Mae Trac yn falch o bweru recriwtio ar gyfer
Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru

Gwybodaeth
Croeso i Iechyd Cyhoeddus Cymru - asiantaeth iechyd cyhoeddus genedlaethol Cymru. Rydym yn bodoli i ddiogelu a gwella iechyd a llesiant a lleihau anghydraddoldebau iechyd i bobl yng Nghymru.
I gael gwybod mwy ewch i Iechyd Cyhoeddus Cymru a gwyliwch y fideo hwn am ein Cynllun Strategol
Dilynwch ni ar Twitter, Facebook, Linkedin a Instagram
Gweithio gyda'n gilydd, gydag ymddiriedaeth a pharch, i wneud gwahaniaeth
Ein diben yw ‘gweithio gyda'n gilydd ar gyfer Cymru iachach'. Rydym yn bodoli i helpu pawb yng Nghymru i fyw bywydau hirach, iachach. Gyda'n partneriaid, ein nod yw cynyddu disgwyliad oes iach, gwella iechyd a llesiant, a lleihau anghydraddoldebau i bawb yng Nghymru, nawr ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Gyda'i gilydd, mae ein timau'n gweithio i atal clefyd, diogelu iechyd, a darparu arweinyddiaeth, gwasanaethau arbenigol ac arbenigedd iechyd cyhoeddus. Ni yw'r brif ffynhonnell o wybodaeth, ymchwil ac arloesedd iechyd cyhoeddus yng Nghymru.
Cysylltu
- Address
- No.2 Capital Quarter
- Tyndall Street
- Cardiff
- CF10 4BZ
- Contact Number
- 02921 500200
Ddadansoddwr Gwybodeg a Data
Closed for applications on: 2-Tach-2023 00:01
Statws y swydd wag: Closed
Closed for applications on: 2-Tach-2023 00:01
Manylion allweddol
Lleoliad
- Gwefan
- Rhif 2 Cwr y Ddinas
- Cyfeiriad
- Stryd Tyndall
- Tref
- Caerdydd
- Cod post
- CF10 4BZ
- Major / Minor Region
- Caerdydd
Math o gontract a phatrwm gwaith
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
Cyflog
- Cyflog
- £28,834 - £35,099 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Gradd
- (Band 5)
Arbenigedd
- Prif leoliad
- Gwybodeg
Croeso i Iechyd Cyhoeddus Cymru, asiantaeth iechyd cyhoeddus genedlaethol Cymru
Ein gweledigaeth yw Gweithio i wireddu dyfodol iachach i Gymru
Am ragor o wybodaeth amdanom, ewch i’n tudalen hafan, darllenwch am ein cynllun strategol
Dilynwch ni ar Twitter, Facebook, LinkedIn and Instagram
Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg. I gefnogi ein gwasanaeth i Gymru gyfan, croesawn yn fawr ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.
Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau.
Trosolwg o'r swydd
Mae Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru yn awyddus i benodi Dadansoddwr Data a Gwybodeg i’w Tîm Gwasanaethau Data a Gwybodeg. Bydd deiliad y swydd yn ymgymryd â dyletswyddau rheoli gwybodaeth, adrodd, a dadansoddi ac yn darparu hyfforddiant a chymorth systemau ar gyfer ystod eang o wasanaethau, gan gynnwys Sgrinio a Microbioleg.
Advert
Er mwyn cael eich ystyried ar gyfer y swydd, byddwch angen gradd mewn pwnc rhifyddol neu brofiad perthnasol cyfatebol. Byddwch angen profiad amlwg o reoli a dadansoddi setiau data mawr ynghyd â chynhyrchu adroddiadau. Rydym yn chwilio am unigolyn sy’n fedrus iawn â chyfrifiaduron, sy'n canolbwyntio ar y tîm, sydd â sgiliau trefnu a chyfathrebu da, ac â'r gallu i weithio gyda staff o bob math a gradd.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; Mae croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg a / neu Saesneg wneud cais.
Gweithio i'n sefydliad
Iechyd Cyhoeddus Cymru yw Sefydliad Iechyd y Cyhoedd cenedlaethol Cymru. Ein gweledigaeth yw ‘Gweithio i wireddu dyfodol iachach i Gymru’. Rydym yn chwarae rhan ganolog mewn ysgogi gwelliannau o ran iechyd a llesiant y boblogaeth, lleihau anghydraddoldebau iechyd, gwella canlyniadau gofal iechyd, diogelu'r cyhoedd a chefnogi datblygiad iechyd ym mhob polisi ledled Cymru.
Caiff ein sefydliad ei arwain gan ein gwerthoedd “Cydweithio, gydag ymddiriedaeth a pharch, i wneud gwahaniaeth”. Rydym wedi ymrwymo i greu gweithle cynhwysol sy'n rhoi gwerth ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Rydym yn croesawu ceisiadau sy'n cynrychioli amrywiaeth gyfoethog y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu a chan y rhai sy'n dymuno gweithio'n rhan amser neu rannu swydd.
I gael rhagor o wybodaeth am weithio i ni, y buddion a gynigiwn a'r arweiniad ar y broses ymgeisio, ewch I https://icc.gig.cymru/gweithio-i-ni/gwybodaeth-a-chanllawiau-i-ymgeiswyr/
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac
Sgiliau Cyfathrebu a Pherthynas
- Mae’r swydd hon yn gofyn i’r deiliad ddatblygu, cyflwyno a rhannu gwybodaeth gymhleth. Mae'n ddigon posibl y bydd y wybodaeth honno'n sensitif ei natur a gall fod yn ddadleuol iawn, yn enwedig pan fo’n ymwneud ag ymchwil ac archwilio clinigol.
- Bydd deiliad y swydd yn datblygu prosesau newydd ar gyfer trin gwybodaeth.
- Bydd gofyn i ddeiliad y swydd hyfforddi a chefnogi staff i ddefnyddio amrywiaeth o systemau TG, a hynny er mwyn gwella ansawdd data.
Gwybodaeth, Hyfforddiant a Phrofiad
- Bydd deiliad y swydd â chymhwyster lefel gradd (neu brofiad cyfatebol), yn ddelfrydol mewn pwnc rhifyddol fel ystadegau.
- Byddai cymhwyster hyfforddi yn fuddiol, yn ogystal â phrofiad o hyfforddi a chefnogi eraill.
- Bydd angen i ddeiliad y swydd arddangos tystiolaeth o’u profiad o gasglu gwybodaeth a chynhyrchu adroddiadau trwy ddadansoddi data crai ac o’u gallu i gyflwyno gwybodaeth gymhleth i staff o bob lefel.
- Cynnal safonau proffesiynol uchel trwy ddatblygiad proffesiynol parhaus, gan fod yn ymwybodol o’r datblygiadau diweddaraf ym myd technoleg gwybodaeth a datblygiadau TG cenedlaethol.
Sgiliau Dadansoddi a Beirniadu
- Bydd deiliad y swydd yn gallu dadansoddi, dehongli a chyflwyno data cymhleth mewn amrywiaeth o fformatau, ar wahanol lefelau ac ar gyfer amrywiaeth o gynulleidfaoedd.
- Bydd angen i ddeiliad y swydd gynnal archwiliadau o ddata clinigol lle bo angen, gan nodi materion ansawdd data a chywiro gwallau ar adroddiadau gwybodaeth.
- Darparu hyfforddiant a chymorth i staff sydd â gwahanol lefelau o lythrennedd cyfrifiadurol.
- Cynorthwyo gyda’r gwaith o nodi datblygiadau meddalwedd newydd, creu manylebau ar eu cyfer a chynnal profion sicrwydd defnyddwyr, gan nodi unrhyw effeithau ar ofynion data.
Sgiliau Cynllunio a Threfnu
- Bydd gofyn i ddeiliad y swydd gynllunio a threfnu eu llwyth gwaith eu hunain er mwyn bodloni terfynau amser, gan addasu blaenoriaethau ar fyr rybudd gyda llwyth gwaith amrywiol.
- Bydd deiliad y swydd hefyd, ar y cyd â'r Tîm Gwasanaethau Data a Gwybodeg (IDS), yn cynllunio ac yn trefnu cynllun gwaith y tîm, gan sicrhau bod yr holl adroddiadau monitro arferol a’r dyddiadau cau yn cael eu rhestru a'u diweddaru a bod adroddiadau'n cael eu cyhoeddi fel y trefnwyd.
Sgiliau Corfforol
- Sgiliau bysellfwrdd uwch er mwyn cofnodi data yn gywir.
- Gallu dysgu sgiliau cyfrifiadurol newydd yn ôl yr angen.
- Efallai y bydd angen teithio i leoliadau ledled Cymru ac aros dros nos.
Cyfrifoldeb am Ofal Cleifion / Cleientiaid
- Bydd cyswllt â chleifion/cleientiaid yn ddamweiniol ond efallai y bydd angen i ddeiliad y swydd egluro materion gwybodeg sy'n ymwneud â chleifion/cleientiaid/aelodau'r cyhoedd.
Cyfrifoldeb am Weithredu Polisi / Datblygu Gwasanaethau
- Disgwylir i ddeiliad y swydd asesu effeithiolrwydd y polisïau presennol sy’n ymwneud â chynhyrchu a lledaenu gwybodaeth, gan argymell gwasanaethau amgen o blith technolegau Technoleg a Rheoli Gwybodaeth blaengar. Hefyd, bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am ddatblygu gwasanaethau amgen ac am sicrhau bod newidiadau priodol yn cael eu gwneud i bolisïau, gan gynnwys darparu unrhyw hyfforddiant angenrheidiol.
- Cynorthwyo’r gwaith o ddatblygu a monitro polisïau, strategaethau a gweithdrefnau gwybodeg o fewn y Tîm Gwybodeg.
- Cydgasglu ac adrodd gwybodaeth, gan awgrymu adroddiadau newydd ar gyfer sicrhau ansawdd cronfeydd data ac i werthuso rhaglenni.
- Cynorthwyo a chefnogi’r gwaith o weithredu polisïau newydd a datblygu gwasanaethau drwy hyfforddi staff i ddefnyddio'r systemau TG diwygiedig.
Cyfrifoldeb am Adnoddau Ariannol a Ffisegol
- Cynorthwyo gyda’r gwaith o gynhyrchu gwybodaeth i'w chynnwys ar achosion busnes yn ôl yr angen.
Cyfrifoldeb am Adnoddau Dynol
- Cynorthwyo â’r gwaith o hyfforddi a datblygu staff newydd o fewn y Tîm Gwasanaethau Data a Gwybodeg, sy'n cynnwys nifer o dimau/swyddogaethau o fewn isadran wybodeg yr Ymddiriedolaeth.
- Darparu dogfennau, hyfforddi a datblygu staff presennol.
- Bydd deiliad y swydd yn cael eu hannog i fod yn aelod gweithgar o raglen hyfforddi rheolaeth ac arweinyddiaeth yr Ymddiriedolaeth.
Cyfrifoldeb am Adnoddau Gwybodeg
- Trin a llwytho data ar gyfer warws data sgrinio / microbioleg yr Ymddiriedolaeth.
- Dadansoddi a monitro cyflawnrwydd data a chyfrannu at wella ansawdd data.
- Cymryd rhan yn y gwaith o ddylunio systemau TG newydd neu ddiwygio systemau presennol.
- Cymryd rhan yn y gwaith o brofi a hyfforddi defnyddwyr pan fo galluoedd newydd yn cael eu datblygu, gan gynnwys cynhyrchu deunyddiau hyfforddi.
- Cynorthwyo'r Ddesg Wasanaeth trwy roi cefnogaeth system TG ail linell.
- Datblygu a darparu adroddiadau ystadegol rheolaidd a rhai ad hoc a darparu data yn ôl y gofyn am ymholiadau, archwiliadau a phrosiectau ymchwil.
- Paratoi cyflwyniadau a gwirio’r data a gyhoeddir.
Cyfrifoldeb am Ymchwil a Datblygu
- Cynorthwyo â’r gwaith o ddatblygu’r systemau TG sydd eu hangen er mwyn casglu gwybodaeth glinigol at ddibenion ymchwil a datblygu.
- Ymgymryd â gwaith archwilio systemau a gwasanaethau er mwyn gwella ansawdd data ac i gynhyrchu gwybodaeth am reolaeth.
- Cynorthwyo gydag ymchwil fel sy'n ofynnol gan adran ymchwil a Datblygu’r Ymddiriedolaeth
Rhyddid i Weithredu
- Ymgymryd â thasgau fel y pennwyd gan uwch aelodau'r Tîm Gwasanaethau Data a Gwybodeg.
- Gallu gwerthuso a chysylltu â staff priodol lle bo angen er mwyn sicrhau mai dim ond gwybodaeth awdurdodedig, briodol sy'n cael ei rhyddhau, gan gyfeirio at eu rheolwr pan fo angen.
- Yn gyfrifol am drin data lle gellir adnabod cleifion yn unol â deddfwriaeth diogelu data.
- Hyrwyddo ansawdd data clinigol ymhlith timau trwy hyfforddi ac adrodd data.
- Mynychu cyfarfodydd a chytuno i ymgymryd â gwaith sy'n briodol i'r rôl.
Ymdrech Gorfforol
- Gweithio wrth ddesg ond angen mynychu cyfarfodydd oddi ar y safle yn achlysurol.
Ymdrech Feddyliol
- Bydd cyfnodau hir o ganolbwyntio o bryd i’w gilydd, wrth ysgrifennu adroddiadau a dadansoddi gwybodaeth.
- Bydd angen canolbwyntio’n achlysurol wrth brofi datblygiadau meddalwedd newydd a chynhyrchu deunyddiau hyfforddi.
- Angen hyblygrwydd wrth ymdrin â llwyth mawr ac amrywiol o waith i'w gwblhau o dan bwysau ac o fewn terfynau amser tyn.
- Dehongli adroddiadau / holiaduron boddhad sy'n ymwneud â staff neu ddata clinigol.
Ymdrech Emosiynol
- Yn aml, bydd angen gweithio mewn meysydd sensitif a allai fod yn heriol yn emosiynol, megis adolygiadau marwolaeth plant a gwaith canser.
Amodau Gwaith
- Defnyddio offer arddangos fideo VDU fwy neu lai yn barhaus ar y rhan fwyaf o ddyddiau.
- O bryd i'w gilydd, bydd dyletswyddau’n golygu teithio i ardaloedd eraill yng Nghymru ac aros dros nos.
Efallai y bydd dyletswyddau eraill dros amser a byddant yn cael eu trafod gyda deiliad y swydd a chynrychiolwyr staff fel y bo'n briodol.
Ceidw Iechyd Cyhoeddus Cymru yr hawl i gau’r swydd wag hon yn gynnar. Felly rydym yn annog ceisiadau cynnar.
Rhoddir blaenoriaeth i staff sy’n aros i gael eu hadleoli. Rydym yn cadw’r hawl felly i dynnu’r hysbyseb hon yn ôl ar unrhyw adeg.
Os oes gennych anabledd a bod gennych unrhyw anghenion penodol i'ch galluogi i gymryd rhan yn y broses ymgeisio, cysylltwch â [email protected]
NODYN PWYSIG I YMGEISWYR: Mae ceisiadau am ein rolau yn cael eu hadolygu'n ofalus a'u rhoi ar restr fer yn seiliedig ar feini prawf penodol, sy'n amrywio o swydd i swydd.
Ni fydd defnyddio cymhwysiad generig neu gymhwysiad AI awtomatig, fel Lazy Apply neu AI Apply, fel arfer yn darparu digon o dystiolaeth bersonol o'ch sgiliau a'ch profiad sy’n berthnasol i'r rôl. Gall hyn ei gwneud hi'n anodd i ni asesu eich addasrwydd a bydd yn lleihau eich siawns o gael eich rhoi ar y rhestr fer.
Er mwyn sicrhau bod eich cais yn cael ystyriaeth lawn, rydym yn argymell eich bod yn cyflwyno cais wedi'i deilwra sy'n mynd i'r afael yn uniongyrchol â'r meini prawf a restrir yn adran Manyleb y Person yr hysbyseb, gan ddarparu tystiolaeth glir ac enghreifftiau i ddangos sut rydych chi'n bodloni pob gofyniad.
Cymhwysedd ar gyfer Nawdd Fisa
- Os oes angen nawdd arnoch drwy lwybrau Fisa Gweithiwr Medrus neu Fisa Gweithiwr Iechyd a Gofal, gwnewch yn siŵr eich bod yn hunanasesu eich cymhwysedd i gael nawdd ar gyfer y rôl hon cyn gwneud cais.
- Gwiriwch y canllawiau fisa Gweithiwr Medrus neu'r canllawiau fisa Gweithiwr Iechyd a Gofal am fanylion ynghylch cymhwysedd swydd, cyflog, yr iaith Saesneg, a gofynion nawdd.
Os byddwch yn llwyddiannus ac os cewch eich dewis ar gyfer y rhestr fer am gyfweliad, cysylltir â chi ar e-bost gan ddefnyddio’r cyfeiriad a ddefnyddiwyd gennych i gofrestru. Sicrhewch eich bod yn edrych ar eich cyfrif e-bost yn rheolaidd.
Rydym wedi ymrwymo i recriwtio teg a thryloyw ac rydym yn credu mewn cyfle cyfartal yn ein gweithle. Ni fyddwn yn goddef gwahaniaethu ar sail oedran, anabledd, hunaniaeth rywiol, crefydd neu gred, hil neu genedligrwydd, priodas neu bartneriaeth sifil, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, patrwm gwaith, cyfrifoldebau gofalu, gweithgarwch gydag undebau llafur neu gredoau gwleidyddol – nac ar unrhyw sail arall. Croesawn geisiadau gan unigolion a ddymunent weithio’n rhan-amser neu wneud cais i rannu swydd.
Mae'r raddfa gyflog a ddangosir ar gyfer aelod o staff llawn amser, a chaiff y swm ei addasu pro rata ar gyfer y rhai sy'n gweithio llai na 37.5 awr yr wythnos.
Yn gyffredinol, bydd unrhyw un sy'n ymuno â'n Hymddiriedolaeth nad yw wedi gweithio yn y GIG o'r blaen, yn cychwyn ar bwynt cyntaf y band tâl a hysbysebir yn awtomatig. Yna bydd datblygiad cyflog yn cael ei bennu gan Adolygiadau Perfformiad a Datblygu blynyddol yn unol â Pholisi Datblygiad Cyflog GIG Cymru. Gellir ystyried cais am Gredyd Cynyddol, ond dim ond ar sail gwasanaeth cyfrifadwy â thystiolaeth a/neu brofiad cyfatebol, perthnasol y gellir ei ddyfarnu.
Gofynion yr ymgeisydd
Manyleb y person
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad o gynhyrchu adroddiadau trwy ddadansoddi data crai. Profiad o hyfforddi ac o gefnogi eraill. Profiad gweinyddol.
Meini prawf dymunol
- Profiad o weithio yn y sector iechyd.
Cymwysterau
Meini prawf hanfodol
- Addysg lefel gradd neu gyfwerth (neu brofiad cyfatebol) mewn pwnc priodol.
Meini prawf dymunol
- Safon Uwch mewn mathemateg neu ystadegau, neu gymhwyster cyfatebol. Cefndir yn y gwyddorau iechyd.
Medrau
Meini prawf hanfodol
- Sgiliau cynllunio a dadansoddi. Sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig rhagorol. Y gallu i gyflwyno gwybodaeth gymhleth mewn fformat dealladwy. Y gallu i weithio'n dda gyda staff o wahanol fathau a graddau. Yn gallu gweithio ar eich liwt eich hun neu fel rhan o dîm.
Meini prawf dymunol
- Wedi cynnal prosiect ymchwil eich hun, fel traethawd hir gradd. Cymhwyster hyfforddi.
Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Lefel uchel o lythrennedd cyfrifiadurol. Y gallu i ddefnyddio taenlenni a chronfeydd data perthynol. Y gallu i ddysgu sgiliau TG newydd. Deall pwysigrwydd gwybodaeth o ansawdd uchel a materion cyfrinachedd cysylltiedig.
Meini prawf dymunol
- Gwybodaeth am sgriptio SQL a phrofiad o echdynnu data. Gwybodaeth ystadegol sylfaenol. Profiad o systemau TG iechyd a gwybodaeth am ganser.
Priodoleddau Personol
Meini prawf hanfodol
- Brwdfrydig ac yn llawn cymhelliant. Gallu gweithio'n annibynnol. Gwydnwch, a dull gweithio hyblyg. Gallu addasu mewn ymateriad. Dull creadigol o ddatrys problemau. Canolbwyntio ar y tîm ac ag arddull sy’n gynhwysol.
Dogfennau
- YMDDIRIEDOLAETH GIG IECHYD CYHOEDDUS CYMRU DISGRIFIAD SWYDD / MANYLEB PERSON (PDF, 392.4KB)
- Ffurflen Gofynion Gweithredol Iechyd Galwedigaethol (DOCX, 98.8KB)
- Hyderus o Ran Anabledd Arweinydd (PDF, 180.8KB)
- Canllawiau ar gyfer Ymgeiswyr (PDF, 278.7KB)
- Ein Rhwydweithiau Amrywiaeth (PDF, 330.6KB)
- Gwasanaethau Recriwtio Hysbysiad Preifatrwydd (PDF, 696.3KB)
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Guy Stevens
- Teitl y swydd
- Deputy Informatics & Data Services Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
Ddim yn derbyn ceisiadau mwyach
Ymddiheuriadau, ond nid yw'r swydd wag hon yn derbyn ceisiadau mwyach.
Gallwch chwilio am swyddi tebyg ar fwrdd swyddi'r cyflogwr, neu fynd i'n bwrdd swyddi cenedlaethol Health Jobs UK.