Mae Trac yn falch o bweru recriwtio ar gyfer
Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru

Gwybodaeth
Croeso i Iechyd Cyhoeddus Cymru - asiantaeth iechyd cyhoeddus genedlaethol Cymru. Rydym yn bodoli i ddiogelu a gwella iechyd a llesiant a lleihau anghydraddoldebau iechyd i bobl yng Nghymru.
I gael gwybod mwy ewch i Iechyd Cyhoeddus Cymru a gwyliwch y fideo hwn am ein Cynllun Strategol
Dilynwch ni ar Twitter, Facebook, Linkedin a Instagram
Gweithio gyda'n gilydd, gydag ymddiriedaeth a pharch, i wneud gwahaniaeth
Ein diben yw ‘gweithio gyda'n gilydd ar gyfer Cymru iachach'. Rydym yn bodoli i helpu pawb yng Nghymru i fyw bywydau hirach, iachach. Gyda'n partneriaid, ein nod yw cynyddu disgwyliad oes iach, gwella iechyd a llesiant, a lleihau anghydraddoldebau i bawb yng Nghymru, nawr ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Gyda'i gilydd, mae ein timau'n gweithio i atal clefyd, diogelu iechyd, a darparu arweinyddiaeth, gwasanaethau arbenigol ac arbenigedd iechyd cyhoeddus. Ni yw'r brif ffynhonnell o wybodaeth, ymchwil ac arloesedd iechyd cyhoeddus yng Nghymru.
Cysylltu
- Address
- No.2 Capital Quarter
- Tyndall Street
- Cardiff
- CF10 4BZ
- Contact Number
- 02921 500200
Uwch-reolwr Busnes a Gweithrediadau Canolog HPSS
Closed for applications on: 28-Gorff-2023 00:01
Statws y swydd wag: Closed
Closed for applications on: 28-Gorff-2023 00:01
Manylion allweddol
Lleoliad
- Gwefan
- Chwarter cyfalaf 2
- Cyfeiriad
- stryd tyndall
- Tref
- Caerdydd
- Cod post
- CF10 4BZ
- Major / Minor Region
- Caerdydd
Math o gontract a phatrwm gwaith
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser
- Gweithio gartref neu o bell
Cyflog
- Cyflog
- £51,706 - £58,210 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Gradd
- (Band 8b)
Arbenigedd
- Prif leoliad
- diogelu iechyd a sgrinio
- Dyddiad y cyfweliad
- 17/08/2023
Croeso i Iechyd Cyhoeddus Cymru, asiantaeth iechyd cyhoeddus genedlaethol Cymru
Ein gweledigaeth yw Gweithio i wireddu dyfodol iachach i Gymru
Am ragor o wybodaeth amdanom, ewch i’n tudalen hafan, darllenwch am ein cynllun strategol
Dilynwch ni ar Twitter, Facebook, LinkedIn and Instagram
Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg. I gefnogi ein gwasanaeth i Gymru gyfan, croesawn yn fawr ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.
Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau.
Trosolwg o'r swydd
Uwch-reolwr Busnes a Gweithrediadau Canolog Gwasanaethau Diogelu Iechyd a Sgrinio
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru ac yn fwy penodol y Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Diogelu Iechyd a Sgrinio (HPSS) yn chwilio am unigolyn dynamig, blaengar, ac ysbrydoledig a all chwarae rôl ganolog yng ngham nesaf ein taith gyffrous i gyflawni Strategaeth Hirdymor Iechyd Cyhoeddus Cymru. Gyda gwybodaeth a phrofiad ym maes Busnes a Gweithrediadau, ynghyd â phrofiad amlwg o arweinyddiaeth a llwyddiant blaenorol wrth reoli newid, byddwch mewn sefyllfa dda i ddylanwadau'n gadarnhaol ar y Gyfarwyddiaeth a'i chynorthwyo er mwyn ei galluogi i gyflawni taflwybr parhaus o lwyddiant.
Rôl
Gan weithio i Bennaeth Busnes a Gweithrediadau Canolog y Gwasanaethau Diogelu Iechyd a Sgrinio, byddwch yn aelod allweddol o Dîm Rheoli'r Gyfarwyddiaeth, gan gydweithio ar draws y Gyfarwyddiaeth i gyflawni amcanion lefel uchel HPSS:
Byddwch yn rheoli'r Tîm Canolog sy'n gweithio ar draws ehangder y gyfarwyddiaeth gan gwmpasu pob parth o ran cyflawni gweithredol a rheoli prosiectau. Gan weithio'n agos gyda'r Penaethiaid Gweithrediadau Adrannol byddwch yn cynllunio ar gyfer darparu gwasanaethau o ansawdd uchel, diogel, ac effeithiol a chynorthwyo hyn, gan roi sicrwydd ar yr amrywiaeth o gydrannau gweithredol gan gynnwys ansawdd, pobl, cyllid a pherfformiad i Dimau Arweinyddiaeth a Rheoli'r Gyfarwyddiaeth HPSS.
Advert
DIBEN Y SWYDD
Bydd deiliad y swydd yn chwarae rôl arweiniol yn y Gwasanaethau Diogelu Iechyd a Sgrinio (HPSS) gan gydlynu portffolio eang o weithgareddau sy'n cefnogi'r ethos o welliant parhaus a rhagoriaeth weithredol ar draws y Gyfarwyddiaeth.
Bydd deiliad y swydd yn adrodd i'r Arweinydd Busnes a Gweithrediadau Canolog ac yn chwarae rhan ganolog yn y gwaith o ddatblygu a gweithredu systemau, polisi, ailgynllunio a gwella gwasanaethau.
Bydd deiliad y swydd yn rhoi arweiniad, cyngor a chymorth ar draws y Gyfarwyddiaeth, gan gysylltu â chyfarwyddiaethau eraill Iechyd Cyhoeddus Cymru a distyllu gwybodaeth ar gyfer adrannau a swyddogaethau'r HPSS. Bydd yn darparu cyngor arbenigol ac yn
gweithredu fel asiant newid i hyrwyddo newidiadau gwasanaeth sy'n cynyddu perfformiad ac ansawdd, a gweithredu polisi sefydliadol ac iechyd cyhoeddus.
Bydd deiliad y swydd yn arwain ar weithredu a hwyluso rhaglenni gwella parhaus ar draws ôl troed Cymru gyfan HPSS. Cyfrannu at ddatblygu diwylliant newid a gweithredu arloesedd mewn arfer. Dylanwadu ar bolisi lleol a chenedlaethol drwy gymhwyso a chyfathrebu gwybodaeth a methodoleg gwelliant parhaus. Gweithio gydag adrannau a swyddogaethau gan ddefnyddio methodolegau gwelliant parhaus priodol sy'n seiliedig ar dystiolaeth i optimeiddio systemau a gwasanaethau lle bo hynny'n briodol.
Gweithio i'n sefydliad
Iechyd Cyhoeddus Cymru yw Sefydliad Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol Cymru. Ein gweledigaeth yw 'Gweithio i gyflawni dyfodol iachach i Gymru'. Rydym yn chwarae rhan ganolog wrth ysgogi gwelliannau yn iechyd a llesiant y boblogaeth, lleihau anghydraddoldebau iechyd, gwella canlyniadau gofal iechyd, diogelu'r cyhoedd a chefnogi'r gwaith o ddatblygu iechyd ym mhob polisi ledled Cymru.
Nid yw iechyd cyhoeddus erioed wedi bod mor bwysig wrth i ni ddod drwy bandemig y Coronafeirws, wynebu heriau'r argyfwng costau byw a mynd i'r afael ac atal effeithiau niweidiol newid hinsawdd. Rydym yn sefydliad sy'n rhoi ein hunain wrth wraidd cefnogi pobl, cymunedau, partneriaid a Llywodraeth Cymru wrth fynd i'r afael â'r heriau mawr hyn a darparu atebion ar gyfer gweithredu.
Caiff ein sefydliad ei arwain gan ein gwerthoedd “Cydweithio, gydag ymddiriedaeth a pharch, i wneud gwahaniaeth”. Rydym wedi ymrwymo i greu gweithle cynhwysol sy'n rhoi gwerth ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Rydym yn croesawu ceisiadau sy'n cynrychioli amrywiaeth gyfoethog y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu a chan y rhai sy'n dymuno gweithio'n rhan amser neu rannu swydd.
I ddarganfod mwy am weithio i ni a'r buddion rydym yn eu cynnig, ewch i Gyrfaoedd - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)
I gael arweiniad ar y broses ymgeisio, ewch i Gwybodaeth a Chanllawiau i Ymgeiswyr - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
DYLETSWYDDAU A CHYFRIFOLDEBAU
1. Sgiliau Cyfathrebu a Pherthnasoedd
· Ymgysylltu â phob lefel o staff a rheolwyr gofal iechyd mewn gwelliant parhaus gan ddefnyddio dulliau a sianeli cyfathrebu priodol.
· Gan ddefnyddio amrywiaeth o sgiliau rhyngbersonol wedi'u datblygu'n dda, bydd deiliad y swydd yn ysgogi, dylanwadu, ysbrydoli ac arwain eraill i wella gwasanaethau, systemau a pherfformiad er mwyn cyrraedd safonau cenedlaethol.
· Dylanwadu ar bobl a digwyddiadau, yn ffurfiol ac yn anffurfiol, y tu mewn a'r tu allan i raglenni ffurfiol e.e. sgiliau ar gyfer newid, llwybrau gofal integredig, drwy ddefnyddio sgiliau cyfathrebu, negodi a darbwyllo datblygedig iawn. Bydd hyn yn cynnwys y gofyniad i ddatblygu a chynnal perthnasoedd adeiladol wrth gysoni neu ddatrys sefyllfaoedd o wrthdaro.
· Cyflwyno gwybodaeth gymhleth iawn/syniadau ar lafar ac yn ysgrifenedig i sicrhau bod negeseuon yn cael eu cyfleu'n gywir i gynulleidfaoedd amlddisgyblaethol. Bydd hyn yn cynnwys y defnydd o sgiliau cyflwyno wedi'u datblygu'n dda a fydd yn cynnwys deiliad y swydd yn defnyddio amrywiaeth o gymwysiadau meddalwedd i gynorthwyo'r gwaith o gyflwyno gwybodaeth gymhleth iawn a allai fod yn ddadleuol.
· Datblygu ac yn llunio adroddiadau manwl, graffiau, siartiau a deunyddiau cyflwyno cysylltiedig, gan ddefnyddio amrywiaeth o gymwysiadau meddalwedd.
· Cynorthwyo ac arwain fel adnodd arbenigol ar gyfer timau clinigol ac anghlinigol wrth iddynt fynd drwy’r broses o ddatblygu neu newid menter. Mynd ati'n barhaus i gysylltu â rhanddeiliaid allweddol er mwyn cynorthwyo'r perfformiad gorau posibl ar draws HPSS.
· Cynnal a datblygu sianeli cyfathrebu effeithiol a pherthnasoedd gwaith cydweithredol â staff ar bob lefel yn GIG Cymru a chyda Chyfarwyddwyr ac Uwch Reolwyr yn HPSS. .
· Meithrin diwylliant o ymgysylltu a dylanwadu gan sicrhau bod mentrau gwella a newidiadau yn cael eu harwain gan staff.
2. Gwybodaeth, hyfforddiant a phrofiad
· Darparu cyngor ar bob parth o weithrediadau a busnes i adrannau a swyddogaethau HPSS a'r gallu i addasu i unrhyw sefyllfa benodol.
· Datrys problemau yn genedlaethol ac yn lleol.
Cyfrannu at gyflawni Cynllun Tymor Canolog Integredig HPSS
· Bydd gan ddeiliad y swydd brofiad o reoli amrywiaeth o ddisgyblaethau gweithredol, gwasanaeth, pobl, cyllid, iechyd a diogelwch o ran risg
· Rheoli'r gwaith o gynllunio, darparu a rhoi sicrwydd ar gyfer rhaglen gymhleth o welliant parhaus a sicrwydd ar draws gwaith HPSS a bydd angen sgiliau rheoli prosiectau a rhaglenni cryf.
· Meithrin diwylliant o gydweithio ar gyfer darparu gofal teg, o ansawdd uchel, a diwylliant o arloesi drwy gydweithio.
· Sefydlu a chynnal trefniadau llywodraethu corfforaethol systematig cadarn ar gyfer HPSS
· Cynnal prosiectau perthnasol yn rheolaidd gan ddefnyddio methodoleg PPM briodol i wella systemau ar draws HPSS.
3. Sgiliau Dadansoddol a Beirniadol
· Defnyddio sgiliau dadansoddol i ddatblygu a dehongli data a gwybodaeth glinigol i lywio a datblygu atebion newydd yn seiliedig ar ymestyn systemau a phrosesau presennol.
· Rhoi barn sy'n deillio o ddadansoddi gwybodaeth gymhleth iawn a gasglwyd o amrywiaeth eang o ffynonellau; a defnyddio methodolegau gwelliant parhaus i ddangos
cyfleoedd ar gyfer enillion gwelliant parhaus i adrannau a swyddogaethau, gan gynnwys datblygu a gweithredu systemau integredig
· Mae gofyniad rheolaidd i ddatblygu a llunio adroddiadau a chreu a chynnal cronfeydd data.
4. Sgiliau Cynllunio a Threfnu
· Cynllunio a threfnu amrywiaeth eang o weithgareddau neu raglenni cymhleth y mae rhai ohonynt yn barhaus, sy'n gofyn am lunio ac addasu cynlluniau neu strategaethau.
· Cadeirio, arwain a hwyluso amrywiaeth o gyfarfodydd, rhwydweithiau a digwyddiadau i gynorthwyo'r HPSS. Bydd hyn yn ei gwneud yn ofynnol cymryd rhan mewn cyfarfodydd sy'n gofyn am gyfathrebu ag amrywiaeth o gynulleidfaoedd a chymysgedd o fynychwyr. Gall y grwpiau hyn gynnwys Cyfarwyddwyr ac uwch gydweithwyr amlddisgyblaethol ac uwch reolwyr gweithredol, gweithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol eraill.
· Datblygu a chyflwyno rhaglenni hyfforddi ar gyfer grwpiau amlddisgyblaethol. Mae hyn yn cynnwys cyflwyno i glinigwyr ac uwch reolwyr ar draws adrannau a swyddogaethau HPSS ynghylch amrywiaeth o bynciau gweithredol a busnes.
· Cymryd rhan mewn cynllunio rhaglenni, gan ddarparu cynllun manwl o weithgarwch fel y cytunwyd arno gydag Arweinydd Busnes a Gweithrediadau Canolog HPSS. Bydd hyn yn cynnwys eitemau cyflawnadwy mesuradwy, canlyniadau a ragwelir, risgiau, amserlenni/cerrig milltir, gofynion adnoddau a chyllidebol a gweithgarwch caffael a gynllunnir.
· Darparu diweddariadau ac adroddiadau rhaglen rheolaidd gan gynnwys Cyllid a Chaffael, Adroddiadau Gweithredol, diweddariadau cynllun gweithredol Chwarterol i Dîm Rheoli'r Gyfarwyddiaeth.
5. Sgiliau Corfforol
· Mae defnyddio uned arddangos weledol (VDU) yn fynych yn ofynnol ar gyfer y swydd hon am gyfnodau hyd at hanner diwrnod er mwyn llunio adroddiadau a dadansoddiadau cymhleth i gefnogi terfynau amser e.e. adroddiadau Cynllun Tymor Canolig Integredig/Cyfarwyddwr Gweithredol/Llywodraeth Cymru – gall hyn fod yn gymhleth yn aml a bydd angen ei esbonio mewn ffordd y gall cynulleidfa amrywiol ei deall
· Mae angen sgiliau bysellfwrdd ar gyfer cwblhau adroddiadau, dogfennau ac ati.
6. Cyfrifoldeb am Ofal Cleifion/Cleientiaid
· Gall fod disgwyl i ddeiliad y swydd gynorthwyo ag aelodau o'r cyhoedd/sefydliadau allanol e.e. presenoldeb mewn digwyddiadau/lleoliadau allanol.
· Mae cyswllt achlysurol â chleifion
7. Cyfrifoldeb am weithredu polisi/datblygu gwasanaeth
· Ymgysylltu â datblygu a gweithredu polisi ar gyfer datblygu polisïau a gwasanaethau ar draws HPSS. Cyfrannu at drafodaeth polisi lleol a chenedlaethol drwy gymhwyso'r agenda gwelliant parhaus.
Gweithio gyda Chyfarwyddiaethau, Adrannau, uwch reolwyr a thimau clinigol byrddau iechyd gan gynnwys defnyddwyr gwasanaethau ar draws pob bwrdd iechyd i nodi cyfleoedd ar gyfer ymgorffori gwelliant parhaus mewn ymarfer.
· Gweithio ar y cyd â'r Arweinwyr Rhaglen i gydlynu ac addasu cynlluniau i ddarparu rhaglenni gwella a datblygu gwasanaethau cenedlaethol a lleol ledled Cymru. Datblygu'r fframwaith gweithredol blynyddol ar gyfer y rhaglen gwaith ac amserlennu gweithgareddau a cherrig milltir i sicrhau bod rhaglenni'n cael eu darparu.
· Gweithio gyda rhanddeiliaid, rheolwyr cyfarwyddiaeth a thimau adrannol ar draws y sefydliad yn Iechyd Cyhoeddus Cymru i nodi cyfleoedd ar gyfer datblygu gwasanaethau ar gyfer poblogaeth Cymru.
· Nodi a chydlynu elfennau amrywiol rhaglenni a choladu gwybodaeth am raglenni ar draws HPSS. Datblygu a chreu adroddiadau i gynorthwyo rhaglen benodol a chynghori personél gwasanaeth eraill ar systemau casglu data priodol.
· Ymgysylltu â'r datblygu polisi ar gyfer rhaglen datblygu gweithredol parhaus y maent yn gyfrifol amdani, a'i lledaenu'n eang i adrannau, swyddogaethau a thimau ar draws HPSS
· Cynorthwyo a galluogi adrannau, swyddogaethau a thimau ar draws HPSS i ddatblygu systemau a gwasanaethau gan ddefnyddio methodoleg gwelliant parhaus sy'n seiliedig ar dystiolaeth ac yn briodol gan sicrhau bod mesurau llwyddiant yn cael eu cynnwys.
8. Cyfrifoldeb am systemau adnoddau ariannol a ffisegol
· Yn cyfrannu at lunio cyllideb HPSS ac yn gyfrifol am fonitro'r gyllideb, adrodd ar gynnydd yn y cyfarfodydd busnes misol, mae hyn yn cynnwys cyfrifoldeb am gymryd camau unioni i sicrhau bod cyllideb Cyfarwyddiaeth gytbwys yn cael ei chyflawni.
· Cyfrifoldeb am y gyllideb ddirprwyedig ar gyfer ei dîm ei hun gan gynnwys cyfrifoldeb am gaffael/dewis cyflenwr a monitro contractau.
· Yn gyfrifol am oruchwylio agweddau ariannol cyllideb(au) dirprwyedig a darparu adroddiadau ar gyfer cyfarfodydd Cyfarwyddiaeth ar wariant gwirioneddol hyd yn hyn; esbonio amrywiannau a chymryd camau unioni priodol.
· Llunio gwybodaeth/casglu data/dadansoddi i gefnogi cynlluniau hirdymor/gwella a chyfeiriad strategol ar draws HPSS
· Gweithio ar y cyd i benderfynu ar yr adnoddau, yr arbenigedd a'r gweithgareddau sy'n ofynnol i wneud gwaith drwy'r llwybrau mwyaf cost effeithiol.
· Cynnal prosiectau perthnasol yn rheolaidd gan ddefnyddio methodoleg Prosiect a Rheoli Rhaglen i wella systemau a gwasanaethau ar draws HPSS
9. Cyfrifoldeb am Adnoddau Dynol
· Cyfrifoldeb rheoli llinell ar gyfer grŵp o staff gan gynnwys datblygiad personol a phroffesiynol staff, a rheoli disgyblaeth, cwynion a chyfrifoldebau rheoli llinell
cysylltiedig, sydd weithiau'n cynnwys rhoi newyddion anodd a gofidus gan gynnwys materion perfformiad staff unigol a dwyn eraill i gyfrif.
· Sicrhau bod y gweithdrefnau sefydlu safonol yn cael eu dilyn ar gyfer aelodau newydd o staff.
· Yn gyfrifol am sicrhau bod staff yn cwblhau'r holl hyfforddiant statudol a gorfodol angenrheidiol ac yn parhau'n gyfredol, a nodi gofynion datblygu/hyfforddi pellach sy'n angenrheidiol i gyflawni eu rolau.
· Yn gyfrifol am adrodd a monitro pob math o absenoldeb, e.e. gwyliau blynyddol, absenoldeb oherwydd salwch, absenoldeb astudio, ac ati., a chwblhau'r holl ddogfennau perthnasol a diweddaru gwybodaeth o fewn ESR.
· Yn gyfrifol am arfarniadau blynyddol Fy Nghyfraniad, pennu a monitro amcanion, cynnal adolygiadau rheolaidd fel y bo'n briodol a rhoi adborth a chymorth i alluogi staff i gyflawni eu hamcanion.
· Yn aml bydd yn gorfod addasu i flaenoriaethau sy'n newid ac ailganolbwyntio ei waith ar feysydd blaenoriaeth newydd. Disgwylir y bydd yn ofynnol i ddeiliad y swydd berfformio mewn amgylchedd lle mae angen canolbwyntio'n ddwys drwy gydol y dydd ar amrywiaeth eang o faterion cymhleth iawn.
· Lle mae rhwystrau'n bodoli o ran gweithredu newidiadau ymarferol i wella parhaus bydd yn ofynnol i ddeiliad y swydd herio'r gweithlu ac uwch reolwyr gwasanaethau. Bydd hyn yn gofyn am ddefnyddio sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol datblygedig iawn a gall gynnwys sefyllfaoedd sy'n gofyn am reoli gwrthdaro'n effeithiol.
Ceidw Iechyd Cyhoeddus Cymru yr hawl i gau’r swydd wag hon yn gynnar. Felly rydym yn annog ceisiadau cynnar.
Rhoddir blaenoriaeth i staff sy’n aros i gael eu hadleoli. Rydym yn cadw’r hawl felly i dynnu’r hysbyseb hon yn ôl ar unrhyw adeg.
Os oes gennych anabledd a bod gennych unrhyw anghenion penodol i'ch galluogi i gymryd rhan yn y broses ymgeisio, cysylltwch â [email protected]
NODYN PWYSIG I YMGEISWYR: Mae ceisiadau am ein rolau yn cael eu hadolygu'n ofalus a'u rhoi ar restr fer yn seiliedig ar feini prawf penodol, sy'n amrywio o swydd i swydd.
Ni fydd defnyddio cymhwysiad generig neu gymhwysiad AI awtomatig, fel Lazy Apply neu AI Apply, fel arfer yn darparu digon o dystiolaeth bersonol o'ch sgiliau a'ch profiad sy’n berthnasol i'r rôl. Gall hyn ei gwneud hi'n anodd i ni asesu eich addasrwydd a bydd yn lleihau eich siawns o gael eich rhoi ar y rhestr fer.
Er mwyn sicrhau bod eich cais yn cael ystyriaeth lawn, rydym yn argymell eich bod yn cyflwyno cais wedi'i deilwra sy'n mynd i'r afael yn uniongyrchol â'r meini prawf a restrir yn adran Manyleb y Person yr hysbyseb, gan ddarparu tystiolaeth glir ac enghreifftiau i ddangos sut rydych chi'n bodloni pob gofyniad.
Cymhwysedd ar gyfer Nawdd Fisa
- Os oes angen nawdd arnoch drwy lwybrau Fisa Gweithiwr Medrus neu Fisa Gweithiwr Iechyd a Gofal, gwnewch yn siŵr eich bod yn hunanasesu eich cymhwysedd i gael nawdd ar gyfer y rôl hon cyn gwneud cais.
- Gwiriwch y canllawiau fisa Gweithiwr Medrus neu'r canllawiau fisa Gweithiwr Iechyd a Gofal am fanylion ynghylch cymhwysedd swydd, cyflog, yr iaith Saesneg, a gofynion nawdd.
Os byddwch yn llwyddiannus ac os cewch eich dewis ar gyfer y rhestr fer am gyfweliad, cysylltir â chi ar e-bost gan ddefnyddio’r cyfeiriad a ddefnyddiwyd gennych i gofrestru. Sicrhewch eich bod yn edrych ar eich cyfrif e-bost yn rheolaidd.
Rydym wedi ymrwymo i recriwtio teg a thryloyw ac rydym yn credu mewn cyfle cyfartal yn ein gweithle. Ni fyddwn yn goddef gwahaniaethu ar sail oedran, anabledd, hunaniaeth rywiol, crefydd neu gred, hil neu genedligrwydd, priodas neu bartneriaeth sifil, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, patrwm gwaith, cyfrifoldebau gofalu, gweithgarwch gydag undebau llafur neu gredoau gwleidyddol – nac ar unrhyw sail arall. Croesawn geisiadau gan unigolion a ddymunent weithio’n rhan-amser neu wneud cais i rannu swydd.
Mae'r raddfa gyflog a ddangosir ar gyfer aelod o staff llawn amser, a chaiff y swm ei addasu pro rata ar gyfer y rhai sy'n gweithio llai na 37.5 awr yr wythnos.
Yn gyffredinol, bydd unrhyw un sy'n ymuno â'n Hymddiriedolaeth nad yw wedi gweithio yn y GIG o'r blaen, yn cychwyn ar bwynt cyntaf y band tâl a hysbysebir yn awtomatig. Yna bydd datblygiad cyflog yn cael ei bennu gan Adolygiadau Perfformiad a Datblygu blynyddol yn unol â Pholisi Datblygiad Cyflog GIG Cymru. Gellir ystyried cais am Gredyd Cynyddol, ond dim ond ar sail gwasanaeth cyfrifadwy â thystiolaeth a/neu brofiad cyfatebol, perthnasol y gellir ei ddyfarnu.
Gofynion yr ymgeisydd
Manyleb y person
cymwysterau
Meini prawf hanfodol
- Addysg hyd at lefel Gradd Meistr berthnasol neu'n gallu dangos profiad gwaith cyfatebol
Meini prawf dymunol
- Cymhwyster prosiect a rhaglen e.e. Agile, Prince2 Rheoli Rhaglenni Llwyddiannus
PROFIAD
Meini prawf hanfodol
- Profiad rheoli sylweddol mewn rôl uwch gan gynnwys rheoli staff, yn ddelfrydol yn y GIG neu Ofal Cymdeithasol.
PROFIAD
Meini prawf hanfodol
- Profiad o arwain a gweithredu prosiectau'n llwyddiannus.
- Arbenigedd o ran darparu newid / gwella gwasanaethau
- Profiad o reoli cyllidebau.
sgiliau
Meini prawf hanfodol
- Gallu cyfathrebu cysyniadau a dadansoddiad technegol cymhleth iawn yn effeithiol i sefydliadau a chynulleidfaoedd gwahanol; gan gynnwys cyflwyniadau ffurfiol e.e. lefel Bwrdd.
- Dangos gallu i ddarparu, derbyn a chofnodi cyfathrebu rheolaidd a chymhleth iawn, yn electronig, ar lafar ac yn ysgrifenedig.
- Gallu goresgyn rhwystrau sy'n gysylltiedig â chyfleu gwybodaeth dechnegol gymhleth iawn i gynulleidfa annhechnegol.
Dogfennau
- Uwch-reolwr Busnes a Gweithrediadau Canolog HPSS (PDF, 432.4KB)
- Uwch-reolwr Busnes a Gweithrediadau Canolog HPSS manyleb y person docx (PDF, 272.4KB)
- Hyderus o Ran Anabledd Arweinydd (PDF, 180.8KB)
- Canllawiau ar gyfer Ymgeiswyr (PDF, 278.7KB)
- Ein Rhwydweithiau Amrywiaeth (PDF, 330.6KB)
- Gwasanaethau Recriwtio Hysbysiad Preifatrwydd (PDF, 696.3KB)
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Michelle Battlemuch
- Teitl y swydd
- Assistant Director of Operations
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Dylai'r rhai sy'n dymuno trafod y swydd gyda Michelle Battlemuch – Cyfarwyddwr Cynorthwyol Gweithrediadau, HPSS gysylltu â [email protected] i drefnu trafodaeth anffurfiol
Ddim yn derbyn ceisiadau mwyach
Ymddiheuriadau, ond nid yw'r swydd wag hon yn derbyn ceisiadau mwyach.
Gallwch chwilio am swyddi tebyg ar fwrdd swyddi'r cyflogwr, neu fynd i'n bwrdd swyddi cenedlaethol Health Jobs UK.