Mae Trac yn falch o bweru recriwtio ar gyfer
Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru
Gwybodaeth
Croeso i Iechyd Cyhoeddus Cymru - asiantaeth iechyd cyhoeddus genedlaethol Cymru. Rydym yn bodoli i ddiogelu a gwella iechyd a llesiant a lleihau anghydraddoldebau iechyd i bobl yng Nghymru.
I gael gwybod mwy ewch i Iechyd Cyhoeddus Cymru a gwyliwch y fideo hwn am ein Cynllun Strategol
Dilynwch ni ar Twitter, Facebook, Linkedin a Instagram
Gweithio gyda'n gilydd, gydag ymddiriedaeth a pharch, i wneud gwahaniaeth
Ein diben yw ‘gweithio gyda'n gilydd ar gyfer Cymru iachach'. Rydym yn bodoli i helpu pawb yng Nghymru i fyw bywydau hirach, iachach. Gyda'n partneriaid, ein nod yw cynyddu disgwyliad oes iach, gwella iechyd a llesiant, a lleihau anghydraddoldebau i bawb yng Nghymru, nawr ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Gyda'i gilydd, mae ein timau'n gweithio i atal clefyd, diogelu iechyd, a darparu arweinyddiaeth, gwasanaethau arbenigol ac arbenigedd iechyd cyhoeddus. Ni yw'r brif ffynhonnell o wybodaeth, ymchwil ac arloesedd iechyd cyhoeddus yng Nghymru.
Cysylltu
- Address
- No.2 Capital Quarter
- Tyndall Street
- Cardiff
- CF10 4BZ
- Contact Number
- 02921 500200
Uwch Ddylunydd Cynnwys
Accepting applications until: 15-Oct-2026 23:59
Statws y swydd wag: Ar agor
Accepting applications until: 15-Oct-2026 23:59
Manylion allweddol
Lleoliad
- Gwefan
- 2 Chwarter Cyrnol
- Cyfeiriad
- Stryd Tyndal
- Tref
- Caerdydd
- Cod post
- CF11 8FQ
- Major / Minor Region
- Caerdydd
Math o gontract a phatrwm gwaith
- Contract
- Cyfnod Penodol: 12 mis (12 mis gyda'r posibilrwydd o ymestyn i 18)
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
Cyflog
- Cyflog
- £50,129 - £57,365 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Gradd
- (Gradd 7)
Arbenigedd
- Prif leoliad
- Ymchwil Defnyddwyr a Dylunio Gwasanaethau
Croeso i Iechyd Cyhoeddus Cymru, asiantaeth iechyd cyhoeddus genedlaethol Cymru
Ein gweledigaeth yw Gweithio i wireddu dyfodol iachach i Gymru
Am ragor o wybodaeth amdanom, ewch i’n tudalen hafan, darllenwch am ein cynllun strategol
Dilynwch ni ar Twitter, Facebook, LinkedIn ac Instagram
Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg. I gefnogi ein gwasanaeth i Gymru gyfan, croesawn yn fawr ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Nodyn Pwysig ar gyfer swyddi a gaiff eu cynnig ar sail tymor penodol neu secondiad.
Gall unigolion sydd â swydd barhaol (sylfaenol) yn y GIG ond gael eu penodi drwy secondiad. Bydd angen i’ch Rheolwr llinell presennol roi cymeradwyaeth ar gyfer secondiad cyn gellir cyflwyno cais.
Trosolwg o'r swydd
Helpu i lunio dyfodol gwasanaethau rheoli pwysau yng Nghymru.
Rydym yn chwilio am Uwch Ddylunydd Cynnwys i ymuno â rhaglen drawsnewid genedlaethol sy'n cefnogi cyflawni Pwysau Iach: Cymru Iach a MyPath Cymru. Bydd deiliad y swydd yn gweithio fel rhan o dîm amlddisgyblaethol ochr yn ochr ag ymchwilwyr defnyddwyr, dylunwyr gwasanaethau, dylunwyr rhyngweithio, clinigwyr, arbenigwyr digidol a chydweithwyr rhaglenni i greu cynnwys clir, hygyrch ac yn seiliedig ar dystiolaeth sy'n helpu pobl i ddeall ac ymgysylltu â gwasanaethau rheoli pwysau.
Mae hwn yn gyfle i wella sut mae pobl yn cael mynediad at gymorth, yn ei lywio ac yn ei ddefnyddio ar draws lleoliadau digidol, cymunedol a chlinigol. Bydd deiliad y swydd yn defnyddio ymchwil, mewnwelediad ac arferion dylunio cynnwys i sicrhau bod gwybodaeth yn hawdd ei chanfod, ei deall a gweithredu arni, ac yn cefnogi anghenion defnyddwyr a chanlyniadau gwasanaeth.
Mae’r swydd hon am gyfnod penodol/secondiad am 12 mis gyda'r posibilrwydd o ymestyn i 18 mis. Os oes diddordeb gyda chi mewn ceisio am swydd secondiad, mae’n rhaid i chi gael caniatad eich rheolwr llinell presennol cyn i chi geisio am y swydd hon.
Advert
Dylunio, creu a gwella cynnwys ar draws siwrneiau gwasanaeth o'r dechrau i'r diwedd, ac yn sicrhau ei fod yn glir, yn hygyrch ac yn canolbwyntio ar anghenion defnyddwyr.
Gweithio'n agos gydag ymchwilwyr defnyddwyr a dylunwyr eraill i ddeall anghenion, ymddygiadau a heriau pobl, a chymhwyso'r mewnwelediadau hyn i benderfyniadau cynnwys.
Bydd deiliad y swydd yn defnyddio offer fel Figma i ddatblygu a phrofi cynnwys o fewn prototeipiau, teithiau a chysyniadau gwasanaeth
Datblygu patrymau cynnwys, strwythurau a chanllawiau sy'n cefnogi profiadau defnyddwyr cyson ac effeithiol.
Hyrwyddo hygyrchedd a dylunio cynhwysol, a sicrhau bod cynnwys yn gweithio i ystod eang o bobl, amgylchiadau a lefelau llythrennedd iechyd.
Cydweithio â thimau amlddisgyblaethol i gydbwyso anghenion defnyddwyr, gofynion gwasanaeth a blaenoriaethau sefydliadol.
Defnyddio tystiolaeth, mewnwelediad ac ymgysylltu â rhanddeiliaid i ddylanwadu ar benderfyniadau a gwella profiadau gwasanaeth.
Cefnogi a mentora cydweithwyr wrth gyfrannu at ddiwylliant o ddysgu, cydweithio a gwelliant parhaus.
Gweithio i'n sefydliad
Iechyd Cyhoeddus Cymru ydym ni – y sefydliad iechyd y cyhoedd cenedlaethol i Gymru. Ein pwrpas yw ‘Gweithio gyda'n gilydd ar gyfer Cymru Iachach’. Rydym yn bodoli i helpu pawb yng Nghymru i fyw bywydau hirach, iachach a hapusach. Gyda'n partneriaid, rydym yn gweithio i gynyddu disgwyliad oes iach, gwella iechyd a llesiant, a lleihau anghydraddoldebau i bawb yng Nghymru, yn awr ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Mae ein timau'n gweithio i atal clefydau, diogelu iechyd, a darparu arweinyddiaeth, gwasanaethau arbenigol ac arbenigedd iechyd y cyhoedd. Ni yw prif ffynhonnell gwybodaeth, ymchwil ac arloesedd iechyd y cyhoedd yng Nghymru. Mewn byd sy'n wynebu heriau iechyd cymhleth, nid yw ein gwaith erioed wedi bod mor bwysig.
Rydym yn cael ein harwain gan ein Gwerthoedd, 'Gweithio gyda'n gilydd, gydag ymddiriedaeth a pharch, i wneud gwahaniaeth'. Rydym wedi ymrwymo i adeiladu gweithle cynhwysol sy'n gwerthfawrogi cydraddoldeb ac amrywiaeth. Rydym yn croesawu ceisiadau sy'n cynrychioli amrywiaeth gyfoethog y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu ac sy'n cefnogi trefniadau gweithio hyblyg, gan gynnwys rolau rhan-amser a rhannu swyddi.
I gael gwybod rhagor am weithio i ni a’r buddion rydym yn eu cynnig, ewch i https://icc.gig.cymru/gyrfaoedd/
I gael arweiniad ar y broses ymgeisio, ewch i https://icc.gig.cymru/gyrfaoedd/gwybodaeth-a-chanllawiau-i-ymgeiswyr/
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Fel Uwch Ddylunydd Cynnwys, byddwch yn gyfrifol am greu a gwella cynnwys ar draws gwasanaethau cymhleth a chynhyrchion digidol o fewn rhaglen drawsnewid ar raddfa fawr. Bydd deiliad y swydd yn helpu i sicrhau bod pobl yn cael yr wybodaeth sydd ei hangen arnynt, ar yr amser iawn ac yn y fformat cywir, a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau gwybodus a llywio gwasanaethau'n hyderus.
Mae'r rôl yn cynnwys cynllunio a chyflawni gweithgareddau dylunio cynnwys, llunio strategaeth cynnwys a chyfrannu at welliannau i wasanaethau. Bydd deiliad y swydd yn gweithio'n agos gydag ymchwilwyr defnyddwyr, dylunwyr, datblygwyr, clinigwyr a rhanddeiliaid drwy gydol y gwaith darganfod, y cynllunio a'r cyflawni.
Bydd yn gwneud y canlynol:
Creu a gwella cynnwys ar draws teithiau defnyddwyr o'r dechrau i'r diwedd, ac yn sicrhau ei fod yn diwallu anghenion defnyddwyr ac yn cefnogi amcanion y gwasanaeth.
Datblygu strategaethau, patrymau a dulliau cynnwys sy'n gwella cysondeb, defnyddioldeb a hygyrchedd.
Creu a phrofi cynnwys o fewn prototeipiau gan ddefnyddio offer fel Figma ac offer dylunio a phrototeipio priodol eraill.
Defnyddio ymchwil, data a thystiolaeth i lywio penderfyniadau cynnwys a gwella perfformiad cynnwys yn barhaus.
Trosi gwybodaeth gymhleth, dechnegol neu sensitif yn gynnwys clir, dealladwy a gweithredadwy.
Gweithio ar y cyd ag ymchwilwyr defnyddwyr i ddeall anghenion defnyddwyr a gwerthuso cynnwys gyda defnyddwyr.
Hyrwyddo hygyrchedd a chyfathrebu cynhwysol, a sicrhau bod cynnwys yn hygyrch i bobl ag ystod eang o anghenion a galluoedd.
Helpu i nodi cyfleoedd i wella gwasanaethau drwy gynnwys gwell, teithiau cliriach a chyfathrebu mwy effeithiol.
Cefnogi darpariaeth ystwyth trwy weithio ar y cyd ar draws timau amlddisgyblaethol.
Cyfleu penderfyniadau cynnwys yn glir a meithrin dealltwriaeth gyffredin ymhlith rhanddeiliaid.
Hyrwyddo dylunio sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr a chyfrannu at ddiwylliant o ddysgu, cydweithio a gwelliant parhaus.
Cefnogi a mentora cydweithwyr, rhannu gwybodaeth a helpu i dyfu gallu dylunio cynnwys ar draws timau.
Mae'r swydd hon yn cynnig y cyfle i ddylanwadu ar sut mae pobl yn profi gwasanaethau rheoli pwysau ledled Cymru, gan sicrhau bod cynnwys yn hygyrch, yn seiliedig ar dystiolaeth ac yn canolbwyntio ar anghenion y bobl sy'n ei ddefnyddio.
Gallwch ddod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb person ynghlwm wrth y dogfennau ategol, neu cliciwch ar "Apply now" i'w gweld yn Trac.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Ceidw Iechyd Cyhoeddus Cymru yr hawl i gau’r swydd wag hon yn gynnar. Felly rydym yn annog ceisiadau cynnar.
Rhoddir blaenoriaeth i staff sy’n aros i gael eu hadleoli. Rydym yn cadw’r hawl felly i dynnu’r hysbyseb hon yn ôl ar unrhyw adeg.
Os oes gennych anabledd a bod gennych unrhyw anghenion penodol i'ch galluogi i gymryd rhan yn y broses ymgeisio, cysylltwch â [email protected]
NODYN PWYSIG I YMGEISWYR: Mae ceisiadau am ein rolau yn cael eu hadolygu'n ofalus a'u rhoi ar restr fer yn seiliedig ar feini prawf penodol, sy'n amrywio o swydd i swydd.
Ni fydd defnyddio cymhwysiad generig neu gymhwysiad AI awtomatig, fel Lazy Apply neu AI Apply, fel arfer yn darparu digon o dystiolaeth bersonol o'ch sgiliau a'ch profiad sy’n berthnasol i'r rôl. Gall hyn ei gwneud hi'n anodd i ni asesu eich addasrwydd a bydd yn lleihau eich siawns o gael eich rhoi ar y rhestr fer.
Er mwyn sicrhau bod eich cais yn cael ystyriaeth lawn, rydym yn argymell eich bod yn cyflwyno cais wedi'i deilwra sy'n mynd i'r afael yn uniongyrchol â'r meini prawf a restrir yn adran Manyleb y Person yr hysbyseb, gan ddarparu tystiolaeth glir ac enghreifftiau i ddangos sut rydych chi'n bodloni pob gofyniad.
Cymhwysedd ar gyfer Nawdd Fisa
- Os oes angen nawdd arnoch drwy lwybrau Fisa Gweithiwr Medrus neu Fisa Gweithiwr Iechyd a Gofal, gwnewch yn siŵr eich bod yn hunanasesu eich cymhwysedd i gael nawdd ar gyfer y rôl hon cyn gwneud cais.
- Gwiriwch y canllawiau fisa Gweithiwr Medrus neu'r canllawiau fisa Gweithiwr Iechyd a Gofal am fanylion ynghylch cymhwysedd swydd, cyflog, yr iaith Saesneg, a gofynion nawdd.
Os byddwch yn llwyddiannus ac os cewch eich dewis ar gyfer y rhestr fer am gyfweliad, cysylltir â chi ar e-bost gan ddefnyddio’r cyfeiriad a ddefnyddiwyd gennych i gofrestru. Sicrhewch eich bod yn edrych ar eich cyfrif e-bost yn rheolaidd.
Rydym wedi ymrwymo i recriwtio teg a thryloyw ac rydym yn credu mewn cyfle cyfartal yn ein gweithle. Ni fyddwn yn goddef gwahaniaethu ar sail oedran, anabledd, hunaniaeth rywiol, crefydd neu gred, hil neu genedligrwydd, priodas neu bartneriaeth sifil, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, patrwm gwaith, cyfrifoldebau gofalu, gweithgarwch gydag undebau llafur neu gredoau gwleidyddol – nac ar unrhyw sail arall. Croesawn geisiadau gan unigolion a ddymunent weithio’n rhan-amser neu wneud cais i rannu swydd.
Mae'r raddfa gyflog a ddangosir ar gyfer aelod o staff llawn amser, a chaiff y swm ei addasu pro rata ar gyfer y rhai sy'n gweithio llai na 37.5 awr yr wythnos.
Yn gyffredinol, bydd unrhyw un sy'n ymuno â'n Hymddiriedolaeth nad yw wedi gweithio yn y GIG o'r blaen, yn cychwyn ar bwynt cyntaf y band tâl a hysbysebir yn awtomatig. Yna bydd datblygiad cyflog yn cael ei bennu gan Adolygiadau Perfformiad a Datblygu blynyddol yn unol â Pholisi Datblygiad Cyflog GIG Cymru. Gellir ystyried cais am Gredyd Cynyddol, ond dim ond ar sail gwasanaeth cyfrifadwy â thystiolaeth a/neu brofiad cyfatebol, perthnasol y gellir ei ddyfarnu.
Gofynion yr ymgeisydd
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Gradd meistr mewn maes proffesiynol cysylltiedig (neu gymhwyster/profiad cyfatebol).
- Tystiolaeth o addysg a/neu hyfforddiant lefel uwch perthnasol pellach.
- Gwybodaeth a enillwyd drwy brofiad ymarferol o weithio ar y lefel hon, ar draws yr ystod o weithdrefnau ac arferion gwaith.
- Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus.
Meini prawf dymunol
- Uwch Ymarferydd FEDIP, neu gymhwyster proffesiynol lefel uwch cydnabyddedig cyfatebol.
- Gwybodaeth ddamcaniaethol ac arbenigol a gafwyd trwy ardystiad perthnasol fel: o MISTC - Aelod o Sefydliad y Cyfathrebwyr Gwyddonol a Thechnegol
- Gwybodaeth am y GIG, systemau gofal iechyd eraill, neu’r sector iechyd, gan gynnwys amrywiadau rhanbarthol neu genedlaethol.
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad ymarferol mewn rôl dylunio cynnwys, gyda chyfrifoldeb am greu, gwerthuso, diweddaru ac adolygu cynnwys ar bob cam o daith y defnyddiwr o’r dechrau i’r diwedd.
- Profiad o ddatblygu strategaeth a datrysiadau cynnwys, yn ddelfrydol ar gyfer problemau ar raddfa fawr a digwyddiadau proffil uchel.
- Profiad o drosi data technegol a straeon defnyddwyr yn gynnwys sy’n bodloni anghenion defnyddwyr, a defnyddio ystod o ddulliau dylunio yn llwyddiannus.
- Profiad o weithio ar brosiectau cymhleth o fewn amgylchedd cyflym, esblygol, gyda dull iterus a hyblyg at gyflawni cyflym mewn amgylchedd ystwyth.
- Hyfedr mewn offer meddalwedd sy’n awtomeiddio neu’n cynorthwyo rhan o’r broses ddatblygu.
- Hyfedr mewn meddalwedd sy’n galluogi’r defnyddiwr i gipio, creu, poblogi a thrin strwythurau data a lle bo’n briodol, data anstrwythuredig.
- Yn gallu delweddu a chyflwyno gwybodaeth a data yn fedrus mewn fformat priodol sy’n helpu rhanddeiliaid i ddeall arwyddocâd y wybodaeth a’r data.
- Yn ymwybodol o ddulliau a thechnegau sy’n gysylltiedig â chynllunio a monitro cynnydd prosiectau.
Sgiliau a Phriodoleddau
Meini prawf hanfodol
- Sgiliau creadigol i ddefnyddio dulliau arloesol o ddatrys problemau a/neu lunio datrysiadau dyfeisgar a chreadigol.
- Sgiliau rhoi sylw i fanylion i gymhwyso safonau ansawdd penodol i bob tasg er mwyn sicrhau bod yr hyn a gyflawnir yn gywir ac yn gyflawn.
- Sgiliau rhyngweithio â phobl i sefydlu perthnasoedd, gan gyfrannu at ddiwylliant agored a chynnal cysylltiadau â phobl o amrywiaeth o gefndiroedd a disgyblaethau. Bod yn gyfathrebwr effeithiol, sensitif a hawdd mynd ato mewn gwahanol gymunedau a diwylliannau, gyda’r gallu i addasu dull ac arddull gweithredu i ddiwallu anghenion gwahanol gynulleidfaoedd.
- Sgiliau gwaith tîm i gydweithio ag eraill i gyflawni nod cyffredin.
- Sgiliau dirprwyo i ddirprwyo tasgau, cyfrifoldebau ac awdurdodau yn effeithiol.
- Sgiliau camau dilynol a monitro i wirio cynnydd yn erbyn targedau, cymryd camau i ddatrys eithriadau/problemau, ac adrodd ac uwchgyfeirio lle bo angen.
Meini prawf dymunol
- Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol ar lefelau 1 neu uwch o ran dealltwriaeth, siarad, darllen ac ysgrifennu yn Gymraeg
Arall
Meini prawf hanfodol
- Ymrwymiad i gefnogi cenhadaeth y sefydliad i annog a chroesawu amrywiaeth a chynhwysiant ar draws y GIG.
- Gofyniad i ddangos ac ymgorffori Gwerthoedd ac Ymddygiadau’r sefydliad, gan gynnwys yr Egwyddorion Arweinyddiaeth Dosturiol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru.
- Yn gallu gweithio’n hyblyg mewn amgylchedd gweithio hybrid.
- Teithio ledled Cymru rhwng safleoedd, fel sy’n ofynnol gan y swydd.
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Monika Swiatek
- Teitl y swydd
- Principal Service Designer
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
Dechrau eich cais
Mewngofnodi
Creu cyfrif
Creu eich cyfrif a gwneud cais am eich swydd newydd!










