Mae Trac yn falch o bweru recriwtio ar gyfer
Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru
Gwybodaeth
Croeso i Iechyd Cyhoeddus Cymru - asiantaeth iechyd cyhoeddus genedlaethol Cymru. Rydym yn bodoli i ddiogelu a gwella iechyd a llesiant a lleihau anghydraddoldebau iechyd i bobl yng Nghymru.
I gael gwybod mwy ewch i Iechyd Cyhoeddus Cymru a gwyliwch y fideo hwn am ein Cynllun Strategol
Dilynwch ni ar Twitter, Facebook, Linkedin a Instagram
Gweithio gyda'n gilydd, gydag ymddiriedaeth a pharch, i wneud gwahaniaeth
Ein diben yw ‘gweithio gyda'n gilydd ar gyfer Cymru iachach'. Rydym yn bodoli i helpu pawb yng Nghymru i fyw bywydau hirach, iachach. Gyda'n partneriaid, ein nod yw cynyddu disgwyliad oes iach, gwella iechyd a llesiant, a lleihau anghydraddoldebau i bawb yng Nghymru, nawr ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Gyda'i gilydd, mae ein timau'n gweithio i atal clefyd, diogelu iechyd, a darparu arweinyddiaeth, gwasanaethau arbenigol ac arbenigedd iechyd cyhoeddus. Ni yw'r brif ffynhonnell o wybodaeth, ymchwil ac arloesedd iechyd cyhoeddus yng Nghymru.
Cysylltu
- Address
- No.2 Capital Quarter
- Tyndall Street
- Cardiff
- CF10 4BZ
- Contact Number
- 02921 500200
Uwch-ddadansoddwr Cudd-wybodaeth Iechyd y Cyhoedd
Accepting applications until: 23-Aug-2026 23:59
Statws y swydd wag: Ar agor
Accepting applications until: 23-Aug-2026 23:59
Manylion allweddol
Lleoliad
- Gwefan
- I'w gadarnhau - Caerdydd, Caerfyrddin neu Yr Wyddgrug
- Cyfeiriad
- 2 Chwarter y Brifddinas Stryd Tyndall
- Tref
- Caerdydd
- Cod post
- CF10 4BZ
- Major / Minor Region
- Caerdydd
Math o gontract a phatrwm gwaith
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
Cyflog
- Cyflog
- £40,559 - £48,841 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Gradd
- (Gradd 6)
Arbenigedd
- Prif leoliad
- Research, Data and Digital Directorate
Croeso i Iechyd Cyhoeddus Cymru, asiantaeth iechyd cyhoeddus genedlaethol Cymru
Ein gweledigaeth yw Gweithio i wireddu dyfodol iachach i Gymru
Am ragor o wybodaeth amdanom, ewch i’n tudalen hafan, darllenwch am ein cynllun strategol
Dilynwch ni ar Twitter, Facebook, LinkedIn and Instagram
Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg. I gefnogi ein gwasanaeth i Gymru gyfan, croesawn yn fawr ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Nodyn Pwysig ar gyfer swyddi a gaiff eu cynnig ar sail tymor penodol neu secondiad.
Gall unigolion sydd â swydd barhaol (sylfaenol) yn y GIG ond gael eu penodi drwy secondiad. Bydd angen i’ch Rheolwr llinell presennol roi cymeradwyaeth ar gyfer secondiad cyn gellir cyflwyno cais.
Mae'r raddfa gyflog ar gyfer Band 3 wedi'i haddasu fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2026/2027. Bydd yn cael ei weithredu ym mis Awst 2026 wedi'i ôl-ddyddio i 01 Ebrill 2026 lle bo'n berthnasol.
Trosolwg o'r swydd
Hoffech chi ymuno â thîm arloesol sy'n archwilio ffyrdd newydd o greu a chyfathrebu gwybodaeth effeithiol am iechyd Cymru?
Yma yn y Tîm Dadansoddi, rydym yn falch o'n henw da am gyfuno sgiliau dadansoddi â dealltwriaeth o iechyd y cyhoedd. Gallwn gynnig lle gwych i chi weithio gyda chydbwysedd o weithio gartref ac o’r swyddfa sy'n addas i chi; cyfleoedd hyfforddi a datblygu, gweithio hyblyg ac amgylchedd cefnogol, cyfeillgar a chynhwysol.
Mae hwn yn gyfnod cyffrous i weithio ym maes gwybodaeth iechyd y cyhoedd, wrth i ni arloesi gyda dulliau gwyddor data, trosglwyddo i Google Cloud Platform, cefnogi adferiad poblogaeth Cymru o bandemig Covid-19, a dadansoddi effaith yr argyfwng costau byw ar iechyd a llesiant.
Mae'r Tîm Dadansoddi yn darparu gwybodaeth am boblogaeth Cymru gan ddefnyddio ystod eang o ddata ar iechyd, llesiant a'i benderfynyddion i helpu i lywio gwelliant yn iechyd y boblogaeth; sicrhau bod gwasanaethau iechyd yn cyd-fynd â’r angen; a lleihau anghydraddoldebau iechyd.
Byddwch yn cefnogi datblygiad Dadansoddwyr o fewn y tîm trwy reolaeth llinell a darparu hyfforddiant a chyngor mewnol. Gan weithio gydag aelodau eraill o'r tîm, byddwch yn gyfrifol am gyfrannu at ac arwain datblygiad cynhyrchion gwybodaeth iechyd y cyhoedd megis adroddiadau a dangosfyrddau.
Gall y swydd fod wedi'i lleoli yn ein swyddfeydd yng Nghaerdydd, Caerfyrddin neu'r Wyddgrug, er bod y tîm yn gweithio o'r cartref yn bennaf.
Advert
Rhoi cyngor ynghylch pryd i gymhwyso ystod o dechnegau ystadegol a dadansoddi arbenigol i ddehongli data iechyd y cyhoedd cymhleth, gan sicrhau bod allbynnau'n gywir, yn brydlon, ac yn cyd-fynd â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.
Arwain prosiectau sy’n gofyn am gydweithio â chydweithwyr a rhanddeiliaid i ddatblygu a chyflwyno adroddiadau, dangosfyrddau a delweddau data o ansawdd uchel sy'n llywio gwneud penderfyniadau ac yn gwella canlyniadau iechyd y boblogaeth.
Ymgysylltu â defnyddwyr i ddeall eu hanghenion data, gan eu trosi'n fewnwelediadau ymarferol trwy biblinellau dadansoddi y gellir eu hatgynhyrchu ac argymhellion sy'n seiliedig ar dystiolaeth.
Ymgymryd â rolau rheoli prosiectau a/neu reoli staff.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; Mae croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg a / neu Saesneg wneud cais.
Gweithio i'n sefydliad
Iechyd Cyhoeddus Cymru ydym ni – yr asiantaeth iechyd y cyhoedd genedlaethol yng Nghymru. Ein pwrpas yw ‘Gweithio gyda'n gilydd ar gyfer Cymru Iachach’. Rydym yn bodoli i helpu pawb yng Nghymru i fyw bywydau hirach, iachach a hapusach. Gyda'n partneriaid, rydym yn gweithio i gynyddu disgwyliad oes iach, gwella iechyd a llesiant, a lleihau anghydraddoldebau i bawb yng Nghymru, yn awr ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Mae ein timau'n gweithio i atal clefydau, diogelu iechyd, a darparu arweinyddiaeth, gwasanaethau arbenigol ac arbenigedd iechyd y cyhoedd. Ni yw prif ffynhonnell gwybodaeth, ymchwil ac arloesedd iechyd y cyhoedd yng Nghymru. Mewn byd sy'n wynebu heriau iechyd cymhleth, nid yw ein gwaith erioed wedi bod mor bwysig.
Rydym yn cael ein harwain gan ein Gwerthoedd, 'Gweithio gyda'n gilydd, gydag ymddiriedaeth a pharch, i wneud gwahaniaeth'. Rydym wedi ymrwymo i adeiladu gweithle cynhwysol sy'n gwerthfawrogi cydraddoldeb ac amrywiaeth. Rydym yn croesawu ceisiadau sy'n cynrychioli amrywiaeth gyfoethog y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu ac sy'n cefnogi trefniadau gweithio hyblyg, gan gynnwys rolau rhan-amser a rhannu swyddi.
I gael gwybod rhagor am weithio i ni a’r buddion rydym yn eu cynnig, ewch i https://icc.gig.cymru/gyrfaoedd/
I gael arweiniad ar y broses ymgeisio, ewch i https://icc.gig.cymru/gyrfaoedd/gwybodaeth-a-chanllawiau-i-ymgeiswyr/
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Dadansoddi a Dehongli Data
- Dehongli a dadansoddi setiau data cymhleth, o sawl ffynhonnell yn annibynnol, gan nodi tueddiadau, anomaleddau a goblygiadau ar gyfer polisi iechyd y cyhoedd a chyflenwi gwasanaethau.
- Ymarfer barn broffesiynol i ddewis a chymhwyso dulliau dadansoddi priodol, gan gydbwyso trylwyredd ystadegol â chyfyngiadau ymarferol ac anghenion rhanddeiliaid.
- Addasu modelau cenedlaethol neu safonol i setiau data lleol a chyd-destunau gwasanaeth, gan wella perthnasedd ac effaith dadansoddol.
- Deall a rheoli data coll neu anghyflawn, gan gymhwyso technegau priodol i sicrhau uniondeb dadansoddol.
- Cynllunio ar gyfer gwaith dadansoddi iterus, gan ymgorffori adborth a blaenoriaethau sy'n dod i'r amlwg i fireinio allbynnau a sicrhau'r gwerth mwyaf posibl.
- Cymhwyso’r chwe dimensiwn ansawdd data i asesu a chyfleu cyfyngiadau o ran dehongli, gan sicrhau tryloywder a dibynadwyedd.
Offer Technegol a Meddalwedd
- Defnyddio offer dadansoddi uwch fel R, Python, SQL, a Google Cloud Platform i ddatblygu llifau gwaith effeithlon y gellir eu hatgynhyrchu.
- Arwain datblygiad piblinellau dadansoddi, gan gymhwyso arferion da mewn datblygu meddalwedd, profi, rheoli fersiynau a dogfennu.
- Dewis yr offer mwyaf priodol ar gyfer pob tasg, gan ddangos hyblygrwydd ac arweinyddiaeth dechnegol ar draws prosiectau.
- Sicrhau cydymffurfedd â phrotocolau diogelwch penodol i'r platfform a chyfrannu at ddatblygu amgylcheddau dadansoddi diogel y gellir eu hehangu.
- Ymgysylltu â'r gymuned ddadansoddi ehangach i aros yn gyfredol o ran offer, technegau a safonau sy'n dod i'r amlwg.
Ansawdd Data a Llywodraethu
- Goruchwylio prosesau llywodraethu data, gan sicrhau bod setiau data a ddefnyddir mewn dadansoddiadau iechyd y cyhoedd yn ddiogel, yn hygyrch, ac yn addas at y diben.
- Trin data sensitif yn unol â safonau llywodraethu gwybodaeth y GIG, gan ddefnyddio platfformau diogel at ddibenion mynediad a rhannu.
- Cynnal metadata a dogfennaeth i gefnogi y gallu i atgynhyrchu ac archwilio gwaith dadansoddi.
- Nodi a datrys problemau ansawdd data, gan gynnwys cofnodion coll, cofnodion anghyson, neu rhai sydd wedi’u dyblygu, gan ddefnyddio technegau glanhau a dilysu systematig.
- Cymhwyso dulliau rheoli datgelu ystadegol a dad-adnabod i ddiogelu cyfrinachedd mewn allbynnau.
- Codi pryderon ynghylch ansawdd data neu lywodraethu yn brydlon ac yn briodol, gan gyfrannu at welliant parhaus mewn arferion rheoli data.
Cyfrifoldebau Gweithredol a Sefydliadol
- Arwain y gwaith o gynllunio a chyflawni prosiectau dadansoddi gan ddefnyddio methodoleg Agile. Rheoli amserlenni, adnoddau a mewnbynnau rhanddeiliaid i sicrhau bod allbynnau'n bodloni’r amcanion strategol.
- Cysylltu gwaith dadansoddi â blaenoriaethau sefydliadol, gan addasu cynlluniau mewn ymateb i faterion iechyd y cyhoedd sy'n dod i'r amlwg ac anghenion rhanddeiliaid sy'n esblygu.
- Cynhyrchu allbynnau sy'n llywio gwneud penderfyniadau mewn perthynas â pholisi, dyrannu adnoddau a chyflenwi gwasanaethau
- Darparu dadansoddiad o ddata cofrestru i ddeall patrymau clefydau a chyflyrau yn y boblogaeth, ac effeithiolrwydd ymyriadau sydd â dehongliad iechyd y cyhoedd
- Cynnal a diweddaru setiau data, metadata a dogfennaeth yn unol â safonau llywodraethu ac archwilio.
- Sicrhau bod allbynnau dadansoddi yn cael eu storio a'u rhannu'n ddiogel, gan barchu cyfrinachedd a gofynion diogelu data.
- Cymryd cyfrifoldeb am ddefnyddio a chynnal a chadw offer TG ac offer meddalwedd dadansoddi yn ddiogel.
Cyfathrebu ac Ymgysylltu â Rhanddeiliaid:
- Cyflwyno gwybodaeth gymhleth am iechyd y cyhoedd i uwch randdeiliaid, gan deilwra’r cyfathrebu i gynulleidfaoedd technegol ac annhechnegol er mwyn eglurder ac effaith.
- Hwyluso gweithdai i randdeiliaid er mwyn cyd-ddylunio datrysiadau dadansoddi, datrys blaenoriaethau sy'n gwrthdaro, a sicrhau bod allbynnau'n canolbwyntio ar y defnyddiwr.
- Cyfathrebu’n agored ac yn onest, gan gynnwys wrth gyfleu negeseuon sensitif neu heriol, gan ddangos gwydnwch emosiynol a phroffesiynoldeb.
- Cyfieithu cysyniadau technegol i iaith hygyrch, rhoi cyflwyniadau ffurfiol, a chydymffurfio â safonau hygyrchedd ar gyfer delweddu data ac adrodd.
- Defnyddio iaith sy'n niwtral yn wleidyddol ac addasu eich arddull cyfathrebu i gyd-fynd â chynulleidfaoedd a chyd-destunau amrywiol.
- Cydweithio'n greadigol ac yn rhagweithiol â rhanddeiliaid i ddatrys heriau dadansoddi a chyflwyno mewnwelediadau y gellir gweithredu arnynt.
Arweinyddiaeth, Mentora a Datblygiad Proffesiynol
- Darparu arweinyddiaeth dechnegol ar draws prosiectau dadansoddi, gan osod safonau ar gyfer eu hatgynhyrchu, safonau sicrhau ansawdd a llywodraethu.
- Mentora a hyfforddi dadansoddwyr iau, gan gefnogi eu datblygiad trwy weithdrefnau hyfforddi, ymsefydlu, a throsglwyddo sgiliau.
- Cyfrannu at waith cynllunio tîm, recriwtio a gweithgareddau rheoli perfformiad, gan gynnwys arfarniadau a chynlluniau datblygu personol.
- Hyrwyddo gwerthoedd proffesiynol a dangos tosturi a chefnogaeth i gydweithwyr.
- Nodi anghenion datblygu personol a chwilio am gyfleoedd dysgu, gan rannu gwybodaeth ac arferion gorau ar draws y tîm a rhwydweithiau ehangach.
- Ymgysylltu â chymunedau ymarfer sefydliadol a phroffesiynol, gan gyfrannu at ddatblygu safonau dadansoddi a hyrwyddo dadansoddiadau moesegol o ansawdd uchel.
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Ceidw Iechyd Cyhoeddus Cymru yr hawl i gau’r swydd wag hon yn gynnar. Felly rydym yn annog ceisiadau cynnar.
Rhoddir blaenoriaeth i staff sy’n aros i gael eu hadleoli. Rydym yn cadw’r hawl felly i dynnu’r hysbyseb hon yn ôl ar unrhyw adeg.
Os oes gennych anabledd a bod gennych unrhyw anghenion penodol i'ch galluogi i gymryd rhan yn y broses ymgeisio, cysylltwch â [email protected]
NODYN PWYSIG I YMGEISWYR: Mae ceisiadau am ein rolau yn cael eu hadolygu'n ofalus a'u rhoi ar restr fer yn seiliedig ar feini prawf penodol, sy'n amrywio o swydd i swydd.
Ni fydd defnyddio cymhwysiad generig neu gymhwysiad AI awtomatig, fel Lazy Apply neu AI Apply, fel arfer yn darparu digon o dystiolaeth bersonol o'ch sgiliau a'ch profiad sy’n berthnasol i'r rôl. Gall hyn ei gwneud hi'n anodd i ni asesu eich addasrwydd a bydd yn lleihau eich siawns o gael eich rhoi ar y rhestr fer.
Er mwyn sicrhau bod eich cais yn cael ystyriaeth lawn, rydym yn argymell eich bod yn cyflwyno cais wedi'i deilwra sy'n mynd i'r afael yn uniongyrchol â'r meini prawf a restrir yn adran Manyleb y Person yr hysbyseb, gan ddarparu tystiolaeth glir ac enghreifftiau i ddangos sut rydych chi'n bodloni pob gofyniad.
Cymhwysedd ar gyfer Nawdd Fisa
- Os oes angen nawdd arnoch drwy lwybrau Fisa Gweithiwr Medrus neu Fisa Gweithiwr Iechyd a Gofal, gwnewch yn siŵr eich bod yn hunanasesu eich cymhwysedd i gael nawdd ar gyfer y rôl hon cyn gwneud cais.
- Gwiriwch y canllawiau fisa Gweithiwr Medrus neu'r canllawiau fisa Gweithiwr Iechyd a Gofal am fanylion ynghylch cymhwysedd swydd, cyflog, yr iaith Saesneg, a gofynion nawdd.
Os byddwch yn llwyddiannus ac os cewch eich dewis ar gyfer y rhestr fer am gyfweliad, cysylltir â chi ar e-bost gan ddefnyddio’r cyfeiriad a ddefnyddiwyd gennych i gofrestru. Sicrhewch eich bod yn edrych ar eich cyfrif e-bost yn rheolaidd.
Rydym wedi ymrwymo i recriwtio teg a thryloyw ac rydym yn credu mewn cyfle cyfartal yn ein gweithle. Ni fyddwn yn goddef gwahaniaethu ar sail oedran, anabledd, hunaniaeth rywiol, crefydd neu gred, hil neu genedligrwydd, priodas neu bartneriaeth sifil, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, patrwm gwaith, cyfrifoldebau gofalu, gweithgarwch gydag undebau llafur neu gredoau gwleidyddol – nac ar unrhyw sail arall. Croesawn geisiadau gan unigolion a ddymunent weithio’n rhan-amser neu wneud cais i rannu swydd.
Mae'r raddfa gyflog a ddangosir ar gyfer aelod o staff llawn amser, a chaiff y swm ei addasu pro rata ar gyfer y rhai sy'n gweithio llai na 37.5 awr yr wythnos.
Yn gyffredinol, bydd unrhyw un sy'n ymuno â'n Hymddiriedolaeth nad yw wedi gweithio yn y GIG o'r blaen, yn cychwyn ar bwynt cyntaf y band tâl a hysbysebir yn awtomatig. Yna bydd datblygiad cyflog yn cael ei bennu gan Adolygiadau Perfformiad a Datblygu blynyddol yn unol â Pholisi Datblygiad Cyflog GIG Cymru. Gellir ystyried cais am Gredyd Cynyddol, ond dim ond ar sail gwasanaeth cyfrifadwy â thystiolaeth a/neu brofiad cyfatebol, perthnasol y gellir ei ddyfarnu.
Gofynion yr ymgeisydd
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Gradd mewn pwnc rhifog NEU gymhwyster cyfatebol NEU lefel gyfatebol o wybodaeth a sgiliau
- Gwybodaeth a phrofiad arbenigol o dechnegau ystadegol a dadansoddi
Meini prawf dymunol
- Gwybodaeth a diddordeb mewn technegau Gwyddor Data
- Gradd Meistr mewn pwnc rhifog NEU gymhwyster cyfatebol NEU lefel gyfwerth o wybodaeth a sgiliau
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad o gyflawni tasgau dadansoddi cymhleth a chreu allbynnau i'w defnyddio gan eraill
- Profiad o gyfleu gwybodaeth gymhleth i gynulleidfa annhechnegol
Meini prawf dymunol
- Sgiliau ysgrifennu adroddiadau a chyflwyno
- Profiad o ddefnyddio setiau data cymhleth yn ymwneud ag iechyd y boblogaeth
- Yn gyfarwydd â therminoleg feddygol a systemau codio e.e. ICD10, OPCS, codau READ, SNOMED CT
Sgiliau a Phriodoleddau
Meini prawf hanfodol
- Sgiliau TG uwch a phrofiad o ddefnyddio cymwysiadau Microsoft Office
- Gwybodaeth a phrofiad o feddalwedd gyfrifiadurol arbenigol, fel SQL, R Studio, Python neu Google Cloud Platform ar gyfer cynhyrchu dadansoddiadau cymhleth o ddata iechyd y cyhoedd neu ddata cysylltiedig
- Dealltwriaeth o bolisïau ac egwyddorion Iechyd Cyhoeddus Cymru a'r gallu i weithio o fewn y canllawiau hyn
- Dealltwriaeth glir o faterion cyfredol a pharhaus sy'n effeithio ar iechyd y cyhoedd
- Sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol rhagorol
- Yn gallu dangos dealltwriaeth a chymhwysiad o werthoedd ein gweithle, ynghyd â'r ymddygiadau sylfaenol a nodwyd ar gyfer llwyddiant yn y rôl hon
Meini prawf dymunol
- Mae Sgiliau Cymraeg yn ddymunol ar lefelau 1 i 5 o ran deall, siarad, darllen ac ysgrifennu yn y Gymraeg
Hanfodol
Meini prawf hanfodol
- Agwedd hyblyg at waith
- Yn gallu gweithio ar eich liwt eich hun ac ar y cyd mewn amgylchedd tîm
- Yn gallu gweithio o fewn terfynau amser a blaenoriaethu'ch llwyth gwaith eich hun
- Ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol parhaus
- Yn gallu teithio rhwng safleoedd yn brydlon i ddiwallu anghenion y gwasanaeth
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Louise Steans
- Teitl y swydd
- Advanced Public Health Intelligence Analyst
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
Dechrau eich cais
Mewngofnodi
Creu cyfrif
Creu eich cyfrif a gwneud cais am eich swydd newydd!










