Mae Trac yn falch o bweru recriwtio ar gyfer
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Gwybodaeth
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.
Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.
Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.
Darperir ein gwasanaethau yn:
- Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
- Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
- Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
- 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
- Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu
Cysylltu
- Address
- Second Floor, Block C
- Government Buildings
- Picton Terrace
- Carmarthen
- Carmarthenshire
- SA31 3BT
- Contact Number
- 0300 303 6138
Seiciatreg Gyffredinol Oedolion Meddyg Gradd Arbenigol
Accepting applications until: 17-May-2026 23:59
Statws y swydd wag: Open
Accepting applications until: 17-May-2026 23:59
Manylion allweddol
Lleoliad
- Gwefan
- Ysbyty Dydd Gorwelion
- Cyfeiriad
- Heol Llanbadarn
- Tref
- Aberystwyth
- Cod post
- SY23 1HB
- Major / Minor Region
- Sir Gaerfyrddin
Math o gontract a phatrwm gwaith
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 40 awr yr wythnos (10 sessiwn)
Cyflog
- Cyflog
- £104,401 - £115,343 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Gradd
- (Gwasanaethau Meddygol a Deintyddol y GIG: Meddyg Gradd Arbenigol)
Arbenigedd
- Prif leoliad
- Seiciatreg Oedolion
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Bydd Dyfarniad Cyflog Agenda ar gyfer Newid 2026/27 yn weithredol o 1 Ebrill 2026.
Sylwer: bydd cyflog ymgeiswyr llwyddiannus sydd â dyddiad dechrau o 1 Ebrill ymlaen yn unol â dyfarniad cyflog 2026/27. I gael rhagor o fanylion gweler y cylchlythyr cyflog sydd ar gael trwy ddilyn y ddolen hon https://www.nhs.wales/files/pc-resources/afc-w-02-2026-pdf-pdf?ts=1773244958086
Trosolwg o'r swydd
Rydym yn chwilio am Feddyg Gradd Arbenigol mewn Seiciatreg Gyffredinol Oedolion yn ein Bwrdd Iechyd yng Ngogledd Ceredigion. Mae gan ein Gwasanaeth Iechyd Meddwl hanes rhagorol ac mae wedi ennill gwobrau cenedlaethol gan y Coleg Brenhinol Seiciatreg (RCPsych) am ei ymroddiad i wella gwasanaethau iechyd meddwl oedolion yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru.
Rydym yn gweithio'n galed yn Trawsnewid Gwasanaethau Iechyd Meddwl yn y Bwrdd Iechyd, a'n pwrpas craidd yw gweithio gyda phobl ac arwain cymunedau i wella eu hiechyd meddwl a chorfforol a'u llesiant ar gyfer bywyd gwell; a hynny trwy ddarparu gwasanaethau atal, diagnosis, ymyrryd yn gynnar, triniaeth a gofal rhagorol ac ymatebol.
Rydym yn cynnig llwybr portffolio strwythuredig wedi'i gynllunio i gefnogi meddygon sy'n ceisio cofrestriad arbenigol trwy lwybrau anhraddodiadol. Ar y llwybr hwn rhoddir cyngor, mentora ac arweiniad cynhwysfawr. Mae hyn yn fwy na phroses – mae'n ymrwymiad i ddatblygu gyrfa, gan ddarparu llwybr i swydd meddyg ymgynghorol parhaol yn y gwasanaeth.
Advert
- Bod yn gyfrifol am asesu a rheoli cleifion cymunedol a chleifion mewnol perthnasol y Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol
- Disgwylir i’r ymgeisydd barhau i ymwneud yn agos â gofal y rhai a dderbynnir i'r wardiau cysylltiedig
- Darparu arweinyddiaeth glinigol effeithiol a chymryd rhan lawn yn y tîm amlddisgyblaethol
- Gwneud penderfyniadau arbenigol yn annibynnol
- Ysgwyddo cyfrifoldeb clinigol
- Cadw nodiadau o safon uchel
- Cyfathrebu â staff eraill i sicrhau gofal effeithiol i gleifion
- Hyrwyddo ymarfer clinigol sy'n seiliedig ar dystiolaeth
- Cyfathrebu'n effeithiol â chleifion, perthnasau a gofalwyr, gan eu gosod wrth wraidd y llwybr gofal
- Rheoli cleifion ag anghenion cymhleth
- Gallu gweithio fel aelod o'r tîm amlddisgyblaethol fel y bo'n briodol
- Cynnal asesiadau trylwyr
- Cymryd rhan yn natblygiad addysgu, hyfforddiant ac ymchwil yn y sefydliad
- Cymryd rhan weithredol mewn cyfarfodydd archwilio ac ymchwil rheolaidd a sesiynau addysgu ôl-raddedig a gynhelir gan yr adran briodol
- Cyfrannu mewnbwn clinigol uwch at y gwaith o foderneiddio a datblygu a rheolaeth weithredol barhaus Seiciatreg Gyffredinol Oedolion
- Gallu gweithio mewn modd hyblyg
- Gallu peidio â chynhyrfu wrth weithio o dan bwysau
- Gallu dangos menter a chydnerthedd i addasu mewn amgylchiadau sy'n newid yn gyflym
- Gallu defnyddio meddwl rhesymegol/ochrol i ddatrys problemau a gwneud penderfyniadau
- Bod yn gyfrifol am arwain a goruchwylio tîm
Sgiliau rhyngbersonol a sgiliau cydweithio rhagorol
Gweithio i'n sefydliad
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.
Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.
Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.
Darperir ein gwasanaethau yn:
- Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlfford
- Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
- Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
- 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartre
- Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Yr hyn a wnawn – Y Gyfarwyddiaeth Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu
Ar hyn o bryd mae BIPHDd yn cymryd rhan weithredol mewn rhaglen Trawsnewid Iechyd Meddwl arloesol ac yn aelod rhagweithiol o'r Rhwydwaith Cydweithredol Iechyd Meddwl Rhyngwladol. Yn 2015 sefydlodd BIPHDd Gonfensiwn Cydweithrediad Gefeillio Rhyngwladol newydd gydag Adran Gwasanaeth Iechyd Meddwl Trieste yn yr Eidal.
Bu'r Cydweithrediad Gefeillio Rhyngwladol yn fodd o ddatblygu Setiau Dysgu Gweithredol ffurfiol, rhaglenni cyfnewid staff (sy'n cynnwys y rhanddeiliaid ehangach, Defnyddwyr Gwasanaeth a Gofalwyr), mentora a chymorth i bob Gwasanaeth, gan gynnwys hyfforddiant, seminarau a chynadleddau ar y cyd.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn darparu gwasanaethau Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu i bobl ledled Gorllewin Cymru. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae Seiciatryddion Ymgynghorol wedi ail-drefnu ar hyd strwythurau "ffyrdd newydd o weithio". Mae’r gwasanaethau iechyd meddwl yn cynnwys y Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol a thimau cleifion mewnol confensiynol, Timau Allgymorth Dyfal, Timau Datrys Argyfwng a Gwasanaethau Cyswllt datblygol. Yng Nghymru, mae gan y Bwrdd Iechyd broffil uchel o ran datblygu dulliau seicolegol gyda Gwasanaeth Anhwylder Personoliaeth arbenigol, Seicosis Oedran Cynnar a Gwasanaeth Cymunedol Anhwylder Bwyta. At hynny, mae yna Wasanaethau Camddefnyddio Sylweddau a Gwasanaethau Fforensig Cymunedol ledled y Bwrdd Iechyd. Mae yna unedau derbyn mewn Ysbytai Cyffredinol Dosbarth a gwasanaethau arbenigol yn Hafan Derwen, Caerfyrddin. Mae'r gwasanaethau clinigol ar safle Hafan Derwen yn cynnwys Uned Gofal Dwys, ac Uned Diogelwch Isel (Cwm Seren). Mae'r unedau cleifion mewnol ar gyfer Anableddau Dysgu wrth ymyl Cwm Seren.
Mae safle Hafan Derwen hefyd yn darparu lle swyddfa ar gyfer rheolwyr Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu ledled ardal y Bwrdd Iechyd, cyfleuster Addysg Feddygol, a llyfrgell.
Y Tîm
Rydym yn uned hynod gyfeillgar a dynamig! Mae'r staff yn groesawgar ac yn gefnogol, yn y gweithle a’r tu allan iddo.
Disgwylir i'n meddygon iau fynychu a chymryd rhan yn y sesiynau addysgu wythnosol sy'n cael eu cynnal yn fewnol, yn ogystal â manteisio ar yr ystod ehangach o gyfleoedd dysgu y tu allan i'r Adran Achosion Brys. Rydym yn annog ein staff yn gryf i fynychu cyrsiau cymorth amrywiol, megis cyrsiau Cynnal Bywyd Uwch (ALS), Cynnal Bywyd Pediatrig Ewropeaidd (EPLS), Cynnal Bywyd Trawma Uwch (ATLS), ac ati.
Rydym yn flaenllaw o ran Llwybr Portffolio ym maes Seiciatreg, ac wrth wraidd ein dull gweithredu y mae athroniaeth ‘tyfu ein gweithlu ein hunain’. Mae llawer o'n meddygon uwch presennol wedi cwblhau'r llwybr portffolio yn llwyddiannus ac maent bellach yn feddygon ymgynghorol ac yn arweinwyr meddygol parhaol ym maes Seiciatreg. Mae eu straeon llwyddiant yn adlewyrchu cryfder a chynaliadwyedd ein model.
Rydym wedi cefnogi dros wyth o feddygon mewn Seiciatreg trwy'r llwybr hwn dros nifer o flynyddoedd, ac felly mae gennym ehangder o brofiad a gwybodaeth i'ch mentora trwy'r broses hon. Mae'n fraint gennym gael holl gwricwlwm craidd yr is-arbenigedd wedi’i gwmpasu yn y gwasanaeth, gan gynnwys Seicotherapi, sy'n golygu nad oes rhaid i chi ymgymryd â modiwlau y tu allan i'r Bwrdd Iechyd i gwblhau'r cwricwlwm.
Rydym yn cynnig system gymorth gadarn dan arweiniad meddyg ymgynghorol profiadol sy'n Arweinydd Llwybr Portffolio ac yn Aseswr Llwybr y Coleg Brenhinol. Ategir yr arweinyddiaeth hon gan ddau uwch-arweinydd meddygol arall sy'n ymroddedig i ddarparu cymorth clinigol â ffocws ar gyfer y llwybr. At hynny, mae arweinwyr gwasanaeth yn cyfrannu at y fframwaith, gan sicrhau goruchwyliaeth gynhwysfawr. Mae amser pwrpasol ar gyfer gweithgareddau llwybr hefyd wedi’i ymgorffori wrth gynllunio swyddi, gan atgyfnerthu ein hymrwymiad i gymorth strwythuredig a chynaliadwy.
Pam gweithio i ni?
Os ydych chi'n awyddus i weithio gyda thîm cyfeillgar a chefnogol, sy'n delio ag amrywiaeth eang o Gyflyrau Iechyd Meddwl, mewn lleoliad gwledig hardd gyda chydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith, yna cysylltwch â ni. Dewch i ymuno â'n tîm heddiw!
Bydd deiliad y swydd yn gweithio yn un o'n safleoedd i'w drafod a'i gytuno gyda'r ymgeisydd llwyddiannus. Bydd deiliad y swydd yn cael y cyfleoedd i gyfrannu'n weithredol at ddatblygiadau i’r gwasanaeth ar draws y Gyfarwyddiaeth Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu.
Swydd lawn-amser yw hon am 40 awr yr wythnos (10 sesiwn, sef 8 gofal clinigol uniongyrchol (DCC) a hyd at 2 weithgaredd proffesiynol ategol (SPA) (un ar gyfer Datblygiad Proffesiynol parhaus ac un ar gyfer Effeithiolrwydd Clinigol).
Bydd Cynllun y Swydd yn cael ei gytuno gyda'r ymgeisydd llwyddiannus pan fydd yn dechrau.
Bydd disgwyl eich bod wedi cael cymeradwyaeth Adran 12 a’ch bod yn gweithio tuag at statws Clinigydd Cymeradwy gydag o leiaf 12 mlynedd o brofiad ôl-raddedig, y dylai 6 ohonynt fod mewn Seiciatreg.
Byddwch yn gweithio mewn gwasanaeth dynamig a fydd yn cynnig cyfle gwych i wella eich gwybodaeth a'ch profiad ymhellach o ran asesu a thriniaeth frys ar gyfer cleifion â salwch meddwl difrifol a pharhaol. Rydym yn darparu addysgu a hyfforddiant rhagorol, gyda phroses gynefino gadarn i weithdrefnau'r GIG. Byddwch yn profi amodau cyflogaeth rhagorol wrth i chi ddatblygu eich dyfodol yn un o'r lleoliadau gorau yn y DU. Mae ein holl safleoedd yn cynnig ffordd hamddenol o fyw a chefn gwlad hardd. Gallwn gynnig profiad i chi mewn Ysbytai Cyffredinol modern mewn lleoliad gwledig.
I gael holl fanylion gofynion y rôl, gweler y Swydd-ddisgrifiad a Manyleb y Person sydd ynghlwm.
Cynhelir trafodaethau ynghylch patrwm gweithio yn ystod y broses cynllunio swyddi gychwynnol, lle gellir trafod ac archwilio dewisiadau, gofynion ac opsiynau yn llawn.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn ymrwymedig i ddarparu gwasanaethau gofal iechyd sy'n canolbwyntio ar y claf, gan sicrhau bod ein cymuned yn cael y gofal gorau posibl. Rydym yn gwerthfawrogi cynhwysiant ac yn meithrin diwylliant yn y gweithle sy'n croesawu amrywiaeth ac yn cefnogi cyfraniad pob unigolyn tuag at amgylchedd gofal iechyd croesawgar.
Rydym yn croesawu ceisiadau gan bob rhan o'r gymdeithas ac rydym yn ymrwymedig i greu gweithle amrywiol a chynhwysol.
Gweler y dolenni isod am fideos defnyddiol sy'n ymwneud â'r swydd hon:
Hywel Dda 3 Sir - https://youtu.be/9wTeZD4cQOw
Ffordd o fyw yng Nghymru –https://youtu.be/rICFhN-0_nY?si=9pFkL_BkfEiQLzAo
Rhaglen Ddatblygu Arweinyddiaeth Feddygol Hywel Dda –https://youtu.be/2fDHk9imTbo?si=OjYD8W41c-YNNVVA
Gweithio mewn Seiciatreg ym Hywel Dda - https://youtu.be/geea1ojNMg0
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir drwy gyfrwng y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau a wneir yn y Saesneg.
NODYN PWYSIG I YMGEISWYR: Mae ceisiadau am ein rolau yn cael eu hadolygu'n ofalus a'u rhoi ar restr fer yn seiliedig ar feini prawf penodol, sy'n amrywio o swydd i swydd. Efallai na fydd defnyddio cais generig i wneud cais am rolau lluosog neu ddibynnu ar wasanaethau ceisiadau deallusrwydd artiffisial awtomataidd, fel Lazy Apply neu AI Apply, yn darparu'r wybodaeth angenrheidiol, gan arwain at anwybyddu'ch cais. Er mwyn sicrhau bod eich cais yn cael ystyriaeth lawn, rydym yn argymell cyflwyno cais wedi'i deilwra sy'n mynd i'r afael yn uniongyrchol â'r meini prawf a restrir yn adran Manyleb y Person yr hysbyseb.
Trwy gyflwyno eich cais i NHS Jobs/Trac, rydych yn gydsynio i elfennau o ddata eich cais gael eu trosglwyddo i Gofnod Staff Electronig (ESR) y GIG a systemau diogel, mewnol Gweithlu’r GIG er mwyn cefnogi a rheoli eich recriwtio a’ch cyflogaeth o fewn y sefydliad sy’n eich cyflogi; i’w defnyddio gan yr adran Recriwtio at ddibenion gwirio eich Cofrestriad Proffesiynol ar-lein (lle bo’n briodol).
Mae’r prosesau hyn yn unol â phrosesu Teg a Chyfreithlon yn unol â Deddfwriaeth Diogelu Data cyfredol yn enwedig y rhai hynny mewn perthynas â’ch data personol neu bersonol sensitif (diffinir data personol sensitif fel unrhyw gyflwr iechyd meddwl neu gorfforol, tarddiad hiliol neu ethnig, cyfeiriadedd rhywiol, aelodaeth undeb llafur, barn wleidyddol neu gred crefyddol datganedig). Fel sefydliad, rydym yn sicrhau bod y ddeddfwriaeth sy’n diffinio cyfrinachedd yn cael ei dilyn megis y defnydd o ddata at ddibenion penodol, diffiniedig, a defnydd o ddata sy’n berthnasol ac nid yn ormodol wrth ymarfer cywirdeb data a diogelwch yr holl wybodaeth bersonol adnabyddadwy a gedwir.
Os cewch eich penodi’n llwyddiannus, trwy lenwi’r ffurflen gais rydych yn awdurdodi’r BIP i gael unrhyw fanylion gwasanaeth blaenorol i’r GIG yn cynnwys yr holl wybodaeth ar salwch a gedwir yn electronig, trwy’r broses Trosglwyddo Rhyng-awdurdod ar y Cofnod Staff Electronig.
I weithio yn y DU, mae angen nawdd ar bob ymgeisydd nad yw'n wladolyn o'r DU neu Weriniaeth Iwerddon i gael naill ai fisa Gweithiwr Iechyd a Gofal neu fisa Gweithiwr Medrus, oni bai bod gennych ganiatâd i weithio trwy lwybr arall. Dylai ymgeiswyr nad ydynt yn rhan o'r DU/Gweriniaeth Iwerddon sy'n dymuno gwneud cais hunanasesu'u tebygolrwydd o gael Tystysgrif Nawdd trwy ymweld â gwefan Fisâu a Mewnfudo'r DU. Os ydych chi'n gymwys i gael y fisa Iechyd a Gofal, mae'r costau ymgeisio yn is ac nid oes angen i chi dalu Gordal Iechyd Mewnfudo blynyddol.
Gofynion yr ymgeisydd
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Cofrestriad llawn a Thrwydded i Ymarfer gyda'r Cyngor Meddygol Cyffredinol.
- • Sgiliau Cynnal Bywyd Uwch Ardystiedig a Dilys ATLS / ALS / PALS.
- Cymeradwyaeth Adran 12
- Bydd disgwyl i'r ymgeisydd a benodir i'r rôl hon gael statws Clinigydd Cymeradwy AC o fewn 12 mis ar ôl dechrau.
Meini prawf dymunol
- Cymhwyster(au) clinigol ychwanegol.
- Statws Clinigydd Cymeradwy AC.
Profiad Clinigol
Meini prawf hanfodol
- O leiaf 12 mlynedd o brofiad ers cymhwyster meddygol sylfaenol gydag o leiaf 6 blynedd o fewn y maes arbenigedd (naill ai cyfnod parhaus neu gyfangwbl).
- Tystiolaeth o arwain tîm.
- Yn gallu dangos cymwyseddau craidd a sgiliau clinigol sy'n berthnasol i'r swydd.
- Tystiolaeth o reoli newid, gwella ansawdd neu archwilio.
Meini prawf dymunol
- Profiad blaenorol o weithio yn y GIG.
Addysgu
Meini prawf hanfodol
- Gallu asesu'n feirniadol y gofynion dysgu ar gyfer eich hun ac eraill.
- Tystiolaeth o drefnu rhaglenni ac addysgu pob grŵp staff.
- Parodrwydd i addysgu pob gradd o staff amlddisgyblaethol proffesiynol.
Meini prawf dymunol
- Cymhwyster addysgu uwch.
Ymchwil ac Ysgolheictod
Meini prawf hanfodol
- Arddangos gwybodaeth am ymchwil gyfredol ac arfer gorau yn y maes arbenigedd.
- Tystiolaeth o gadw'n gyfredol â'r ymchwil a'r arfer gorau.
- Tystiolaeth o leoli a defnyddio canllawiau clinigol yn briodol.
- Tystiolaeth o gyfathrebu a dehongli tystiolaeth ymchwil mewn ffordd ystyrlon.
Meini prawf dymunol
- Tystiolaeth o gymryd rhan mewn gwaith ymchwil.
Llywodraethu Clinigol
Meini prawf hanfodol
- Cyfranogiad mewn archwiliad clinigol (neu brosiect gwella ansawdd) a deall rôl archwilio wrth wella ymarfer meddygol.
- Cymryd rhan yn y broses flynyddol o adolygu cynllunio/arfarnu swyddi.
Meini prawf dymunol
- Tystiolaeth o arwain archwiliad clinigol (neu brosiect gwella ansawdd).
- Gwybodaeth am reoli risg.
Diogelu
Meini prawf hanfodol
- Dangos gwybodaeth am ofynion diogelu a chymryd cyfrifoldeb priodol.
- Tystiolaeth o gymhwyso deddfwriaeth cydraddoldeb ac amrywiaeth briodol.
Arall
Meini prawf dymunol
- Siarad Cymraeg (Lefel 1)
Sgiliau a Phriodoleddau
Meini prawf hanfodol
- Gallu gweithio'n hyblyg.
- Gallu bod yn bwyllog wrth weithio o dan bwysau
- Ymgymryd â chyfrifoldeb am arwain a goruchwylio tîm
- Sgiliau gweithio mewn tîm a sgiliau rhyngbersonol rhagorol.
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Dr Warren Lloyd
- Teitl y swydd
- Associate Medical Director
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01267 674124
Dechrau eich cais
Mewngofnodi
Creu cyfrif
Creu eich cyfrif a gwneud cais am eich swydd newydd!




