Mae Trac yn falch o bweru recriwtio ar gyfer
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Gwybodaeth
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.
Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.
Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.
Darperir ein gwasanaethau yn:
- Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
- Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
- Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
- 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
- Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu
Cysylltu
- Address
- Second Floor, Block C
- Government Buildings
- Picton Terrace
- Carmarthen
- Carmarthenshire
- SA31 3BT
- Contact Number
- 0300 303 6138
Meddyg Teulu gyda Rôl Estynedig mewn Dermatoleg
Accepting applications until: 09-Aug-2026 23:59
Statws y swydd wag: Ar agor
Accepting applications until: 09-Aug-2026 23:59
Manylion allweddol
Lleoliad
- Gwefan
- Ysbyty Tywysog Philip
- Cyfeiriad
- Bryngwyn Mawr
- Tref
- Llanelli
- Cod post
- SA14 8QF
- Major / Minor Region
- Sir Gaerfyrddin
Math o gontract a phatrwm gwaith
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (10 sesiwn)
Cyflog
- Cyflog
- £123,573 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Gradd
- (Gwasanaethau Meddygol a Deintyddol y GIG: Meddyg Teulu)
Arbenigedd
- Prif leoliad
- Meddyg Teulu
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Mae'r raddfa gyflog ar gyfer Band 3 wedi'i haddasu fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2026/2027. Bydd yn cael ei weithredu ym mis Awst 2026 wedi'i ôl-ddyddio i 01 Ebrill 2026 lle bo'n berthnasol.
Trosolwg o'r swydd
Bydd y Meddyg Teulu â Rôl Estynedig (GPwER) mewn Dermatoleg yn asesu, diagnosio, trin a rheoli cleifion sy’n cael eu cyfeirio at wasanaethau dermatoleg gofal eilaidd, a hynny mewn modd arbenigol a pharhaus. Gan weithio’n annibynnol o fewn cymwyseddau, fframweithiau llywodraethu a chwmpas ymarfer y cytunwyd arnynt, bydd deiliad y swydd yn rheoli llwybr canser y croen, gan gefnogi’r gwaith o ddarparu gofal o safon sy’n canolbwyntio ar y claf, a sicrhau mynediad amserol at wasanaethau arbenigol.
Mae’r rôl yn rhan annatod o ddarparu gwasanaethau dermatoleg modern, gan fod yn rhyngwyneb allweddol rhwng gofal sylfaenol ac eilaidd. Bydd y GPwER yn cefnogi dermatolegwyr ymgynghorol trwy reoli atgyfeiriadau priodol yn annibynnol, cyfrannu at leihau amseroedd aros, gwella llif cleifion drwy’r gwasanaeth, a sicrhau bod cleifion yn cael gofal yn y lleoliad mwyaf priodol o’r cychwyn cyntaf.
Gan weithio’n rhan o’r tîm dermatoleg amlddisgyblaethol, bydd deiliad y swydd yn ymgymryd â chlinigau cleifion allanol arbenigol, yn rhoi cyngor ac arweiniad clinigol arbenigol, yn cymryd rhan mewn prosesau brysbennu, ac yn cyfrannu at reoli canserau’r croen ac asesu briwiau’r croen gyda chanllawiau lleol a chenedlaethol. Os yw wedi’i achredu’n briodol, gall deiliad y swydd ymgymryd â theledermosgopi, biopsïau’r croen a mân weithdrefnau llawfeddygol o fewn cymwyseddau y cytunir arnynt.
Advert
Bydd deiliad y swydd yn ymgymryd â gweithgarwch cleifion allanol annibynnol, gan weithio o fewn cymwyseddau a threfniadau llywodraethu y cytunir arnynt, a bydd yn cydweithio’n agos â dermatolegwyr ymgynghorol, nyrsys arbenigol, timau llawfeddygol a chyd-weithwyr amlddisgyblaethol i sicrhau gofal diogel, effeithiol ac amserol i gleifion.
Bydd disgwyl i ddeiliad y swydd weithio’n hyblyg ar draws lleoliadau cleifion allanol, gweithdrefnol, rhithwir ac amlddisgyblaethol, gan gyfrannu at ddarparu gwasanaeth dermatoleg modern, sy’n canolbwyntio ar y claf, a chan wella mynediad, cefnogi llwybrau canser, a darparu gofal arbenigol o safon yn agosach at anghenion cleifion.
Gweithio i'n sefydliad
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.
Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.
Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.
Darperir ein gwasanaethau yn:
- Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlfford
- Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
- Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
- 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartre
- Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Bydd y GPwER yn chwarae rhan weithredol mewn datblygu gwasanaethau, gwella ansawdd ac ailddylunio llwybrau, gan gefnogi’r gwaith o ddarparu gwasanaethau dermatoleg cynaliadwy ar draws y system gofal iechyd. Mae hyn yn cynnwys cyfrannu at weithgareddau archwilio, llywodraethu clinigol, addysg a hyfforddiant, a chydweithio â chyd-weithwyr gofal sylfaenol i ddatblygu llwybrau gofal integredig sy’n gwella canlyniadau a phrofiad cleifion.
Bydd disgwyl i ddeiliad y swydd gynnal safonau uchel o ymarfer clinigol, dangos datblygiad proffesiynol parhaus, a gweithio’n agos gyda meddygon ymgynghorol, nyrsys arbenigol, gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd a thimau gweinyddol i ddarparu gofal dermatoleg diogel, effeithiol ac effeithlon.
Cyfrifoldebau Clinigol
- Ymgymryd â chlinigau cleifion allanol dermatoleg arbenigol i gleifion sy’n cael eu cyfeirio at wasanaethau gofal eilaidd, gan asesu, diagnosio a rheoli ystod eang o friwiau a chyflyrau’r croen lle’r amheuir canser.
- Rheoli cleifion yn annibynnol a llunio cynlluniau triniaeth a threfnu ôl-driniaeth briodol.
- Darparu barn a chyngor clinigol arbenigol i atgyfeirwyr ac aelodau o’r tîm amlddisgyblaethol.
- Sicrhau bod cleifion yn cael gofal yn y lleoliad mwyaf priodol, gan gefnogi llwybrau sy’n osgoi apwyntiadau ymgynghorol diangen wrth gynnal safonau uchel o lywodraethu clinigol.
Rheoli Briwiau a Chanser y Croen
- Ymgymryd â Chlinigau Canser y Croen pwrpasol, gan asesu cleifion a atgyfeiriwyd trwy lwybrau brys lle’r amheuir canser, a diagnosio, rheoli ac atgyfeirio ymlaen mewn modd amserol, yn ôl y gofyn.
- Cynnal Clinigau Asesu Briwiau, gan gynnwys gwerthuso briwiau croen pigmentog a di-bigment gan ddefnyddio dermosgopeg a thechnegau diagnostig cydnabyddedig eraill.
- Cymryd rhan yn y gwaith o asesu a rheoli cleifion lle’r amheuir melanoma, canser y croen nad yw’n felanoma, a mathau eraill o falaenedd croenol, gan uwchgyfeirio achosion yn briodol yn unol â chanllawiau lleol a chenedlaethol.
- Cefnogi’r broses o ddarparu llwybrau canser y croen mynediad cyflym i sicrhau y cyflawnir y targedau canser cenedlaethol a bod cleifion yn cael eu trin mewn modd amserol.
Brysbennu Adgyfeiriadau, a Chyngor ac Arweiniad
- Cymryd rhan mewn prosesau brysbennu atgyfeiriadau yn annibynnol a gyda chymorth meddyg ymgynghorol.
- Adolygu a blaenoriaethu atgyfeiriadau i sicrhau bod cleifion yn cael eu cyfeirio’n briodol at lwybrau brys, arferol, llawfeddygol neu gymunedol.
- Rhoi Cyngor ac Arweiniad i glinigwyr gofal sylfaenol i gefnogi’r gwaith o reoli cleifion yn effeithiol a lleihau atgyfeiriadau diangen.
- Cyfrannu at effeithlonrwydd y gwasanaeth trwy ddefnyddio llwybrau digidol a modelau asesu rhithwir.
Teledermatoleg a Teledermosgopi
- Cymryd rhan mewn Sesiynau Teledermatoleg a Theledermosgopi, gan adolygu delweddau clinigol a delweddau dermosgopig a gyflwynir trwy lwyfannau digidol cymeradwy.
- Darparu argymhellion asesu, brysbennu a rheoli o bell yn unol â phrotocolau gwasanaeth y cytunir arnynt.
- Cefnogi’r gwaith o ddatblygu a darparu gwasanaethau dermatoleg digidol gyda’r nod o wella mynediad a lleihau amseroedd aros.
- Cydweithio â chyd-weithwyr gofal sylfaenol i wella ansawdd ac effeithiolrwydd atgyfeiriadau teledermatoleg.
Mân Lawdriniaeth a Gweithgarwch Gweithdrefnol
- Ymgymryd â Chlinigau Mân Weithdrefnau Llawfeddygol o fewn cymwyseddau ac achrediad y cytunwyd arnynt.
- Cyflawni gweithdrefnau croen diagnostig a therapiwtig, gan gynnwys biopsïau tyllu, biopsïau eillio, ciwretio a thoriadau briwiau priodol.
- Sicrhau bod yr holl weithdrefnau yn cael eu cynnal yn unol â pholisïau lleol, safonau rheoli heintiau a gweithdrefnau cydsynio.
- Cadw cofnodion gweithdrefnol, data archwilio a threfniadau monitro canlyniadau cywir i gefnogi gofynion llywodraethu clinigol.
Gwaith Tîm Amlddisgyblaethol
- Cymryd rhan weithredol yng Nghyfarfodydd y Tîm Amlddisgyblaethol Dermatoleg, gan gyfrannu at wneud penderfyniadau clinigol a chynllunio triniaeth.
- Cyflwyno a thrafod achosion cymhleth â chyd-weithwyr ymgynghorol a thimau arbenigol ehangach.
- Cydweithio â gweithwyr proffesiynol i hwyluso gofal diogel ac effeithiol i gleifion.
- Cyfrannu at weithio integredig ar draws gwasanaethau gofal sylfaenol, cymunedol ac eilaidd.
Datblygu a Llywodraethu’r Gwasanaeth
- Cefnogi’r gwaith o gyflwyno mentrau rhestrau aros, ailddylunio llwybrau, a rhaglenni gwella gwasanaethau.
- Cymryd rhan mewn archwiliadau clinigol, prosiectau gwella ansawdd, a gweithgareddau gwerthuso’r gwasanaeth.
- Cyfrannu at ddatblygu canllawiau clinigol, gweithdrefnau gweithredu safonol a llwybrau arfer gorau.
- Cynnal safonau uchel o ran cadw cofnodion, llywodraethu clinigol a diogelwch cleifion.
Addysg a Hyfforddiant
- Cefnogi addysg a datblygiad gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ar draws gofal sylfaenol ac eilaidd.
- Cymryd rhan mewn gweithgareddau addysgu, mentora a goruchwylio clinigol lle bo hynny’n briodol.
- Hyrwyddo arfer gorau o ran asesu, diagnosio a rheoli dermatoleg.
- Cynnal datblygiad proffesiynol parhaus a gofynion achredu GPwER.
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir drwy gyfrwng y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau a wneir yn y Saesneg.
NODYN PWYSIG I YMGEISWYR: Mae ceisiadau am ein rolau yn cael eu hadolygu'n ofalus a'u rhoi ar restr fer yn seiliedig ar feini prawf penodol, sy'n amrywio o swydd i swydd. Efallai na fydd defnyddio cais generig i wneud cais am rolau lluosog neu ddibynnu ar wasanaethau ceisiadau deallusrwydd artiffisial awtomataidd, fel Lazy Apply neu AI Apply, yn darparu'r wybodaeth angenrheidiol, gan arwain at anwybyddu'ch cais. Er mwyn sicrhau bod eich cais yn cael ystyriaeth lawn, rydym yn argymell cyflwyno cais wedi'i deilwra sy'n mynd i'r afael yn uniongyrchol â'r meini prawf a restrir yn adran Manyleb y Person yr hysbyseb.
Trwy gyflwyno eich cais i NHS Jobs/Trac, rydych yn gydsynio i elfennau o ddata eich cais gael eu trosglwyddo i Gofnod Staff Electronig (ESR) y GIG a systemau diogel, mewnol Gweithlu’r GIG er mwyn cefnogi a rheoli eich recriwtio a’ch cyflogaeth o fewn y sefydliad sy’n eich cyflogi; i’w defnyddio gan yr adran Recriwtio at ddibenion gwirio eich Cofrestriad Proffesiynol ar-lein (lle bo’n briodol).
Mae’r prosesau hyn yn unol â phrosesu Teg a Chyfreithlon yn unol â Deddfwriaeth Diogelu Data cyfredol yn enwedig y rhai hynny mewn perthynas â’ch data personol neu bersonol sensitif (diffinir data personol sensitif fel unrhyw gyflwr iechyd meddwl neu gorfforol, tarddiad hiliol neu ethnig, cyfeiriadedd rhywiol, aelodaeth undeb llafur, barn wleidyddol neu gred crefyddol datganedig). Fel sefydliad, rydym yn sicrhau bod y ddeddfwriaeth sy’n diffinio cyfrinachedd yn cael ei dilyn megis y defnydd o ddata at ddibenion penodol, diffiniedig, a defnydd o ddata sy’n berthnasol ac nid yn ormodol wrth ymarfer cywirdeb data a diogelwch yr holl wybodaeth bersonol adnabyddadwy a gedwir.
Os cewch eich penodi’n llwyddiannus, trwy lenwi’r ffurflen gais rydych yn awdurdodi’r BIP i gael unrhyw fanylion gwasanaeth blaenorol i’r GIG yn cynnwys yr holl wybodaeth ar salwch a gedwir yn electronig, trwy’r broses Trosglwyddo Rhyng-awdurdod ar y Cofnod Staff Electronig.
I weithio yn y DU, mae angen nawdd ar bob ymgeisydd nad yw'n wladolyn o'r DU neu Weriniaeth Iwerddon i gael naill ai fisa Gweithiwr Iechyd a Gofal neu fisa Gweithiwr Medrus, oni bai bod gennych ganiatâd i weithio trwy lwybr arall. Dylai ymgeiswyr nad ydynt yn rhan o'r DU/Gweriniaeth Iwerddon sy'n dymuno gwneud cais hunanasesu'u tebygolrwydd o gael Tystysgrif Nawdd trwy ymweld â gwefan Fisâu a Mewnfudo'r DU. Os ydych chi'n gymwys i gael y fisa Iechyd a Gofal, mae'r costau ymgeisio yn is ac nid oes angen i chi dalu Gordal Iechyd Mewnfudo blynyddol.
Gofynion yr ymgeisydd
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- • Cofnod ar y Gofrestr Meddygon Teulu
- • Cofrestriad llawn a Thrwydded i Ymarfer gyda'r Cyngor Meddygol Cyffredinol
- • Aelodaeth o Goleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol (MRCGP)
- • Tystysgrif Cwblhau Hyfforddiant (CCT) mewn Ymarfer Cyffredinol/Tystysgrif sy'n Cadarnhau Cymhwysedd ar gyfer Cofrestriad Meddyg Teulu (CEGPR), neu gyfwerth
- • Cofnod ar y Rhestr Perfformwyr Meddygol neu’n gymwys
- • Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus
- • Cynnal sesiynau mewn Lleoliad Ymarfer Cyffredinol
Meini prawf dymunol
- • Cymhwyster/cymwysterau uwch ychwanegol
Profiad Clinigol
Meini prawf hanfodol
- • Profiad eang yn y maes arbenigedd
- • Yn gallu dangos cymwyseddau craidd a sgiliau clinigol sy'n berthnasol i'r swydd
- • Profiad o arwain tîm
Meini prawf dymunol
- • Profiad blaenorol o weithio yn y DU neu'r GIG
Addysgu
Meini prawf hanfodol
- • Y gallu i asesu'n feirniadol ofynion dysgu personol a gofynion dysgu pobl eraill
- • Tystiolaeth o drefnu rhaglenni ac addysgu pob grŵp staff
- • Parodrwydd i addysgu pob gradd o staff amlddisgyblaethol proffesiynol
Meini prawf dymunol
- • Cymhwyster addysgu
Ymchwil ac Ysgoloriaeth
Meini prawf hanfodol
- • Yn amlygu gwybodaeth am ymchwil gyfredol ac arfer gorau yn y maes arbenigedd
- • Tystiolaeth sicrhau gwybodaeth am yr ymchwil a'r arfer gorau diweddaraf
- • Tystiolaeth o ddod o hyd i ganllawiau clinigol a’u defnyddio’n briodol
- • Tystiolaeth o gyfathrebu a dehongli tystiolaeth ymchwil mewn ffordd ystyrlon
Meini prawf dymunol
- • Cymryd rhan weithredol mewn ymchwil
Llywodraethu Clinigol
Meini prawf hanfodol
- • Dealltwriaeth o rôl Llywodraethu Clinigol
- • Wedi cymryd rhan mewn archwiliadau clinigol (neu brosiect gwella ansawdd) ac yn deall rôl archwilio wrth wella ymarfer meddygol
- • Gwybodaeth am y broses cynllunio swyddi/adolygiad arfarnu blynyddol
Meini prawf dymunol
- • Gwybodaeth am reoli risg
Diogelu
Meini prawf hanfodol
- • Yn amlygu gwybodaeth am ofynion diogelu ac yn cymryd cyfrifoldeb priodol
- • Tystiolaeth o gymhwyso deddfwriaeth briodol sy'n ymwneud â chydraddoldeb ac amrywiaeth
Sgiliau a Phriodoleddau
Meini prawf hanfodol
- • Y gallu i weithio'n annibynnol a bod yn gyfrifol am gamau gweithredu
- • Y gallu i weithio mewn modd hyblyg
- • Y gallu i beidio â chynhyrfu wrth weithio o dan bwysau
- • Bod yn gyfrifol am arwain a goruchwylio tîm
- • Sgiliau rhyngbersonol a sgiliau cydweithio rhagorol
Arall
Meini prawf hanfodol
- • Yn meddu ar agwedd hyblyg at anghenion y gwasanaeth
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Ceri Wisdom
- Teitl y swydd
- Service Delivery Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
Dechrau eich cais
Mewngofnodi
Creu cyfrif
Creu eich cyfrif a gwneud cais am eich swydd newydd!




