Mae Trac yn falch o bweru recriwtio ar gyfer
Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru
Gwybodaeth
Croeso i Iechyd Cyhoeddus Cymru - asiantaeth iechyd cyhoeddus genedlaethol Cymru. Rydym yn bodoli i ddiogelu a gwella iechyd a llesiant a lleihau anghydraddoldebau iechyd i bobl yng Nghymru.
I gael gwybod mwy ewch i Iechyd Cyhoeddus Cymru a gwyliwch y fideo hwn am ein Cynllun Strategol
Dilynwch ni ar Twitter, Facebook, Linkedin a Instagram
Gweithio gyda'n gilydd, gydag ymddiriedaeth a pharch, i wneud gwahaniaeth
Ein diben yw ‘gweithio gyda'n gilydd ar gyfer Cymru iachach'. Rydym yn bodoli i helpu pawb yng Nghymru i fyw bywydau hirach, iachach. Gyda'n partneriaid, ein nod yw cynyddu disgwyliad oes iach, gwella iechyd a llesiant, a lleihau anghydraddoldebau i bawb yng Nghymru, nawr ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Gyda'i gilydd, mae ein timau'n gweithio i atal clefyd, diogelu iechyd, a darparu arweinyddiaeth, gwasanaethau arbenigol ac arbenigedd iechyd cyhoeddus. Ni yw'r brif ffynhonnell o wybodaeth, ymchwil ac arloesedd iechyd cyhoeddus yng Nghymru.
Cysylltu
- Address
- No.2 Capital Quarter
- Tyndall Street
- Cardiff
- CF10 4BZ
- Contact Number
- 02921 500200
Rheolwr Cyfathrebu - MEWNOL
Accepting applications until: 22-Mar-2026 23:59
Statws y swydd wag: Open
Accepting applications until: 22-Mar-2026 23:59
Manylion allweddol
Lleoliad
- Gwefan
- 2 Chwarter y Brifddinas
- Cyfeiriad
- Stryd Tyndall
- Tref
- Caerdydd
- Cod post
- CF10 4BZ
- Major / Minor Region
- Caerdydd
Math o gontract a phatrwm gwaith
- Contract
- 11 mis (Contract cyfnod penodol am 11 mis tan 31 Mawrth 2027 oherwydd secondiad)
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
Cyflog
- Cyflog
- £48,527 - £55,532 Y Flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Gradd
- (Gradd 7)
Arbenigedd
- Prif leoliad
- Cyfathrebu
Croeso i Iechyd Cyhoeddus Cymru, asiantaeth iechyd cyhoeddus genedlaethol Cymru
Ein gweledigaeth yw Gweithio i wireddu dyfodol iachach i Gymru
Am ragor o wybodaeth amdanom, ewch i’n tudalen hafan, darllenwch am ein cynllun strategol
Dilynwch ni ar Twitter, Facebook, LinkedIn and Instagram
Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg. I gefnogi ein gwasanaeth i Gymru gyfan, croesawn yn fawr ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Nodyn Pwysig ar gyfer swyddi a gaiff eu cynnig ar sail tymor penodol neu secondiad.
Gall unigolion sydd â swydd barhaol (sylfaenol) yn y GIG ond gael eu penodi drwy secondiad. Bydd angen i’ch Rheolwr llinell presennol roi cymeradwyaeth ar gyfer secondiad cyn gellir cyflwyno cais.
Trosolwg o'r swydd
· NODER MAI DIM OND CEISIADAU GAN STAFF A GYFLOGIR GAN IECHYD CYHOEDDUS CYMRU AR HYN O BRYD Y BYDDWN YN EU DERBYN
Swydd contract cyfnod penodol am 11 mis tan 31 Mawrth 2027 oherwydd secondiad
Pwrpas y rôl yw arwain ar ddatblygu a chyflwyno strategaethau ac cynlluniau cyfathrebu.
Bydd deiliad y swydd hefyd yn cefnogi'r Uwch Reolwr Cyfathrebu ar gyfer Ymgyrchoedd a Chynllunio er mwyn datblygu a chyflwyno cyfathrebu strategol ac ymgyrchoedd ar draws ystod o ddisgyblaethau. Bydd y gwaith yma’n helpu Iechyd Cyhoeddus Cymru i gyflawni ei flaenoriaethau sefydliadol.
Bydd y rôl yn rhoi cyngor a chymorth arbenigol ar faterion cymhleth, sensitif ac uchel eu proffil, ac yn sicrhau cyfathrebu clir, cywir ac empathig ar draws cynnwys, sianeli digidol, cysylltiadau â'r cyfryngau ac ymgysylltu â rhanddeiliaid. Bydd yn cynnal enw da ac ymddiriedaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru ymhlith y cyhoedd.
Advert
· Pwrpas y rôl yw arwain ar ddatblygu a chyflwyno strategaethau ac cynlluniau cyfathrebu.
· Bydd deiliad y swydd hefyd yn cefnogi'r Uwch Reolwr Cyfathrebu ar gyfer Ymgyrchoedd a Chynllunio er mwyn datblygu a chyflwyno cyfathrebu strategol ac ymgyrchoedd ar draws ystod o ddisgyblaethau. Bydd y gwaith yma’n helpu Iechyd Cyhoeddus Cymru i gyflawni ei flaenoriaethau sefydliadol.
· Bydd y rôl yn rhoi cyngor a chymorth arbenigol ar faterion cymhleth, sensitif ac uchel eu proffil, ac yn sicrhau cyfathrebu clir, cywir ac empathig ar draws cynnwys, sianeli digidol, cysylltiadau â'r cyfryngau ac ymgysylltu â rhanddeiliaid. Bydd yn cynnal enw da ac ymddiriedaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru ymhlith y cyhoedd.
Gweithio i'n sefydliad
Iechyd Cyhoeddus Cymru ydym ni – yr asiantaeth iechyd y cyhoedd genedlaethol yng Nghymru. Ein pwrpas yw ‘Gweithio gyda'n gilydd ar gyfer Cymru Iachach’. Rydym yn bodoli i helpu pawb yng Nghymru i fyw bywydau hirach, iachach a hapusach. Gyda'n partneriaid, rydym yn gweithio i gynyddu disgwyliad oes iach, gwella iechyd a llesiant, a lleihau anghydraddoldebau i bawb yng Nghymru, yn awr ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Mae ein timau'n gweithio i atal clefydau, diogelu iechyd, a darparu arweinyddiaeth, gwasanaethau arbenigol ac arbenigedd iechyd y cyhoedd. Ni yw prif ffynhonnell gwybodaeth, ymchwil ac arloesedd iechyd y cyhoedd yng Nghymru. Mewn byd sy'n wynebu heriau iechyd cymhleth, nid yw ein gwaith erioed wedi bod mor bwysig.
Rydym yn cael ein harwain gan ein Gwerthoedd, 'Gweithio gyda'n gilydd, gydag ymddiriedaeth a pharch, i wneud gwahaniaeth'. Rydym wedi ymrwymo i adeiladu gweithle cynhwysol sy'n gwerthfawrogi cydraddoldeb ac amrywiaeth. Rydym yn croesawu ceisiadau sy'n cynrychioli amrywiaeth gyfoethog y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu ac sy'n cefnogi trefniadau gweithio hyblyg, gan gynnwys rolau rhan-amser a rhannu swyddi.
I gael gwybod rhagor am weithio i ni a’r buddion rydym yn eu cynnig, ewch i https://icc.gig.cymru/gyrfaoedd/
I gael arweiniad ar y broses ymgeisio, ewch i https://icc.gig.cymru/gyrfaoedd/gwybodaeth-a-chanllawiau-i-ymgeiswyr/
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Mae'r Rheolwr Cyfathrebu yn gyfrifol am gefnogi datblygiad a chyflawniad strategaethau, cynlluniau ac ymgyrchoedd cyfathrebu iechyd y cyhoedd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Bydd y Rheolwr Cyfathrebu yn gwneud y canlynol:
Cyfathrebu mewn Partneriaeth
· Cryfhau’r bartneriaeth rhwng Iechyd Cyhoeddus Cymru a’i randdeiliaid drwy gefnogi a hyrwyddo cyfathrebu agored a rhagweithiol rhyngddynt.
Cyfathrebu Marchnata
· Creu, ysgrifennu a golygu cynnwys ar gyfer deunyddiau Iechyd Cyhoeddus Cymru, a fydd yn cynnwys cyfryngau cymdeithasol, i'w weld gan randdeiliaid a'r cyhoedd
· Cefnogi ymgysylltiad parhaus â llywodraeth leol, y trydydd sector, y cyhoedd a rhanddeiliaid eraill mewn perthynas ag iechyd y cyhoedd
· Datblygu, cyflwyno a gwerthuso ymgyrchoedd cyfathrebu yn unol â dulliau Gwasanaeth Cyfathrebu'r Llywodraeth
Cysylltiadau â'r cyfryngau
· Gweithredu rhaglenni cysylltiadau â'r cyfryngau drwy wneud y canlynol:
· Datblygu cynlluniau mewn perthynas â materion proffil uchel, cymhleth, dadleuol a/neu heriol
· Drafftio datganiadau i'r wasg, datganiadau a nodweddion
· Dehongli gwybodaeth glinigol arbenigol yn negeseuon iechyd hawdd eu deall i'r cyhoedd; a'u hyrwyddo
· Cydgysylltu â newyddiadurwyr i hyrwyddo syniadau ysgrifau nodwedd a newyddion
· Cysylltu â newyddiadurwyr i drefnu lluniau
· Cysylltu â newyddiadurwyr i drefnu cyfweliadau
· Cynghori a chefnogi staff wrth ddrafftio datganiadau i’r wasg ac ymatebion i’r cyfryngau ar bob math o faterion gan gynnwys y rhai sy’n gymhleth, yn ddadleuol a/neu’n heriol
· Cynghori a chefnogi staff ar ddarparu cyngor iechyd drwy'r cyfryngau
· Gweithio mewn partneriaeth â swyddogion cyfathrebu sefydliadau partner sydd â safbwyntiau gwahanol, ac weithiau anghyson
· Cysylltu â newyddiadurwyr, carfanau pwyso a’r cyhoedd ar faterion a all fod yn drallodus, emosiynol, digroeso a/neu beri straen yn ogystal â materion cymhleth, dadleuol a/neu heriol
o Derbyn ymholiadau gan y cyfryngau ar ran Iechyd Cyhoeddus Cymru a datblygu a rheoli ymatebion ar ran y sefydliadau, a chynghori arnynt, gan gynnwys sut i ymateb i faterion cymhleth, dadleuol a/neu heriol
· Datblygu a rheoli system monitro’r cyfryngau sy'n adrodd ar broffil cyfryngau Iechyd Cyhoeddus Cymru a'r negeseuon a adroddwyd
Gwefannau
· Cydgysylltu â staff yn Iechyd Cyhoeddus Cymru a’i dîm gwe i greu, ysgrifennu a golygu cynnwys ei wefannau.
Y cyfryngau cymdeithasol
· Hyrwyddo a defnyddio cyfryngau cymdeithasol i hyrwyddo ymgysylltiad â materion iechyd y cyhoedd
Safonau ar gyfer Gwasanaethau Iechyd
· Gweithredu prosesau a systemau yn unol â chynlluniau gweithredu i gyflawni’r Safonau ar gyfer Gwasanaethau Iechyd sy'n ymwneud â chyfathrebu ac ymgysylltu â dinasyddion
· Casglu tystiolaeth i ddangos bod Iechyd Cyhoeddus Cymru yn bodloni’r Safonau ar gyfer Gwasanaethau Iechyd sy’n ymwneud â chyfathrebu ac ymgysylltu â dinasyddion
Arall
· Dadansoddi goblygiadau cyfathrebu cynigion polisi a rhoi cyngor ar reoli'r goblygiadau.
· Darparu mewnbwn a chyngor i ddatblygu polisi
· Mynd i, adrodd a chyfrannu at drafodaethau yng nghyfarfodydd Tîm Cyfathrebu Iechyd Cyhoeddus Cymru
· Dirprwyo ar ran yr Uwch Reolwr (Ymgyrchoedd a Chynllunio) mewn cyfarfodydd ac mewn gwaith cyfathrebu arall yn ei absenoldeb
· Darparu gwasanaeth ymateb i'r cyfryngau ar alwad, y tu allan i oriau, ar sail rota gydag aelodau eraill o'r Tîm Cyfathrebu
Gwybodaeth, Hyfforddiant a Phrofiad
· Gwybodaeth am gyfathrebu, cynllunio a chyflwyno ymgyrchoedd, cysylltiadau cyhoeddus, newyddiaduraeth, marchnata cymdeithasol a thechnegau, dulliau a gweithdrefnau marchnata/cyfathrebu mewn amgylchedd iechyd y cyhoedd.
· Gwybodaeth am sefydliadau'r sector cyhoeddus a'r amgylchedd gwleidyddol allanol
· Gallu darparu hyfforddiant a rhannu gwybodaeth i feithrin gallu cyfathrebu ac iechyd y cyhoedd yng ngweithlu a chymuned y sector cyhoeddus
Sgiliau Dadansoddi a Gwneud Penderfyniadau
· Dadansoddi a dehongli materion, amgylchiadau a safbwyntiau cyfathrebu mewnol cymhleth, a chynghori ar ddatrysiadau a’u cynllunio
· Dadansoddi a dehongli materion, amgylchiadau a safbwyntiau cyfathrebu cymhleth rhanddeiliaid, a chynghori ar atebion a’u cynllunio
· Gwerthuso goblygiadau’r Safonau ar gyfer Gwasanaethau Iechyd sy’n ymwneud â chyfathrebu ac ymgysylltu â dinasyddion ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru a chynghori ar ymateb
· Dadansoddi goblygiadau cynigion polisi o safbwynt cyfathrebu (yn Iechyd Cyhoeddus Cymru ac o safbwynt rhanddeiliaid) a rhoi cyngor ar reoli'r goblygiadau
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Byddwch yn gallu dod o hyd i ddisgrifiad Swydd llawn a Manyleb Person sydd ynghlwm o fewn y dogfennau ategol neu cliciwch "Gwnewch gais nawr" i'w weld yn Trac.
Ceidw Iechyd Cyhoeddus Cymru yr hawl i gau’r swydd wag hon yn gynnar. Felly rydym yn annog ceisiadau cynnar.
Rhoddir blaenoriaeth i staff sy’n aros i gael eu hadleoli. Rydym yn cadw’r hawl felly i dynnu’r hysbyseb hon yn ôl ar unrhyw adeg.
Os oes gennych anabledd a bod gennych unrhyw anghenion penodol i'ch galluogi i gymryd rhan yn y broses ymgeisio, cysylltwch â [email protected]
NODYN PWYSIG I YMGEISWYR: Mae ceisiadau am ein rolau yn cael eu hadolygu'n ofalus a'u rhoi ar restr fer yn seiliedig ar feini prawf penodol, sy'n amrywio o swydd i swydd.
Ni fydd defnyddio cymhwysiad generig neu gymhwysiad AI awtomatig, fel Lazy Apply neu AI Apply, fel arfer yn darparu digon o dystiolaeth bersonol o'ch sgiliau a'ch profiad sy’n berthnasol i'r rôl. Gall hyn ei gwneud hi'n anodd i ni asesu eich addasrwydd a bydd yn lleihau eich siawns o gael eich rhoi ar y rhestr fer.
Er mwyn sicrhau bod eich cais yn cael ystyriaeth lawn, rydym yn argymell eich bod yn cyflwyno cais wedi'i deilwra sy'n mynd i'r afael yn uniongyrchol â'r meini prawf a restrir yn adran Manyleb y Person yr hysbyseb, gan ddarparu tystiolaeth glir ac enghreifftiau i ddangos sut rydych chi'n bodloni pob gofyniad.
Cymhwysedd ar gyfer Nawdd Fisa
- Os oes angen nawdd arnoch drwy lwybrau Fisa Gweithiwr Medrus neu Fisa Gweithiwr Iechyd a Gofal, gwnewch yn siŵr eich bod yn hunanasesu eich cymhwysedd i gael nawdd ar gyfer y rôl hon cyn gwneud cais.
- Gwiriwch y canllawiau fisa Gweithiwr Medrus neu'r canllawiau fisa Gweithiwr Iechyd a Gofal am fanylion ynghylch cymhwysedd swydd, cyflog, yr iaith Saesneg, a gofynion nawdd.
Os byddwch yn llwyddiannus ac os cewch eich dewis ar gyfer y rhestr fer am gyfweliad, cysylltir â chi ar e-bost gan ddefnyddio’r cyfeiriad a ddefnyddiwyd gennych i gofrestru. Sicrhewch eich bod yn edrych ar eich cyfrif e-bost yn rheolaidd.
Rydym wedi ymrwymo i recriwtio teg a thryloyw ac rydym yn credu mewn cyfle cyfartal yn ein gweithle. Ni fyddwn yn goddef gwahaniaethu ar sail oedran, anabledd, hunaniaeth rywiol, crefydd neu gred, hil neu genedligrwydd, priodas neu bartneriaeth sifil, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, patrwm gwaith, cyfrifoldebau gofalu, gweithgarwch gydag undebau llafur neu gredoau gwleidyddol – nac ar unrhyw sail arall. Croesawn geisiadau gan unigolion a ddymunent weithio’n rhan-amser neu wneud cais i rannu swydd.
Mae'r raddfa gyflog a ddangosir ar gyfer aelod o staff llawn amser, a chaiff y swm ei addasu pro rata ar gyfer y rhai sy'n gweithio llai na 37.5 awr yr wythnos.
Yn gyffredinol, bydd unrhyw un sy'n ymuno â'n Hymddiriedolaeth nad yw wedi gweithio yn y GIG o'r blaen, yn cychwyn ar bwynt cyntaf y band tâl a hysbysebir yn awtomatig. Yna bydd datblygiad cyflog yn cael ei bennu gan Adolygiadau Perfformiad a Datblygu blynyddol yn unol â Pholisi Datblygiad Cyflog GIG Cymru. Gellir ystyried cais am Gredyd Cynyddol, ond dim ond ar sail gwasanaeth cyfrifadwy â thystiolaeth a/neu brofiad cyfatebol, perthnasol y gellir ei ddyfarnu.
Gofynion yr ymgeisydd
Manyleb y person
Other
Meini prawf hanfodol
- • Yn gallu teithio i leoliadau ledled Cymru pan fo angen
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- • Gradd Anrhydedd • MSc neu brofiad a hyfforddiant cyfatebol mewn Cysylltiadau Cyhoeddus neu Newyddiaduraeth • Gwybodaeth a dealltwriaeth gynhwysfawr o’r canlynol: - Systemau a strwythurau'r GIG - Rolau a swyddogaethau sefydliadau iechyd y cyhoedd yng Nghymru • Dealltwriaeth drylwyr o’r cyfryngau ysgrifenedig, darlledu a chymdeithasol • Dealltwriaeth gynhwysfawr o fathau eraill o gyfryngau cyfathrebu, gan gynnwys cyfryngau gweledol a chlywedol
Meini prawf dymunol
- • Aelodaeth o Sefydliad Siartredig Cysylltiadau Cyhoeddus • Cymhwyster ôl-raddedig mewn Cysylltiadau Cyhoeddus • Materion a strwythurau iechyd y cyhoedd • Sector cyhoeddus Cymru • Cyfryngau Cymru • Llywodraeth Cymru a strwythurau gwleidyddol
Profiad
Meini prawf hanfodol
- • Cysylltiadau â'r cyfryngau • Cynllunio a gweithredu ymgyrchoedd
Meini prawf dymunol
- • Gwaith ym maes marchnata • Cyflogaeth mewn amgylchedd iechyd y cyhoedd neu wasanaeth iechyd • Gwaith mewn amgylchedd cymhleth gyda nifer o randdeiliaid • Profiad marchnata cymdeithasol
Sgilliau a Phriodoleddau
Meini prawf hanfodol
- • Sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig, llafar a gwrando rhagorol, gan gynnwys defnyddio sillafu a gramadeg • Sgiliau ardderchog ar gyfer gweithio gyda phob math o gyfryngau a dylanwadu arnynt • Sgiliau dylanwadu a negodi ardderchog a chryf • Yn gallu cymathu gwybodaeth gymhleth o nifer o ffynonellau a chymhwyso gwybodaeth bersonol i ddatblygu datrysiadau creadigol i broblemau cymhleth a heriol • Yn gallu cyflwyno gwybodaeth, a all fod yn gymhleth iawn ar brydiau, gan ddefnyddio amrywiaeth o offer cyflwyno i amrywiaeth o wahanol gynulleidfaoedd, y gall rhai ohonynt fod yn heriol, ar bob lefel yn y sefydliad mewn modd y gall staff ei ddeall ar bob lefel • Yn gallu cyfleu gwybodaeth gymhleth mewn modd nad yw’n wrthdrawiadol ac sy’n dangos empathi, tact, sensitifrwydd a dealltwriaeth i amrywiaeth o safbwyntiau gwahanol iawn • Yn gallu gweithio ar draws ffiniau sefydliadol ac o fewn amgylchedd gwahanol • Yn gallu magu ymddiriedaeth yn gyflym gan staff ac uwch reolwyr mewn asiantaethau gwahanol • Yn gallu ysbrydoli hyder mewn eraill gan gynnwys uwch reolwyr a chlinigwyr · Yn gallu cwrdd â therfynau amser tynn a llym · Yn gallu gweithio ar nifer o dasgau · Yn gallu aros yn ddigynnwrf mewn argyfwng · Yn gallu meddwl yn gyflym ac yn glir wrth wynebu heriau annisgwyl a chymhleth sy'n gofyn am ymateb ar unwaith · Yn gallu ymateb yn rhesymol i sefyllfaoedd emosiynol, llawn straen ac annymunol · Yn gallu gweithio ar eich menter eich hun · Ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol parhaus
Meini prawf dymunol
- • Mae sgiliau siarad ac ysgrifennu yn y Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau
- Job Description and Person Specification English (PDF, 576.3KB)
- Job Description and Person Specification Welsh (PDF, 616.3KB)
- Occupational Health Functional Requirements Form (PDF, 656.5KB)
- Hyderus o Ran Anabledd Arweinydd (PDF, 180.8KB)
- Canllawiau ar gyfer Ymgeiswyr (PDF, 278.7KB)
- Ein Rhwydweithiau Amrywiaeth (PDF, 330.6KB)
- Gwasanaethau Recriwtio Hysbysiad Preifatrwydd (PDF, 696.3KB)
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Sian Taylor
- Teitl y swydd
- Senior Communications Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
Dechrau eich cais
Mewngofnodi
Creu cyfrif
Creu eich cyfrif a gwneud cais am eich swydd newydd!










