data.
- Deddfwriaeth diogelu data.
- • Cysyniadau o rhithwiroli.
Meini prawf dymunol
- • Gwybodaeth ddamcaniaethol ar sut i leihau bygythiadau diogelwch TG a rheoli digwyddiadau diogelwch TG. Profiad o baratoi cyllideb, a chaffael TG.
- • Gwybodaeth sy'n cyfateb i lefel cymhwyster TG proffesiynol fel CCNA (Cydymaith Rhwydwaith Ardystiedig Cisco) neu MCP (Proffesiynol Ardystiedig Microsoft) yn ddelfrydol wedi'i hennill o brofiad perthnasol.
- • Gwybodaeth am brosesau ITIL a methodolegau PRINCE2.
- • Seilwaith gweinydd VMWare ESX.
- • Gwybodaeth dda o Microsoft SCCM, WSUS, Gweinydd SQL.
RHINWEDDAU PERSONOL (Y gellir eu dangos)
Meini prawf hanfodol
- • Dibynadwy; ymagwedd hyblyg at waith i ddiwallu anghenion y gwasanaeth; drylwyr, yn parchu cyfrinachedd.
- • Agwedd frwdfrydig a chadarnhaol.
- • Rhaid bod yn rhagweithiol a hunan-gymhellol wrth ddysgu technolegau TG newydd trwy hunan-astudio a phrofiad ymarferol.
- • Gallu sefydlu perthynas waith dda gyda phobl ar bob lefel.
- • Penderfynol a hunanysgogol
Arall
Meini prawf hanfodol
- • Yn gallu gweithio’n achlysurol y tu allan i oriau arferol neu yn ystod y penwythnos pan fo’n ofynnol.
- • Yn gallu cymryd rhan mewn rota ar alwad
- • Yn gallu teithio rhwng safleoedd mewn modd amserol i ddiwallu anghenion y gwasanaeth.
- • Yn gallu teithio a gweithio i ffwrdd o'r ganolfan o bryd i'w gilydd.
- • Gallu gweithio o'r ganolfan waith ddynodedig.
Meini prawf dymunol
- • Yn gallu siarad Cymraeg
Dogfennau
- Job Description English (PDF, 328.4KB)
- Person Specification English (PDF, 560.3KB)
- Occupational Health Functional Requirements Form (PDF, 728.5KB)
- Job Description Welsh (PDF, 408.4KB)
- Person Specification Welsh (PDF, 488.3KB)
- Hyderus o Ran Anabledd Arweinydd (PDF, 180.8KB)
- Canllawiau ar gyfer Ymgeiswyr (PDF, 278.7KB)
- Ein Rhwydweithiau Amrywiaeth (PDF, 330.6KB)
- Gwasanaethau Recriwtio Hysbysiad Preifatrwydd (PDF, 696.3KB)
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Mark Coleman
- Teitl y swydd
- Desktop and Devices Service Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
Dechrau eich cais
Mewngofnodi
Creu cyfrif
Creu eich cyfrif a gwneud cais am eich swydd newydd!