Mae Trac yn falch o bweru recriwtio ar gyfer
Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre
Gwybodaeth
Mae Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yn ‘Sefydliad Lletyol’ i nifer o sefydliadau allanol. Diffinnir statws ‘Sefydliad Lletyol’ fel sefydliadau sydd â’u ‘bwrdd’ ei hunain lle mae trafodaethau manylach yn ogystal â chymeradwyo strategaeth a pherfformiad yn digwydd neu lle mae nawdd uniongyrchol ei roi gan gorff statudol arall e.e. Llywodraeth Cymru.
Drwy gael trefniadau o’r fath, maent y tu allan i drefniadau rheoli arferol yr Ymddiriedolaeth. Er enghraifft, nid ydynt yr un fath â’n hadrannau ‘sydd wedi’u rheoli’ yn yr Ymddiriedolaeth sydd â Chyfarwyddwyr sy’n uniongyrchol atebol am strategaeth a rheoli gweithredol i’r Prif Weithredwr ac sydd wedi’u cynrychioli ar Fwrdd yr Ymddiriedolaeth ac yn aelodau o’r Bwrdd Rheoli Gweithredol.
Cysylltu
- Address
- 2 Charnwood Court
- Heol Billingsley
- Parc Nantgarw
- Cardiff
- Glamorgan
- CF15 7QZ
Swyddog codi arain i elusen
Accepting applications until: 25-Aug-2026 23:59
Statws y swydd wag: Ar agor
Accepting applications until: 25-Aug-2026 23:59
Manylion allweddol
Lleoliad
- Gwefan
- Canolfan Canser Felindre
- Cyfeiriad
- Heol Felindre
- Tref
- Caerdydd
- Cod post
- CF14 2TL
- Major / Minor Region
- Caerdydd
Math o gontract a phatrwm gwaith
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
Cyflog
- Cyflog
- £26,813 - £27,890 Y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Gradd
- (Gradd 3)
Arbenigedd
- Prif leoliad
- Codi arian
- Dyddiad y cyfweliad
- 03/09/2026
Diolch am eich diddordeb mewn gweithio i Ganolfan Ganser Felindre (CGF), sy'n gyflogwr cyfle cyfartal ymroddedig. Mae CGF yn croesawu ceisiadau gan bobl sy'n rhannu ein gweledigaeth;
Bydd Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yn cael ei chydnabod yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol fel sefydliad enwog o ragoriaeth mewn perthynas â gofal rhoddwyr a chleifion, addysg ac ymchwil.
ein gwerthoedd;
- Gofalgar
- Parchus
- Atebol
ac a fydd yn ategu’r gweithwyr profiadol ac arbenigol sydd gennym ar hyn o bryd, sydd yn frwdfrydig dros weithio mewn sefydliad sydd â’r uchelgais i ddarparu gwasanaethau a gofal o'r radd flaenaf i'n cleifion.
Mae gan Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre le arbennig ym maes gofal iechyd yng Nghymru. Mae’n sefydliad anhygoel i weithio ynddo ac i ddatblygu eich gyrfa hefyd. Mae'r Ymddiriedolaeth yn cynnwys dwy adran, sef Canolfan Ganser Felindre a Gwasanaeth Gwaed Cymru. Mae Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (NWSSP) a Thechnoleg Iechyd Cymru (HTW) yn disgyn dan adain yr Ymddiriedolaeth hefyd, ar ran Llywodraeth Cymru a GIG Cymru.
Mae CGF yn cynnig cyflog cystadleuol i’n gweithwyr, ynghyd â nifer o gynlluniau gwobrwyo, buddion a chefnogaeth i staff.
Os hoffech chi ragor o wybodaeth am y swydd wag hon, cysylltwch â'r rheolwr recriwtio, a fydd yn falch o drafod y cyfle hwn gyda chi.
Gwiriwch eich cyfrif e-bost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn yr holl ohebiaeth sy'n gysylltiedig â recriwtio trwy'r cyfrif e-bost sydd wedi cael ei roi ar y ffurflen gais.
Mae gan yr Ymddiriedolaeth yr hawl hefyd i gau swydd wag yn gynnar neu i dynnu hysbyseb yn ôl ar unrhyw gam o'r broses, er mwyn caniatáu i staff mewnol gael eu hadleoli i rolau addas.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'r raddfa gyflog ar gyfer Band 3 wedi'i haddasu fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2026/2027. Bydd yn cael ei weithredu ym mis Awst 2026 wedi'i ôl-ddyddio i 01 Ebrill 2026 lle bo'n berthnasol.
Trosolwg o'r swydd
Ymunwch â’n Tîm Codi Arian a chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi gwaith anhygoel ein helusen.
Fel aelod annatod o’r tîm, byddwch yn darparu cymorth gweinyddol ac ariannol cynhwysfawr i godwyr arian mewnol ac allanol, gan helpu i sicrhau profiad o ansawdd uchel i’n cefnogwyr a’n rhoddwyr.
Agwedd allweddol ar y rôl yw prosesu, cofnodi a darparu derbynebau ar gyfer rhoddion yn gywir, gan sicrhau bod pob cyfraniad yn cael ei gydnabod a’i reoli’n effeithlon. Byddwch hefyd yn gyfrifol am gynnal a diweddaru ein cronfa ddata codi arian, llwytho gwybodaeth ariannol o amrywiaeth o ffynonellau a chynhyrchu adroddiadau incwm i gefnogi gweithgareddau a digwyddiadau codi arian.
Gan weithio’n agos gyda chydweithwyr ar draws yr elusen, byddwch yn helpu i fonitro ac adrodd ar incwm codi arian, cefnogi gweinyddiaeth digwyddiadau, ac ymateb i ymholiadau gan gefnogwyr a chodwyr arian dros y ffôn, ar-lein ac wyneb yn wyneb. Mae hwn yn gyfle gwych i rywun sydd â sgiliau trefnu cryf, llygad am fanylion ac ymagwedd sy’n canolbwyntio ar y cwsmer, ac sy’n mwynhau gweithio mewn amgylchedd prysur a gwerth chweil lle mae eu cyfraniad yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.
Advert
- Mewnbynnu gwybodaeth am roddion i'r Gronfa Ddata Codi Arian a dderbyniwyd o ffynonellau amrywiol megis wyneb yn wyneb, dros y ffôn, yn uniongyrchol i'r banc ac ar-lein, a chynhyrchu cydnabyddiaethau.
- Lawrlwytho adroddiadau ariannol o wahanol blatfformau codi arian ar-lein, megis JustGiving, a’u huwchlwytho i’r gronfa ddata Codi Arian.
- Cynnal Cronfa Ddata Codi Arian y Cyfranogwyr a sicrhau bod aelod o staff codi arian yn cael ei neilltuo i godwyr arian.
- Codi archebion yn Oracle Finance Ledger, cyflawni archebion nwyddau ar-lein, rheoli stoc.
- Cyfrif, rheoli, storio a bancio arian parod a sieciau.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Gweithio i'n sefydliad
Yn Ymddiriedolaeth Prifysgol Felindre, rydym yn falch o ddarparu gwasanaethau arbenigol ledled Cymru drwy Ganolfan Ganser Felindre a Gwasanaeth Gwaed Cymru, gyda chefnogaeth ein timau corfforaethol a'n partneriaethau â Phartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru ac Iechyd Technoleg Cymru.
Wrth edrych tua’r dyfodol, rydym yn paratoi ar gyfer agor Ganolfan Ganser Felindre newydd (nVCC) yng Ngwanwyn 2027—carreg filltir gyffrous a fydd yn trawsnewid gofal canser i’n poblogaeth. Wedi’i lleoli o fewn cyrraedd hawdd i ddinas fywiog Caerdydd a harddwch trawiadol Bannau Brycheiniog, rydym yn cynnig amgylchedd gwaith unigryw sy’n cyfuno arloesedd, cydweithio ac ansawdd bywyd rhagorol.
Ers ein sefydlu ym 1994, mae ein gweithlu ymroddedig wedi parhau’n ffyddlon i gyflawni egwyddorion gofal doeth ar draws ystod eang o rolau. Rydym yn parhau i chwarae rhan hanfodol yn ein cymunedau ac mae gennym gynlluniau uchelgeisiol i wella’r gwasanaethau a ddarparwn ymhellach.
Mae popeth rydym yn ei wneud wedi’i seilio ar werthoedd ein Hymddiriedolaeth. Rydym yn ofalgar, yn barchus ac yn atebol yn y ffordd rydym yn gweithio gyda chleifion, rhoddwyr, partneriaid a’n gilydd—gan sicrhau ein bod yn darparu’r safonau uchaf o ofal wrth ymdrechu’n barhaus i wella.
Os ydych am weithio i sefydliad sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol, sy’n croesawu arloesedd ac sy’n cynnig cyfleoedd gyrfa gwerth chweil mewn lleoliad ysbrydoledig, Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yw’r lle i chi.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Sgiliau Cyfathrebu a Pherthynas
Bydd angen delio ag ymholiadau codi arian gan staff a'r cyhoedd wyneb yn wyneb, dros y ffôn ac ar e-bost.
Bydd gofyn i ddeiliad y swydd ddarparu gwybodaeth i ddarpar roddwyr. Dylai feithrin a chynnal gwybodaeth gadarn o waith y Tîm Codi Arian a Chanolfan Ganser Felindre.
Bydd deiliad y swydd yn delio â rhoddwyr a all fod mewn cyflwr bregus, e.e. oherwydd profedigaeth ddiweddar. Felly mae'n rhaid i ddeiliad y swydd feddu ar y gallu i ddangos tact, diplomyddiaeth ac empathi ar bob adeg. Mae agwedd sensitif a thosturiol yn hanfodol wrth ymdrin â pherthnasau a gofalwyr sydd mewn profedigaeth.
Y gallu i gyflwyno delwedd gadarnhaol a bywiog o'r adran Codi Arian.
Bydd gofyn i ddeiliad y swydd gynrychioli Felindre mewn digwyddiadau codi arian i ddarparu cymorth ariannol a gweinyddol pan fo angen
Efallai y bydd gofyn i ddeiliad y swydd fynd i ddigwyddiadau cyflwyno sieciau a diolch i gynulleidfaoedd.
Gwybodaeth, Hyfforddiant a Phrofiad
Sgiliau TG rhagorol a ddylai gynnwys diweddaru a chynnal cronfeydd data.
Mae profiad gweinyddol helaeth blaenorol mewn amgylchedd prysur sy'n canolbwyntio ar ddefnyddwyr gwasanaeth yn hanfodol ar gyfer y rôl hon.
Mae profiad blaenorol mewn cefndir codi arian yn ddymunol er nad yw'n hanfodol.
Cymwysterau i ddangos cefndir addysgol cadarn sy'n cynnwys tystiolaeth o sgiliau rhifedd a llythrennedd hyd at safon Lefel A neu gyfwerth.
Cywirdeb a sylw i fanylder.
Sgiliau Dadansoddi a Gwneud Penderfyniadau
Deiliad y swydd fydd y pwynt cyswllt cychwynnol i bawb sy’n cysylltu â’r adran Codi Arian. Bydd gofyn i ddeiliad y swydd benderfynu a ddylid uwchgyfeirio ymholiadau neu eu trosglwyddo i Godwr Arian neu aelod uwch o'r tîm.
Mae'r gwaith o fewn yr adran Codi Arian yn anarferol weithiau, a bydd gofyn i ddeiliad y swydd ddatrys problemau wrth ymdrin â newidiadau annisgwyl.
Sgiliau Cynllunio a Threfnu
Darparu cymorth gweinyddol gynhwysfawr i'r tîm Codi Arian gan sicrhau bod yr holl ddyletswyddau gweinyddol yn cael eu cyflawni mewn modd amserol.
Rhoi’r holl wybodaeth am roddwyr yn gywir ar y gronfa ddata Codi Arian.
Sicrhau bod llythyrau cydnabyddiaeth yn cydymffurfio ag amserlenni Gofal Cwsmer.
Darparu cymorth ariannol gan gynnwys monitro a chreu adroddiadau incwm ar gyfer digwyddiadau a gweithgareddau
Bod yn gyfarwydd â'r holl weithdrefnau codi arian a gweinyddol ariannol, gan gynnwys cymryd rhoddion dros y ffôn ac ar-lein.
Cefnogi codwyr arian gan ddefnyddio Cronfa Ddata Codi Arian Cyfranogwyr - sicrhau bod pob cyfranogwr yn cael ei ddyrannu i godwr arian, bod eu manylion yn cael eu cofnodi'n gywir ar y gronfa ddata a bod rhif adnabod rhoddwr yn cael ei gynhyrchu.
Cefnogi codwyr arian ar amrywiaeth o ddigwyddiadau pan fo angen gyda chymorth ariannol a gweinyddol
Sgiliau Corfforol
Sgiliau bysellfwrdd datblygedig wrth deipio llythyrau, creu dogfennau, taenlenni, cyrchu cronfeydd data ac ati. Mae'r angen am gywirdeb yn hanfodol.
Helpu mewn digwyddiadau allanol, codi stondinau dros dro ac arddangosfeydd, codi a chario adnoddau fel sêff gan gynnwys arian parod a derbynebau, nwyddau a deunyddiau hyrwyddo
Cyfrifoldeb am Ofal Cleifion/Cleientiaid
Bydd deiliad y swydd yn dod i gysylltiad achlysurol â chleifion a'u perthnasau a bydd yn ofynnol iddo ddarparu gwybodaeth mewn perthynas â chodi arian e.e. pan fydd unigolyn yn dymuno cyfrannu at Godi Arian Felindre.
Cyfrifoldeb am Weithredu Datblygiadau Polisi/Gwasanaeth
Bydd gofyn i ddeiliad y swydd weithio yn unol â pholisïau a gweithdrefnau o fewn Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre a Chanolfan Ganser Felindre. Bydd angen iddo awgrymu unrhyw newidiadau mewn arferion gwaith a allai wella'r gwasanaeth a ddarperir gan y Tîm Codi Arian.
Cyfrifoldeb am Adnoddau Ariannol a Ffisegol
Cynnal y gronfa ddata Codi Arian: derbyn a chofrestru rhoddion ariannol a sicrhau bod pob rhodd yn cael ei chofnodi'n gywir, a rhoi diolch i roddwyr yn unol â’r safonau gofal cwsmeriaid. Bydd hyn yn ei gwneud yn ofynnol i'r unigolyn drin rhoddion ar-lein, arian parod a siec a sicrhau y cânt eu storio'n ddiogel.
Cofnodi a phrosesu derbynebau er mwyn eu cydnabod.
Cynnal Cronfa Ddata Cyfranogwyr Codi Arian – Yn absenoldeb Codwr Arian, pan ddaw cefnogwr i mewn i’r swyddfa i gasglu deunyddiau ar gyfer digwyddiad, bydd angen chwilio am ei fanylion ar y Gronfa Ddata Codi Arian a’r daenlen Cyfranogiadau sydd ar Teams. Bydd angen rhoi’r deunyddiau y gofynnwyd amdanynt iddo a diweddaru’r daenlen ar Teams.
Angen gwirio bod stociau digonol o nwyddau codi arian yn cael eu cynnal.
Rhyddid i Weithredu
Y gallu i reoli eich llwyth gwaith eich hun, gan gyfeirio at y rheolwr lle bo'n briodol.
Bydd gofyn i ddeiliad y swydd reoli ei lwyth gwaith yn effeithiol i sicrhau bod gwasanaeth rhagorol yn cael ei ddarparu i gefnogwyr a'r tîm Codi Arian.
Byddwch yn gallu dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb Person ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch "Gwneud cais nawr" i'w gweld yn Trac.
ODYN PWYSIG I GEISIADAU:
Mae ceisiadau ar gyfer ein rolau yn cael eu hystyried yn ofalus a'u hanelu'n benodol yn seiliedig ar feini prawf penodol, sy'n amrywio o swydd i swydd. Mae defnyddio cais cyffredinol i wneud cais am rolau lluosog neu ddibynnu ar wasanaethau cais AI awtomataidd, fel 'Lazy Apply' neu 'AI Apply', efallai na fydd yn darparu'r wybodaeth angenrheidiol, gan arwain at eich cais na fydd yn dangos sut rydych yn bodloni'r meini prawf hanfodol. I sicrhau bod eich cais yn cwrdd â'r meini prawf, argymhellwn gyflwyno cais wedi'i deilwra sy'n cyfeirio'n uniongyrchol at y meini prawf a nodir yn adran 'Dangosydd Person' yr hysbyseb.
I weithio yn y DU, mae angen nawdd ar bob ymgeisydd nad yw'n wladolyn o'r DU neu Weriniaeth Iwerddon i gael naill ai fisa Gweithiwr Iechyd a Gofal neu fisa Gweithiwr Medrus, oni bai bod gennych ganiatâd i weithio trwy lwybr arall. Dylai ymgeiswyr nad ydynt yn rhan o'r DU/Gweriniaeth Iwerddon sy'n dymuno gwneud cais hunanasesu'u tebygolrwydd o gael Tystysgrif Nawdd trwy ymweld â gwefan Fisâu a Mewnfudo'r DU. Os ydych chi'n gymwys i gael y fisa Iechyd a Gofal, mae'r costau ymgeisio yn is ac nid oes angen i chi dalu Gordal Iechyd Mewnfudo blynyddol.
Gofynion yr ymgeisydd
Manyleb y person
Essential
Meini prawf hanfodol
- Cymwysterau i ddangos cefndir addysgol cadarn yn cynnwys tystiolaeth o sgiliau rhifedd a llythrennedd.
- Gwybodaeth gadarn am systemau gweinyddol a gweithdrefnau gweithio mewn swyddfa
- Mae profiad gweinyddol a phrosesu ariannol helaeth blaenorol mewn amgylchedd prysur sy'n canolbwyntio ar ddefnyddwyr gwasanaeth yn hanfodol ar gyfer y rôl hon.
- Profiad o weithdrefnau gweithio mewn swyddfa
- Sgiliau Technoleg Gwybodaeth (TG) ardderchog a ddylai gynnwys diweddaru a chynnal cronfeydd data
- Sgiliau cyfathrebu rhagorol ar lafar ac yn ysgrifenedig
- Sgiliau trefnu da
- Diddordeb mewn dilyn gyrfa yn y sector elusennol/GIG
Meini prawf dymunol
- Gwybodaeth am waith y sector elusennol
- Profiad blaenorol o weithio yn y sector elusennol, codi arian neu gyllid
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1) neu barodrwydd i weithio tuag at hynny
- Diddordeb cyffredinol mewn codi arian a gofal canser
Desirable
Meini prawf dymunol
- Knowledge of charitable sector work.
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Kylie McKee
- Teitl y swydd
- Head of Fundraising
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
Dechrau eich cais
Mewngofnodi
Creu cyfrif
Creu eich cyfrif a gwneud cais am eich swydd newydd!




.png)