Mae Trac yn falch o bweru recriwtio ar gyfer
Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru
Gwybodaeth
Croeso i Iechyd Cyhoeddus Cymru - asiantaeth iechyd cyhoeddus genedlaethol Cymru. Rydym yn bodoli i ddiogelu a gwella iechyd a llesiant a lleihau anghydraddoldebau iechyd i bobl yng Nghymru.
I gael gwybod mwy ewch i Iechyd Cyhoeddus Cymru a gwyliwch y fideo hwn am ein Cynllun Strategol
Dilynwch ni ar Twitter, Facebook, Linkedin a Instagram
Gweithio gyda'n gilydd, gydag ymddiriedaeth a pharch, i wneud gwahaniaeth
Ein diben yw ‘gweithio gyda'n gilydd ar gyfer Cymru iachach'. Rydym yn bodoli i helpu pawb yng Nghymru i fyw bywydau hirach, iachach. Gyda'n partneriaid, ein nod yw cynyddu disgwyliad oes iach, gwella iechyd a llesiant, a lleihau anghydraddoldebau i bawb yng Nghymru, nawr ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Gyda'i gilydd, mae ein timau'n gweithio i atal clefyd, diogelu iechyd, a darparu arweinyddiaeth, gwasanaethau arbenigol ac arbenigedd iechyd cyhoeddus. Ni yw'r brif ffynhonnell o wybodaeth, ymchwil ac arloesedd iechyd cyhoeddus yng Nghymru.
Cysylltu
- Address
- No.2 Capital Quarter
- Tyndall Street
- Cardiff
- CF10 4BZ
- Contact Number
- 02921 500200
Dirprwy Arbenigwr Nyrsio Arweiniol
Accepting applications until: 21-Jan-2026 23:59
Statws y swydd wag: Open
Accepting applications until: 21-Jan-2026 23:59
Manylion allweddol
Lleoliad
- Gwefan
- Abertawe
- Tref
- Abertawe
- Cod post
- SA6 8DP
- Major / Minor Region
- Caerdydd
Math o gontract a phatrwm gwaith
- Contract
- 12 mis (Secondiad am 12 mis oherwydd gofynion y gwasanaeth)
- Oriau
- Rhan-amser - 30 awr yr wythnos
Cyflog
- Cyflog
- £48,527 - £55,532 y flwyddyn yn ôl cyfran
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Gradd
- (Agenda ar gyfer Newid 7)
Arbenigedd
- Prif leoliad
- Cervical Cytology
- Dyddiad y cyfweliad
- 04/03/2026
Croeso i Iechyd Cyhoeddus Cymru, asiantaeth iechyd cyhoeddus genedlaethol Cymru
Ein gweledigaeth yw Gweithio i wireddu dyfodol iachach i Gymru
Am ragor o wybodaeth amdanom, ewch i’n tudalen hafan, darllenwch am ein cynllun strategol
Dilynwch ni ar Twitter, Facebook, LinkedIn and Instagram
Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg. I gefnogi ein gwasanaeth i Gymru gyfan, croesawn yn fawr ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.
Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau.
Trosolwg o'r swydd
Swydd Secondiad am 12 mis oherwydd gofynion y gwasanaeth.
Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â Sgrinio Serfigol Cymru (SSC) fel Dirprwy Arbenigwr Nyrsio Arweiniol yn Abertawe. Rydym yn chwilio am rywun sydd â hanes rhagorol ym maes nyrsio a phrofiad o sgrinio serfigol, ynghyd ag ymrwymiad a sgiliau hyfforddi i gefnogi’r gwaith o ddarparu’r rhaglen sgrinio serfigol yng Nghymru.
Fel aelod allweddol o dîm clinigol SSC, bydd deiliad y swydd yn gweithio ar y cyd â thîm clinigol ehangach SSC, tîm rheoli SSC a’r timau llwybr sgrinio i gynnal a gwella ansawdd clinigol y rhaglen sgrinio serfigol, trwy reoli a datrys materion ac ymholiadau clinigol, a thrwy addysgu, cynorthwyo a datblygu’r rhai sy'n cymryd samplau serfigol.
I gael rhagor o fanylion am y swydd, gweler y swydd-ddisgrifiad a manyleb y person.
Am ragor o wybodaeth neu i drefnu ymweliad anffurfiol, cysylltwch â: Joanne Allan, Rheolwr Rhaglen Rhanbarthol yn [email protected]
Advert
Mae deiliad y swydd yn cydweithio â’r Arweinydd Clinigol SSC, Nyrs Arbenigol Arweiniol, Rheolwr CSAD a’r Rheolwr Rhaglen Ranbarthol i wella a chynnal ansawdd clinigol y rhaglen sgrinio serfigol, trwy reoli a datrys materion ac ymholiadau clinigol, a thrwy addysg, cymorth a datblygu’r rhai sy'n cymryd profion ceg y groth.
Disgwylir i ddeiliad y swydd wneud y canlynol:
- Gwneud penderfyniadau clinigol ar y cyd â'r Nyrsys Arbenigol Arweiniol a gweithredu ar faterion yn ymwneud â sgrinio serfigol.
- Gweithio gyda’r Nyrs Arbenigol Arweiniol i arwain ar weithredu’r rhaglen sgrinio serfigol yn lleol gan gynnwys cysylltu ag uwch staff mewn Byrddau Iechyd, practisiau cyffredinol a’r cyhoedd a chydgysylltu â thimau eraill yng Nghymru.
- Gweithio'n glinigol a chynnal sgiliau a chymwyseddau clinigol gan gynnwys cymryd samplau
- Bod yn bwynt cyswllt ar gyfer ymholiadau clinigol cleifion
- Gweithredu mewn rôl gefnogol a datblygol gyda gweithwyr iechyd proffesiynol o fewn y rhaglen trwy addysg a hyfforddiant, gan gynnwys cynnal cynnwys y cwrs addysgol a chronfeydd data e-ddysgu a phresenoldeb.
Gweithio i'n sefydliad
Iechyd Cyhoeddus Cymru ydym ni – yr asiantaeth iechyd y cyhoedd genedlaethol yng Nghymru. Ein pwrpas yw ‘Gweithio gyda'n gilydd ar gyfer Cymru Iachach’. Rydym yn bodoli i helpu pawb yng Nghymru i fyw bywydau hirach, iachach a hapusach. Gyda'n partneriaid, rydym yn gweithio i gynyddu disgwyliad oes iach, gwella iechyd a llesiant, a lleihau anghydraddoldebau i bawb yng Nghymru, yn awr ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Mae ein timau'n gweithio i atal clefydau, diogelu iechyd, a darparu arweinyddiaeth, gwasanaethau arbenigol ac arbenigedd iechyd y cyhoedd. Ni yw prif ffynhonnell gwybodaeth, ymchwil ac arloesedd iechyd y cyhoedd yng Nghymru. Mewn byd sy'n wynebu heriau iechyd cymhleth, nid yw ein gwaith erioed wedi bod mor bwysig.
Rydym yn cael ein harwain gan ein Gwerthoedd, 'Gweithio gyda'n gilydd, gydag ymddiriedaeth a pharch, i wneud gwahaniaeth'. Rydym wedi ymrwymo i adeiladu gweithle cynhwysol sy'n gwerthfawrogi cydraddoldeb ac amrywiaeth. Rydym yn croesawu ceisiadau sy'n cynrychioli amrywiaeth gyfoethog y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu ac sy'n cefnogi trefniadau gweithio hyblyg, gan gynnwys rolau rhan-amser a rhannu swyddi.
I gael gwybod rhagor am weithio i ni a’r buddion rydym yn eu cynnig, ewch i https://icc.gig.cymru/gyrfaoedd/
I gael arweiniad ar y broses ymgeisio, ewch i https://icc.gig.cymru/gyrfaoedd/gwybodaeth-a-chanllawiau-i-ymgeiswyr/
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
1. Sgiliau Cyfathrebu a Pherthnasoedd
- Bydd deiliad y swydd yn cyfathrebu'n uniongyrchol â chyfranogwyr sgrinio, gan gynnwys menywod sy'n cael colposgopi a all fod yn sefyllfaoedd emosiynol, yn gymhleth ac yn sensitif iawn.
- Bydd deiliad y swydd yn defnyddio sgiliau cyfathrebu uwch i weithio gyda staff ar bob lefel ar draws y sefydliad, ar lefel Cymru gyfan ac yn rhanbarthol, a chydag asiantaethau allanol. Darparu cyngor perthnasol i'r rhai sy'n cymryd profion ceg y groth, labordai, gwasanaethau colposgopi a defnyddwyr gwasanaeth. Mae hyn yn gofyn am sgiliau negodi, perswadio, ysgogi a thawelu meddwl
· Cydweithio â Byrddau Iechyd a Gofal Sylfaenol ar elfennau perthnasol o'r rhaglen i sicrhau bod safonau uchel yn cael eu cynnal
- Gweithio'n effeithiol mewn amgylcheddau anghyfeillgar, cymhleth a gelyniaethus ar faterion Sicrhau Ansawdd a safonau gyda Byrddau Iechyd a Gweithwyr Iechyd Proffesiynol
· Darparu gwybodaeth a chyngor i Arweinydd Clinigol SSC a thimau rhanbarthol a chenedlaethol ar weithrediad y Rhaglen o fewn y maes diffiniedig
- Defnyddio sgiliau cyfathrebu a thrafod uwch i roi gwybod i ddefnyddwyr am sgrinio serfigol/ colposgopi, gan gynnwys y rheini sy’n bryderus a/neu sydd ag anableddau gwybyddol, cyfathrebu neu gorfforol.
· Gweithio gyda gweithwyr proffesiynol gwasanaethau a gweithwyr proffesiynol iechyd i gychwyn ac arwain strategaethau i hybu iechyd a llesiant. Gweithio gyda’r Tîm Ymgysylltu â Sgrinio i alluogi hybu iechyd a gwaith arall i gael ei wneud gyda grwpiau cymunedol perthnasol y sector gwirfoddol, gofalwyr a’r cyhoedd
- Cyfrannu ac annog rhannu gwybodaeth rhwng holl elfennau’r rhaglen trwy wefannau, Cyswllt Sgrinio ac ati
- Hyrwyddo cyfathrebu da a rhoi gwybodaeth i ddefnyddwyr gwasanaethau, perthnasau a chydweithwyr trwy ddefnyddio sgiliau rhyngbersonol.
· Unwaith y bydd anghenion hyfforddi’r rhai sy’n cymryd profion ceg y groth a’r staff gweinyddol wedi’u nodi, gweithio gyda’r hwylusydd hyfforddiant i gyflwyno’r cwrs prawf ceg y groth ffurfiol ac arwain yr hyfforddiant lleol diweddaraf ar gyfer y rhai sy’n cymryd profion ceg y groth, staff gweinyddol a chlinigwyr perthnasol eraill yn ardal y CSAD.
· Gan weithio gyda thîm clinigol SSC, cymryd cyfrifoldeb am gynnal cynnwys addysgol y cwrs hyfforddi cymerwyr samplau, a chynnal y modiwl e-ddysgu a chronfeydd data presenoldeb
· Mynychu cyfarfodydd y Grŵp Gweithredol Rhanbarthol pan fo angen
· Cefnogi rhanbarthau SSC eraill yn ystod absenoldebau staff
2. Gwybodaeth, Hyfforddiant a Phrofiad
· Cynnal cymhwysedd clinigol a defnyddio gwybodaeth hynod arbenigol, wedi'i hategu gan theori a phrofiad i sicrhau rhaglenni priodol o ofal a thriniaeth
· Cynnal lefel uchel o wybodaeth, arbenigedd manwl a chymhwysedd proffesiynol ym maes sgrinio serfigol, gan sicrhau y darperir gofal priodol sy’n seiliedig ar dystiolaeth ac ymarfer uwch
· Darparu arbenigedd clinigol, cyngor a chymorth arbenigol ar draws sbectrwm cyfan y rhaglen a chymryd rhan yn y gwaith o ddarparu’r hyfforddiant i amrywiaeth o weithwyr proffesiynol.
· Monitro'r rhai sy'n cymryd profion ceg y groth sydd wedi mynychu hyfforddiant a thargedu'r rhai nad ydynt wedi mynychu hyfforddiant
· Monitro a sicrhau bod hyfforddeion yn cael eu goruchwylio/asesu yn ystod eu hyfforddiant ymarferol a'u cyfnod prawf
· Bydd deiliad y swydd yn darparu hyfforddiant i ystod o weithwyr proffesiynol meddygol a gofal iechyd mewn gofal sylfaenol ac eilaidd.
3. Sgiliau Dadansoddi a Gwneud Penderfyniadau
- Monitro perfformiad y rhai sy'n cymryd profion ceg y groth a'r gwasanaethau colposgopi yn erbyn safonau diffiniedig a chanlyniadau gweithredu fel y bo'n briodol
- Sicrhau bod trefniadau methu diogel yn cael eu gweithredu a monitro pob agwedd ar berfformiad;
- Bydd deiliad y swydd yn cymryd camau mewn achosion lle nad yw perfformiad y rhai sy’n cymryd profion ceg y groth a gwasanaethau colposgopi yn bodloni safonau diffiniedig.
- Sicrhau yr adroddir ar ddigwyddiadau yn yr ardal ac y cânt eu datrys.
· Gweithio ar y cyd â chydlynydd Cymru Gyfan ar benderfyniadau hynod gymhleth ynghylch menywod yn y rhaglen.
- Cyfrannu at adroddiadau a gyhoeddir gan Sgrinio Serfigol Cymru
4. Sgiliau Cynllunio a Threfnu
· Cyfrannu’n weithredol at ddatblygiadau strategol a gweithredol yn ymwneud â’r gwasanaeth colposgopi gan sicrhau gwasanaethau o ansawdd uchel sy’n canolbwyntio ar fenywod yn cael eu hyrwyddo a’u datblygu.
· Gweithio gyda staff colposgopi i gydymffurfio â SOPPS Colposgopi a sicrhau eu bod yn mewnbynnu gwybodaeth yn gywir i’r System Gwybodaeth Colposgopi gan wella ansawdd y gwasanaeth
· Bydd deiliad y swydd yn gweithio gyda Byrddau Iechyd i gynllunio a threfnu datblygiadau gwasanaeth yn unol â pholisi i sicrhau bod targedau gwasanaeth yn cael eu cyflawni mewn modd amserol.
· Cydgysylltu â sefydliadau allanol, i gynllunio a datblygu eu gwasanaethau i fodloni gofynion SSC
· Gweithio gyda thîm clinigol SSC i sicrhau bod deunyddiau hyfforddi y rhai sy’n cymryd samplau yn cael eu diweddaru'n amserol
.
5. Sgiliau Corfforol
· Bod yn gwbl gymwys wrth gyflawni rôl glinigol.
· Sicrhau bod safonau iechyd a diogelwch yn cael eu cynnal wrth gludo deunydd hyrwyddo.
· Fel gwasanaeth Cymru gyfan mae'n ofynnol i ddeiliad y swydd deithio'n bell, gan sicrhau bod polisïau'r Ymddiriedolaeth yn cael eu dilyn
6. Cyfrifoldeb am Ofal Cleifion/Cleientiaid
· Bydd deiliad y swydd yn rhoi cyngor tra arbenigol i fenywod am eu triniaeth a'u gofal.
· Gan ddilyn polisïau a phrotocolau Sgrinio Serfigol Cymru, bydd yn darparu trefniadau ymchwilio a thriniaeth effeithiol. Delio â sefyllfaoedd cymhleth sy'n codi a chyfathrebu canlyniadau mewn modd effeithiol gyda'r fenyw.
- Meddu ar sgiliau cwnsela rhagorol a'u defnyddio ym mhob cam o ddarparu gofal, gan sicrhau bod y cyngor a'r gofal a roddir i fenyw yn seiliedig ar dystiolaeth ac yn cydymffurfio ag arferion gorau
· Gweithredu fel eiriolwr cleifion/staff trwy gymhwyso gwybodaeth a sgiliau moesegol, cyfreithiol a phroffesiynol.
· Atgyfeirio cleifion at weithwyr proffesiynol iechyd/cymdeithasol eraill i gael mewnbwn arbenigol perthnasol, gan sicrhau gofal cydgysylltiedig effeithiol
7. Cyfrifoldeb am Weithredu Datblygiadau Polisi/Gwasanaethau
- Cymryd rhan yn y broses o bennu polisïau a gweithdrefnau gweithredol, strategol ar gyfer y rhaglen sgrinio serfigol.
- Cefnogi gweithrediad lleol polisïau a gweithdrefnau y cytunwyd arnynt, cadw at brotocolau y cytunwyd arnynt, a datrys materion gweithredol yn lleol;
- Cymryd rhan mewn, a lle bo angen, arwain archwiliadau lleol a Chymru Gyfan o bob agwedd ar Sgrinio Serfigol Cymru
- Darparu cefnogaeth glinigol i'r Adran Weinyddol Sgrinio Serfigol (CSAD) leol a rhoi cyngor nyrsio lle bo'n briodol
- Deall holl bolisïau a gweithdrefnau perthnasol yr Ymddiriedolaeth, Sgrinio Serfigol Cymru, canllawiau cenedlaethol (e.e. NHSCSP, BSCCP), deddfwriaeth (e.e. COSSH, meddyginiaethau) ac ati er mwyn sefydlu gwasanaeth diogel, teg o ansawdd uchel
8. Cyfrifoldeb am Adnoddau Ariannol a Ffisegol
· Cynnal amgylchedd gwaith diogel a defnydd diogel o offer ar gyfer staff, defnyddwyr ac ymwelwyr wrth ymgymryd â rôl glinigol.
· Sicrhau diogelwch offer e.e. gliniadur, taflunydd bob amser
9. Cyfrifoldeb am Adnoddau Dynol
- Dilyn rhaglen Datblygiad Proffesiynol Parhaus briodol a chymryd rhan mewn ymarfer myfyriol fel rhan o’i ddatblygiad proffesiynol personol.
· Cydymffurfio â'r holl ofynion hyfforddi gorfodol a statudol, IPR, a Goruchwyliaeth Glinigol a ddiffinnir gan yr Ymddiriedolaeth.
- Cyfrannu at raglenni hyfforddi ar gyfer arbenigwyr iechyd y cyhoedd, proffesiynau eraill a staff fel y bo'n briodol
- Cymryd rhan weithredol yn y broses Fy Nghyfraniad.
10. Cyfrifoldeb am Adnoddau Gwybodaeth
· Cadw cofnodion a dogfennaeth gywir a chryno, yn unol â chanllawiau’r Ymddiriedolaeth a’r NMC.
· Meddu ar sgiliau rhagorol mewn prosesu geiriau a dadansoddi data.
· Meddu ar wybodaeth ymarferol o systemau technoleg gwasanaethau sgrinio i gefnogi ac adnabod gweithwyr iechyd proffesiynol sy'n ymgymryd â gwaith sgrinio.
· Cydgysylltu ag Adran Wybodaeth Sgrinio Serfigol Cymru i sicrhau bod ystadegau'n amserol ac yn gywir.
· Cynnal a chadw deunydd hyfforddi y rhai sy’n cymryd samplau cyfredol a sicrhau swyddogaeth a hygyrchedd cronfeydd data hyfforddi ar y cyd â'r tîm Gwybodeg perthnasol
11. Cyfrifoldeb am Ymchwil a Datblygu
· Dadansoddi’n feirniadol ymchwil neu lenyddiaeth gyfredol er mwyn cynnal lefelau arbenigol o wybodaeth ac arferion gorau.
- Meddu ar yr arbenigedd clinigol a'r cyfrifoldeb i rymuso eraill trwy gychwyn, rhannu a gwerthuso arferion gorau.
- Ymgymryd â phrosiectau ymchwil, cymryd rhan mewn treialon clinigol/treialon offer fel y bo'n briodol
Bydd disgwyl i ddeiliad y swydd adrodd ar ganlyniadau ymchwil yng nghynhadledd flynyddol Iechyd Cyhoeddus Cymru a chyfarfodydd a chynadleddau cenedlaethol eraill
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Os oes diddordeb gyda chi mewn ceisio am swydd secondiad, mae’n rhaid i chi gael caniatad eich rheolwr llinell presennol cyn i chi geisio am y swydd hon.
Ceidw Iechyd Cyhoeddus Cymru yr hawl i gau’r swydd wag hon yn gynnar. Felly rydym yn annog ceisiadau cynnar.
Rhoddir blaenoriaeth i staff sy’n aros i gael eu hadleoli. Rydym yn cadw’r hawl felly i dynnu’r hysbyseb hon yn ôl ar unrhyw adeg.
Os oes gennych anabledd a bod gennych unrhyw anghenion penodol i'ch galluogi i gymryd rhan yn y broses ymgeisio, cysylltwch â [email protected]
NODYN PWYSIG I YMGEISWYR: Mae ceisiadau am ein rolau yn cael eu hadolygu'n ofalus a'u rhoi ar restr fer yn seiliedig ar feini prawf penodol, sy'n amrywio o swydd i swydd.
Ni fydd defnyddio cymhwysiad generig neu gymhwysiad AI awtomatig, fel Lazy Apply neu AI Apply, fel arfer yn darparu digon o dystiolaeth bersonol o'ch sgiliau a'ch profiad sy’n berthnasol i'r rôl. Gall hyn ei gwneud hi'n anodd i ni asesu eich addasrwydd a bydd yn lleihau eich siawns o gael eich rhoi ar y rhestr fer.
Er mwyn sicrhau bod eich cais yn cael ystyriaeth lawn, rydym yn argymell eich bod yn cyflwyno cais wedi'i deilwra sy'n mynd i'r afael yn uniongyrchol â'r meini prawf a restrir yn adran Manyleb y Person yr hysbyseb, gan ddarparu tystiolaeth glir ac enghreifftiau i ddangos sut rydych chi'n bodloni pob gofyniad.
Cymhwysedd ar gyfer Nawdd Fisa
- Os oes angen nawdd arnoch drwy lwybrau Fisa Gweithiwr Medrus neu Fisa Gweithiwr Iechyd a Gofal, gwnewch yn siŵr eich bod yn hunanasesu eich cymhwysedd i gael nawdd ar gyfer y rôl hon cyn gwneud cais.
- Gwiriwch y canllawiau fisa Gweithiwr Medrus neu'r canllawiau fisa Gweithiwr Iechyd a Gofal am fanylion ynghylch cymhwysedd swydd, cyflog, yr iaith Saesneg, a gofynion nawdd.
Os byddwch yn llwyddiannus ac os cewch eich dewis ar gyfer y rhestr fer am gyfweliad, cysylltir â chi ar e-bost gan ddefnyddio’r cyfeiriad a ddefnyddiwyd gennych i gofrestru. Sicrhewch eich bod yn edrych ar eich cyfrif e-bost yn rheolaidd.
Rydym wedi ymrwymo i recriwtio teg a thryloyw ac rydym yn credu mewn cyfle cyfartal yn ein gweithle. Ni fyddwn yn goddef gwahaniaethu ar sail oedran, anabledd, hunaniaeth rywiol, crefydd neu gred, hil neu genedligrwydd, priodas neu bartneriaeth sifil, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, patrwm gwaith, cyfrifoldebau gofalu, gweithgarwch gydag undebau llafur neu gredoau gwleidyddol – nac ar unrhyw sail arall. Croesawn geisiadau gan unigolion a ddymunent weithio’n rhan-amser neu wneud cais i rannu swydd.
Mae'r raddfa gyflog a ddangosir ar gyfer aelod o staff llawn amser, a chaiff y swm ei addasu pro rata ar gyfer y rhai sy'n gweithio llai na 37.5 awr yr wythnos.
Yn gyffredinol, bydd unrhyw un sy'n ymuno â'n Hymddiriedolaeth nad yw wedi gweithio yn y GIG o'r blaen, yn cychwyn ar bwynt cyntaf y band tâl a hysbysebir yn awtomatig. Yna bydd datblygiad cyflog yn cael ei bennu gan Adolygiadau Perfformiad a Datblygu blynyddol yn unol â Pholisi Datblygiad Cyflog GIG Cymru. Gellir ystyried cais am Gredyd Cynyddol, ond dim ond ar sail gwasanaeth cyfrifadwy â thystiolaeth a/neu brofiad cyfatebol, perthnasol y gellir ei ddyfarnu.
Gofynion yr ymgeisydd
Manyleb y person
qualifications
Meini prawf hanfodol
- • Cofrestriad RGN Lefel 1
- • Dwy flynedd o hyfforddiant ôl-sylfaenol
- • Gradd Lefel gyntaf sy'n berthnasol i ymarfer clinigol
- • Wedi dilyn hyfforddiant sgrinio serfigol cydnabyddedig
- • Addysgu ac asesu neu gymhwyster cyfatebol
Meini prawf dymunol
- • Profiad o weithio ym maes iechyd menywod
- • Tystysgrif cwnsela
- • Gradd Meistr yn ymwneud ag iechyd
- • Cymhwyster Nyrs Colposgopydd
Experience
Meini prawf hanfodol
- • Nyrs brofiadol
- • Profiad amlwg o weithio ym maes sgrinio serfigol
- • Profiad o weithio ym meysydd archwilio ac ymchwil a datblygu
- • Yn gallu rhoi cyflwyniadau i grwpiau amlbroffesiynol a’u hyfforddi
Meini prawf dymunol
- • Profiad o gydlynu gwaith ar draws ffiniau proffesiynol a sefydliadol;
- • Galluoedd rheoli
- • Yn gymwys yn gyfrifiadurol
- • Tystiolaeth o ymchwil neu ledaenu arferion sy'n seiliedig ar dystiolaeth
skills
Meini prawf hanfodol
- • Sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu rhagorol.
- • Sgiliau gwneud penderfyniadau uwch.
- • Sgiliau trefnu rhagorol;
- • Sgiliau da o ran rheoli amser a bod yn rhan o dîm
- • Sgiliau da o ran rheoli amser a bod yn rhan o dîm
Meini prawf dymunol
- • • Gwybodaeth am systemau ansawdd
- • Gwybodaeth am ystadegau;
Dogfennau
- JD DLNS Welsh (PDF, 264.4KB)
- Occupational Health Form (PDF, 656.5KB)
- summary (PDF, 176.6KB)
- Welsh Language form (PDF, 696.3KB)
- JD English (PDF, 176.4KB)
- summary in welsh (PDF, 168.6KB)
- Occupational Health Form (PDF, 656.5KB)
- Hyderus o Ran Anabledd Arweinydd (PDF, 180.8KB)
- Canllawiau ar gyfer Ymgeiswyr (PDF, 278.7KB)
- Ein Rhwydweithiau Amrywiaeth (PDF, 330.6KB)
- Gwasanaethau Recriwtio Hysbysiad Preifatrwydd (PDF, 696.3KB)
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Keren Koutsantonaki
- Teitl y swydd
- Lead Nurse Specialist
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 07929 059008
Dechrau eich cais
Mewngofnodi
Creu cyfrif
Creu eich cyfrif a gwneud cais am eich swydd newydd!










