Mae Trac yn falch o bweru recriwtio ar gyfer
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Gwybodaeth
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.
Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.
Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.
Darperir ein gwasanaethau yn:
- Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
- Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
- Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
- 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
- Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu
Cysylltu
- Address
- Second Floor, Block C
- Government Buildings
- Picton Terrace
- Carmarthen
- Carmarthenshire
- SA31 3BT
- Contact Number
- 0300 303 6138
Arweinydd Clinigol y Gwasanaethau Deintyddol Cymunedol
Accepting applications until: 26-Jul-2026 23:59
Statws y swydd wag: Ar agor
Accepting applications until: 26-Jul-2026 23:59
Manylion allweddol
Lleoliad
- Gwefan
- Hafan Derwen
- Tref
- Caerfyrddin
- Cod post
- SA31 3BT
- Major / Minor Region
- Sir Gaerfyrddin
Math o gontract a phatrwm gwaith
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Rhan-amser - 30 awr yr wythnos (8 sesiwn)
Cyflog
- Cyflog
- £101,993 - £117,211 y flwyddyn pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Gradd
- (Gwasanaethau Meddygol a Deintyddol y GIG: Deintydd)
Arbenigedd
- Prif leoliad
- Deintyddol
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Mae'r raddfa gyflog ar gyfer Band 3 wedi'i haddasu fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2026/2027. Bydd yn cael ei weithredu ym mis Awst 2026 wedi'i ôl-ddyddio i 01 Ebrill 2026 lle bo'n berthnasol.
Trosolwg o'r swydd
Mae hwn yn gyfle gwerth chweil i ymgymryd ag uwch rôl arwain glinigol o fewn Gwasanaethau Deintyddol Cymunedol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Byddwch yn helpu i arwain gwasanaeth sy'n darparu gofal i blant ac oedolion nad ydynt efallai’n gallu cael gofal deintyddol arferol oherwydd anghenion ychwanegol, cymhleth neu arbenigol. Gan weithio ar draws ystod o leoliadau clinigol, byddwch yn cefnogi gofal diogel, tosturiol ac effeithiol, gan helpu i lunio sut mae'r gwasanaeth yn datblygu ar gyfer y dyfodol.
Rydym yn chwilio am rywun sydd â hygrededd clinigol cryf, barn gadarn a diddordeb gwirioneddol mewn arwain pobl a gwella gwasanaethau. Bydd angen i chi fod yn gyfforddus yn gweithio gyda chymhlethdod, cefnogi cydweithwyr, gwneud penderfyniadau cytbwys a magu perthnasoedd da ar draws timau a sefydliadau. Byddai'r rôl hon yn addas i weithiwr deintyddol proffesiynol profiadol sydd am gyfuno gofal clinigol uniongyrchol ag arweinyddiaeth ehangach, gwella gwasanaethau, llywodraethu a datblygu'r gweithlu.
Advert
Mae hwn yn gyfle cyffrous i ddarparu uwch arweinyddiaeth glinigol ar gyfer Gwasanaethau Deintyddol Cymunedol ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Bydd deiliad y swydd yn cefnogi’r gwaith o ddarparu a datblygu gofal deintyddol diogel o safon i blant ac oedolion ag anghenion ychwanegol a chymhleth, gan gynnal rôl glinigol weithredol. Gan weithio'n agos gyda chydweithwyr clinigol, proffesiynol a rheolaethol, bydd yn helpu i lunio cynlluniau gwasanaeth, arwain gwelliant, cefnogi rheoli atgyfeiriadau a datblygu llwybrau, a hyrwyddo gwell mynediad, ansawdd a chanlyniadau i gleifion.
Mae'r rôl yn cynnwys arwain a chefnogi gweithlu deintyddol amlddisgyblaethol medrus ar draws clinigau cymunedol, llwybrau mewn ysbytai, gofal cartref a lleoliadau gofal eraill. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cyfrannu at lywodraethu clinigol, gwella ansawdd, archwilio, diogelu, datblygu'r gweithlu a rhaglenni iechyd y geg. Bydd hefyd yn gweithio gyda phartneriaid ar draws gofal sylfaenol, cymunedol ac eilaidd, yn ogystal â rhwydweithiau iechyd cyhoeddus a phroffesiynol ehangach, i gefnogi gofal cydgysylltiedig, sy'n canolbwyntio ar atal.
Gweithio i'n sefydliad
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.
Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.
Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.
Darperir ein gwasanaethau yn:
- Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlfford
- Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
- Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
- 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartre
- Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
A chithau’n uwch arweinydd o fewn y Bwrdd Iechyd, bydd deiliad y swydd yn arwain y gwaith o ddarparu a datblygu gwasanaethau deintyddol sy'n seiliedig ar dystiolaeth, sy'n canolbwyntio ar atal sy'n ymateb i anghenion clinigol ac yn cyd-fynd â blaenoriaethau'r Bwrdd Iechyd. Mae'r rôl yn cynnwys arwain Gwasanaethau Deintyddol Cymunedol a Rhaglenni Iechyd y Geg Cymru Gyfan, cefnogi’r gwaith o gynllunio a moderneiddio gwasanaethau, a gweithio'n agos gyda chydweithwyr clinigol, deintyddol proffesiynol a rheolwyr i wella ansawdd, mynediad a chanlyniadau cleifion. Bydd deiliad y swydd hefyd yn cyfrannu'n uniongyrchol at gyflenwi clinigol drwy sesiynau clinigol pwrpasol bob wythnos ar draws safleoedd Hywel Dda fel y cytunwyd arnynt.
Bydd yr Arweinydd Clinigol yn arwain yn effeithiol ac arloesol i gefnogi gwaith gwella gwasanaethau, datblygu'r gweithlu, llywodraethu clinigol, gwella ansawdd, archwilio, ymchwil ac addysgu. Mae'r rôl yn gofyn am gydweithio agos ar draws y Bwrdd Iechyd a chyda rhanddeiliaid allanol gan gynnwys Llywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru a rhwydweithiau proffesiynol perthnasol. Bydd deiliad y swydd yn hyrwyddo safonau uchel o ymarfer proffesiynol, yn meithrin gweithio amlddisgyblaethol a thraws-safle, ac yn cefnogi'r gwaith o ddatblygu llwybrau clinigol di-dor i gleifion ag anghenion cymhleth.
Mae hon yn rôl uwch sy'n gofyn am weithiwr deintyddol proffesiynol credadwy a phrofiadol sydd â sgiliau arwain, cyfathrebu a threfnu cryf, ac ymrwymiad clir i werthoedd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol ac agenda ansawdd a gwella'r Bwrdd Iechyd. Yng Nghaerfyrddin mae’r swydd yn bennaf, a bydd yn ofynnol teithio ar draws y tair sir. Bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus ysbrydoli ac ysgogi eraill, arwain newid yn adeiladol, a chydbwyso arweinyddiaeth strategol ag ymarfer clinigol ymarferol a goruchwyliaeth weithredol.
Rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n gallu dangos hygrededd clinigol cryf a photensial i arwain, gan gynnwys y rhai sy'n barod i gamu i rôl arwain ehangach gyda’r gefnogaeth a’r datblygiad priodol.
Yn gyfnewid, byddwch yn ymuno â gwasanaeth deintyddol cefnogol sydd wedi ymrwymo i ansawdd, atal, gofal iechyd darbodus a chanlyniadau gwell i gleifion. Mae Hywel Dda yn cynnig cyfle i weithio ar draws cymunedau amrywiol yng ngorllewin Cymru, gyda chyfleoedd i ddylanwadu ar ddylunio gwasanaethau, cryfhau llwybrau clinigol a chyfrannu at welliant ystyrlon. Rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n barod i gyfrannu eu profiad, eu gwerthoedd a'u syniadau at rôl lle gallant wneud gwahaniaeth gwirioneddol i gleifion, staff a chymunedau lleol.
Rydym yn chwilio am weithiwr deintyddol proffesiynol credadwy a phrofiadol sy'n gallu cyfuno barn glinigol gref ag arweinyddiaeth weladwy, dosturiol ac ymarferol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cyfathrebu'n glir, yn adeiladu perthnasoedd gwaith cadarnhaol, yn cefnogi staff trwy newid ac yn defnyddio tystiolaeth, gwybodaeth am wasanaethau ac adborth cleifion i wella gofal. Bydd yn cyfrannu gwydnwch, barn gadarn, sgiliau trefnu da ac ymrwymiad clir i werthoedd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, gofal iechyd darbodus a gwelliant parhaus.
Hywel Dda 3 Sir - https://youtu.be/9wTeZD4cQOw
Ffordd o fyw yng Nghymru –
https://youtu.be/rICFhN-0_nY?si=9pFkL_BkfEiQLzAo
Rhaglen Ddatblygu Arweinyddiaeth Feddygol Hywel Dda –
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir drwy gyfrwng y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau a wneir yn y Saesneg.
NODYN PWYSIG I YMGEISWYR: Mae ceisiadau am ein rolau yn cael eu hadolygu'n ofalus a'u rhoi ar restr fer yn seiliedig ar feini prawf penodol, sy'n amrywio o swydd i swydd. Efallai na fydd defnyddio cais generig i wneud cais am rolau lluosog neu ddibynnu ar wasanaethau ceisiadau deallusrwydd artiffisial awtomataidd, fel Lazy Apply neu AI Apply, yn darparu'r wybodaeth angenrheidiol, gan arwain at anwybyddu'ch cais. Er mwyn sicrhau bod eich cais yn cael ystyriaeth lawn, rydym yn argymell cyflwyno cais wedi'i deilwra sy'n mynd i'r afael yn uniongyrchol â'r meini prawf a restrir yn adran Manyleb y Person yr hysbyseb.
Trwy gyflwyno eich cais i NHS Jobs/Trac, rydych yn gydsynio i elfennau o ddata eich cais gael eu trosglwyddo i Gofnod Staff Electronig (ESR) y GIG a systemau diogel, mewnol Gweithlu’r GIG er mwyn cefnogi a rheoli eich recriwtio a’ch cyflogaeth o fewn y sefydliad sy’n eich cyflogi; i’w defnyddio gan yr adran Recriwtio at ddibenion gwirio eich Cofrestriad Proffesiynol ar-lein (lle bo’n briodol).
Mae’r prosesau hyn yn unol â phrosesu Teg a Chyfreithlon yn unol â Deddfwriaeth Diogelu Data cyfredol yn enwedig y rhai hynny mewn perthynas â’ch data personol neu bersonol sensitif (diffinir data personol sensitif fel unrhyw gyflwr iechyd meddwl neu gorfforol, tarddiad hiliol neu ethnig, cyfeiriadedd rhywiol, aelodaeth undeb llafur, barn wleidyddol neu gred crefyddol datganedig). Fel sefydliad, rydym yn sicrhau bod y ddeddfwriaeth sy’n diffinio cyfrinachedd yn cael ei dilyn megis y defnydd o ddata at ddibenion penodol, diffiniedig, a defnydd o ddata sy’n berthnasol ac nid yn ormodol wrth ymarfer cywirdeb data a diogelwch yr holl wybodaeth bersonol adnabyddadwy a gedwir.
Os cewch eich penodi’n llwyddiannus, trwy lenwi’r ffurflen gais rydych yn awdurdodi’r BIP i gael unrhyw fanylion gwasanaeth blaenorol i’r GIG yn cynnwys yr holl wybodaeth ar salwch a gedwir yn electronig, trwy’r broses Trosglwyddo Rhyng-awdurdod ar y Cofnod Staff Electronig.
I weithio yn y DU, mae angen nawdd ar bob ymgeisydd nad yw'n wladolyn o'r DU neu Weriniaeth Iwerddon i gael naill ai fisa Gweithiwr Iechyd a Gofal neu fisa Gweithiwr Medrus, oni bai bod gennych ganiatâd i weithio trwy lwybr arall. Dylai ymgeiswyr nad ydynt yn rhan o'r DU/Gweriniaeth Iwerddon sy'n dymuno gwneud cais hunanasesu'u tebygolrwydd o gael Tystysgrif Nawdd trwy ymweld â gwefan Fisâu a Mewnfudo'r DU. Os ydych chi'n gymwys i gael y fisa Iechyd a Gofal, mae'r costau ymgeisio yn is ac nid oes angen i chi dalu Gordal Iechyd Mewnfudo blynyddol.
Gofynion yr ymgeisydd
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- • Yn meddu ar radd neu gymhwyster cyfatebol.
- • Wedi cofrestru’n llawn gyda’r Cyngor Deintyddol Cyffredinol.
- • Tystiolaeth o ddatblygiad pellach – addysg a/neu hyfforddiant.
Meini prawf dymunol
- • Cymhwyster lefel Meistr neu dystiolaeth o hyfforddiant a phrofiad i'r lefel honno.
- • Cymhwyster rheoli / arwain gwasanaeth iechyd.
- • Aelodaeth o'r Gyfadran Arwain a Rheoli Meddygol (FMLM)
Profiad Clinigol
Meini prawf hanfodol
- • Profiad sylweddol ar ôl cofrestru o fod yn ymarferydd deintyddol cofrestredig.
- • Profiad sylweddol mewn Gwasanaethau Deintyddol Cymunedol, gofal deintyddol sylfaenol cyflogedig, neu wasanaeth tebyg i gleifion ag anghenion ychwanegol a chymhleth.
- • Profiad o arwain yn glinigol a gwella gwasanaethau.
- • Profiad o reoli atgyfeiriadau, blaenoriaethu clinigol a gweithio ar lwybrau.
- • Profiad o weithio o fewn trefniadau llywodraethu clinigol, gan gynnwys arfarnu, cynllunio swyddi, archwilio neu wella ansawdd.
- • Profiad o weithio'n effeithiol gydag uwch glinigwyr, rheolwyr a sefydliadau partner.
Meini prawf dymunol
- • Profiad ar draws mwy nag un safle neu leoliad gofal.
- • Profiad o lwybrau cartref, ysbyty neu dawelyddu.
- • Profiad o ailgynllunio gwasanaethau, newid gweithlu neu foderneiddio.
Ymchwil ac Ysgoloriaeth
Meini prawf hanfodol
- • Tystiolaeth o gynnal gwybodaeth gyfredol am ymchwil, tystiolaeth ac arfer gorau sy'n berthnasol i'r rôl.
- • Y gallu i ddehongli a chymhwyso tystiolaeth i ymarfer clinigol a datblygu gwasanaethau.
- • Profiad o addysgu, goruchwylio neu gefnogi dysgu mewn lleoliad clinigol.
- • Profiad o ymchwil, archwilio, gwerthuso gwasanaeth neu weithgaredd ysgolheigaidd cysylltiedig.
Meini prawf dymunol
- • Cymhwyster mewn addysg neu addysgu deintyddol.
- • Profiad o addysgu israddedig neu ôl-raddedig.
- • Ymchwil wedi'i chyflwyno neu ei chyhoeddi mewn lleoliad proffesiynol neu wedi’i adolygu gan gymheiriaid.
Llywodraethu Clinigol
Meini prawf hanfodol
- • Profiad o archwilio clinigol, gwella ansawdd neu werthuso gwasanaeth.
- • Dealltwriaeth o egwyddorion llywodraethu clinigol a'u rôl wrth wella ymarfer deintyddol.
- • Y gallu i ddefnyddio canfyddiadau archwilio neu wella ansawdd i lywio newidiadau mewn ymarfer neu ddarparu gwasanaethau.
- • Profiad o weithgaredd llywodraethu neu archwilio amlddisgyblaethol.
Meini prawf dymunol
- • Gwybodaeth am reoli risg.
- • Gwybodaeth am brosesau gwerthuso a chynllunio swyddi.
Diogelu
Meini prawf hanfodol
- • Gwybodaeth am egwyddorion diogelu a chyfrifoldebau sy'n ymwneud â phlant ac oedolion mewn perygl.
- • Y gallu i adnabod pryderon diogelu a chymryd camau priodol yn unol â pholisïau a gweithdrefnau'r Bwrdd Iechyd.
- • Dealltwriaeth o bwysigrwydd uwchgyfeirio priodol, dogfennaeth a rhannu gwybodaeth mewn ymarfer diogelu.
- • Tystiolaeth o gymhwyso egwyddorion cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn ymarferol.
Sgiliau a Phriodoleddau
Meini prawf hanfodol
- • Cydredeg â gwerthoedd ac ymddygiadau craidd y Bwrdd Iechyd.
- • Y gallu i gyfathrebu'n glir ac yn effeithiol â chleifion, gofalwyr, cydweithwyr a sefydliadau partner.
- • Sgiliau rhyngbersonol a chydweithio cryf, gyda'r gallu i fagu perthnasoedd gwaith effeithiol ar draws ffiniau proffesiynol a sefydliadol.
- • Y gallu i arwain eraill, dylanwadu arnynt a’u cefnogi, gan gynnwys trwy newid a datblygu gwasanaethau.
- • Y gallu i beidio â chynhyrfu a chadw’n effeithiol o dan bwysau, gyda gwydnwch a barn gadarn mewn sefyllfaoedd cymhleth.
- • Y gallu i drefnu a rheoli blaenoriaethau cystadleuol, gyda sgiliau cryf o ran cynllunio, datrys problemau a gwneud penderfyniadau.
- • Ymrwymiad i welliant parhaus a'r gallu i ddefnyddio gwybodaeth a phrofiad i wella gwasanaethau a gofal cleifion.
- • Sgiliau digidol a thechnoleg gwybodaeth sydd wedi'u datblygu'n dda.
- • Dealltwriaeth o Arfer Deintyddol Da, ac ymrwymiad iddo, fel y nodir gan y Cyngor Deintyddol Cyffredinol.
- • Y gallu i yrru a theithio i leoliadau yn ôl y gofyn.
Arall
Meini prawf hanfodol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Marie Mickiewicz
- Teitl y swydd
- Head of Dental Services
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 07722 048259
Dechrau eich cais
Mewngofnodi
Creu cyfrif
Creu eich cyfrif a gwneud cais am eich swydd newydd!




